Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-12)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-13)

tylwyth [i fyny] yn ofn yr Arglwydd, gan weddïo a chwilio yr Ysgrythyrau yn fanol, a'u cateceisio beunydd gartref, Deut. vi. 6, 7; Gen. viii. 19. Os tlawd ydych, byddwch foddlawn i'ch cyflwr, diwyd a ffyddlawn yn eich gwaith, gan fyw yn gyfatebol i'ch gradd. Os cyfoethog, edrychwch ar gyfrannu, gan ystyried mai stiwardiaid ydych chwi; ac fel mai eiddo y Pen yw eich da chwi oll, bod yn ddyledus iddo ef gael ei ffordd a'i ewyllys yn eu trefnu hwynt fel y myno ei hun. Os hen Gristionogion profiadol ydych, magwch a dysgwch mewn addfwynder a thiriondeb y rhai gwan. Os rhai iefainc ydych, gochelwch ymrysonau, hunan, ac anghrediniaeth; a dysgwyliwch oll am groesau beunydd oddiallan ac oddifewn; a phan y byddoch agosaf at yr orseddfainc, cofiwch ninnau, y rhai ydym ychydig, a llawn o lygredd; ond yr ydym, er eich mwyn, gwedi cael ein cymell i ymadael a phob peth, heb geisio dim ond bod yn ffyddlawn, fel y gallom ddywedyd yn y diwedd, ' Wele ni a'r plant a roddaist i ni.'


SAIL Y CYFARFODYDD.

"I. Gorchymyn yr Ysbryd Glan trwy St. Paul yw, nad esgeulusom ein cydgynulliad ein hunain, megys y mae arfer rhai, &c.

"II. Os yw yn ddyledswydd arnom gynghori ein gilydd tra y gelwir hi heddyw (neu bob dydd), o herwydd mai dyna'r modd inni ymgadw rhag cael ein caledu trwy dwyll pechod, Heb. iii. 13; yna, ni a ddylem ddyfod ynghyd i gynghori ein gilydd.

"III. Arfer y duwiolion oedd ymgynnull fel hyn dan yr Hen Destament (Gwel Mal. iii. 16), a than y Newydd hefyd. Wedi ymgynnull fel hyn yr oedd [y disgyblion] , pan ymddangosodd Crist iddynt wedi ei adgyfodiad, ac y dywedodd, 'Tangnefedd i chwi.' Luc xxiv. 33 — 36.

"IV. Ein Hiachawdwr a addawodd fod yn y canol lle y byddai dau neu dri (oni fyddai ychwaneg) wedi ymgynnull, yr hon a addewid y mae pawb a ymgynullasant mewn gwirionedd, ymhob oes, wedi ei phrofi yn cael ei chyflawnu, Mat. xviii. 20.

EU DIBENION

"1. Mewn ufudd—dod i'r gorchymyn, i annog i gariad a gweithredoedd da, Heb. X. 24.

"2. I ragflaenu calongaledwch a gwrthgiliad tra y byddom weinion mewn gras, a'n llygredigaethau yn gryfion, a'n profedigaethau yn aml, i Cor. iii. i, 2, 3, &c.

"3. Er mwyn dyfod i adnabod mwy o ddichellion Satan, 2 Cor. 11, a thwyll ein calonau, a gwaith gras a'i gynnydd yn ein heneidiau, i Pedr iii. 8.

"4. Er mwyn goleuo eu gilydd yng ngair Duw, ac er mwyn cadarnhau ac adeiladu y naill y llall yn y sancteiddiaf ffydd.

"5. Er mwyn cynghori eu gilydd a rhagflaenu ymrysonau, ac anghariad, a drwg-dybiau, a chenfigennau, &c. i Tim. vi. 4.

"6. I edrych yn ôl bywyd ac ymarweddiad, ysbryd a thymer, y naill y llall, ac er mwyn dwyn beichiau ein gilydd, Galat. vi. 2.

"7. Er mwyn gogoneddu gwaith gras Duw, trwy fynegu idd eu gilydd pa beth a wnaeth efe dros ein heneidiau, yn ôl esampl Dafydd, Salm Ixvi. 16.

"8. Er mwyn ymgryfhau ynghyd yn erbyn gelynion ein heneidiau, y byd, y cnawd, a'r cythraul; er mwyn gweddïo dros ein gilydd, ac er mwyn cyfrannu pob addysg a ddysgasom am Dduw, am ei Fab, ac am danom ein hunain, er pan fuom ynghyd o'r blaen.

Fel y byddo ir Dibenion hyn gael eu hatteb, yr ydym yn cytuno ar y Rheolau canlynol:— "1. Ar ôl canu mawl a gweddïo, i Tim. ii. i, bod ini agoryd ein calonau i'n gilydd, ac adrodd yn symlrwydd ein calonau yr hyn oll o'r drwg a'r da, yr ydym yn ei weled oddifewn ini, yn ôl y cymorth a gaffom, [ac mor bell ag y gweddai gwneyd hynny ger bron dynion.] Oherwydd yr ydym yn profi, trwy'r balchder sydd ynom, anewyllysgarwch i ddyfod a gweithredoedd y tywyllwch sydd o'n mewn i'r goleuni, rhag ini gael cywilydd; ac felly barodrwydd i guddio ein pechod: a thra byddom yn gwneuthur hyny, ni lwyddwn ni ddim yn ein heneidiau. Ond yr ydym yn profi, pan y gwelom ni y pechod wedi ei faddau, ac y caffom ein calonau i'w gasáu, y gallwn ddyfod ag ef i'r goleuni; a mawr yw yr undeb ysbryd, y rhyddid meddwl, a'r cariad yr ydym yn ei brofi fod yn canlyn y symlrwydd yma.



Nodiadau[golygu]