Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-19)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-18) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-20)

farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg ei fawredd fel duwinydd." Y mae y bardd yn cysgodi y duwinydd, ac yn cysgodi y pregethwr hefyd. Eto cawn ei fod yn meddu ar gymhwysderau pregethwr o'r dosbarth blaenaf. Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn helaeth, ei ddysg a'i wybodaeth yn eang, ei ddychymyg yn gryf, ei yspryd yn wresog, a'i barodrwydd dawn yn anarferol o gyflawn. Nis gallasai gŵr yn meddu y rhagoriaethau hyn fod yn bregethwr cyffredin. Meddai Williams hefyd gyflawnder o ffraethineb ac arabedd, ond nid ymddengys ei fod yn arfer y ddawn beryglus hono yn ei weinidogaeth. Rhoddai efe raff go hir iddi yn aml mewn ymddiddanion personol, ac weithiau yn y seiadau, ond nid un amser yn y pwlpud.

Ond er ein bod yn credu fod i Williams yn ei ddydd le uchel fel pregethwr, eto y mae yn hysbysol mai yn nghynulliadau y saint -yn y societies y byddai ei ddoniau amrywiol yn dyfod i'r golwg fwyaf. Yma yr oedd ei allu ymddiddanol i'w weled mewn llawn weithrediad. Nid oedd ei fath am gadw seiat. Y mae yn anmhosibl i orbrisio ei wasanaeth hirfaith i'r Cyfundeb yn y cyfeiriad pwysig hwn. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu mewn modd arbennig a neiliduol iawn a'r ddawn i wahaniaethu ysprydoedd. Adnabyddai ddynion megys wrth reddf, ac yr oedd yn unplyg a gonest yn ei ymwneyd a phawb. Yr oedd hefyd yn hynod am ei allu i orchfygu terfysgoedd, a heddychu pleidiau, a godent weithiau yn erbyn eu gilydd yn yr eglwysi. Danfonid am dano yn aml mewn amgylchiadau o'r fath, ac yr oedd yn rhyfeddol o lwyddiannus i adfer heddwch ar ôl ei golli. Y mae llawer o enghreifftiau o'i wasanaeth yn y cyfeiriadau hyn, wedi eu croniclo yn hanes ein heglwysi. Yr oedd hefyd yn nodedig o wasanaethgar yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, a'r Cymdeithasfaoedd, yn enwedig pan fyddai pwnc o athrawiaeth, neu rai o'r heresïau oedd yn blino yr eglwysi gerbron. Yr oedd ei graff"der naturiol, a'i wybodaeth eang o athrawiaethau crefydd yn ei hynodi yn mhlith ei frodyr, a gwnaeth ddefnydd mawr o'r doniau arbennig yr oedd Pen mawr yr Eglwys wedi ei ymddiried iddo.

Rhaid i ni bellach droi at ei ysgrifeniadau. Ar yr hyn a ysgrifennodd y mae enwogrwydd Williams yn bennaf yn syllaenedig; yma y gorwedd ar waelod llydan a chadarn. Cafodd ei annog gan ei frodyr, fel y dywedwyd gennym, i arfer ei ddoniau prydyddol yn 1743; ond y mae yn amlwg ei fod ef yn cyfansoddi hymnau yn mhell cyn hynny, hwyrach yn fuan ar ôl ei argyhoeddiad yn 1738. Yn ystod y blynyddoedd diweddaf yr ydys wedi dyfod o hyd i hen ysgrif-lyfr o eiddo Williams, yr hwn sydd yn awr yn meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, yr hon sydd orwyres i'r bardd. Hwn yn ddiau ydyw ei ysgriflyfr cyntaf ef. Y mae yn Llyfr golygus, mewn cadwraeth dda, gyda chloriau lledr, a clasp pres. Ar y clawr, yn ei ddiwedd, y mae yr unig ddyddiad ag sydd arno, a hwnnw yn llawysgrifen yr awdwr, sef March 25th, 1745. Mae ynddo o chwech i wyth cant o benillion, wedi eu hysgrifenu yn ddiau yn moreuddydd ei oes. Diau fod y dyddiad sydd ar ddiwedd y Llyfr wedi ei ysgrifennu ar ol iddo gael ei orphen, ac nid oedd y bardd y pryd hwnnw ond 28ain oed. Cynwysa lafur blynyddoedd, a diau fod y rhan gyntaf o honno wedi ei ysgrifennu yn foreu iawn. Hwyrach fod yr hymnau cyntaf wedi eu cyfansoddi yn agos i'w argyhoeddiad, a'i bod yn ddangoseg o ystâd ei feddwl ef ei hun yn y blynyddoedd cyntaf o'i fywyd crefyddol. Dangosant fod ei deimladau yn bur amrywiol. Y mae yn dechreu gan rodio yn y tywyllwch, yn gweddïo am ymwared, yn gweled gwawr, yn dyfod yn hyderus, ac hyd yn nod yn cyrhaedd sicrwydd, ac yn ofyn am barhad mewn gras. Y mae eilwaith mewn tywyllwch, yn achwyn ar erledigaethau, yn cael golwg ar y Cyfryngwr, yn cael sail eilwaith i hyderu, ac yn gweddïo am sicrwydd gobaith. Nis medrwn gael lle i ychwaneg nag un o'r hymnau dyddorol hyn, a dewisiwn y gyntaf, heb un rheswm arall heblaw mai hi yw y gyntaf yn y Llyfr: [1]

"Pe gwelswn i cyn myn'd i'm taith,
Mor ddyfned yw ffordd Duw a'i waith,
Anobeithiaswn yn y man
Gyfodi o ddystryw byth i'r lan.

Ond pan y'm galwyd fel Abraham,
Gwnes ufuddhau heb wybod p'am;
Gan geisio gwel'd dyeithr Dduw,
Ond ffaelu ei ffeindio yn fy myw.

Pe gwelswn ddyn - mi carwn ef
A ddysgai'r ffordd im' fyn'd i'r nef;
Rhyw guide i'r nef, ei wel'd pe cawn,
Fy enaid fyddai lawen iawn.

Ond och! sa' draw, ddymuniad gwiw,
A drusto i ddyn melldigaid yw;
Rhaid i ti aros amser Crist,
Er maint dy hast, fy enaid trist.




Nodiadau[golygu]

  1. Gweithiau Williams, gan y Parch. N. Gynhafal — Jones, D.D., cyf. ii, tudal.