Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-25)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-26)

PHOTOGRAPH O WYNEB-DDALEN LLYFR HYMNAU CYNTAF WILLIAMS

Y mae gwall argraff yn y ddwy linell olaf. Enw yr Argraffydd oedd Felix Farley a'r blwyddiad oedd M.DCC.XLV


'fod emynau Williams fel y marbles, pan yr oedd llawer o emynau eraill mwy rheolaidd yn disgyn fel tameidiau o glai.' Nis gwyddom pa gyfrif i'w roddi am y bywyd hwn yn enaid y bardd, yn mhellach na'i fod yn deimlad cryfach na chyffredin - teimlad o brydferthwch anian, teimlad sydd yn myned i mewn i helynt dynoliaeth, yn ei mawredd a'i thrueni, ei llawenydd a'i galar, ei chariad a'i chas, ei daioni a'i drygioni." Byddai yn hawdd ychwanegu. Y neb a gar weled pa mor uchel y safai Williams fel bardd, yn meddwl y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, darllened ei ysgrif alluog a dawnus ar "Gyfnewidwyr Hymnau," yn Nhraethodydd 1850. Teimlwn ei fod yn fwy pwysig yn awr i gael barn y parchedig



Nodiadau[golygu]