Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-06)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-05) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-07)

canlynol dros ei ymddygiad: Nad oedd y prophwydi gynt yn annog y duwiolion i gefnu ar yr eglwys Iddewig, er ei bod wedi ymlygru yn ddirfawr; fod Iesu Grist ei hun yn addoli yn y deml ac yn y synagog fel aelod o gynulleidfa Israel, er fod yr offeiriaid yn anfoesol ac yn rhagrithiol; na throdd yr apostolion, gwedi adgyfodiad yr Iesu, eu cefnau ar y synagog hyd nes iddynt gael eu gyrru allan; nad oedd rhinwedd y sacramentau yn dibynnu o gwbl ar dduwioldeb neu annuwioldeb yr hwn a'u gweinyddai, ond ar ffydd y derbynnydd; mai eu dyledswydd hwy oedd, nid cefnu ar yr hyn oedd yn ddiffygiol, ond ei ddiwygio, a dyfod yn eu perthynas ag ef yn halen y ddaear; fod llawer o greaduriaid truain yn derbyn lles trwyddynt, oedd mor llawn o ragfarn o blaid yr Eglwys, fel na wrandawent ar neb perthynol i gyfundeb arall; mai fel yr oeddynt y bendithiasai yr Arglwydd hwy, ac mai eu dyledswydd hwythau oedd peidio gwneyd unrhyw gyfnewidiad o bwys, hyd nes y caent brawf diamheuol o arweiniad dwyfol. Credwn mai y diweddaf oedd y prif reswm. Protestia Harris drosodd a throsodd nad dallbleidiaeth oedd yn ei gadw i mewn. Yr ydym yn ei gael yn ddiweddar yn cyfeirio droiau at "yr Eglwys dywyll hon." ofni symud heb fod y golofn yn myned o'u blaenau oedd ar y Diwygwyr. Y mae yn sicr fod y posibilrwydd o gael ei yrru allan gan amgylchiadau wedi tori yn gryf ar feddwl Harris y pryd hwn. Pan y datgana ei benderfyniad, yn ystod ei daith yn Sir Benfro, i beidio gadael Eglwys Loegr, nid yw ofid mynegu ei deimlad yn ngwyneb amgylchiadau oedd fel yn ei drechu yn hollol. Anfonasai Whitefield lythyr at y Diwygwyr, diwedd y flwyddyn 1741, yn mha un y mynegai fod ymwahaniad oddiwrth yr Eglwys yn rhwym o gymeryd lle. Y mae y llythyr mor nodedig, yn neillduol gan ei fod yn dyfod oddiwrth glerigwr, fel yr hoffem ei ddifynu oll. Meddai Mr. Whitefield: "Medd gwahanol bersonau wahanol ddoniau. Y mae rhai wedi eu galw i ddeffroi, eraill i sefydlu ac i adeiladu. Medd rhai ddawn poblogaidd, cymwys ar gyfer cynulleidfaoedd mawrion; symuda eraill mewn cylchoedd cyfyngach, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y seiadau preifat. Yr wyf yn credu am y rhai a alwyd i fod yn gyhoeddus, y dylent ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned allan heb bwrs nac ysgrepan. Gwna y Meistr ddwyn y draul. Am eraill, y rhai na allant ond ymweled yn anghyoedd, dylent barhau i ddilyn eu galwedigaethau. Y mae rhai o honnoch yn weinidogion perthynol i Eglwys Loegr; ond os ydych yn ffyddlon, nid wyf yn meddwl y gellwch barhau ynddi yn hir. Modd bynnag, peidiwch myned allan hyd nes y bwrir chwi allan; ac yna, pan wedi eich bwrw allan er mwyn Iesu, peidiwch ofni pregethu yn y caeau."Yna, wedi cyfeirio at amryw drefniadau, dywed: "Gellir gwneyd hyn oll heb ymadawiad ffurfiol oddiwrth Eglwys Loegr, yr hyn, yr wyf yn gredu, nad yw Duw yn galw am dano yn bresennol." Dyna yn hollol deimlad y Diwygwyr Cymreig gyda golwg ar yr Eglwys; tybient mai ymadawiad oedd o'u blaenau; ond dewisent gael eu hesgymuno o honni, yn hytrach na myned allan eu hunain; byddent felly yn sicr mai ewyllys Duw oedd iddynt ymffurfio yn blaid, oblegyd ni chafodd y syniad am roddi y gwaith i fyny le yn eu meddyliau, naddo am awr.

Y pryd presennol, yr oedd gwaith y clerigwyr yn Sir Benfro, yn nghyd a chlerigwyr Brycheiniog, yn cael eu harwain gan Ficer Talgarth, yn gwrthod y sacrament i'r rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Methodistiaid, yn dwyn pethau i argyfwng difrifol. Ni ddylid beio gormod ar Mr. Price Davies. Gweithredai ef a'i frodyr yn hollol onest, yn ôl y goleuni oedd ganddynt. Rhaid addef fod agwedd y Methodistiaid ar y pryd yn un hollol eithriadol ac anghyson. Meddai y Parch. David Lloyd, offeiriad yn Sir Frycheiniog, yn y ddadleuaeth alluog a gariodd yn mlaen a Howell Harris: "Yr ydych yn achwyn fod y sacrament yn cael ei wrthod i rai personau. Yr wyf yn gobeithio nad oes yr un clerigwr yn ei wrthod i'w blwyfolion heb resymau digonol. Yr wyf yn gobeithio hefyd na fynnech i unrhyw offeiriad gamarfer y peth sanctaidd, trwy ei roddi i rai nad ydynt yn perthyn i'w gynulleidfa, y rhai a ymwahanant oddiwrtho dan glogyn awydd am burdeb mwy; nac i'r rhai sydd yn condemnio ein haddoliad a'n hathrawiaeth. A fedrwch chwi gyfrif y rhai na ddeuant i'n cynulleidfaoedd yn eu heglwysydd plwyfol ond ar ddyddiau y sacrament, ac a safant allan y pryd hwnnw hyd nes y byddo gwasanaeth y cymyn wedi dechreu, fel yn perthyn i'n cymundeb ni, ac a ant yn hwyr y dydd drachefn i dai cyrddau, ac nas gwyddom pa leoedd? Ai nid oes dim yn cael ei wneyd yn iawn yn ein heglwys? Ai gweinyddiad y sacrament yw yr oll o'n haddoliad? A ydych



Nodiadau[golygu]