Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-08)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-07) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-09)

mai tuag unwaith bob dau fis y cyfarfyddent yn ystod y flwyddyn honno; iddynt ddyfod yn ymgynghoriadau misol yn 1741, a pharhau felly dros y flwyddyn ddilynol; ac mai prif fater yr ymdrafodaeth oedd profi cymhwysderau y cynghorwyr. Mewn cydgordiad hollol a hyn, ceir llythyr o eiddo Mr, Whitefield, a gyhoeddwyd yn yr Evangelical Magazine am 1826, wedi ei gyfeirio at gadeirydd un o'r cynulliadau yma, a'i ddyddio, Bristol, 28, 1741. Yn y llythyr, o ba un yr ydym wedi difynu yn barod, dywed fod y materion oedd i ddyfod tan sylw o'r pwysigrwydd mwyaf, a'i fod yn gofidio na fedrai fod yn bresenol gyda hwynt. Yna mynega ei farn yn rhydd ar amryw o'r pethau oeddynt i fod yn destynau ymdriniaeth. Y mae lawn mor amlwg oddiwrth y nodiad mai cymharol ddiawdurdod yr ystyrid y cyfarfodydd hyn; yr hyn a wneyd ynddynt oedd trefnu a chynghori; nid oeddynt yn pasio penderfyniadau sefydlog, gan hawlio awdurdod i'w gosod mewn grym, ac i orchymyn i'r brodyr eu cario allan. Yr oedd sefydliad y Gymdeithasfa, ddechreu y flwyddyn 1743, yn symudiad hollol newydd, ac er mwyn rhoddi arbenigrwydd ar y cam pwysig a gymerid, yn gystal ag er mwyn cael cymorth gŵr o ddoniau mor ddysglaer, yr hwn oedd yn cydweled a hwy lygad yn llygad ar bob pwnc o athrawiaeth, y gwahoddwyd Whitefield i fod yn bresenol ac i gymeryd y gadair ar yr amgylchiad. Cadarnheir hyn gan dystiolaeth Howell Harris, mewn crynodeb o hanes ei fywyd sydd ar gael yn awr yn Nhrefecca. Fel hyn yr ysgrifenna: " Yr haf hwn (1740), gan fod llawer yn sefyll i fyny i lefaru, mewn gwahanol leoedd yn Nghymru, tybiodd rhai o'r gweinidogion mai gwell fyddai gwneyd rhyw ymgais i drefnu pethau, er rhwystro anhrefn, ac fel na fyddai i bersonau anghyfaddas gymeryd y gwaith mewn llaw. Yna anogwyd pawb a lefarent yn y modd hwn i gyfarfod, i siarad am eu profiad parthed gwaith gras ar eu calonnau, fel y gallent adnabod y naill y llall, er cael undeb a chymundeb fel brodyr yn mlaenaf oll. Yna i amlygu eu cymhellion, beth a barodd iddynt ymgymeryd a'r gwaith, a pha resymau a allai pob un roddi fel profion ei fod wedi cael ei alw iddo, ac yna i gyflwyno y cwbl i farn yr oll. Eto ni feddyliem ein bod wedi cael ein galw i ffurfio ein hunain yn enwad ar wahân; ni chymerasom arnom ychwaith i arholi neb gydag awdurdod i roddi i'r cyfryw genhadaeth; yn unig tybiem ein bod yn cael ein gorfodi i fyned mor bell a hynyna, os oeddym am ymffurfio yn gymdeithas, yr hon na fedr fodoli heb ryw fath o reolau." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar natur y cyfarfodydd trefniadol blaenorol i sefydliad y Gymdeithasfa. Gwelwn (i) Fod pawb a fyddent yn myned o gwmpas i gynghori yn cael eu gwahodd iddynt; (2) Mai gwrando profiad personol y cynghorwyr, ynghyd a'u cymhellion i'r gwaith cyhoeddus, oedd eu prif orchwyl; (3) Nad oeddynt yn honni unrhyw awdurdod ar y cynghorwyr, trwy ar y naill law roddi hawl iddynt i fyned o gwmpas, nac ar y llaw arall, eu hatal; yr oll a wnelent oedd datgan barn, a rhoddi cyngor, gan adael rhyngddynt hwy a gweithredu yn ol y cyfryw. Ond erbyn 1742 gwelai y Diwygwyr, os oedd yr annheilwng i gael ei rwystro i ymgymeryd a gwaith na feddai gymhwysder ar ei gyfer, ac felly i gael ei gadw rhag dwyn yr efengyl a'r diwygiad i anfri, fod yn rhaid iddynt yn eu cyfarfodydd trefniadol gymeryd mwy o awdurdod i'w dwylaw. Dyma un o'r prif resymau dros fyned yn y blaen i sefydlu y Gymdeithasfa.

Yr oedd y cynghorwyr, at ba rai yr ydys wedi cyfeirio yn barod, yn perthyn i Fethodistiaeth o'r cychwyn. Daethant i fod, nid trwy unrhyw benderfyniad dynol, ond trwy alwad o'r nefoedd. Nid gormod dweyd fod y swydd, os priodol galw swydd arni, yn greadigaeth uniongyrchol yr Yspryd. Un rheswm paham yr ymledodd y diwygiad mor gyflym, ac y darfu iddo gymeryd ffurf barhaol, oedd cyfodiad dynion diurddau i gynghori eu cydfforddolion yn ngwahanol rannau y wlad. Oni bai am danynt hwy cawsai y seiadau bychain drengu o ddiffyg ymgeledd. Cymylau mawrion, cyfoethog o wlaw, oedd Daniel Rowland, Howell Harris, a'r prif Ddiwygwyr; pa le bynag yr aent pistyllent eu cynnwys ar y sychdir diffrwyth, fel pe byddai ystorm o wlaw taranau wedi ymdorri ar y fangre; ond wedi gwlychu y tir am y tro, aent hwy yn eu blaenau i dywallt y cyffelyb wlaw bras ar ranau eraill y wlad; a buasai y gwahanol leoedd wedi gwywo gan sychder, yn absenoldeb y cymylau mawrion, oni buasai i'r Arglwydd godi y cynghorwyr, y rhai a fuont dan fendith Duw fel gwlith dyfrhaol i'r eglwysi. Dechreuasant yn hynod syml. Yn y cymdeithasau, oblegyd cymhwysder naturiol a phrofiad dyfnach o waith gras yn eu calonnau, gelwid arnynt i ddarllen a gweddïo yn gyhoeddus, ac i



Nodiadau[golygu]