Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-27)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-26) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-28)

amlwg. Nid yw yn gweddu i ni geisio bychanu pechod; oblegyd er nad yw dyn mewn cymhariaeth ond bychan fel creadur, y mae mwy o ddrwg mewn un pechod nag y gall neb amgyffred. Er hynny, pan feddyliom fod Un oedd mor fawr fel nas gallasai fod neb mwy wedi ymostwng yn y fath fodd fel nas gallasai fod ymostyngiad mwy, y mae pob cyfartaledd yn diflannu o'r golwg; ac yr ydym yn barod i ddywedyd gyda Williams:—

"Pechod yma, cariad acw,
Fu yno yn y glorian fawr;
Ac er trymed oedd y pechod,
Cariad bwysodd hyd y llawr.
Y gair Gorphenwyd
Wnaeth i'r glorian bwysig droi.'


Ymddengys mai felly y cyfansoddwyd y penill, ac y cyhoeddwyd ef ar y cyntaf. Nid oedd y sawl a'i newidiodd yn euog o gyfeiliornad dirfawr. Ond pan y mae rhai mor fanwl a cheisio gwella gwaith eraill, y mae yn naturiol i ninau fod yn fanwl wrth farnu y gwelliant; ac y mae yn sicr mai prin y buasai Williams yn foddlawn i ddweyd fod cariad wedi ei bwyso, oblegyd nis gellir pwyso anfeidroldeb. Rhoddwyd y cariad yn y glorian, nid i'w bwyso, ond i orbwyso y pechod, yr hyn a wnaeth hyd y llawr. Yn yr un hymn dangosir y meddwl yn gryfach eto, os yw bosibl, yn y penill canlynol:—

"Haeddiant Duwdod, o'i gymharu
'N erbyn uffern fawr o'r bron;
Dafn gwaed sy'n ganmil rhagor
Nag aflendid dudew hon:
Gw'radwyddiadau
Duw rydd iawn am feiau'r byd.'


Mewn man arall, rhif 427 o'r llyfr hynmau diweddaf, ceir y ddau bennill ardderchog a ganlyn:-

"Pe buasai fil o fydoedd
Yn cael eu prynu 'nghyd,
A'r cyfryw bris fuasent
Yn llawer iawn rhy ddrud:
'Does angel fyth, na seraph,
Na cherub o un rhyw,
I'r filfed ran all ddywedyd
Mor werthfawr gwaed fy Nuw.

O na allwn innau’r awrhon
Ehedeg fyny fry,
A dysgu rhyw ganiadau
Sydd gan y nefol lu;
Fel byddai cydsain hyfryd
Rhwng dae'r a nef yn un,
Caniadau anfeidroldeb
Marwolaeth Duw yn ddyn.'


Gallesid rhoddi llaweroedd o benillion eraill yn cynnwys yr un athrawiaeth; ond y mae hynny yn afreidiol, gan eu bod eisioes yn nwylaw y Cyffredin o ddarllenwyr Cymru; ac felly ni chaf ond ychwanegu un penill allan o'r Golwg ar Deyrnas Crist, yr hwn y cyfeiriwyd fy sylw ato yn ddiweddar gan ddiacon darllengar a deallus yn Sir Feirionydd.

"Dystawa, fy nghydwybod
Anesmwyth, rowd ddim llai
Nag y mae Duw yn ei ofyn
O daliad am fy mai;
Boddlondeb, a myn'd trosodd,
Rowd i anfeidrol lid;
A heddwch, a myn'd trosodd,
I edifeiriol fyd.'


"Yr eangder a geir yn nghaniadau Williams pan yn son am Berson a gwaith y Cyfryngwr, a welir hefyd yn ei olygiadau am y drefn drwy ei haeddiant ef i gadw pechaduriaid. Afreidiol yw cymeryd amser i brofi ei fod yn dal cyfiawnhad drwy ffydd yn ei holl helaethrwydd; oblegyd y mae Protestaniaid efengylaidd yn gyffredinol yn credu yr athrawiaeth hono, Ond nid oes unrhyw gydwelediad gyda golwg ar y drefn i aileni; ac y mae yn werth i ni chwilio beth oedd barn Williams, a oedd efe yn dal ailenedigaeth drwy ffydd, yr un modd a chyfiawnhad drwy ffydd. Mewn geiriau eraill, a ydyw aileni yn dyfod drwy ffydd, yn ôl ei farn ef, ai ynte ffydd yn dyfod drwy aileni? Saif y mater hwn mewn cysylltiad agos ag amryw faterion eraill. Er enghraifft, os yw ffydd yn dyfod drwy aileni, y mae yn rhaid fod ailenedigaeth yn rhagflaenu cyfiawnhad; ac hefyd y mae yn rhaid i ni gredu fod yr Yspryd Glan yn aileni dyn yn ddigyfrwng, ac nid drwy y gair. A'r hyn sydd yn fwy pwysig na'r cwbl, y mae y golygiad yma yn cynnwys fod bywyd ysprydol yn dyfod i'r enaid cyn ei uno a Christ drwy ffydd. Cyn myned i chwilio pa olygiad sydd yn gywir, byddai yn fuddiol cael ychydig o hanes yr athrawiaeth hon, fel y gweler i ba raddau y mae Williams yn cytuno a duwinyddion eraill; a gellir cyfyngu yr ymchwiliad bron yn gwbl i'r testun cyntaf, sef aileni drwy ffydd, neu ffydd drwy aileni, gan fod yr ateb a roddir i hwn yn effeithio ar y lleill.

"Y nesaf o'r holl dadau at yr Apostol Paul, er fod pellder anfesurol rhyngddynt, oedd Awstin o Hippo. Lled dywyll yw efe am ystyr y gair aileni, gan ei fod yn ei gysylltu yn ormodol a bedydd; er nad yw dweyd fod yr aileni hwn yn cynnwys mwy na rhyddhad oddiwrth bechod gwreiddiol. Yr hyn a elwir gan Brotestaniaid efengylaidd yn aileni ydyw yr hyn a eilw efe yn



Nodiadau[golygu]