Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-6)

wlad? Diau eu bod i ryw fesur, ond nid i'r graddau y gwnaethent mewn adeg foreuach. Y pryd hwn, yn arbenig, yr oedd cylch eu dylanwad er daioni yn bur gyfyng, gan eu bod yn cael eu rhwygo gan derfysgoedd ac ymrysonau, yn benaf yn nghylch athrawiaethau crefydd. Yr oedd dwy o eglwysi Ymneillduol yn nghymydogaeth Llanymddyfri, sef eglwys y Bedyddwyr yn Nghilycwm, ac eglwys Annibynol Cefnarthen. Eglwys fechan a chymharol ddinod ydoedd yn Nghilycwm, ond yr oedd un Cefnarthen yn un lliosog ac o enwogrwydd. Yn hon yr oedd tad a mam Williams yn aelodau, ac i'r capel hwn y byddai Williams yn myned yn ystod ei ieuenctyd. Rhaid i'r darllenydd gael brasolwg ar hanes yr eglwys yma, er mwyn iddo weled pa fagwraeth i grefydd allasai gael ganddi. Yr oedd yn un o eglwysi hynaf Cymru, ac wedi gwneyd gwasanaeth anrhaethol i grefydd ardaloedd Llanymddyfri tuag adeg y weriniaeth, ac yn ystod yr erledigaeth wedi adferiad Siarl yr Ail. Ceir hanes llawn, a dyddorol dros ben am dani yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, cyf. iii., tudal. 582; ond rhaid i ni dalfyru llawer arno yma.

Planwyd eglwys Cefnarthen gan Mr. Jenkin Jones, Llanddetty, hwyrach mor foreu a'r flwyddyn 1642; ond gwasgarwyd hi gan erledigaethau, a charcharwyd y gweinidog a lliaws o'r aelodau. Ailgasglwyd hi tua'r flwyddyn 1688, gan Mr. Rees Prytherch, gŵr a fu yn ffyddlon weinidog ynddi hyd ei farwolaeth, yn 1699. Ei ganlynydd ef ydoedd Mr. Roger Williams. Calfiniaid, o ran athrawiaeth, ydoedd y ddau weinidog cyntaf; a Chalfiniad ydoedd Roger Williams ar y cychwyn; ond cyn diwedd ei oes yr oedd yn pregethu Arminiaeth, a llwyddodd i ledaenu yr athrawiaeth hono yn mysg ei aelodau a'i wrandawyr. Bu farw yn 1730, wedi bod yn pregethu, yma ac yn eglwys Cwmyglo, Merthyr Tydfil, am 32 o flynyddau. Yr oedd yr eglwys yn ddwy blaid pan y bu efe farw, ac ymddengys mai yr Arminiaid erbyn hyn oedd y blaid gryfaf ynddi. Ar ei farwolaeth ef, cafodd dau weinidog o ddaliadau Arminaidd eu dewis gan un blaid, ac un arall o olygiadau Calfinaidd gan y llall. Yr oedd y tri gweinidog hyn, cofier, yn weinidogion ar yr eglwys ar yr un amser; nid am fod rhifedi yr aelodau yn galw am hyny, ond yn unig er cyfarfod a'i sefyllfa ranedig hi ar y pryd. Buont yn pregethu athrawiaethau croes i'w gilydd, yn yr un capel, ac o'r un pwlpud, am saith mlynedd. O'r diwedd ymranodd yr eglwys; cadwodd yr Arminiaid feddiant o'r addoldy, ac aeth y Calfiniaid i addoli i amaethdy o'r enw Clinypentan, yr hwn sydd yn sefyll rhwng Cefncoed a Phantycelyn. Yr oedd tad Williams yn arwain y blaid Galfinaidd allan o'r hen gapel. Wedi yr ymraniad cynyddodd y Calfiniaid, a lleihaodd yr Arminiaid. Adeiladwyd capel newydd i'r Calfiniaid ar ddarn o dir a roddwyd i'r pwrpas gan fam Williams, Pantycelyn, ac yntau, yr hwn a elwir yn Pentretygwyn. Yn nghwrs blynyddoedd unwyd yr eglwysi gan Mr. Morgan Jones, a charthwyd yr athrawiaeth Arminaidd allan o honynt yn llwyr.

Dyna yn fyr, hanes eglwys Cefnarthen. Gwelir i Williams gael ei ddwyn i fynu yn un o eglwysi mwyaf terfysglyd Cymru; eglwys ag yr oedd llawer mwy o ddadleuon ynddi nag o grefydd. Nid pobl yn cytuno i anghytuno oeddynt, ond pobl anhyblyg dros eu gwahanol opiniynau, ac yn medru cario rhyfel poeth yn mlaen am flynyddau lawer. Nis gwyddom a oedd Williams yn aelod proffesedig o'r eglwys, ond yno y cyrchai i'r addoliad cyhoeddus hyd yr ymadawodd i fyned i'r coleg, yn llanc ieuanc, dwy-ar-bymtheg neu ddeunaw mlwydd oed. Y mae yn bur debyg fod Roger Williams wedi troi yn Arminiad cyn iddo ef gael ei eni. Am y blynyddoedd cyntaf, nid oedd o fawr pwys i Williams ieuanc pa athrawiaethau a bregethid yn ei glyw. Eithr cyn terfyn gweinidogaeth Roger Williams, hwyrach fod gan y bachgen llygadlas ryw syniad aneglur am yr hyn a wrandawai; y deallai fod rhyw wahaniaeth nas gallai efe ei amgyffred, rhwng yr hyn a lefarai y gweinidog, a'r hyn a gredai ei dad; ac nid anhebyg iddo glywed aml i ddadl frwd rhwng y ddau. Yr oedd yn dair-ar-ddeg oed pan fu y gweinidog hwnw farw. Yr oedd yn llawer pwysicach pa athrawiaethau a gyhoeddid yn ei glywedigaeth yn ystod y pum' mlynedd nesaf; dyma y cyfnod yr ymagorai ei ddeall, ac y rhoddai heibio bethau bachgenaidd, am y teimlai ei fod yn dyfod yn ŵr. Gresyn na fuasai gweinidogaeth pwlpud Cefnarthen, a dysgeidiaeth yr aelwyd yn Cefncoed, yn cyfnerthu eu gilydd yn yr adeg bwysig hon. ond y mae genym ofn fod yr hyn a adeiledid y pryd hwnw ar yr aelwyd, yn cael ei dynu i lawr yn y capel. Gwyddom, er ein gofid, nad oes dim ag a duedda yn



Nodiadau[golygu]