Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-26)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-25) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-27)

ddoctor ar Williams fel duwinydd. Ymddangosodd ysgrif o dan ei law ef, yn Yr Arweinydd am 1878, cyhoeddiad a olygid gan ei fab, y Parch. Llewelyn Edwards, M.A., ar "Dduwinyddiaeth Williams, Pantycelyn," ac er ei bod yn faith, teimlwn nas meiddiwn ei chwtogi. Dechreua gyda'r frawddeg a ddyfynnwyd gennym yn barod i bwrpas arall:-

"Cydnabyddir yn gyffredin gan y rhai sydd yn gallu myned trwy y geiriau at y meddyliau fod Williams yn fardd o radd uchel, ac yn neillduol ei fod fel emynwr yn rhagori yn yr angerddolrwydd teimlad sydd yn hanfodol mewn gwir farddoniaeth. Ond fel y mae yn anhawdd ein cael i weled mwy nag un rhagoriaeth yn yr un person, felly yn ei achos ef y mae dysgleirdeb ei farddoniaeth yn tueddu i guddio o'r golwg ei fawredd fel duwinydd: ac am hynny cymeraf y cyfle hwn i alw sylw at eangder ei olygiadau duwinyddol.

"Yn y lle cyntaf, byddai yn fuddiol i ni oll gymeryd ein dysgu yn fanwl gan Williams yn yr athrawiaeth am Berson y Cyfryngwr. Yn y gwrthdarawiad a gododd yn erbyn Howell Harris mae yn ddiau mai emynau Williams fu y moddion pennaf i gadw y Methodistiaid rhag myned i eithafoedd yr ochr arall: ac er yr holl barch a deimlid iddo, yr oedd llawer y pryd hwnnw, ac y mae llawer hyd heddyw, yn methu rhoddi derbyniad calonnog i'r cyfryw eiriau a 'dwyfol waed,' 'dwyfol loes,' 'dwyfol glwy',' y rhai ydynt mor gyffredin yn ei ganiadau. Weithiau newidid hwynt, neu gadewid hwynt allan: a phan arferid hwynt, yr oedd hynny yn fynych ar y dealltwriaeth eu bod i'w cymeryd fel gormodiaeth farddonol, ac nid fel duwinyddiaeth gywir. Yn awr, yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw, nid gwneyd esgusawd dros y geiriau hyn a'u cyffelyb, ond dangos nad ydynt yn sefyll mewn angen am esgusawd. Yn eu hystyr fanylaf y maent yn berffaith gyson a'r athrawiaeth a ddysgir yn y Testament Newydd am Berson a gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. Dywedir yno fod dynion wedi lladd Tywysog y bywyd, wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant. Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Yr Hwn oedd yn ffurf Duw, a'i dibrisiodd ei hun, ac a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes. Y mae o bwys i ni beidio cymysgu y ddwy natur; ond y mae mor bwysig a hynny i ni ofalu rhag mewn un modd i ni rannu y Person. Efe a'i hoffrymodd ei hun, nid rhan o honno ei hun; ac am hynny efe, yn anfeidroldeb ei Berson, ac nid rhan o honno, yw yr Iawn, O ganlyniad, y mae ei waed, yn yr ystyr helaethaf a all fod, yn ddwyfol waed, yn briod waed Mab Duw ei hun.

"Arferir priodoli angau pob dyn i'w holl berson, drwy ddweyd fod y dyn wedi marw, ac nid rhan o hono. Y mae y gyffelybiaeth hon, er mor anmherffaith, yn dangos rhesymoldeb y dywediad fod gwaed Crist yn ddwyfol waed. Ond yr oedd undeb agosach rhwng Person y Mab a'i natur ddynol ef nag sydd rhwng enaid dynol a chorff dynol. Heblaw hynny, yr oedd ei Berson dwyfol ef yn weithredol yn ei farwolaeth. Er mwyn cael cyffelybiaeth gyflawn y mae yn rhaid i ni feddwl am ddyn yn marw o'i fodd, yn taflu ei hun yn ysglyfaeth i angau mewn trefn i achub bywydau rhai o'i gyd-ddynion. Yn y cyfryw amgylchiad y mae yn marw, nid yn oddefol yn unig, ond yn weithredol; ac y mae ei holl enaid yn y weithred. Felly y gellir dweyd am yr Arglwydd Iesu Grist, fod ei holl Berson wedi ei wneuthur yn gnawd, fod ei holl Berson wedi darostwng ei hun, fod ei holl Berson yn y weithred o farw, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau y groes.

"Y mae gan Williams mewn rhai mannau ymadroddion cryfach eto, ac nid wyf yn myned i wneuthur esgusawd dros y rhai hynny ychwaith. Dyma un pennill cyflawn, a darn o un arall, wedi eu cymeryd o ddwy hymn sydd yn dilyn eu gilydd yn ei waith:

"Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
O'r ddae'r i entrych ne',
Er pan y daeth fy Nuw
I ddyoddef yn fy lle;
Mae'r nef, mae'r nef, o led y pen,
Can's hi ddyoddefodd ar y pren.

Boed bryn y groes, boed Calfari
Yn uwch na'r bryniau mwya' eu bri,
Am mai yma collwyd gwaed fy Nuw.'


"Goreu po gyntaf y dysg y darllenydd beidio dychrynu a thramgwyddo wrth eiriau cryfion o'r fath yma am farwolaeth ein Harglwydd. Yn lle hynny gwell fyddai iddo gynefino ei hun yn raddol i fyw ar fwyd cryf. Ac nid ydynt gryfach na'r rhai a ddyfynnwyd eisioes o'r Testament Newydd; a dyma iaith gyffredin y brif eglwys.

"Gan fod y bardd o Bantycelyn yn meddu golygiadau mor eang am Berson y Gwaredwr, ac am ddwyfoldeb y gwaed, nid yw yn rhyfedd ei fod yn credu fod gwiwdeb a gwerth anfeidrol yn yr Iawn. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw fod neb wedi bod erioed yn amheu gwirionedd mor



Nodiadau[golygu]