Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-9)

Oddi ar Wicidestun
Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-8) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Sefyllfa Foesol Cymru Adeg Cyfodiad Methodistiaeth (tud-10)

1721, sef tua phymtheg mlynedd cyn cyfodiad Methodistiaeth. Enw y Llyfr yw "A view of the State of Religion in the Diocese of St. David's about the Beginning of the Eighteenth Century." Amcan yr awdwr yn y difyniadau hyn yw dangos fod y Cymry yn meddu tueddfryd grefyddol; wrth fyned heibio, ac yn mron o'i anfodd, y cyfeiria at eu hofergoeledd.[1] "Ymaent," meddai am y werin Gymreig, "yn croesi eu hunain, fel y gwnelai y Cristionogion cyntefìg, ar lawer o achlysuron, gyda saeth—weddi fer ar iddynt trwy groes Crist gael eu cadw. Yn y rhanau mwyaf mynyddig, lle y glynir yn benaf wrth yr arferion a'r symlrwydd henafol, yno gwelwn y bobl ar eu dyfodiad i'r eglwys, yn myned ar eu hunion at feddau eu cyfeilion, a chan benlinio yn offrymu eu gweddi i Dduw." Ni ddywed yr awdwr am ba beth y gweddient, ond y mae yn dra sicr, oddiwrth eiriau Mr. Johnes ac eraill, mai gweddio ar ran y marw a wnaent, ar iddo gael ei waredu o'r purdan; oblegyd y ffurf—weddi a arferid yn gyffredinol ydoedd, "Nefoedd iddo." Ond i ddychwelyd at ddesgrifiad Dr. Erasmus Saunders: "Yn enwedig ar wyl genedigaeth ein Harglwydd, oblegyd y pryd hwn deuant i'r eglwys gyda chaniad y ceiliog, gan ddwyn gyda hwynt ganhwyllau neu ffaglau, y rhai a osoda pob un i losgi ar fedd ei gyfaill ymadawedig; yna dechreuant ganu eu carolau, a pharhant i wneyd hyny er croesawi yr wyl agoshaol, hyd amser y weddi. Ond gyda yr hen arferion diniwed a da hyn, y maent wedi dysgu llawer o ymarferiadau coelgrefyddol Pabaidd yn yr oesoedd diweddaf, fel yr arferant yn eu saeth-weddiau alw nid yn unig ar y Duwdod, ond hefyd ar y Forwyn Sanctaidd, ynghyd a seintiau eraill; canys y mae Mair Wen, Iago, Teilaw Mawr, Celer, Celynog, ac eraill yn cael eu cofio fel hyn yn fynych, fel pe y byddent hyd yma heb anghofio yr arfer o weddio arnynt. . . . Mewn llawer rhan o Ogledd Cymru, parhant mewn ystyr i dalu am y marw-ddefodau, trwy gyflwyno offrymau i'r gweinidogion ar gladdedigaethau eu cyfeillion, fel y dysgid hwy yn flaenorol i wneyd am eu gweddio allan o'r purdan."A yr awdwr yn mlaen i ddangos fod y cymysgedd o goelgrefydd a chrefydd, cyfeilorniad a gwirionedd, a ffynai yn mysg y werin, yn ffrwyth camarweiniad yn fwy na dim arall; gan sylwi yn mhellach fod y bobl yn fwy dyledus am hyny o grefydd ag a feddent i'w gonestrwydd a'u crefyddolder naturiol, i'w carolau, ac i ganiadau Ficer Llanymddyfri, nag i unrhyw lesiant a gaent oddiwrth weinidogion yr eglwys trwy bregethu neu gateceisio. Ychwanega: "Os nad' ydym eto wedi dad-ddysgu cyfeiliornadau ein hynafiaid Pabyddol, y rheswm am hyny ydyw, nad yw athrawiaethau y Diwygiad Protestanaidd, a gafodd ei ddechreuad yn Lloegr tua dau can mlynedd yn ol, hyd yn hyn wedi ein cyrhaedd ni yn effeithiol, ac nid yw yn debygol y gwnant byth, heb i ni gael clerigwyr dysgedig a theilwng."

Gellid lluosogi toraeth o brofion ychwanegol gyda golwg ar iselder crefydd yn Nghymru, adeg cyfodiad Methodistiaeth, ynghyd a ffyniant ofer-gampau ac ammharch i'r Sabbath, yn y Deheudir yn gystal ag yn y Gogledd, ond ymfoddlonwn gyda rhoddi tystiolaeth y Parch. John Thomas, pregethwr Annibynol, gweinidog y Rhaiadr, a dwy eglwys arall yn Sir Faesyfed. Cyfansoddodd Hunangofiant yn y flwyddyn 1767, o ba un difynwn a ganlyn ar awdurdod y Parch. W. Williams, Abertawe, yn ei lyfr rhagorol, Welsh Calvinistic Methodism.[2] Ganwyd ef yn 1730, yn mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin. O'i febyd yr oedd tan argraffiadau crefyddol cryfion; a theimlai, ac efe eto yn llanc, ei enaid yn ddolurus ynddo wrth weled annuwiaeth y bobl yn mysg pa rai yr oedd yn byw, ac hyd yn nod y pryd hwnw dechreuodd eu ceryddu. Yr oedd chwareu-gampau yn bethau cyffredin yn ei gymydogaeth, fel yn mhob cymydogaeth arall y pryd hwnw; am ryw gymaint o amser cymerai efe ran ynddynt, ond wedi iddo gael ei argyhoeddi o'u pechadurusrwydd, nid yn unig cefnodd arnynt eu hun, eithr ceisiai berswadio eraill i wneyd yr un peth. ' Yr wyf yn cofio,' meddai, myned un prydnawn Sul yn agos i eglwys fy mhlwyf genedigol, lle yr oedd nifer yn chwareu coetanau (quoits), a thyrfa fawr, fel ffair, yn edrych arnynt. Yn fy ffordd blentynaidd fy hun, dechreuais ddweyd wrthynt amgyflwr eu heneidiau; chwarddent yn uchel, ac ymddangosent fel yn credu fy mod yn wallgof; eto, pa un ai mewn canlyniad i'm geiriau i, neu iddynt gael ei bygwth gan eraill, neu ynte ddarfod iddynt gael eu cnoi gan eu cydwybodau,



Nodiadau[golygu]

  1. A view of the State of Religion in the Diocese of St. David's about the Beginning of the Eighteenth Century Tudalen 17
  2. Welsh Calvinistic Methodism, tudalen 18.