Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-17)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-18)

o'i sefyllfa i'r Cymdeithasfaoedd. Cawn enghraifft o hyn yn hanes eglwysi Llangwyryfon, Lledrod, Rhydfendigaid, &c., yn Sir Aberteifi. Yr oedd arholygiad yr eglwysi hyn yn gorphwys ar Morgan Hughes. Yn rhyw sut, methodd gyflawni ei ymddiriedaeth, ac ymwelodd Williams a'r eglwysi, ac y mae dau adroddiad a ddanfonodd Williams am danynt yn awr ar gael a chadw, yn llawysgrifau Williams ei hun, yn Nhrefecca.[1] Y mae y cyntaf o honynt yn rhy faith i'w osod i fewn yma. Rhydd adroddiad manwl am y pump eglwys ar wahân, a diwedda trwy ddweyd: " Yr wyf fi fy hun yn ymweled a hwy unwaith yn y chwech wythnos, ac yn cadw cwrdd eglwysig gyda hwy, fel y gwypwyf eu syniadau a'u sefyllfa. Teimlwyf gariad ac ymlyniad atynt, ac felly hwythau tuag ataf finnau. Y mae derbyniad caredig i'w cynghorwr anghyoedd yn gyffredinol yn eu mysg, a da ganddynt gael eu holi ganddo ef, a chennyf finnau. Yr wyf yn sylwi mai y fath a fydd y cynghorwr, pa un ai zêlog, siriol, a ffyddlawn, ai ynte claiar, &c., y cyfryw hefyd a fydd y bobl o dan ei ofal." Ceir adroddiad byr arall ganddo am yr un eglwysi, dyddiedig Mehefin 2gain, 1745, yn yr hwn y dywed: " Nid oes gyda mi fawr o hanes neillduol am danynt, oddiwrth yr hyn a gawsoch o'r blaen. Y maent yn para i ddyfal lynu wrth yr Arglwydd. Y rhan fwyaf o honynt sydd yn cynyddu mewn adnabyddiaeth o honno. Mae arnaf fi a hwythau ryw faint o flinder, am ein bod mewn eisiau o gynghorwyr preifat i edrych atynt yn wythnosol. Y rhai a fynnant hwy eu cael, nis gallant ddyfod; a rhai a all ddyfod, nis derbyniant. Ond yr wyf yn gobeithio y caiff hyn ei gyflawni." Dengys hyn ei fod yn barod at bob gorchwyl, ac nad ystyriai yr un ddyledswydd yn rhy ddistadl iddo ef ei hun ei chyflawni.

Y mae olrhain teithiau a llafur Williams am hanner cant o flynyddoedd yn anmhosibl. Nid ysgrifennwyd hwynt ond yn Llyfr bywyd yr Oen. Fel hyn y dywed awdwr i Methodistiaeth Cymru am dano: "Mae yr hen ganiedydd peraidd, Williams, Pantycelyn, yn ei hen ddyddiau, pan yr oedd yn 73 mlwydd oed, ac yn tynnu yn agos i derfyn ei oes, yn dweyd:—[2] 'Mae fy nyddiau yn tynnu tua'r terfyn; y mae fy ngyrfa ymron wedi ei rhedeg. Cefais oes faith; yr wyf yn awr yn 73 mlwydd oed. Yr wyf wedi bod yn pregethu am y 43 mlynedd diweddaf,[3] ac wedi teithio bob wythnos at eu gilydd, rhwng deugain a deg-a-deugain o filldiroedd, dros yr holl amser hynny. Y gwanwyn diweddaf, mi a deithiais bedair neu bum' waith drwy Ddeheudir Cymru; pob taith yn para pythefnos o amser, ac yn 200 milldir o hyd.'

"Gellir ffurfio rhyw ddrychfeddwl am ei deithiau, pan y dywedir iddo deithio digon o filldiroedd i gyrhaedd bedair gwaith o amgylch y ddaear,—nid llawer llai na chan' mil o filldiroedd! O ba faint o ddefnydd y gellir meddwl y bu y gŵr hwn yn ei oes i Gymru dywel? Pa sawl pregeth a draddododd? Pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? Ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei yspryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y Dywysogaeth; ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy, y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Cymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y Gorllewin bell; a diau gennyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod."

Awgrymir weithiau, gan rai pobl, nad oedd Williams ond pregethwr cyffredin, a bod ei nerth yn gorwedd mewn cyfeiriadau eraill. Nid hyn oedd syniad y bobl oeddynt yn cydoesi ag ef. Dyrchafent hwy ei



Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Methodistiaeth Cymru, cyf. ii., tudal. 27.
  2. Methodistiaeth Cymru Cyf. i., tudal. 206.
  3. Mae yma gamargraff. Pan yr oedd Williams yn 73 oed, yr oedd wedi bod yn pregethu am 50 mlynedd, ac nid am 43. Y mae y dyfyniad Seisonig, a geir yn nechreu yr ysgrif hon, yr un mor wallus. Felly y ceir y cyfrif gan y Parchn. .J. Hughes a N. Gynhafal Jones. Ceir y cyfrif yn gywir yn y copi o lythyr Williams at y Parch. T. Charles, fel y mae yn Yr Arweinydd, cyf. v., tudal. 180. Dyddiad y llythyr yw Ionawr 1af, 1791. Dywed yno fel yma:— "Deallwch, er fy mod wedi gwella rhyw faint o'r poen dirfawr fu arnaf, nid wy' ond gwan a llesg eto, ac yn analluog iawn, ac nid oes geni fawr gobaith gallu dyfod allan fawr neu ddim byth mwy, am fy mod yn 73 oed; ond meddyliwch fath siomedigaeth i ddyn ag oedd yn trafaelio agos i dair mil o filldiroedd bob blwyddyn tros 50 o flynyddau, fod yn awr heb drafeilio dim rhagor na 4 o droedfeddi yn y dydd, sef o'r tân i'r gwely."