Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-21)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-20) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-22)

'Rwy'n ffiaidd iawn, 'does fan yn lân,
'Rwy'n gymhwys iawn i fyn'd i'r tân!

Po' fwyaf geisiaf fyn'd i'r lan,
Iselach am fy enaid gwan;
Och! brysio raid,— gwel angau glas,
A mi prin gam o'r Aipht i maes!

Cymuno, darllen, gweddïo'r wyf;
'Chwanegu mae rhai'n at fy ngblwyf;
Cyfiawnder, angau, euogrwydd du,
Cytuno maent i'm damnio i!

Yn dra diobaith 'rwyf yn byw,
Heb allu rhoi fy mhwys ar Dduw;
Ac, fel y graig, mae'n nghalon gas,
Och fi! gwae fi! beth wnaf am ras?

'Rwy'n farw fel yr esgyrn sych,
A welsai 'Zeciel gynt trwy ddrych;
Llabyddiwyd fi a'r ddeddfol saeth,
'Does fawr o le im' fyn'd yn waeth.

Chwi, lan eneidiau, peraidd gainc,
Sy'n rhodio oddeutu'r orseddfainc,
P'odd daethoch yma,—traethwch im',
Bydd hyny'n well gen i na dim.

Moses, Esau - mawr yw'ch bri
A Daniel, Job,—p'odd daethoch chwi?
Dros flin flynyddoedd buoch, fìl,
P'odd darf u i'ch gadw ffordd mor gul?

Chwi sy'n mwynhau'r goleuni glan,
Dewr filwyr Duw, mewn dwr a than;
P'odd darfu i chwi goncro'r byd,
Pan ddaethoch trwy'r anialwch drud?

Yn awr, caf ateb gan y rhai'n,
Mewn geiriau amlwg, eglur, plaen;
Medd Pedr, lago, Jude, ac Io'n—
'Daethom trwy ludded mawr a phoen.'

'Yn crynu'n flin y buom ni,'
Medd Moses, 'ar y mynydd du;'
'Minau,' medd Dafydd, 'lawer pryd
Wlychais a'm dagrau'm gwely clyd.'

A! dyma'r fiordd, medd pawb ynghyd,
Sy'n arwain tua'r nefol fyd;
Ffordd gul i'r cnawd, ffordd gyfyng yw,
Sy'n arwain tua thŷ ein Duw.

Unwaith cynygia'i eto i'r nef,
A Duw wrandawo ar fy llef;
Arglwydd, clyw, a chlyw heb ball,
Daer lefain dy greadur dall.

Rho i mi nerth i fyn'd ymla'n,
Trwy ganol dyfroedd mawr a than;
Ni thawaf ddim nes caffwyf le
Gyda fy Nuw, o fewn i'r ne'.


Gwerthfawrogir yr hymnau bachgenaidd hyn, yn benaf, am eu bod yn dangos ystad meddwl Williams yn ystod cyfnod ar ei fywyd ag sydd i fesur yn gyfnod tywyll. Cawn yma hefyd olwg ar ei awen yn ei blagur.

Y mae y ffaith ddarfod i Williams gyhoeddi y rhan gyntaf ox Alelina o fewn blwyddyn i'r amser y cafodd anogaeth ei frodyr i arfer ei ddawn prydyddol, yn dangos ei fod yn bur barod at y gwaith, ac yn awgrymu nad oedd cyfansoddi hymnau yn ddyeithrwaith iddo. Dyma lyfr argraffedig cyntaf Williams. Argraffwyd ef gan Felix Farley, yn Mryste. Daeth allan mewn chwech o ranau: Rhan i. tua dechreu 1744; ail argraffìad o'r unrhyw tua diwedd yr un flwyddyn; Rhan ii. yn 1745; Rhan iii. yn yr un flwyddyn; Rhan iv. yn 1746; Rhan V. yn 1747; a Rhan vi. tua diwedd yr un flwyddyn. Tybid, hyd yn ddiweddar, na chyhoeddwyd y rhanau uchod yn un Ìlyfr hyd y flwyddyn 1758. Gelwid yr argraffìad hwnw yn " Drydydd Argraffiad," [1] ond y mae yn sicr, bellach, fod argraffiad o hono wedi ei gyhoeddi gan Felix Farley yn y flwyddyn 1749. Gelwid hwn yn "Ail Argraffiad." Teitl yr argraffiad ydyw 'Aleluia, neu Gasgliad o Hymnau (gan mwyaf) o waith y Parchedig Mr. William Williams." Cymer y "gan mwyaf" i ystyriaeth, mae'n debyg, yr hymnau sydd yn Rhan vi., ag enwau eraill wrthynt.

Ymddengys ddarfod i Williams roddi ei bin ysgrifenu o'r neilldu, am un pedair blynedd, ar ol cyhoeddi y Chweched Ran o'r Aleluia, yn niwedd 1747, am fod ganddo fater pur bwysig mewn golwg, sef priodi. Dywed Mr. Charles am ei briodas fel hyn: "Pan oedd yn nghylch deuddeg-ar-hugain, priododd Mary Francis, brodor o Lanfynydd, ac wedi hyny a drigodd yn Llansawel. Bu Miss Francis yn aros gyda y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; yr oedd yn ferch synwyrol dduwiol. Yr oedd gofal yr Arglwydd am dano yn ymddangos yn fawr, yn y fath rodd iddo a gwraig gall, brydferth, ddoeth, dduwiol, mwynaidd, a serchog." Gallwn ychwanegu fod Mrs. Williams yn gantores ragorol, ac felly yn medru profi llithrigrwydd yr emynau a gyfansoddid ganddo, cyn eu cyhoeddi. Gan ei bod yn unig ferch ac etifeddes ei thad yr oedd ganddi ran lew o fendithion y bywyd hwn. Enw ei thad ydoedd Mr. Thomas Francis, o Benlan. Daeth Williams yn bur gyfoethog drwy ei etifeddiaeth ei hun, a'r hyn y daeth iddo drwy ei briodas. Bu iddynt ddau o feibion, a phump o ferched. Cododd ei ddau fab i'r offeiriadaeth. Gwnaeth yr ieuangaf, John, adael yr Eglwys, ac ymuno a'r Methodistiaid; ond cadwodd yr hynaf, William, yn yr Eglwys Wladol i'r diwedd.



Nodiadau[golygu]

  1. Llythyr oddiwrth y Parch. Owen Jones, M.A., Llansantffraid.