Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-22)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-21) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-23)

Ond ar ôl chwilio llawer, y mae yn cael o hyd i'r " Baradwys Gerdd " yn meddiant Williams, o Bantycelyn:—

"Ond Williams——
Yn rhodd a gafodd y gân,
Yn fedrus i weddus wau,
A siarad y mesurau;
Fel gwin, ei ddyfal ganiad;
Fel y mêl oedd ei fawl mad;
Dysgleiriach na dysgl arian,
Na phelydr gwydr ei gân;
Diau wych flodeuog wawd
A dyfodd ar ei dafawd;
Cantor craff, Asaph oedd,
Iach y molai uwch miloedd,
O ffraethder—effro wychiant,
Nid hyn ei gerdd—hymnau gant;
Tanau, gwrydau, Gwridog,
Wedi cael o waed y cawg;
Yn Nghymru ni bu neb iach,
Yn nyddu cerdd fwyneiddiach;
Dewiswyd gan ei D'wysog,
Yn Gerddor, goleu-ŵr glog;
Dwysfardd y Briodasferch,
Mwyn ei sain, emynau serch.
Perlau ei emynau mawl,
A thlysau o'r iach lesawl;
Cymwys i'r wir Eglwys Rydd
(Llais di-feth) yn llys Dafydd."


Mae nodiad ar ddiwedd y cywydd gan Sion Lleyn ei hun fel yma: "Y rhai hyn (y beirdd a enwir yn y rhan gyntaf) a fuant foddlawn ar wisg farddonol, heb yr enaid, ac am mai ei henaid yw gwir foliant i Naf, a dedwydd yw ei pherchennog, yr hyn beth a feddiannodd y Parch. W. Williams, yn anad neb y' Nghymru, gan nad beth oedd ei gwisg hi ganddo ef; fy marn dlawd i yw, mai iddo ef y rhoddwyd enaid y gerdd o neb o'i gydoeswyr y' Nghymru. Os bydd lleferydd iaith ar gael ar ol yr adgyfodiad, nid amheuaf na bydd rhai o'r odlau melusber a ganodd Williams yn cael eu canu gan y gwaredigol hil y pryd hynny." Dengys yr hen gywydd hwn fod rhai o "Feirdd Braint a Defawd" ei oes ef yn cydnabod uwchafiaeth Williams. Yr un modd y mae Thomas Jones, o Ddinbych, yn ei ddyrchafu, gan ei alw, hwyrach am y tro cyntaf, yn "Bêr Ganiedydd Cymru." Arferai Dewi Wyn o Eifion, hefyd, un o feirdd galluocaf Cymru, ddywedyd, "y gallasai efe eistedd drwy gydol y nos, ar y noswaith oeraf yn y gauaf, heb dewyn o dan yn agos ato, i ddarllen gweithiau Williams, ac y buasai yn cael ei dwymno hyd at chwysu yn ddyferol wrth eu darllen."

Yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf, y mae clodfori a dyrchafu Williams wedi dyfod yn ffasiynol. Telir gwarogaeth iddo gan bawb. Efe yw " Peraidd Ganiedydd Cymru," ac efe yw "Prif-fardd y genedl." Plygir iddo mewn parchedigaeth gan y doeth a'r deallus, ac y mae pob gradd yn teimlo swyn ei farddoniaeth. Ac y mae i sylwi arno, mai po fwyaf a ddarllenir ar ei gynhyrchion ef, mwyaf oll y daw ei ragoriaethau i'r golwg. Hyd y flwyddyn 1867, Yr oedd gweithiau Williams yn aros yn wasgaredig, yn gyfrolau a phamphledi prinion fel y cyhoeddwyd hwy gan yr awdwr ei hun, ac felly tu allan i gyrhaedd y bobl. Yn 1811, casglwyd ei holl emynau ynghyd, a chyhoeddwyd hwy gan ei fab, sef y Parch. John Williams, Pantycelyn; ond cafodd y wlad aros am dros hanner cant o flynyddau wedi hyn (1867), cyn i'w holl weithiau gael eu casglu at eu gilydd. Gwnaed hyn gan y diweddar Barch. J. R. Kilsby Jones, gŵr a lanwodd le mawr yn llenyddiaeth ein gwlad, a gŵr oedd yn edmygu y Bardd o Bantycelyn tu hwnt i fesur. Cafodd yr argraffiad cyflawn hwn gylchrediad helaeth, a daeth ei weithiau, am y tro cyntaf, yn hysbysol i'r oes hon. Yn ddiweddar, bendithiwyd y wlad ag argraffiad rhatach, cywirach, a llawer gwell yn mhob ystyr, gan y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., fel y mae y werin Gymreig, bellach, yn alluog i ffurfio barn drostynt eu hunain am wir werth a theilyngdod ei gynhyrchion llenyddol ef. Ni raid i Williams yn awr wrth lythyr canmoliaeth. Cyn i'w weithiau ddyfod o fewn cyrhaedd pawb, gwnaeth Hiraethog, Mills, Brutus, Caledfryn, Eben Fardd, a'r Dr. Lewis Edwards, wasanaeth da drwy eu hysgrifeniadau am dano. Ysgrifenasant yn helaeth, gan ddifynu darnau neillduol yn esiamplau o'i waith, a dangos eu prydferthwch; ond y mae hyny, bellach, yn gwbl afreidiol. Y mae pob beirniadaeth wedi dystewi, a chymeradwyaeth y genedl wedi ei sicrhau.

Nid oes gennym ofod i fanylu ar y cyfnewidiad mawr a effeithiodd Williams yn emynyddiaeth ein gwlad. Nid ydoedd yn ddim llai na chwyldroad. Teimlasai yr arweinwyr Methodistaidd yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, fod mawr anghen am well emynau yn y gwasanaeth crefyddol nag oedd mewn arferiad yn y cyfnod hwnnw, ac yr oeddent yn awyddus am i ryw rai cymwys ymgymeryd a'r gorchwyl. Disgynodd yr yspryd ar Charles Wesley a Toplady yn Lloegr, ac ar Williams, Morgan Rhys, ac eraill, yn Nghymru. Yn briodol iawn y dywed Mr. Charles, o'r Bala, am Williams fel



Nodiadau[golygu]