Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-30)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-29) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-31)

"Does dim ond edrych yma,
Mae edrych yn iachau,
Mae edrych yn sancteiddio,
Mae edrych yn fwynhau.'


PWLPUD Y CAPEL COFFADWRIAETHOL YN LLANYMDDYFRI

"Yn llythyrau Paul daw yr un athrawiaeth i'r golwg, nid mewn ymadroddion achlysurol yn unig, ond fel swm a sylwedd ei ymresymiad, yn enwedig yn ei Epistol at y Rhufeiniaid. Fel sylfaen i'r holl ymdriniaeth am drefn yr efengyl, y mae yn traethu yn gyntaf am ein derbyniad gyda Duw drwy ffydd heb weithredoedd y ddeddf, ac yna yn myned yn mlaen i sylwi ar y cyfnewidiad tufewnol fel y canlyniad angenrheidiol i gyfiawnhad drwy ffydd. Dechreua draethu ar y mater olaf yn pen. vi. i, drwy ofyn, 'Beth wrth hyny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? ' Mae yn amlwg na fuasai lle i'r gofyniad hwn pe buasai cyfiawnhad yn rhagdybied ailenedigaeth. Ar y dybiaeth fod gras wedi amlhau tuag at ddyn y n y cyfiawnhad, cyn fod gras ynddo, y gellir gofyn, ' A drigwn ni yn wastad mewn pechod fel yr amlhao gras? ' Yr ateb i'r gofyniad hwn ydyw, ' A ninau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? ' Y mae yr ateb hwn yn cynnwys ein bod wedi meirw i bechod yn y cyfiawnhad; hyny ydyw, wedi meirw iddo yn gyfreithiol, fel nad oes gan bechod awdurdod arnom mwyach, megys nad oes gan y meistr awdurdod ar y caethwas pan fyddo y caethwas wedi marw. Ond pa fodd y mae y caethwas yn marw yn yr amgylchiad hwn? Dengys yr apostol yn yr un bennod ei fod yn marw i bechod drwy ddyfod i undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn oll yn perthyn i gyfiawnhad; ac felly mae cyfiawnhad yn ngolwg yr apostol yn cynwys, nid rhyddhad oddiwrth gondemniad yn unig, ond rhyddhad oddiwrth arglwyddiaeth pechod, yr hyn sydd yn cynwys hefyd nas gall neb fod yn was cyfreithlawn i bechod wedi ei gyfiawnhau. Ond i ddangos yn fwy eglur eto y cysylltiad anwahanol rhwng cyfiawnhad a sancteiddhad, dygir yn mlaen ein perthynas a'r ddeddf, yr hon oedd yn ein rhwymo yn nghaethiwed pechod. Nid oedd modd i ni farw i arglwyddiaeth pechod heb i'r ddeddf gael ei newid, neu i ni farw i'r ddeddf; ac nid oedd modd i ni farw i'r ddeddf oddieithr drwy undeb ffydd a marwolaeth Crist. Y mae hyn eto yn perthyn i'r cyfiawnhad. Ond o'r ochr arall, ' Yr ydym yn marw i'r ddeddf (yn y cyfiawnhad) drwy gorff Crist; fel y byddem eiddo un arall, sef eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.' A dyma wreiddyn ein hailenedigaeth, a dechreuad ein sancteiddhad. Gwelir fod y cwbl yn dyfod o undeb a Christ, a'r cwbl gan hyny yn dyfod drwy ffydd. Ceir yr un athrawiaeth yn y bedwaredd bennod o'r Epistol at y Galatiaid, lle y dywedir ein bod wrth natur yn gaethion dan wyddorion y byd. Yr oedd yr etifeddiaeth yn barod; ond yr etifedd yn gaeth, ac yn rhaid ei brynu. Y canlyniad o'r prynu ydyw mabwysiad; a chanlyniad y mabwysiad ydyw anfon Yspryd y Mab i'n calonnau ni, yn llefain Abba, Dad.

"Addysgiadol yw sylwi fel y mae Paul yn cyffelybu credu i farw, ac felly yn ei osod allan fel rhywbeth hollol groes i weithio, er mai o'r marw hwn y mae bywyd a gwaith yn tarddu. I'r un perwyl y dywed Williams, mai nid credu yw fod



Nodiadau[golygu]