Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-01)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-38) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-02)

PENOD VIII

WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.

Cynydd cyflym y diwygiad yn y Deheudir—Y Gogledd, gyda’r eithriad o Sir Drefaldwyn, yn elynol i'r symudiad—Y diwygiad Methodistaidd yn gyffelyb i ddiwygiad yr oes apostolaidd—Yr Ymeilldiwyr ar y cyntaf yn cydweithredu, ond gwedi hynny yn peidio—Y Methodistiaid yn debygol o gael eu hesgymuno o'r Eglwys—Eu safle yn anamddiffynadwy — Ymgais at drefn—Y cynghorwyr cyntaf—Cyfarfodydd o'r arweinwyr ar cynghorwyr yn dechreu cael eu cynnal yn 1740—Yr angenrheidì'wydd am Gymdeithasfa—Rheolau cyntaf y seiadau.

DECHREUODD y diwygiad Methodistaidd yn 1735. Gwael a diolwg iawn oedd yr offerynnau a ddefnyddiwyd i roddi bod iddo; nid amgen cuwrad tlawd, na fu ei gyflog erioed dros ddeg punt y flwyddyn, mewn dyffryn gwledig yn Sir Aberteifi; a dyn ieuanc, na wnelai yr esgob roddi urddau sanctaidd iddo, wrth draed mynyddoedd Brycheiniog. Gellir ychwanegu atynt ddyn ieuanc arall yn nghanolbarth Penfro. Yn niwedd 1742, sef yn mhen llai nag wyth mlynedd wedi y cychwyniad cyntaf, yr oeddynt wedi gosod Cymru oll, o Gaergybi i Gaerdydd, yn wenfflam. Am y Deheudir, prin y mae yn ormod dweyd i'r garw gael ei dori yn ystod y cyfnod byr hwn. Nid oedd braidd unrhyw gymydogaeth, pa mor wledig ac anhygyrch bynnag ei safle, lle na fuasai y Diwygwyr yn pregethu. Gwir mai Howell Harris oedd y mwyaf egnïol gyda hyn. Y mae yn anmhosibl rhoddi syniad cywir am gyflymder ei wibdeithiau; yr oedd ar y cyfrwy, neu ynte yn cyhoeddi efengyl gras i bechaduriaid, o doriad y wawr hyd fachlud haul. Pregethai nid yn unig yn y trefydd, ac yn y man bentrefydd yn y cymoedd unig, ond hefyd tan gysgod coeden, pa le bynag yr ymgasglai pobl, er na fyddai tai yn agos. Ceir traddodiad am dano yn mhob ardal braidd. Flynyddoedd lawer yn ôl cerddai Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, o Glanbran, ger Llanymddyfri, tua'r Sugar Loaf, sef y mynydd uchel a wahana rhwng Siroedd Caerfyrddin a Frycheiniog. Ar ei daith pasiodd fwthyn Aberwyddon, lle y preswyliai hen wraig o'r enw Kitty Parry, a anesid yn y flwyddyn 1775.

Wrth fod Mr. Davies yn ei holi am hen gofion y gymydogaeth, dangosai iddo goeden yr ochr arall i'r nant, a dywedai: "Fe fu Howell Harris yn pregethu dan y pren yna pan oedd yn ddyn ifanc; " ac nid oes na llan na phentref yn agos. Ceir cofion cyffelyb yn mhob rhan o'r wlad yn mron. Teithiai Rowland, hefyd, a Williams, Pantycelyn, lawer iawn; ac nid oedd Howell Davies heb wneyd teithiau hirion.

Mewn canlyniad, yr oedd cymdeithasau crefyddol wedi cael eu sefydlu dros y wlad, o Lanandras i Dyddewi. Mewn tai anedd yr oeddent eto; ac nid oeddent yn lluosog; ond yr oedd zêl yr aelodau yn fawr. Meddianesid Sir Faesyfed o gwr i gwr. Darllenwn am Howell Harris droiau yn Llanybister, ac ymddengys fod y moliannu a'r gorfoleddu yno agos yn gyffelyb i'r hyn a gymerai le yn Llangeitho. Ysgrifena James Ingram at Howell Harris:

[1]"Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd William Evans yn rhyfedd. Y mae y tân a gyneuwyd ganddo yn Llanybister o'r un natur a thân Llangeitho, ac yn llawn mor gryf mewn wyth neu ddeg o aelodau y seiad. Bum yno yn ddiweddar, a phrin y clywid fy llais gan eu llefau. Yr oedd rhai dan argyhoeddiad o'u cyflwr colledig yn dweyd eu bod wedi eu damnio; eraill o fawr lawenydd wrth ddarganfod iachawdwriaeth yn Nghrist, a waeddent: ' Gogoniant! gogoniant! gogoniant i Dduw yn oes oesoedd am Iesu Grist.' Parhaodd hyn o gwmpas pedair awr." William Evans, yr hen gynghorwr o



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History.