Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-6)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-7)

gryfach i ddyeithrio meddwl yr ieuanc oddiwrth grefydd, na dadleuon ac ymrysonau yn yr eglwys, o unrhyw natur. Ond yn y tymhor hwn yr aeth rhyfel yr athrawiaethau yn ddifrifol o boeth yn Nghefnarthen; yr oedd yr Arminiaid wedi dyfod yn allu llywodraethol yn yr eglwys, a blin fu y frwydr rhyngddynt a'r Calfiniaid. Ai nid gweli a fuasai iddynt ymwahanu yn gynt , gan fod pob undeb gwirioneddol rhwng y pleidiau wedi llwyr ddiflanu? O bosibl hyny; ond hwyrach fod eu hymlyniad wrth yr hen addoldy yn gwneyd y peth yn anhawdd iddynt. Fel y dywedwyd, bu y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd, o'r un pwlpud, am saith mlynedd; ac yr oedd Williams yn mynychu y capel am bump allan o'r saith hyn. Gresyn na fuasai ef wedi rhoddi i ni hanes Cefnarthen yn y tymhor hwn, gan ddesgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd; gallasai daflu goleu ar lu o gwestiynau sydd yn ddyrus i ni erbyn hyn, megys: A fyddai y pleidiau yn pregethu yn erbyn eu gilydd yn yr un odfa, neu ynte ar wahanol amserau? Os mai ar wahanol amserau, a fyddai y naill blaid yn mynychu cyfarfodydd y llall? A ydoedd Williams yn cymeryd rhan yn y dadleuon hyn, neu ynte a oedd yn eu hangymeradwyo hwynt, ac yn eu gochel? Rhaid i ofyniadau fel yma aros bellach heb eu hateb, ond yr ydym yn sicr o un peth, sef na ddarfu y dadleuon a'r ymrysonau hyn grefyddoli ei yspryd. Prin y gellir disgwyl y buasent yn foddion gras iddo. Os darfu iddo ef ymdaflu i'r dadleuon, hwyrach iddynt eangu cylch ei wybodaeth, a blaen-llymu ei alluoedd meddyliol.

Tybed nad oedd hanes eglwys Cefnarthen yn bresenol yn meddwl Williams pan yr oedd yn cyfansoddi Theomemphus? Credwn ei fod; ac mai trethu ei gof, yn hytrach na thynu ar ei ddychymyg, yr oedd pan yn darlunio y pregethwyr hyny, ag oeddynt yn ceisio dileu dylanwad Boanerges ac Evangelius oddiar feddwl ei arwr. Darllener y llinellau hyn yn ngoleu yr hanes yr ydym newydd ei osod gerbron y darllenydd am Gefnarthen, a chredwn y gwel ynddynt gyfatebiaeth mawr. Dyma fel y mae un, a alwai y bardd yn Arbitrius Liber, yn pregethu cyfiawnhad trwy weithredoedd:—

"Gwrandewch, hiliogaeth Adda " ebe'r areithiwr mawr,
"Nid dim erioed ond cariad, wnaeth i chwi droedio'r llawr;
Meddyliau da tuag atoch sydd er creadigaeth byd,
A thraw yn nhragwyddoldeb, cyn rhoi'r elfenau 'nghyd.

Eich Crëwr yw eich priod, eich priod oll o'r bron,
Ewyllysiwr da'n ddiameu, i bawb sydd ar y dòn;
Ni fyn e' i neb i farw, ond am i bawb gael byw,
Os gwir llyth'renau'r Beibl, wel hyn, gwirionedd yw.

Pa gynifer gwersi sy' yno, pob un yn haeru 'nghyd,
Nad ydyw Duw am ddamnio, yn unig safio'r byd?
Gwae rhai sy'n cloi trugaredd wrth rai o ddynol ryw,
Yn haeru rhagordeiniad, nad rhagwelediad yw.

P'odd gall un perchen rheswm i haeru maes yn lan,
I Dduw bwrpasu dynion, ryw rai i uffern dan?
Mae hyn yn gam anorphen a hanfod mawr yr Iôr,
Sydd a'i ddaioni cymaint a dyfroedd mawr y môr.

Nid ydyw dyn heb allu, er iddo fyn'd ar ŵyr,
Mae ei 'wyllys a'i resymau, heb eto'i llygru'n llwyr;
Ei ddeall yw ei reswm, fe gadwodd hwn ei le,
Pan collodd ei frenhiniaeth o fewn i deyrnas ne'.

A dyma'm neges inau, cyhoeddi i chwi'r gwir,
A gwneuthur pob dyledswydd, y t'wylla'n oleu clir;
Wel, pwyswch yn eich meddwl y geiriau yma'n llawn,
A gwnewch eich dyledswyddau o foreu hyd bryd nawn.

Ymdrowch yn eich rhinweddau, ac ynddynt byddwch fyw,
Cyflawni pob gorchymyn i gyd yw meddwl Duw;
Am dori'r ddeddf mae damnio, fe dd'wedodd hyn ar g'oedd,
I'n dori oll os torwn orchymyn fyth o'n bodd.

At ddyledswyddau bellach, y perlau mwyaf drud
Yw dyledswyddau nefol, o'r cwbl sy'n y byd;
Gweddïau ac elusen, 'does mo'u cyffelyb hwy,
Hwy ro'nt i angau creulon ei hunan farwol glwy'.

Rho'wch ymaith bob rhyw bechod, o'weithred ac o fryd,
Pob malais a chenfigen, a gormod garu'r byd;
Ein dyled ni yw caru, wrth geisio fe gair gras,
Nid yw e'n waith mor anhawdd i goncro pechod cas

A dim ond gwneyd ein goreu, yw'r cwbl sydd gan ddyn,
A Duw sydd siwr o'i ateb, fe dystia'r gair ei hun;
Mae gras i'w gael ond ceisio, a'r ceisio sy' arnom ni,
A'r fynyd gyntaf ceisiom fe rodda Daw yn ffri."

Fel hyn eilwaith y dywed Orthocephalus, yr hwn sydd bregethwr uniongred, ond ei fod yn hunanol, ymffrostgar, a sych:—



Nodiadau[golygu]