Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-12)

"Bristol: Printed by Felix Farley in Castle Green."

M.DCCXLII.


RHAGYMADRODD.

"At bawb ag sydd gwedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar i ymwadu a hwynt eu hunain, i gyfodi eu croes, ac i ddilyn yr Oen; ac yn neilltuol at y Societies o Eglwys Loegr.

"Yn ddiweddar fe ein cymhellwyd ni (ychydig o Weinidogion) i gyfarfod a'n gilydd mor fynych ag y gallom, i geisio gwylied yn fwy manol dros ein gilydd, ac er mwyn gwybod helynt praidd Crist yn well, ac er mwyn ymgynghori pa fodd i ymdreulio oreu yn ngwinllan ein Meistr; ac yn y cyfamser a gawsom ein calonnau i gytuno ar y Rheolau canlynol A chan wybod mor wasgaredig ydych chwi, ac er mwyn eich cyfarwyddo pa fodd i adeiladu eich gilydd oreu yn eich Cyfarfodydd neilltuol, ni a farnasom yn ddyled arnom i ddanfon y Rheolau hyn atoch, gan obeithio y bydd i Dduw eu bendithio i chwi; a rhoddi calonnau i chwi ymostwng y naill i'r llall, holwch eich gilydd wrthynt mor bell ag y gweloch y byddont yn uniawn. Tybiasom yn oreu eu rhoddi mewn print, fel y gallo pawb weled y gwirionedd o'n dibenion a'n rheolau yn ein Cyfarfodydd neilltuol; ac os bydd neb yn chwennych ymuno a ni, fel y gallo ef weled pa ddysgyblaeth yr ydym ni yn tybied yn ddyled ei chadw yn ein mysg. Gan edrych, pa waradwydd bynnag a gaffom gan y byd, bod gennym gydwybod ddirwystr yn hyn, na feiddiom ni wneyd dim yn y dirgel ag na allom ei gyfaddef pan gyhoeddir pob peth dirgel ar bennau’r tai. Ofer yw neilltuo oddiwrth y byd ac ymddangos megys rhai a fyddai yn rhodio gyda Duw, a gwneuthur rheolau o'n rhodiad, oni fyddai ein heneidiau mewn undeb a Duw yn Nghrist, ac a'r naill y llall yn yr Ysbryd Glan; gwedi cael ein glanhau oddiwrth ein holl eilunod, gan ddysgwyl dim yn y byd, ond yr hyn a gafodd ein Pen o'n blaen, a'r hyn a addawodd Efe i'w holl ddilynwyr, sef cael ein casáu gan bawb er mwyn ei Enw Ef, Mat. X. 22. Ac y mae yn perthyn i ninnau edrych mai er ei fwyn ef yr ydym yn goddef; a thra byddom yn cael ein cablu a'n difenwi megys rhagrithwyr beilchion, segur, twyllodrus, edrychwn ar fod tyst o'n mewn yn dywedyd eu bod yn gelwyddog; onid ê ni erys Ysbryd gras a gogoniant i'n cysuro na'n cynorthwyo. Ond os er ei fwyn ef yr ydym yn dioddef, nac ofnwn: ni lwydda un offeryn a lunier i'n herbyn, Esa. liv. 17; a phyrth uffern ni allant ein gorchfygu, Mat. xvi. 18. Ond gwyliwn rhag ysbryd balch y Phariseaid: os ydym ni yn gweled, ac ereill yn ddall, pwy a wnaeth y gwahaniaeth? Dangoswn ein bod wedi bod gyda'r Iesu, trwy ein hymddygiad addfwyn, tirion, maddeugar, cariadus a gostyngedig, tuag at ein gwrthwynebwyr. Ac er mai trwy Grist yn unig yr ydym yn gadwedig, eto dangoswn ein cariad ato ef, am ein prynu a'n gwaredu yn rhad trwy ei fywyd a'i farwolaeth, trwy gyflawniad diragrith o'r holl ddyledswyddau gorchymynedig, gan garu y gyfraith, fel rheol o'n bywyd newydd a gawsom gan Grist, i'w chadw; yr hon yr ydym yn ymwrthod a hi, fel cyfamod i fyned at Dduw trwyddi i gael bywyd. Yr ydym yn atolwg arnoch i wylied yn eich Societies yn erbyn balchder ysbrydol, yn ymddangos mewn diystyru ereill, bod yn annioddefus i gyfaddef ein beiau ac i dderbyn cerydd; rhagrith, neu geisio ymddangos yn fwy llawn o gariad, ffydd, gostyngeiddrwydd, a goleuni, nag y byddoch; hunan-ewyllys a hunangariad, doethineb cnawdol, a phob ymddangosiad a fyddo yn tarddu oddiwrth gais dirgel yn y galon i ereill dybied eich bod yn dduwiol ac yn cynyddu hefyd. Ac na pheidiwch hefyd A chwilio allan bob arwyddion o'r gwreiddyn ofnadwy, yr hwn a ddwg bob math o ffrwythau drwg, sef ariangarwch, seguryd, a diogi. Gwyliwch hefyd rhag geiriau segur, ysgafnder ysbryd, chwerthiniad cnawdol, meddyliau ofer, ac anffyddlondeb neu weniaeth mewn geiriau wrth farchnata, trwy ddywedyd geiriau dauddyblyg, neu ddywedyd mwy neu lai na'r gwir; gan wybod ein bod ni bob amser ger bron Duw. Dangoswch eich bod wedi ei osod ef bob amser ger eich bron. Edrychwch at gynnydd eich gilydd mewn addfwynder, tiriondeb, a gwir iselder ysbryd; a bydded genych gariad diragrith at bawb o deulu'r ffydd, a thosturi dwfn tuag at ereill, yn peri i chwi alaru yn y dirgel dros eu pechodau. Gwnewch bob peth mewn gwirionedd a symlrwydd, megys i'r Arglwydd. Os plant, gwyliwch ar wneyd eich goreu i ennill eich rhieni, os cnawdol ydynt, trwy eich ymddygiad ufudd a gostyngedig. Os rhieni, edrychwch pa fodd yr ydych yn dwyn eich plant a'ch



Nodiadau[golygu]