Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-14)

Ond os ni fydd i ni gael cymorth i ddywedyd gyda rhywfaint o olwg ar y drwg sydd yn y fath lygredd, a galar a chywilydd o'n mewn am dano, yr ydym yn dueddol i wneuthur yn ysgafn o hyn, ac felly yn sychu ein gilydd. Ac wrth ddywedyd am ddaioni Duw, os bydd ini ollwng yn angof olygu ei ogoniant ef, ac ymfodloni a meddyliau y bydd i'r brodyr feddwl yn dda am danom, neu edrych yn wael ar y rhai a fyddo heb brofi mor bell a ni, - os hyn a gaiff le, yr ydym yn profi ein bod yn tristau Ysbryd Duw, ac y mae dieithrwch yn canlyn rhwng Duw a'n heneidiau, ynghyd ag oerfelgarwch a sychder.

"2. Er mwyn tynnu ymaith bob dim a'r sydd yn rhwystro cynnydd cariad, i ddywedyd pob drwg-dyb a lettyo yn ein meddyliau am ein gilydd, a ddelo oddiwrth Satan, cyhuddwr y brodyr, neu ryw ffordd arall. Os gwir fydd yr achwyniad, dywedwn ef er mwyn codi yr hwn a gwympodd, trwy ei geryddu ef yn addfwyn, yn ôl cynghor ein Hiachawdwr, rhyngom ni ag ef ei hun, yna o flaen dau neu dri o'r brodyr, i edrych a welom ni arwyddion ynddo, fel y bo i'n cariad gael ei adnewyddu. Os bydd y drwg-dyb yn wir, yna deuwn a hyny i'r amlwg er cywilydd i ni ein hunain, fel na chaffo Satan le i weithio ei waith ei hun yn ein calonau ni. Llawer ydyw'r budd yr ydym wedi ei brofi oddiwrth hyn. Yr esgeulusdra o'r symlrwydd hyn a roddodd le i Satan weithio cymaint o ymrysonau, &c.

"3. Bod ini gymmeryd ein holi a'n chwilio gan ein gilydd; o herwydd mor barod yr ydym i sefyll yn rhy agos atom ein hunain, ac i beidio a myned i dre, wrth holi ein hunain.

Holiadau i brofi ein hunain wythynt.

"i Beth yw ein dibenion ymhob dim ar a gymmerom yn llaw, pa un a'i gogoniant Duw, ai rhyw bleser neu esmwythder, rhyw glod neu anrhydedd, neu rhyw elw neu fudd i ni ein hunain?

"2. Beth ydym ni yn ei brofi o'n mewn yn ein cymhell i wneuthur yr hyn yr ydym ni yn ei wneuthur? Cariad Crist, neu ynte hunan gariad?

"3. Wrth ba ewyllys yr ydym ni yn rhodio, ac yn gwneuthur pob peth; pa un ai ewyllys ddadguddiedig Duw yn ei air, neu ynte ein hewyllys ein hunain? A ydym ni yn ymwadu a'n hewyllysiau ein hunain ymhob peth?

"4. Gan ein bod ni wedi rhoddi ein hunain yn y cyfamod gras i Dduw yn Nghrist, ac nad ydym ni mwyach i fyw i ni ein hunain, ond i'r Hwn a'n prynodd ni, ac a roddodd ei Hun drosom; a chan fod i ni ddwyn ffrwyth oddiwrth bob talent ag sy gennym, yr ydym i wylied dros ein gilydd, pa fodd y byddo ini arferyd ein heneidiau, a'n cyrph, doniau, cof, dysg, amser, cyfoeth, a phob odfa i wneuthur a derbyn daioni, fel y dygom fwyaf o anrhydedd i Dduw, a lles i'w eglwys, trwy eu gosod allan yn ol rheol ei air Ef, gyda phob diwydrwydd a symlrwydd.

"5. Fel nad oes ond un corph gan Grist; ac fel y mae Efe yn gweddïo ar i bawb o'i ddisgyblion (neu ei ddilynwyr) Ef i fod yn un;- fel nad yw'r nifer ond ychydig; fel ag y mae'r ffyddloniaid oll (o bob barn mewn pethau amgylchiadol) i fod ynghyd yn dragywydd yn ol hyn; fel ag y maent yn profi yn awr undeb, wedi ei weithio oddifewn, a'u gilydd yn yr Ysbryd Glân; fel ag y maent yn trafeilio yr un ffordd, yn ymladd dan yr un faner, yn erbyn yr un gelynion, yn ymborthi ar yr un manna, yn yfed o'r un ffynnon ysbrydol, yn cael eu tywys gan yr un Ysbryd, wedi eu gwisgo a'r un cyfiawnder cyfrifol, yn ceisio yr un diben, ac yn cael eu cymhell gan yr un egwyddor, wedi clywed i gyd yr un llais, wedi eu prynu a'u golchi a'r un gwaed, &c., felly nid ydym ni yn atal neb o un farn rhag dyfod i fod yn aelod o'r Society gyhoedd ag a allo gael ei holl galon i gytuno a'r rhagddywededig Reolau, ac i ateb y cwestiynau canlynol.

"1. A ydych chwi wedi cael eich hargyhoeddi gan Ysbryd Duw i weled eich hunain yn golledig hollol, ac yn haeddu eich damnio? ac mai cyfiawn fyddai i Dduw orchymyn i bob creadur eich poeni, ac i'ch taflu i'r trueni a'r poenau eithaf, gan weled eich hunan y pennaf o bechaduriaid?

"2. A ydych chwi wedi eich deffroi gan ras i weled nad yw eich goleuni chwi ddim ond tywyllwch? ac na ellwch chwi ddim adnabod y Tad, na'i Fab, yn gadwedigol, na chwi eich hunain, heb i'r Ysbryd Glan oleuo llygaid eich meddwl chwi yn oruwchnaturiol, gan eich bod wrth natur fel ebol asen wyllt?

"3. A ydych yn profi, nid yn cyfaddef yn unig, ond wedi cael eich dysgu gan yr



Nodiadau[golygu]