Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-34)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-33) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-35)

gyda chwi, ac ymgeleddwch hi; ond am y gŵr yma, nid oes ganddo fwy o grefydd nag sydd gan fy ffon i," gan daro ei ffon ar y llawr. Felly y troes pethau allan.

Yr oedd gŵr, o'r enw William Powell, aelod o eglwys Llansamlet, Morganwg, wedi gwyro at Sandemaniaeth, gan ddilyn Mr. Popkins, yr hwn oedd wedi gwyro o'i flaen ef. Pan yr oedd efe ar ei wely angau ymwelodd y bardd o Bantycelyn ag ef, ac yn y gair a goffheir iddo ei ddweyd wrth y claf, y gallwn weled fod gan y bardd feddwl da am ei grefydd, er iddo lithro ychydig oddi ar y ffordd: "Wil, Wil," eb efe, " ti fuost ti yn whil'o Llawer am ddyn'on perffaith yn dy dymor, mi.'dy wela di yn nes atyn' nhw' yn awr nag erioed." At y Mr. Popkins uchod y cyfeiriai Williams pan y dywedai, mai "pedwar peth a'i gwnaethai yn bregethwr mawr - perwig Samson Thomas, ceffyl Howell Davies, cyfoeth Popkins, a doniau Rowlands."

EGLWYS LLANFAIR-AR-Y-BRYN.
Yn dangos y Meini Coffadwriaethol cyntaf a osodwyd ar y beddau

Daeth gwraig fonheddig ato unwaith i'w wahodd i ddyfod i bregethu i'w thŷ hi yn Llandeilo Fân, yn Sir Frycheiniog. Ymddengys mai Mrs. Lloyd, Aberllech, ger Beiludu, ydoedd hi, boneddiges a fu yn dra chymwynasgar i grefydd yr ardal honno yn ei dydd. Dyma atebiad boneddigaidd y bardd iddi:—

"Ti, bendefiges hawddgar,
Mi gadwaf yn fy ngho',
I'th babell do'i bregethu
Pan ddelwyf gynta' ith fro;
Ac hefyd ti gai wobr,
Pan elo'r byd ar dân,
Am wa'dd efengyl Iesu
I blwy' Llandeilo Fân."


Ymddengys ei fod yn ŵr pur ddifater am ei ymddangosiad personol. Nid oedd un gwasanaeth yn rhy isel iddo ef ei gyflawni. Elai o gwmpas y wlad fynychaf ar gefn ei geffyl, gyda sachaid o'i lyfrau ar y cyfrwy; ac os digwyddai i'r tywydd droi allan yn anffafriol, ac yntau yn ddiddarpariaeth, benthycai gôt rhyw gyfaill, neu glog ei wraig, heb ymholi dim a fyddai dilladau felly yn gweddu gŵr parchus a chyfrifol fel efe. Cawn ei fod yn pregethu un tro yn mharlwr gŵr



Nodiadau[golygu]