Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-05)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-04) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-06)

Williams, Pwllypant. Er mai efe a wahoddasai Harris gyntaf i Forganwg, ac iddo ddiolch i'r nefoedd am yr effeithiau rhyfedd a gynhyrchwyd trwy ei weinidogaeth, yr oedd yntau erbyn hyn wedi cloffi, ac yn Nghymdeithasfa Watford y mae yn amlwg trwy ei absenoldeb. Yr oedd rheswm arall am gloffni David Williams. Dechreuasai ollwng ei afael ar yr athrawiaethau efengylaidd; yn raddol, collodd gydymdeimlad yr adran oreu o'i enwad ei hyn, a chyn ei farw, yr oedd wedi cofleidio Pelagiaeth os nad Ariaeth. Ymddengys fod teimlad diflas at Howell Harris wedi ei enyn yn y rhan fwyaf o'r gweinidogion Ymneillduol y pryd hwn. Meddai, gyda golwg arnynt: "Ar y cyntaf hoffent fi yn fawr, gan fy mod yn annog y bobl i fyned i unrhyw fan i wrando, lle yr oedd Crist yn cael ei bregethu, a lle y derbynient fwyaf o fudd. A phan y cawsant fod eu capelau yn cael eu gorlenwi trwy hyn, yr oeddwn am beth amser yn fawr fy mharch gan bob plaid, ac nid oeddwn heb gefnogaeth i ymuno a hwy." Ond yn fuan cododd rhagfarn ei phen. Taranai Harris yn erhyn oerni, deddfoldeb, a diffyg dysgyblaeth yr Ymneillduwyr, lawn mor groch ag y gwnaethai yn flaenorol yn erhyn anfoesoldeb a difaterwch Eglwys Loegr. Ac yr oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys yn faen tramgwydd. Cyfeiriai yr Ymneillduwyr at fywyd penrydd yr offeiriaid a'r bobl yn yr Eglwys, ac at wrthwynebiad pendant y rhai oeddynt mewn awdurdod i'r diwygiad; dadleuent nad iawn annog y dychweledigion i gymuno gyda'r cyfryw; nas gallai fod yn wir eglwys pan y goddefid y fath bethau o'i mewn; fod aros ynddi fel ceisio y byw yn mysg y meirw, ac mai dyledswydd y Methodistiaid oedd ei gadael. A phan na welai Harris a'i frodyr eu ffordd yn rhydd i gydsynio, aed i edrych arnynt yn gilwgus, ac i wrthod cydweithio.

Yn wir, trodd yr Ymneillduwyr mewn rhai lleoedd yn erlidwyr, mor bell ag yr oedd eu gallu yn cyrhaedd. Mewn llythyr o eiddo William Richards,[1] cynghorwr yn Sir Aberteifi, at Howell Harris, dyddiedig Medi 12, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y cymdeithasau yn Blaenporth a Phenbryn wedi ymuno ag eiddo Howell Davies yn Llechryd, gyda'r eithriad o un aelod, yr hwn sydd wedi uno a'r Bedyddwyr, ac nid yw yn dod yn agos atom. Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn, fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynnu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer, Betti Thomas, yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thŷ. Y mae yn dyfod i'n seiat breifat; ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honni (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau eraill poenus a chableddus." Prawf y llythyr hwn fod yr Ymneillduwyr mewn rhai mannau wedi ymuno a'r digrefydd a'r erlidgar i gamddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau eu bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honni fod gweithredoedd pechadurus ac aflan yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dyna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Addefa y Parch. Thomas Rees, D.D., [2]ddarfod i bob cydweithrediad o eiddo yr Ymneillduwyr a'r diwygiad Methodistaidd ddarfod gwedi y flwyddyn 1741, ac o hyny allan mai yr unig weinidogion a ymgyfathrachent a Howell Harris oeddynt y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'r Parch. Benjamin Thomas, a darfod i'r diweddaf droi yn Fethodist proffesedig.

O'r ochr arall, gwnâi yr awdurdodau Eglwysig eu goreu i darfu y Diwygwyr. Dan gochl esgusodion gau, nacaodd yr esgob ordeinio Harris ei hun, a gwrthododd lawn urddau i Williams, Pantycelyn. Dywed Howell Harris hefyd ddarfod i amryw o ddynion ieuainc talentog, yn meddu cymhwysderau diamheuol ar gyfer y weinidogaeth, ond oeddynt wedi bwrw eu coelbren yn mysg y Methodistiaid, apelio am ordeiniad esgobol, a chael eu gwrthod heb gymaint ag arholiad. Parodd hyn i eraill o gyffelyb nodwedd ddigalonni, a pheidio myned i mewn am ordeiniad, gan y credent mai ofer fyddai eu cais. Cyfododd cri yn mysg y Methodistiaid eu hunain mewn canlyniad am adael yr Eglwys. A phan na chydsyniai yr arweinwyr, ymadawodd amryw o'r cynghorwyr, gan gymeryd eu hurddo yn ol trefn yr Ymneillduwyr, a dilynwyd hwy gan rai canoedd o bobl. Rhydd Howell Harris y rhesymau



Nodiadau[golygu]

  1. Trevecca MSS.
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales, page 355.