Y Wen Fro/Croesau a Chromlechau'r Fro
← Dynion Enwog a'u Cysylltiad a'r Fro | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Llanilltud Fawr → |
CROESAU A CHROMLECHAU'R FRO
Y MAE'R Fro'n gyfoethog iawn mewn hen groesau. Gellir eu rhannu'n ddau ddosbarth—y Croesau Celtaidd, wedi eu cerfio'n gywrain gyda'r bleth arbennig a elwir yn bleth Geltaidd, a Chroesau'r Drindod, rhai tra gwahanol ac arnynt baladr main wedi ei goroni â thair delw gerfiedig i gynrychioli tri pherson y Drindod.
Yn Eglwys Llan Gan gwelir Croes Geltaidd brydferth iawn yn perthyn i'r wythfed ganrif. Ceir nifer o groesau ym Margam, un ar dir Tŷ Merthyr Mawr, a gall Llanilltud Fawr hithau ymffrostio mewn nifer o groesau tra phrydferth ac enwog.
Bu gan y mwyafrif o eglwysi'r Fro groesau mynwent yn dyddio o'r unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif. Ni wyddys beth oedd eu tarddiad, ond yn ôl traddodiad adeiladwyd hwy ar y mannau lle y bu pregethu Brwydrau'r Groes. Dinistriwyd y rhan fwyaf ohonynt, ond os edrychwn y tuallan i ddrws deau'r Eglwys, fel ym Merthyr Mawr, gwelwn fod sylfaen y groes yn aros yn aml hyd heddiw. Mewn llawer pentref, fel yn Ninas Powys a Wenvoe, adferwyd y croesau hyn. Ym mynwentydd Llan Gan ac Eglwys Fair ar y Bryn ceir enghreifftiau ardderchog o groesau'r bymthegfed ganrif, tra y mae gan Landunod (St. Donats) groes hynod o brydferth sy'nTinkerwood ger St. Nicholas
St. Lythan
enghraifft ragorol o saerniaeth gelfydd hen groesau'r Drindod.
Yn y darlun gwelwch nifer o fyfyrwyr Coleg y Barri ar ben cromlech a geir tua dwy filltir ar draws y caeau i ogledd y Coleg. Gwelir y math arbennig hwn o hen faen yn agos i'r arfordir a gorchuddir ei hanes â niwl oesau, dirgelwch a rhamant. I ba bwrpas yr adeiladwyd y cromlechau hyn? Cysyllta traddodiad hwy'n aml ag addoli'r Derwyddon, ond, yn ddiamau defnyddid hwy fel daeargelloedd claddu, a gorchuddid hwy â charnedd o gerrig neu dwmpath daear. Dengys ymchwil ddiweddar fod cysylltiad agos rhwng y math hwn o gromlech yn Neau Cymru a rhai beddrodau a ddarganfuwyd yn yr Aifft, ac y mae'n dra thebyg i'r gelfyddyd o adeiladu cromlechau gael ei dysgu yma gan lwythau teithiol yr Affrig, ar eu taith i'r Gorllewin tua phedair mil o flynyddoedd yn ôl. Tebyg hefyd fod Siluriaid Bro Morgannwg yn perthyn i'r rhain, a gelwir eu disgynyddion heddiw yn "Bobl Fach Ddu."
Tua milltir ymhellach o'r Barri mewn lle o'r enw Tinkerwood, ger pentref St. Nicholas, ceir un o'r cromlechau mwyaf a hynotaf ym Mhrydain. Ychydig flynyddoedd yn ôl cloddiwyd yma, a darganfuwyd tua hanner cant o sgerbydau yn profi, heb os nac onibai, mai claddfa llwyth neu deulu pwysig yn yr ardal ydoedd. Hyd yn gymharol ddiweddar, adroddid llawer stori hud am y gromlech anferth hon, rai ohonynt yn debyg i storïau hud y Mabinogion.
Chwi gofiwch ddywedyd yn stori Pwyll Pendefig Dyfed na allasai neb eistedd ar Orsedd Arberth heb dderbyn briwiau ac archollion, neu weled rhyfeddod, ac mai ar nos Galan Mai, mewn awyrgylch hud, y ffeindiodd Teyrnon Twrf Fliant y mab Pryderi a'i alw yn Wri Wallt Euryn.
Yn ôl traddodiad lleol, pe cysgai rhywun o dan y gromlech hon ar noson Galan Mai neu noson Galan Gaeaf, collai ei synnwyr, neu byddai farw, neu yntau tyfai'n fardd. Ni ddywed traddodiad sawl un ag uchelgais farddonol ynddo a geisiodd brofi gwirionedd y stori hon!
Heddiw diflannu y mae'r ofergoelion, ond erys y cromlechau i dystiolaethu am grefft a medr yr hen adeiladwyr hynny a fu byw flynyddoedd maith yn ôl.