Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-09)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-08) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-10)

roddi gair o gyngor oddiwrth yr hyn a ddarllenid. Yn raddol darfu i rai o honynt ddadblygu dawn arbenig at hyn; aeth y gair o gyngor yn rhywbeth cyffelyb i bregeth; aeth y son am danynt i'r gymdeithas fechan nesaf, a galwyd hwy i egluro Gair Duw ac i roddi gair o gyngor yno, nes yn ddiarwybod iddynt eu hunain y deuwyd i edrych arnynt fel rhai yn ffurfio math o swyddogaeth ar wahân. Nid oeddynt yn cefnu ar eu galwedigaethau; ni dderbynient ond ychydig dal am eu llafur; dyoddefent lawer o wawd a chamdriniaeth oddiar ddwylaw y drygionus a'r ffug-grefyddol; ond arhosodd eu bwa yn gryf er pob peth trwy rymus ddwylaw Duw Jacob. Amrywient yn ddirfawr parthed safle gymdeithasol, eangder gwybodaeth, dawn ymadrodd, a phrofiad ysprydol. Ceid yn eu mysg rai o safle barchus, wedi cael dygiad i fynnu, ac addysg dda, yn cael eu hystyried fel yn perthyn i fonedd y tir, ond a ddewisent ddirmyg Crist gyda y Methodistiaid yn hytrach na rhodres a pharch bydol. Perthynai eraill o honynt i ysgolfeistri Griffith Jones. Rhaid y meddent, fel cymhwysder i swydd ysgolfeistr, raddau helaeth o gydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr; arferent yn feunyddiol gyfarch eu hysgoleigion, a'u harholi yn y catecism; felly, cam byr iddynt oedd myned i ddweyd ychydig yn gyhoeddus wrth eu cyd-ddynion. Cawn amryw o'r prif gynghorwyr yn perthyn i'r dosparth hwn. Ond yr oedd llawer o'r cynghorwyr yn dlawd eu hamgylchiadau, ac nid yn unig yn annysgedig, ond yn gymharol anwybodus yn athrawiaethau crefydd. Eithr cawsent olwg ar Grist croeshoeliedig fel Ceidwad holl ddigonol; tywynasai ei ogoniant ar eu heneidiau gyda thanbeidrwydd gorchfygol; llanwesid eu calonau a chariad diderfyn ato; ac er na wyddent ryw lawer yn ei gylch, teimlent reidrwydd i fynegu yr ychydig hyny i bawb o'u cwmpas. Fel Ahimaas gynt, yr oeddynt yn llawn awydd am redeg dros y Brenin; ac os nad oedd ganddynt genadwri gryno ar y cychwyn, cawsant hi cyn rhedeg nemawr. Ychychg a wyddai y wraig o Samaria am yr Iesu; ond gwedi i'w eiriau gyffwrdd a'i chalon, gadawodd yr ystên ar lan y ffynnon er mynegu i'w chyd-ddinasyddion am y Person rhyfedd a gyfarfyddasai. Yn gyffelyb am y cynghorwyr Methodistaidd, ymroddasant fel yr oeddynt i'r gwaith, a seliodd Duw eu llafur a bendith. Arferiad y byd yw gwawdio llafur personau diurddau, a chyfeirio gyda dirmyg at eu galwedigaethau bydol. Meddai Dr. South am y Puritaniaid: "Gallant yn llythyrenol daro yr hoel ar ei chlopa. Medrant osod pwlpud wrth ei gilydd cyn pregethu ynddo." Yn ngolwg Dr. South, yr oedd medr saernïol yn anghymwysder hanfodol i'r weinidogaeth. Fel y sylwa awdwr Methodistiaeth Cymru: "Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, 'Onid hwn yw y saer?' Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnnw barch mawr; fe dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." Nid amheuwn fod cyfarchiadau rhai o'r cynghorwyr Methodistaidd yn dra anhrefnus; efallai fod eu hiaith yn sathredig, eu cymariaethau yn gartrefol os nad yn arw, eu hystumiau yn annaturiol, a'u traddodiad yn gwbl amddifad o ddlysni araethyddol. Ond yr oeddynt yn llawn o zêl; profasent argyhoeddiad dwfn eu hunain, a chyfranogasent yn helaeth o felusder yr efengyl mewn canlyniad. Gwyddent beth oedd cael eu clwyfo a'u meddyginiaethu; os na feddent gymhwysder dysg, meddent gymhwysder profiad; a bendithiodd Duw eu gwaith. Nid annhebyg mai fel hyn yr oeddynt fwyaf cymwys. Gallent fyw ar ymborth gwael wrth deithio; medrent ddyoddef gerwinder tywydd heb fod eu cyfansoddiadau yn cael eu hamharu; a chan mai A dynion anniwylliedig y byddent yn ymwneyd gan mwyaf, yr oedd eu diffygion yn troi yn fanteision iddynt, ac yn eu galluogi i fyned yn fwy agos at y bobl. A chododd Duw o'r dosbarth hwn bregethwyr ddarfu ysgwyd Cymru; rhai ag yr oedd arucheledd eu doniau, a nerth eu hareithyddiaeth yn ysgubo y cwbl o'u blaen, ac y mae eu henwau yn eiriau teuluaidd yn Nghymru hyd y dydd hwn. Dywedir fod tua deugain o gynghorwyr yn bodoli rhwng pob rhan o'r wlad adeg y Gymdeithasfa gyntaf. Ar yr un pryd, rhuthrai rhai i'r gwaith o gynghori heb unrhyw gymhwysder ar ei gyfer. Disgynasai ar y cyfryw awydd am hynodrwydd a sylw, fel ar Simon Magus gynt, ac aent o gwmpas gwlad o'r naill gymdeithas i'r llall, gan wneyd mwy o niwed nac o les, nes peryglu cymeriad y diwygiad. Un o brif amcanion y Gymdeithasfa oedd dwyn y cynghorwyr i drefn, drwy gefnogi y cymhwys, ac atal yr anghymwys. Yr oedd amcan arall, llawn mor bwysig, i'r Gymdeithasfa, sef dwyn y seiadau i ffurf. Yn flaenorol, yr oedd y cymdeithasau



Nodiadau[golygu]