Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-18)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-17) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-19)

alluoedd pregethwrol ef, a rhoddent iddo y lle mwyaf parchus yn nghyfarfodydd pregethu y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd yn aml yn pregethu o flaen Daniel Rowland. Nid oedd i'w gystadlu ag efe fel pregethwr, ac y mae yn bosibl nad oedd mor boblogaidd a Howell Harris; ond yn sicr nid oedd neb arall yn rhagori arno yn hyn. Dywedai Howell Harris fod ganddo "allu rhyfeddol," ac am ei allu pregethwrol yr oedd yn siarad. Dyma fel y dywed Mr. Charles am dano fel pregethwr:- " Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei bregethau yn efengylaidd, yn brofiadol, ac yn felus; yn chwilio i mewn i au athrawiaethau a gau brofiadau, ac yn gwahaniaethu yn fanwl rhwng gau a gwir yspryd. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf, ei lygad yn graff a threiddgar, a llawer o ddylanwadau nefol ar ei yspryd wrth weinidogaethu yn gyhoeddus, ac yn ei ymddiddanion a dynion am fater eu heneidiau yn y cymdeithasau neillduol." Yr oedd yn bur ymddibynol ar y gwynt nefol a gaffai wrth bregethu, ac fe ddywedir ddarfod iddo ddweyd wrth ei gyfaill, y Parch. Peter Williams: " Ti elli di, Peter, bregethu pe byddai yr Yspryd Glan yn Ffrainc; ond ni allaf fi wneyd dim o honni heb iddo fod wrth fy mhenelin i." Y mae y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu fel duwinydd a phregethwr. Ar ôl canmol Daniel Rowland, ysgrifenna:— [1]

"Ond ai rhaid i Williams hefyd,
Ar ei ol yn fuan ddiengyd?
Oedd un ddyrnod ddim yn ddigon,
I geryddu plant afradlon?
Dau arweinydd eon mawrddysg
Yn ein gado yn y terfysg!

Llon eu gwedd, y'nt mewn hedd,
tudraw i'r bedd llychllyd;
Gweiniaìd yn yr helbul dybryd,
Ar ei hol yn ngwlad yr adfyd.

Doniau ar ei ben ei hunan
Oedd gan Williams, fywiog, wiwlan;
Medrus, manwl mewn athrawiaeth,
Egwyddorion a dysgyblaeth;
Ca'dd ei ddysgu i drin yn gymhwys
Bob rhyw gyflwr yn yr eglwys;
Cryf a gwan, yn mhob man,
a wyddan', lle teithiai,
Llwybrau ceimion a ddangosai,
Cysur, maeth i'r gwan a roddai.

Cadarn ydoedd fel Duwinydd;
Nid anfuddiol fel Hanesydd;
I'r serchiadau ac i'r deall,
Taflai ffrwythau'r Ganaan ddi-ball;
At y galon, Balm o Gilead,
Clwyfau'r Oen, a'r cyfiawn bryniad,
Llawn iachâd, rhydd a rhad,
i'r anfad a'r dinerth,
Yn yr unig ddwyfol Aberth,
A wnaeth Iawn am feiau anferth.

O! 'r mawr golled fydd am dano,
Athraw doeth, wyliedydd effro!
Gras a deall, a hir brofiad,
Oeddynt ynddo mewn cysylltiad;
Amryw ffyrdd yr oedd ei ddefnydd
Yn dra amlwg ar hyd y gwledydd;
Eto grym, angau llym, oedd hylym, ddiarbed,
Yn ei awr o'u mysg cai fyned;
Aeth o'r byd yn d'wysen addfed! "

Cyffelyb hefyd yw desgrifiad Jacob Jones, o'r Hendre, o honno:— <ref>ibid'</ref'>

"Nid oedd lle i ddysgwyl iddo
Aros yma ddim yn hir;
'Roedd e' beunydd yn addfedu
Tua'r nefol sanctaidd dir;
Wedi rhoddi fyny'n hollol
Chwilio naturiaethau'r llawr,
Dyna swm ei holl bregethau,
Oedd dyrchafu'r enw mawr!

Dewch i'w wrando yn pregethu
Yn ei ddyddiau ola' i gyd,
'I lygaid yn ffynonau dagrau
Wrth ganmol y Gwaredwr drud!
Nid am system Isaac Newton,
Pliny hen, na Ptolemy,
Mae e'n son uwchben y werin,
Ond am fynydd Calfari.

Pan ddoi Williams i'r soseiet,
Hynod yno oedd ei ddawn;
Fe olrheiniai droion calon,
A'i dichellion oll yn llawn;
Nid oedd rhaid ond agor genau,
Chwiliai fe'r cflyrau ma's;
Gwahaniaethai rhwng y rhagrith
Ac effeithiau dwyfol ras.

'Roedd e'n berchen goleu cyflym,
Ac fe lefai at y nôd,
Y llygad de a'r fraich anwyla',
Ac ni fethodd byth mo'i dro'd;
Ond i'r golwg doi a'r eilun,
Fe ddynoethai'r gwraidd yn llwyr,
Nes bai hen galonnau celyd
'N toddi'n union fel y cwyr."

Amlwg yw na chyfrifai y Parchedigion Thomas Charles, Thomas Jones, na Sion Lleyn a'u cyffelyb,—dynion o archwaeth uchel,—mo Williams yn bregethwr cyffredin. Ymddengys mai tybiaeth ddiweddar ydyw hon, ac nad oes iddi sail hanesyddol. Sut ynte y cododd syniad o'r fath? Y mae yr ateb i'w gael mewn sylw o eiddo y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala. Pan yn traethu ar Williams fel duwinydd, dywed, "fod yn anhawdd ein cael i weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person, felly yn ei achos ef, y mae dysgleirdeb ei



Nodiadau[golygu]

  1. Hen Farwnadau, gan y Parch. T. Levi.