Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-28)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-27) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-29)

gyfiawnhau. Gwnaeth gamsyniad pwysig am ystyr y gair; ond y mae yn eithaf goleu yn gosod allan fod y cyfnewidiad hwn, pa beth bynnag y gelwir ef, yn dyfod drwy ffydd. Efallai nad oes neb wedi deall Awstin yn well na Neander; ac fel hyn y mae efe yn symio i fyny ei farn ef ar y pwnc: 'Ond er fod y Pelagiaid yn gosod allan yn eglur y cysylltiad allanol rhwng Crist a'r credinwyr, yn seiliedig ar yr hyn a wnaeth efe unwaith, ac a enillodd dros ddynolryw, ac a sicrhaodd iddynt am yr amser dyfodol, er hyny gosodent y cysylltiad tufewnol rhwng y ddau yn mhell o'r golwg, yr hyn nis gallasai lai na bod, yn ol egwyddorion sylfaenol eu cyfundraeth. Y mae Awstin yn dwyn yn mlaen yn barhaus yn erbyn eu cynllun yr wrthddadl, eu bod yn gwneuthur gras Crist i gynnwys dim mwy na chyfraniad o faddeuant: eu bod yn gadael dyn, wedi iddo gael hyn, i ryddid ei ewyllys ei hun, ac na chydnabyddent fod hyd yn nod yn awr ei holl gyfiawnder tufewnol neu ei sancteiddhad yn waith Crist yn unig; fod yr egwyddor newydd o fywyd dwyfol, yr hon yw ffynonell pob daioni yn y credinwyr, yn tarddu o'r undeb ag ef trwy ffydd. Yr undeb tufewnol rhwng Crist a chredinwyr, y cyfiawnhad neu sancteiddhad yn deilliaw o hyny a'i sylfaen yn Nghrist, dyma yr hyn a ddaliai Awstin yn eglur mewn gwrthwynebiad i'r Pelagiaid.' - (History of the Church, vol. iv., p. 363, Bohn's edition).

"Y mae yn amheus a oedd Calfin yn fwy dyn nag Awstin; ond y mae yn ysgrifennwr sydd yn medru dwyn ei feddyliau allan yn fwy eglur; ac nis gall dim fod yn fwy diamwys na'i farn fod aileni yn dyfod drwy ffydd. Yn y drydedd bennod o'r trydydd llyfr o'i Gorff Diwinyddiaeth, yr hon sydd yn traethu, fel y dywedir yn nechreu y bennod, am 'ailenedigaeth drwy ffydd,' yn y nawfed adran cawn y geiriau a ganlyn: 'Y mae y ddau hyn (sef marweiddiad y cnawd a bywhad yr Yspryd), yn dyfod i ni drwy undeb a Christ. Oblegyd os cawn wir gymdeithas yn ei angau ef, y mae ein hen ddyn yn cael ei groeshoelio drwy ei allu ef, a chorff pechod yn marw.' Yna dywed, ' Mewn un gair, wrth edifeirwch yr wyf yn deall ailenedigaeth.' Ac mewn mannau eraill dadleua fod edifeirwch yn dyfod yn unig drwy ffydd. Nid oes achos ymofyn yma pa un a ydyw yn barnu yn gywir mai yr un peth yw edifeirwch ac ailenedigaeth; ond y mae yn amlwg mai ei olygiad ef oedd fod ailenedigaeth yn dyfod drwy undeb a Christ, a'r undeb hwnnw yn dyfod drwy ffydd.

"Ar ol dyddiau Calfin aeth amryw o'r Protestaniaid i gredu ac amddiffyn y farn Arminaidd, yr hyn a barodd wrthdarawiad yn y lleill, fel yr aeth llawer o honynt yn fwy Calfinaidd na Chalfin. Ni fynnent i neb feddwl am gredu yn Nghrist cyn ei aileni, ac yn yr aileni nid oedd lle i'r Gair; ac y mae lle i gasglu, yn ol barn rhai o honynt, nad oedd lle yn yr aileni i Grist ei hun. Ond rhag gwneyd cam a neb, dylid ychwanegu eu bod yn cydnabod fod yr aileni yn dwyn y meddwl at y gair ac at Grist. Fel hyn y dywed Ridgley yn ei Gorff Duwinyddiaeth, 'Nis gall y gair lesâu os na fydd wedi ei gyd-dymheru a ffydd; ac nis gall ffydd weithredu os na fydd yn tarddu o egwyddor o ras wedi ei phlannu oddimewn; gan hyny nid yw yr egwyddor hon o ras yn cael ei chynhyrchu ganddo. Yr un peth fyddai tybied fod dal darlun prydferth o flaen dyn dall yn ei alluogi i weled.' Dilynwyd Ridgley gan Dr. Williams, o Rotherham, Dr. George Lewis, a lliaws o ysgrifenwyr eraill yn mysg yr Anghydffurfwyr. Hyn hefyd yw barn Dr, Hodge, o America, yr hwn yn ddiau ydyw un o dduwinyddion galluocaf yr oes hon; ac nis gallaf fyned heibio i'w enw heb dalu iddo deyrnged o warogaeth, ac annog pawb i ddarllen ei ysgrifeniadau.

"Ond y mae yn bryd i ni edrych pa beth oedd barn Williams a'r hen Fethodistiaid yn Nghymru ar y mater hwn. Fel hyn y dywed Williams yn ei Theomemphus am natur ffydd, ac am y drefn i aileni drwy ffydd:—

"R efengyl wy'n bregethu,
Nid yw hi ddim ond hyn,
Mynegu'r weithred ryfedd
Wnawd ar Galfaria fryn;
Cyhoeddi'r addewidion,
Cyhoeddi'r marwol glwy',
A diwedd llygredigaeth
I'r sawl a gredo mwy.

O cred, O cred, cai gymorth
I dynu'th lygad de;
O cred, O cred, cai allu
I dori'th fraich o'i lle:
Cred yn yr Oen fu farw
Fry ar Galfaria fryn,
Y fynyd gynta' y credost
Cai lawer mwy na hyn.

Nac edrych ar amodau
Fyth fyth o'th fewn dy hun;
Trwy gredu daw amodau,
Mae gras wrth gredu 'nghlŷn;
Y fynyd gynta' y credost
Yw'r fynyd byddi byw,
Wrth gredu yn Nghrist yn unig
Cai wel'd gogoniant Duw.



Nodiadau[golygu]