Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-02)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-01) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-03)

Nantmel, yw "y brawd" y cyfeirir ato. Cawn seiadau wedi eu sefydlu yn Nantmel, Llanybister, Llandrindod, Claerwy, Aberedw, Dyserth, Glascwm, Llansantffraid, a lleoedd eraill yn Sir Faesyfed, Yr oedd cymdeithasau, hefyd, yn britho Sir Fynwy o Blaenau Gwent i Gasnewydd, ac o afon Rhymney yn y gorllewin hyd afon Wy yn y dwyrain. Yr ydym yn enwi y ddwy sir hon am iddynt gwedi hyn gael eu colli, agos yn hollol, i Fethodistiaeth. Yr oedd seiadau hefyd, a ystyrid o fewn cylch y Diwygwyr Cymreig, wedi cael eu sefydlu yn yr Amwythig, Llwydlo, Llanllieni, ac yn swyddi Caerloyw, Wilts, a Henffordd. Ychydig ar ôl hyn dywed Thomas Jones,[1] un o'r arolygwyr, fod seiat hefyd, cynwysedig o bymtheg o bersonau wedi cael ei sefydlu yn nhref Henffordd; o ba rai yr oedd amryw wedi eu cyfiawnhau, ac eraill yn ceisio yn hyfryd. Yr oedd yn y dref eraill drachefn yn awyddus am wrando. Am Siroedd Brycheiniog, Morganwg, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, yr oedd seiadau, rhai yn fychain a rhai yn fawrion, wedi cael eu plannu ynddynt o gwr i gwr.

Rhaid addef mai ychydig o afael a gawsai y diwygiad eto ar y Gogledd. Er fod ymweliadau Howell Harris wedi creu gryn gyffro, nid yw yn ymddangos fod nemawr o seiadau wedi cael eu sefydlu yno trwy ei offerynoliaeth. Dywed yn ei ddyddlyfr fod y drws yn Ngwynedd fel pe yn cael ei gadw yn nghau yn ei erbyn. Yr unig eithriad i hyn oedd Sir Drefaldwyn. Yr oedd y sir hon yn agos iddo, ac ymwelai yntau a hi yn fynych, yn enwedig y rhannau hynny o honni a ffiniai ar Frycheiniog a Maesyfed. Cawn fod cymdeithasau wedi cael eu sefydlu yn Llanbrynmair, Llanfair, Llanllugan, Mochdre, Llangurig, a Llandinam. Yr oedd yr achos yn Llandinam yn nodedig o lewyrchus, fel y dengys yr adroddiad a anfonwyd i Gymdeithasfa Trefecca, Mehefin, 1743. "A mae yma," ebai yr arolygwr, "tua deugain o aelodau, a phedwar cynghorwr anghyoedd. Ein hanwyl Arglwydd sydd yma yn Emmanuel. Y mae yn dwyn ei waith yn mlaen yn rhagorol, er gwaethaf llawer o rwystrau." Nid oedd gwahaniaeth rhwng Sir Drefaldwyn a siroedd y Deheudir gyda golwg ar ymdrechion y Diwygwyr, a'r llwyddiant a ddilynai eu llafur. Ond am y gweddill o Wynedd, ychydig o argraff a wnaethid arni. Ar yr un pryd, rhaid i ni gofio fod Lewis Rees yn llafurio gyda graddau o lwyddiant yn Llanbrynmair, a'i fod yn ymweled yn bur fynych a rhannau o Feirionydd. Yr oedd Jenkin Morgan, hefyd, un o ysgolfeistri Griffith Jones, yn cadw ysgol, ac yn pregethu, hyd y goddefid iddo, yn Sir Gaernarfon.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd trechwyd yr yspryd erlidgar i raddau mawr. Ar y dechreu, terfysgid y cyfarfodydd gan y werinos ddifeddwl, y rhai a gyffroid gan yr offeiriaid a'r boneddigion; a deuai y swyddogion gwladol yn mlaen i fygwth dirwy a charchar. Ond diflannodd hyn yn y De agos yn hollol, yn ystod yr wyth mlynedd cyntaf. Nid na chawn esiamplau o erlid gwedi hyn, ond y maent yn anaml, ac yn fwy o gynnyrch damwain nag o ragfwriad. Yr oedd dau reswm am hyn. Un, fod nifer o ddynion dylanwadol yn mhob sir braidd wedi eu henill at y diwygiad, megys Marmaduke Gwynn; Price, yr ustus; yr Yswain Jones, Ffonmon; Howell Griffiths, Tref-feurig, ac eraill Gosodai y rhai hyn eu hofn ar y rhai a hoffent derfysgu, fel na feiddient roddi rhaff i'w teimlad. Yn ychwanegol, yr oedd opiniwn y cyhoedd wedi troi yn gryf o blaid y Diwygwyr. Gwelai y bobl eu bugeiliaid priodol yn ddifater am eu heneidiau, a llawer o honynt yn arwain bucheddau anfoesol cyhoeddus; teimlent fod Harris a Rowland, a'u cyd-lafurwyr, yn ddynion o ddifrif, ac yn awyddus am eu hachub rhag distryw. Ac os oedd y seiadau yn fychain eu rhif, yr oedd cynulleidfaoedd anferth wedi cael eu codi i wrando; byddai clywed fod Rowland neu Harris yn dyfod trwy ryw ranbarth o'r wlad yn ei chyffroi drwyddi, ac ymgasglai miloedd i glywed, fel nad oedd unrhyw adeilad a ddaliai y torfeydd. Efallai mai nifer gymharol fychan fyddai yn cael eu hachub, ond yn bur aml ysgydwid yr holl gynulleidfa, a deffroid eu cydwybodau, nes y byddai eu holl enaid yn cael ei ennill o blaid y gwirionedd. Yn ngwyneb y teimlad hwn anmhosibl oedd cyffroi erledigaeth. Dywedai Whitefield fod cannoedd ar hyd a lled y wlad yn barod i roddi eu bywydau i lawr dros Howell Harris. Nid amheuwn fod yn mysg y rhai hyn lawer o ddynion anfoesol, meddwon mewn tafarndai, y rhai na fedrent ymwrthod a'u blysiau, ond oeddynt ar yr un pryd yn gwbl argyhoeddedig fod y Diwygwyr yn ddynion Duw.



Nodiadau[golygu]

  1. Trevecca MSS.