Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-03)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-02) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-04)

Ymddengys y diwygiad Methodistaidd i ni fel yn dwyn cyffelybrwydd nodedig i ddiwygiad yr oes apostolaidd. Yn un peth, drylliai y man reolau oeddent mewn arferiad, gan ddwyn i mewn ddulliau newyddion o weithredu. Gwin newydd oedd Methodistiaeth, ac mor gryf oedd ei ymweithiad fel yr aeth yr hen gostrelau yn gandryll. Bywyd ydoedd, ac fel pob bywyd, mynnodd lunio corff iddo ei hun. Er yr ymlynai y Diwygwyr wrth Eglwys Loegr, ac y teimlent annhueddrwydd mawr i adael ei chymundeb, rhaid addef eu bod yn rhedeg yn ngwddf holl draddodiadau a defodau yr Eglwys. Fel esiamplau o hyn gallwn gyfeirio at y weinidogaeth deithiol, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i'r dosparthiad eglwysig o'r wlad yn blwyfydd; at y weinidogaeth leygol, yr hon, trwy genhadu i ddynion diurddau fyned o gwmpas i bregethu, a ymddangosai fel yn diystyru ordeiniad esgobol; at y cynulliadau mewn tai anedd, ac ar y maes agored, y rhai a droseddent y ddefod gyda golwg ar gysegriad; ac at ffurfiad y seiadau, yn y rhai y cynghorai pobl gymharol anwybodus. Ffurfiau newyddion ar fywyd crefyddol oedd y rhai hyn oll; rhoddwyd bod iddynt gan yr ynni a'r brwdfrydedd ysprydol oedd yn y Diwygwyr, a'u hawyddfryd i gyfarfod amgylchiadau y wlad ar y pryd. Ni honnent fod yr hyn a wnelent yn rheolaidd; yn unig dadleuent fod eu gwaith yn angenrheidiol yn ngwyneb cyflwr Cymru. Achub eneidiau oedd eu pwnc 'nawr; wrth wneyd hynny ni ofalent pa reolau o osodiad dynol a sathrent dan draed; ac fel y maent yn cerdded rhagddynt, clywir trwst y traddodiadau, o gwmpas pa rai yr ymgasglasai mwswgl henafiaeth, yn myned yn deilchion dan eu gwadnau. Yn nesaf, tueddai i wneyd defnydd o bob dawn o fewn yr eglwys er cario y gwaith yn mlaen. Y mae am ryw awgrymiadau yn llythyrau Howell Harris ei fod am wneyd defnydd o llafur benywaidd, fel y gwnaed yn Nghyfundeb y Wesleyaid ar ôl hyn; nid i bregethu yr efengyl, ond i arolygu ac i gynghori yn y seiadau. Mewn llythyr at Mrs. James, o'r Fenni, a ddaeth ar ol hyn yn Mrs. Whitefield, ceisia ganddi ysgrifennu at y gwahanol gymdeithasau i'w cyffroi a'u cadarnhau. Dywed: "Cynhyrfwch bawb dros Dduw; gwnewch yn amlwg eich bod yn proffesu ei enw; profwch hwynt hyd adref. Pan yn ysgrifennu gadewch allan o ystyriaeth mai Mrs. J s ydych, a pha beth a fydd syniad y byd am danoch; ond yn hytrach (ystyriwch) beth fydd eich syniad chwi am bethau pan fyddoch yn rhoddi y tabernacl hwn heibio; na ymddangosed unrhyw beth i chwi yn anffasiynol, anmhriodol, neu yn anweddaidd. Sonia St. Paul am wragedd anrhydeddus a'i cynorthwyent yn ei waith. Gall yr Yspryd Glan anadlu ynoch lythyrau i fod yn ddefnyddiol i eneidiau, yr un fath ag y medr fendithio geiriau." Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yma yn cymell Mrs. James i lafur mwy neu lai cyhoeddus. Yr oedd hithau yn ddynes nodedig iawn, a haedda ei choffadwriaeth fwy o sylw nag y mae wedi gael. Dangosai letygarwch diderfyn i'r cynghorwyr o bob gradd; yr oedd yn llawn o fwyneidd-dra doethineb, ac ar yr un pryd yn hollol ddi-ofn. Gwedi priodi Mr. Whitefield, pan yr oeddent ill dau yn croesi y môr i Georgia, bygythiwyd y llong, yn mha un yr hwylient, gan elyn. Gwnaed parotoadau i frwydr, gan sicrhau yr hwylbren a dwyn y magnelau yn mlaen. Addefai Whitefield ei fod ef yn naturiol lwfr, a'i fod yn crynu gan ofn; ond am ei briod, yr oedd hi yn ddiwyd yn gwneuthur ergydion (cartridges), ac yn trefnu ar gyfer yr ymladdfa. Dro arall, ymgasglodd y werinos o gwmpas Whitefield pan y pregethai; lluchid ceryg ato o bob cyfeiriad; pan oedd yn tueddu i roddi fyny ac i ffoi, tynnodd hi wrth ei wisg, gan ddweyd gyda gwroldeb diderfyn: "Yn awr, George, chwareuwch y dyn dros Dduw." Tybiai Howell Harris fod yn y wraig ardderchog yma ddefnydd diacones, a chymhellai hi i'w gyflwyno i wasanaeth Mab Duw. Ceir rhai awgrymiadau i'r un cyfeiriad yn ei lythyrau at "Chwaer o Sir Fynwy," ac at yr "Anwyl Chwaer, Paul" Nis gwyddom beth a rwystrodd defnyddio llafur benywaidd; efallai fod rhai o'r Diwygwyr eraill yn amheus am ei briodoldeb. Ond hyd y medrid yr oedd pob math ar ddawn yn cael ei ddwyn yn gaeth at Grist; zêl a thalent ymadroddi y cymharol anwybodus; callineb a gallu trefniadol yr hwn a fyddai yn safndrwm a thafodrwm fel Moses; nid oedd neb o fewn unrhyw gymdeithas i fod yn segur, nac unrhyw ddawn i gael ei esgeuluso.

Yn ychwanegol, yn ei ddechreuad cyntaf, darfu i'r diwygiad at-dynu iddo ei hun holl grefyddolder a difrifwch y Dywysogaeth. Nid oedd yn adnabod na sect na phlaid. Deuai personau perthynol i wahanol enwadau, a arferent edrych ar eu gilydd gyda rhagfarn ddiderfyn, yn mlaen



Nodiadau[golygu]