Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-33)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-32) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-34)

"Rho heibio waith Llaaddewi,
A chadw caseg fawr,
A bildio teiau nowydd,
A thynnu’r hen i lawr;
A phaid a rhenti'r tiroedd
I'r deiliaid yn rhy ddrud,
Gwna'r triugain fwy o lawer
Na wna y cant i gyd."


Cafodd un Evan Moses sen drymach ganddo. Teiliwr ac argraffydd oedd y gŵr hwn. Yr oedd wedi bod yn ddigon hyf i feirniadu marwnad Williams i Howell Harris, ac wedi gadael rhai penillion allan wrth ei argraffu hi:—

"Wel, gwrando, Evan Moses,
Y teiliwr gwaetha'i ryw,
O'r dorf ddi-rif deilwriaid
Erioed a greodd Duw;
'Dwy'n amheu nad yr Arglwydd,
A'th wnaeth di'n deiliwr glas;
Ond Satan a dy alwodd
At waith efengyl gras."


Cyfansoddodd Williams lawer yn nyfnder y nos, pan y byddai pawb eraill yn gorphwys. Dywedir y byddai yn aml, ar ol myned i orphwys ei hun, yn deffro ei gymar, gan waedu yn sydyn: "Mali, Mali; cannwyll, cannwyll, y mae yn rhaid i mi fyned i ysgrifennu." Goleuai Mali y gannwyll yn ddiymaros a dirwgnach, ond nid oedd efe bob amser pan ar ei deithiau yn cael yr un parodrwydd i weini arno. Un tro, yn y Collenau, yn ymyl Tonyrefail, medd rhai, yn Maescefnffordd, ger Llangamarch, medd eraill, methodd y bardd yn lan a dihuno y forwyn, a dyma fel y canodd iddi boreu drannoeth:—

"'R'wy' 'nawr yn gwel'd yn eglur,
'Tai clychau mawr y Llan,
A rhod y felin bapyr,
A gyrdd y felin ban;
A'r badell fawr a'r crochan
Yn twmblo oddeutu'r tŷ,
A'r gwely'n tori dani,
Mae cysgu wnelai hi."


Un tro yr oedd Williams ar daith trwy Fro Morganwg, ac yn pregethu yn Llysyfronydd. Yr oedd pobl y wlad o gwmpas wedi dyfod i'w wrando, ac yr oedd ganddo gopïau o Theomemphus i'w gwerthu ar ol yr odfa. Gwnaeth farchnad go dda o honynt; ond yr oedd un o'r enw Ned Lewis, un o wrandawyr Llangan, yn gomedd prynu, ac yn dweyd fod y llyfr yn rhy ddrud; dywedodd Williams wrtho:—

"Ned Lewis, er ei wrando,
Yn selog yn mhob man,
Sy'n hoffi ceiniog tincer,
Yn fwy na ffydd Llangan;
Ni phryn e' ddim o Theo',
Mae e' geiniog yn rhy ddrud,
Nes delo'r wiber danllyd
I frathu ei fynwes glyd."


Yr oedd dynes yn byw yn ymyl Castellnedd, yn Sir Forganwg, o'r enw Sali Stringol, ag y byddai Williams yn arfer masnachu a hi mewn llyfrau. Yr arfer oedd talu am yr hen wrth gael y newydd. Un tro, pan yr oedd Williams ar gylch, ni ddaeth Sali i'w gyfarfod fel y byddai yn arferol o wneyd, ac fe aeth y bardd i ofni y byddai iddo golli yr arian. Ysgrifenodd ati i achwyn, gan ddweyd y byddai ar amser penodedig yn Fforchonllwyn, Ystradgynlais, ac y carai iddi ei gyfarfod yno, a dwyn yr arian gyda hi. Digiodd Sali yn enbyd, a phan ddaeth yr amser, aeth yno yn ddrwg ei hwyl, er fod ganddi ffordd faith i'w cherdded. Yr oedd Williams yn lletya gyda Mr. Jones, yr offeiriad. Pan ddaeth Sali i'r tŷ, arweiniwyd hi i mewn i'r parlwr lle yr oedd y bardd, gŵr y tŷ, ac un neu ddau eraill yn eistedd. Cyfarchodd y bardd hi yn garedig, gan holl ei helynt; ond yr oedd hi yn rhy glwyfedig ei hyspryd i siarad, a thaflodd yr arian ar y bwrdd yn swta, a gofynnodd am receipt. Gwelodd Williams fod y wraig dda wedi tramgwyddo, a dywedodd, "Cewch, cewch, cewch, cewch," yn hollol hunanfeddiannol "Rhowch i mi dipyn o bapyr, Mr. Jones," meddai, ac wedi ei gael, eisteddodd i lawr i ysgrifenu. Ar ol gorphen, estynnodd y papyr i'r offeiriad, yr hwn a dorrodd allan i chwerthin; a phan ddarllenodd hwnw ef allan i glywedigaeth y cwmni, yr oedd Sali yn chwerthin mor iach a neb o honynt. Dyma y receipt:—

"Rwy'n rhyddhau Sali Stringol,
Y wraig a'r natur fawr,
O bob rhyw ddyled imi
O Noah hyd yn awr;
Dymunaf dda i Sali,
A'i chrefydd gyda hi,
A gwnaed hi hedd a'r nefoedd,
Fel gwnaeth hi hedd a mi."


Ryw bryd yn y flwyddyn 1788, yr oedd y bardd yn pregethu yn nghapel y Dyffryn (Dyftryn Clwyd), ac yn ol yr arfer gyffredin, yn y tymor hwnw, yn cadw cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa. Yr oedd yno ddau wedi aros i ymofyn am aelodaeth o newydd, sef gŵr o saer yn y gymydogaeth, a merch ieuanc. Ymddiddanodd Williams a hwy, yn ol ei arfer, ac ar ol darfod, ebe fe, gan gyfarch yr eglwys: "Gadewch i'r eneth yma aros



Nodiadau[golygu]