Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
gan John Morgan Jones

Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad
Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad (tud-15)

Arglwydd, i weled ac i wybod hyn, sef, bod pechod felly wedi gwenwyno eich holl natur yn y fath fodd ag na ellwch gymaint a meddwl un meddwl da, na gwneuthur dim a fyddo cymeradwy gan Dduw? Ac na ellwch ddim eich helpu eich hunan o'r cyflwr hwn mewn un modd, wrth natur?

"4. A ydych chwi yn credu ac yn profi mai trwy gyfiawnder Crist, yn cael ei gyfrif ini yn unig, y mae ini fod yn gadwedig? ac mai trwy ffydd y mae hwn yn cael ei dderbyn? ac mai Ysbryd Duw yn unig a all, ac sydd yn gweithio y ffydd hon? ac na allwn ni ddim ei gweithredu hi nag un gras arall nes y byddo i'r un Ysbryd, fel y gogleddwynt neu y deheuwynt chwythu arnom.

"5. A ydych (gan weled mai Crist yn unig yw'r ddinas noddfa i ffoi iddi rhag dialydd y gwaed) yn profi fod Ysbryd Duw wedi eich gwneuthur yn ewyllysgar i ymadael yn eich serchiadau a phob peth ag oedd gynt yn werthfawr ag yn felus genych? megys eich llygad deheu, eich cyfaill anwylaf, a'ch pechod melusaf, amlwg a dirgel, er mwyn Crist, ac i wneuthur lle iddo Ef yn y galon?

"6. A ydych chwi wedi bod yn y dirgel yn bwrw'r draul? Ac yn awr yn profi fod gras Duw wedi peri i chwi ymwadu a'ch dibenion, eich ewyllysiau, eich cyfiawnderau, a'ch doethineb eich hunain, ac i ymostwng i ewyllys, a chyfiawnder, a doethineb Crist? Ac yn ymfoddloni i ddioddef pob croes ag a gyfarfyddoch wrth fyned ar ei ol Ef, a thrwy allu ei ras Ef i selio ei air a'ch gwaed, os bydd achos.

"7. Os ydych eto heb gael tystiolaeth yr Ysbryd Glan i gyd-dystiolaethu a'ch ysbryd chwi eich bod yn blentyn i Dduw, a ydych chwi yn profi eich bod bob amser yn ceisio Duw a'ch holl galon, heb geisio dim ond Efe? Chwiliwch a [ydych] yn cyfrif pob peth yn golled fel yr enilloch Ef? ac nas gellwch orphwys ar hyn chwaith nes i chwi ei gael Ef?

"8. A ydych chwi yn profi na ellwch chwi ddim cael esmwythdra, na heddwch, oddiwrth ddim ag sydd wedi ei weithio ynoch hyd yma, nes y bo i chwi brofi fod Crist ynoch chwi—nes y gwyddoch 'eich bod yn credu,—nes y byddoch wedi cael y fath olwg ar gyfiawnder Crist yn boddloni cyfiawnder Duw drosoch chwi, ag a fyddo yn ennyn cariad ynoch chwi ato Ef, a hwnnw yn eich cymhell i ufudd-dod; a'r cyfryw olwg ar ei ystlys fendigedig Ef wedi ei thrywanu, ag a ddryllio eich calon i alaru am bechod fel un yn galaru am ei gyntaf-anedig, ac i wir gasáu pob pechod, nes y byddoch wedi derbyn Ysbryd mabwysiad yn llefain Abba, Dad, ynoch chwi?

"9. A ydych chwi yn credu ac yn cydsynio a'r gwirioneddau sylfaenol, yn gyntaf, ynghylch y Drindod; yn ail, etholedigaeth; yn drydydd, pechod gwreiddiol; yn bedwerydd, cyfiawnhad trwy ffydd; yn bumed, parhad mewn ystâd o ras, &c., fel ag y maent yn cael eu dal allan yn Articlau a Homilïau Eglwys Loegr? Ac yn yr hyn nad ydym yn hollol, ysgatfydd, yn cytuno mewn rhai pethau amgylchiadol, megys dysgyblaeth eglwysig, seremonïau, y dull a'r amser o fedydd, &c., a ydych chwi yn addaw na bydd i chwi ddim blino eich cyd-aelodau ynghylch y pethau nad yw Duw wedi dyfod a ni i weled yr un modd?

"10. A ydych yn profi mai cariad Crist sydd yn eich cymhell i ymuno a ni? Ac a ydych chwi, yn ol dyfal ystyried, yn profi eich calon yn ddiragrith yn ymostwng i'r rheolau hyn, gan edrych arnom ni, a ninau arnoch chwithau, fel aelodau o'r un corff, fel plant yr un Tad, fel un, ac na ddywedoch wrth neb o'r rhai sydd oddiallan yr hyn a fyddom ni, yn symlrwydd ein calonau, yn eu dweyd? (Oherwydd mai taflu perlau o flaen moch, yw dweyd profiadau wrth yr annuwiol.)

"Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn i bwy bynnag a chwenycho fod yn aelod o honom, ar ol iddo yn gyntaf roi ei enw yn y cyfarfod o'r blaen, a dyfod a thystiolaeth rhai o'r brodyr (os bydd lle) ynghylch ei fywyd, a'i dymer a'i ymarweddiad, a pha gymaint o amser sydd er pan y daeth dan argyhoeddiad, ac i gael y cyfnewidiad yma yn ei fywyd. Fe ddichon bod rhai ag a fyddo heb eu rhyddhau odditan. ysbryd caethiwed, ac eto yn gwir geisio, a'u bod eto heb gael; wedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar, ac heb yfed o ddwfr y bywyd, — y rhai hyn rhaid eu porthi a llaeth. Ac fel na byddo i eraill gael eu cadw yn ol ganddynt hwy, y rhai a fyddo wedi profi ymhellach, ac wedi derbyn cymwysiadau, a ddylent adeiladu eraill trwy gynghori, &c. Ac eraill, wedi profi budd a llesâd wrth gyfarfod yn fwy neilltuol i fod yn fwy manol i chwilio; ni a gytunasom i gyfarfod i'r diben hyn yn fwy neilltuol; a phwy bynnag a fyddo wedi bod dros amser yn y Society gyffredin, ac wedi ymddwyn yn addas, y mae i gael ei dderbyn i'r ymgynulliad



Nodiadau[golygu]