Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-23)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-22) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-24)

emynydd: "Yr oedd ei ddoniau prydyddol wedi ei rhoddi iddo yn naturiol ac yn helaeth gan yr Arglwydd. Eheda yn aml ar adenydd cryfion iawn, sydd yn ei gario yn odidog ac yn uchel. Aberth mawr y groes yw sylwedd a phwnc pennaf ei holl ysgrifeniadau; a thra byddo cariad at y Gwrthddrych mawr hwnnw yn nghalonnau y Cymry, bydd ei waith yn gymeradwy yn eu plith, yn enwedig ei hymnau. Ehedai ar awel nefol, a chymerai y geiriau nesaf at law, a chwbl ddeallus i'r werin gyffredin, y rhai a hoffent ei ganiadau yn ddirfawr. Effeithiodd ei hymnau gyfnewidiad neillduol ar agwedd crefydd yn mhlith y Cymry, a'r addoliad cyhoeddus yn eu cyfarfodydd. Y mae rhai penillion yn ei hymnau fel marwor tanllyd yn poethi ac yn tanio yr holl nwydau wrth eu canu, ac yn peri eu dyblu yn aml gan y bobl, nes y byddant yn gwaedu ac yn llamu o orfoledd. Y mae yr effeithiau cryfion hyn yn brawf neillduol o rym yr achos sydd yn eu peri." Nid oes gwell prawf i'w gael o lwyredd y cyfnewidiad a ddygwyd i mewn i emynyddiaeth ein gwlad gan y Diwygiad Methodistaidd, na'r ffaith nad oes yn bresennol ond ychydig iawn o hymnau mewn ymarferiad cyffredin, a gyfansoddwyd cyn yr amser hwnnw. Teimlir ynddynt wres angerddol y diwygiad, a chlywir ynddynt sŵn gorfoledd a chan.

Nid oes dim yn amlycach na bod ysgrifennu a chyfansoddi barddoniaeth mor hawdd iddo ag anadlu. Y mae yn dweyd hyny ei hun ar rai achlysuron. Yn ei ragymadrodd i Theomemphis - cyfansoddiad yn cynwys tua phum mil o linellau dywed: "Fe redodd y llyfr hwn allan o'm hyspryd fel dwfr o ffynnon, neu we’r prif gopyn o'i fol ei hun. Y mae yn ddarn o waith newydd, nad oes un platform iddo yn Saesonig, Cymraeg, nac yn Lladin, am wn i. Fe redodd i fy neall fel y gwelwch, ac wrth feddwl y gall fod yn fuddiol, mi a'i printiais." Y mae y pennill olaf yn "Marwnad Grace Price," yn cofnodi y ffaith ddarfod i'r alargan odidog honno gael ei chyfansoddi ganddo mewn ychydig oriau, cyfansoddiad a gynhwysa 42 o benillion, ac un a gafodd y fath dderbyniad, fel y clywsom hen bobl yn dweyd i'r bardd wneyd ugeiniau o bunnoedd o elw o honni. Y mae sicrwydd fod llawer o'i emynau yn fyrfyfyr. Dywedir ei fod yn pregethu yn Meidrym, Sir Gaerfyrddin, ar foreu Sabbath, ac yn darllen ar ddechreu y gwasanaeth, y 4edd bennod o Efengyl Ioan. Darllenodd yn mlaen yn ddi-dor hyd adnod y 35ain, yr hon sydd fel yma: "Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae eto bedwar mis, ac yna y daw y cynhauaf? Wele, yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych, Dyrchefwch eich llygaid, ac edrychwch ar y meusydd, canys gwynion ydynt eisioes i'r cynhauaf." Wedi darllen yr adnod drosti, "Arhoswch chwi," meddai, yn synfyfyriol, "nid yw syniad yr adnod hon erioed wedi ei droi ar gan." "Arhoswch chwi," meddai eilwaith (yn fwy wrtho ei hun nag wrth y gynuileidfa), "Fel hyn, onide:"—

"Onid ydych chwi'n dywedyd fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhauaf toreithiog gyda brys?
Dyrchefwch chwi eich llygaid, medd Iesu, brenin nef,
Can's gwynion ydyw'r meusydd lle mai ei wenith ef."


A darllenodd yn ei flaen i orphen y bennod. Y mae llawer o'i emynau mwyaf poblogaidd yn gynyrchion byrfyfyr; ac y mae i amryw o honynt liwiad lleol pur amlwg. Y mae bron yn sicr mai golygfa ramantus ar yr afon Tywi, lle y mae y ffordd yn arwain dros greigiau serth rhwng y Fannog a Chapel Soar, ddarfu awgrymu i Williams syniad y pennill cyfarwydd hwnw:

"Cul yw'r llwybr i mi gerdded,
Is fy llaw mae dyfnder mawr,
Ofn sydd arnaf yn fy nghalon
Rhag i'm traed i lithro i lawr;
Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan,
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad ydwyf fi ond gwan."


Ac y mae lliwiad lleol dyfnach fyth ar un arall o'i emynau. Y mae yr afon Cothi, heb fod yn mhell o Pumpsaint - lle a dramwyai Williams yn aml - yn ymollwng i bwll anferth, ac a elwir yn "Bwll Uffern Gothi," ac yr oedd ffordd newydd yn cael ei gwneyd heibio i'r fan yn nyddiau y bardd. Yma, meddir, y canodd efe am y

"Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
I basio heibio uffern drist;
Wedi ei phalmantu ganddo ef
O ganol byd i ganol nef."


Ond er fod y penillion hyn a'u cyffelyb wedi eu hawgrymu iddo gan olygfeydd natur, ac wedi eu cyfansoddi yn hollol ddiorchest, eto, y mae Williams ei hun yn dangos mai nid heb barotoad a llafur mawr y cyfansoddodd ei brif weithiau. Fel hyn y dywed am ei brif gyfansoddiad barddonol, Golwg ar Deyrnas Crist: "Mi



Nodiadau[golygu]