Y Wen Fro/Dynion Enwog a'u Cysylltiad a'r Fro
← Y Barri | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Croesau a Chromlechau'r Fro → |
Ffonmon
DYNION ENWOG A'U CYSYLLTIAD Â'R FRO
MAE llawer dyn enwog wedi aros ym Mro Morgannwg, ac wedi ymhyfrydu ym mhrydferthwch tawel ei golygfeydd. Ymwelodd John Wesley yn fynych a'r glannau hyn, a phregethodd yma droeon. Trigai mewn ffermdy yn Ffontygeri, ger Rhoose, ac ymwelodd hefyd yn aml â Ffonmon. Yn ôl hen stori, dywedir bod Wesley yn cynnal gwasanaeth yn yr awyr- agored yn Ffonmon, ac i'w wrthwynebwyr, yn eu hawydd i wasgaru'r dorf, ollwng tarw gwyllt yn rhydd er cario allan eu hamcan. Gwelir bod Eglwys Llanilltud Fawr wedi gwneuthur argraff ddofn ar Wesley, oherwydd y mae'n siarad mewn iaith gynnes iawn am ei phrydferthwch, ar ôl ei daith bregethu enwog yn Neau Cymru yn Awst 1777.
Tref ddiddorol iawn ym mro Morgannwg yw Llanilltud Fawr. Adeiladwyd hi mewn cylchoedd bychain, fel pe bai wedi ei bwriadu i fod yn lle campus i chwarae mig. Yn wir, hawdd credu'r hen stori na fedrai dieithriaid—gormeswyr o'r môr—ddianc yn rhwydd ar ôl unwaith roddi eu traed yn Llanilltud Fawr. Ni welir olion unrhyw gynllun ar y dref, ag eithrio'r ffaith mai'r Eglwys yw ei chanolfan, a phle bynnag y cerddir, deuir yn ôl at hon—canolfan gwir fywyd y dref yn yr hen amser. Ond rhaid i Lanilltud gael pennod iddi hi ei hun.
Y mae enwi Ffonmon yn f'atgoffa bod perchnogion y Castell o'r un teulu ag Oliver Cromwell. A glywsoch chwi erioed ddywedyd mai Williams oedd enw iawn Oliver Cromwell, ac mai yn "Oliver Cromwell's Letters and Speeches," gan Thomas Carlyle, y gwelwn y prawf mai gŵr yn hanfod o Forgannwg oedd? Dywedir mai yng nghastell Ffonmon y gwelir y darlun gorau o'r gŵr enwog hwnnw, a diddorol yw cofio bod dynion wedi byw yn y castell hwn er pan adeiladwyd ef yn amser y Normaniaid hyd heddiw. Bu Cromwell ei hun yn prysur ddinistrio cestyll y Fro yn ystod y Rhyfel Cartref.
Yr oedd gan Thomas Carlyle ei hun ryw gysylltiad â'r Fro, gan mai yma yn Llanbleddian, ger y Bontfaen, yr oedd ei gyfaill mynwesol John Stirling yn byw. Ysgrifennodd Carlyle fywgraffiad ei gyfaill a'i gyhoeddi yn 1851. Yr oedd swynyfaredd y Fro wedi hudo Carlyle, fel y gwelir o'r disgrifiad a ganlyn ganddo:—
"Tyner-orffwys Llanbleddian, gyda'i fythynnod gwynion, ei berllan a'i goedydd eraill, ar lethr gorllewinol bryn gwyrddlas. Edrych allan ymhell dros ddolydd gwyrddion a bryniau, fawr a mân, ar wastadedd hyfryd Morgannwg, filltir brin i'r dde o'r Bontfaen, a ffurfia fath o suburb' i'r dref fechan drwsiadus honno. Rhyw ddeng milltir o led, a deg ar hugain neu ddeugain milltir o hyd, yw GWASTADEDD, neu, fe y'i gelwir BRO Morgannwg, er nad yw'n fro mewn gwirionedd, gan nad oes iddo namyn UN gadwyn o fynyddoedd—os oes un. Mae'n wir bod mynyddoedd canolbarth Cymru, yn araf godi mewn amrywiol ddulliau, i'r gogledd ohono. Ond i'r deau, nid oes dim mynyddoedd, na thir, hyd yn oed, ond Sianel Bryste yn unig, a bryniau Dyfnaint fel ffin yn y pellter—y "bryniau Seisnig," fel y geilw'r brodorion hwy, yn weledig o bob uchelfan yn y parthau hyn. Ar dermau eang felly y gelwir y gwastadedd yn FRO, ond pa enw bynnag a roddir iddi, y mae'n rhanbarth ffrwythlon a dymunol, mwyn i frodor, a diddorol i ymwelwr."
Cyfeiria Thomas Carlyle at "dref fach smart Pontfaen." Y mae hon yn hollol wahanol ei ffurf i dref Llanilltud Fawr, a ddisgrifiwyd eisoes, oherwydd un ystryd hir ydyw, ac fe'i gelwid "Y Dref Hir yn y Waun." Prydferth iawn yw amgylchedd y fwrdeisdref hon, a hynafol iawn yw ei hanes. Bu'n dref gaerog yn ystod y goresgyniad Normanaidd, ac yn ôl traddodiad, ymwelodd Owain Glyn Dŵr â hi, ac ar Stalling Down, ger y Bontfaen, bu brwydr fawr. Dywedir i Lyn Dŵr ddinistrio Castell Penmarc yn yr un flwyddyn, ac iddo'r flwyddyn flaenorol wneuthur yr un gwaith ar Gastell Treffleming.
Y mae gan y Bontfaen, fel Llanilltud Fawr, eglwys ddiddorol iawn. Hynodrwydd arbennig hon yw'r tŵr milwrol yr olwg a gyfyd o'i chanol. Ger yr eglwys, gwelir hen Ysgol Ramadeg, a chanddi gysylltiad arbennig â Choleg yr Iesu, Rhydychen. Sefydlwyd yr Ysgol hon a Choleg yr Iesu (ail sefydliad) gan Syr Leoline Jenkins (1625—1685), brodor o Lantrisant yn y Fro. Un o feibion enwog y Fro oedd y gŵr hwn ac arddelir ef fel un o arloeswyr addysg. Bu'n Ysgrifennydd Cartref o dan deyrnasiad y Brenin Siarl II.
Wrth ymweled â'r dref hynafol hon, nac anghofiwch holi am y siop lle y bu Iolo Morganwg (1746—1826), yr hynafiaethydd, yn byw. Dowch o hyd iddi yn ddidrafferth, oherwydd y mae ar yr heol fawr gyferbyn â Neuadd
Neuadd y Dref. Yma, lle y bu Iolo gynt yn cadw siop lyfrau, ceir yn awr siop nwyddau haearn. Ar fur y siop gwelir carreg goffa yn cofnodi'r ffaith mai yno y bu Iolo am ysbaid yn byw.