Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-31)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-30) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-32)

gennym rinweddau ynom ein hunain, ond gweled ein hunain yn eisieu oll i gyd, a'r eisieu hwnnw yn peri i ni bwyso ar y digonolrwydd sydd yn Nghrist. Y mae hyn yn wahanol iawn i'r gred sydd yn rhy gyffredin fod yn rhaid cael bywyd newydd yn yr enaid cyn y gall neb gredu. Mae yn sicr na ddylid priodoli i eraill ganlyniadau y farn a goleddir ganddynt, os byddant hwy eu hunain yn ymwrthod a'r canlyniadau hyny. Er hyny, am y rhai sydd yn dal y farn hon, byddai yn dda iddynt ystyried mor agos ydynt, ac mor hawdd yw iddynt lithro i'r golygiad Pabaidd am ffydd a chyfiawnhad. Addefa y Pabyddion fod cyfiawnhad drwy ffydd; ond dywedant yr un pryd fod ffydd wirioneddol yn cynwys cariad, ac felly gwnânt gyfiawnhad drwy ffydd yn gyfiawnhad drwy weithredoedd. Yr unig ffordd i wrthwynebu y golygiad Pabaidd ydyw drwy ddal, yn ôl tystiolaeth amlwg yr Ysgrythyr, fod aileni yn dyfod drwy ffydd, ac nid ffydd yn dyfod drwy aileni. Yr wrthddadl fawr yn erbyn hyn yw, nas gall dyn gredu heb fod ynddo fywyd yn gyntaf. Ond ni feddylir fod neb yn credu yn gadwedigol heb yr Yspryd Glan, mwy nag y mae yn marw yn naturiol heb i Dduw beri hyny. Ac os caniateir fod yr Yspryd yn argyhoeddi dyn cyn ei aileni, paham na ellir caniatáu ei fod yn ei ddwyn i gredu cyn ei aileni, er nad yw yr Yspryd yn preswylio ynddo nes y daw drwy gredu i undeb a Christ? Ond nid ei wella y mae yr Yspryd cyn iddo ddyfod at Grist, ond ei ddwyn at Grist er mwyn iddo gael ei wella. Gan hyny, nid oes achos i neb oedi nes cael tro cyn dyfod at y Ceidwad. Pe rhoddid derbyniad dwfn i'r athrawiaeth hon gan holl bregethwyr yr efengyl, byddent yn sicr o deimlo mwy o gryfder i alw ar bawb i ddyfod at Grist yn ddiymaros; ac i ddywedyd gyda Williams, yn y pennill a ddyfynnwyd eisioes:—

"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch edifeiriol rai;
Dewch chwithau yr un ffunud
Sy'n methu edifarhau;
Dewch gafodd galon newydd,
Dewch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.'"


Dichon ein bod wedi aros yn rhy hir ar deilyngdod llenyddol, a chysondeb athrawiaethol emynau a chyfansoddiadau eraill Williams, ond nid ydym yn anghofio fod eu prif ragoriaeth yn gorwedd mewn cyfeiriad arall. I lawer pererin blinedig y maent wedi bod fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Buont yn gyfnerth i'r llesg, ac yn olew a gwin i lawer enaid drylliedig. Cafodd llawer olwg ar y wlad well a'r Brenin yn ei degwch drwy ei emynau ef. Profasant yn foddion gras i filoedd yn Nghymru, ac yr ydym yn hyderu y parhânt yn eu rhinwedd am oesoedd lawer i ddyfod.

Nis medrwn adael Williams heb goffhau y difyr hanesion sydd am dano, a'r ffraeth benillion a wnaeth ar wahanol achlysuron. Nid ydynt o nemawr gwerth ar wahân oddiwrth eu hawduraeth. Taflant oleuni ar ei barodrwydd, ei ffraethineb, a sirioldeb ei yspryd. Nid oes iddynt drefn amseryddol, nac ychwaith unrhyw sicrwydd am eu lleoliad, ac nis gellir dwyn nemawr o honynt o dan unrhyw ddosbarthiad. Gosodir hwy i fewn yma am fod gan y wlad barchedigaeth i fanbethau y bardd o Bantycelyn, a gwneir hyny mor fyr ag a fydd yn ddichonadwy. Danfonodd y pennill canlynol at ei wraig pan yr oedd ar daith trwy'r Gogledd:—

"Hêd, y gwcw, hed yn fuan,
Hêd y deryn glas ei liw,
Hêd oddi yma i Bantycelyn,
D'wed wrth Mali mod i'n fyw;
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw ei le,
Os na chaf ei weled yma,
Caf ei weled yn y ne'."


Cawn yn Methodistiaeth Cymru, cyf. iii., tudal. 345, nodiad fel yma: "Daeth hanes arall i law am y bardd pan yr ydoedd ar daith yn Môn, ac yn yr hanes y mae ffurf wahanol ar y pennill, 'Hêd y Gwcw,' ac ar yr amgylchiad a barodd ei gyfansoddi. Cymerwyd y bardd yn afiach, medd yr hanes, yn y Garnedd—ddu, a bu yn gorwedd ddyddiau rai. Yn ei salwch aeth yn isel iawn ei feddwl, a theimlai hiraeth angerddol am ei gartref, ac am ei deulu." Wylai a chanai fel hyn:—

"'Rwy'n awr yn eitha' Môn yn aros,
Ac y mae yn fy yspryd glwy',
Am gael gweled Pantycelyn,
'Chaf ei weled mo'no mwy!
Hêd, y gwcw, dros y bryniau,
Hêd, aderyn glas ei liw,
Dwg i'm newydd, dwg yn fuan,
A yw yno bawb yn fyw?
Hêd oddi yno i Lanfairmuallt,
D'wed wrth Jack am gadw'i le,
Os na chai weled ar y ddaear,
Y caf ei weled yn y ne';
Hêd oddi yno, dos at Mali,
Dywed wrthi'n ddistaw bach,
Os ca'i gennad gan yr Arglwydd,
Y dof fi adre' eto'n iach."




Nodiadau[golygu]