Y Wen Fro/Y Barri

Oddi ar Wicidestun
Clod Gwlad Forgan Y Wen Fro

gan Ellen Evans

Dynion Enwog a'u Cysylltiad a'r Fro

Tregatwg


Merthyr Dyfan

Y BARRI

MAE'R Barri'n adnabyddus ledled byd fel porthladd pwysig a chanddo ddoc gwych a rhinwedd arbennig yn perthyn iddo. Yma, yn wahanol i Gaerdydd, gellir myned i mewn ar unrhyw adeg heb aros i'r llanw. Ym meddyliau llawer iawn o bobl, cysylltir enw'r Barri ag allforio glo o gymoedd glo Morgannwg. Yn ddiweddar, y mae ei chlod fel tref lan y môr, a chanddi draethau tywod a gro ffein iawn, yn cynyddu'n fwyfwy.

Saif Coleg Hyfforddi Morgannwg ar ben y bryn tua thrichan troedfedd uwchlaw'r môr, yn edrych allan dros y dociau. Oddi yma cawn olwg odidog ar Fôr Hafren, ac ar dair ynys—Ynys Sully, y bu Marconi yn gwneuthur prawf ar arwyddau'r di wifr ohoni; Flatholm, a'i goleudy a'i olau'n pefrio'n brydferth; a'r Steepholm, craig uchel yn y môr. Tu hwnt iddynt gwelir "Gwlad yr Haf." Edrych fel gwlad hud "dros y don," yn enwedig ar noson glir olau-leuad. Nid yw Ynys y Barri, er cadw ohoni ei henw cyntefig, yn ynys bellach, oherwydd adeiladwyd sarn, er mwyn i'r trên fedru myned iddi o'r Barri.

Yn ddiamau, yr oedd Ynys y Barri ar un adeg yn sefydliad Rhufeinig, ond gwaetha'r modd ni ŵyr y miloedd ymwelwyr a ddaw yma bob haf ddim byd am ei hanes. Darganfuwyd olion Rhufeinig ar yr ynys. Y mae yma ffynnon Rufeinig, a gelwir hi yn Ffynnon Barrug (Sant Barruc, yn ôl traddodiad, a roddodd ei enw ar yr ynys). Fel ynysoedd eraill, er enghraifft, Ynys Enlli ac Ynys Pŷr (Caldey), ystyrid Ynys y Barri unwaith yn gysegredig, ac felly yr oedd yn fan hoff i gladdu ynddi. Dywedir bod tua phum mil o bobl wedi eu claddu ar yr ynys hon. Bu llawer dyn enwog yn trigo ar yr ynys, ac yn eu plith Sant Samson o Lydaw. Y mae cysylltiadau hanesyddol rhwng Ynys y Barri a theulu Gerallt Gymro (Gerald de Barri) a diddorol yw cofio bod perchen presennol yr Ynys (Iarll Plymouth) yn disgyn o'r un teulu.

Cysylltir tri Sant â'r Barri, Sant Barruc a roddodd, yn ôl traddodiad, ei enw i'r ynys, fel y dywedwyd eisoes, Sant Dyfan a Sant Catwg. O fewn taith hanner awr i'r Coleg y mae dwy eglwys a elwir ar ôl y ddau sant Cymreig hyn, Dyfan a Chatwg. Cred hen frodorion yr ardal fod Sant Dyfan wedi ei ferthyru, a chofnodir hynny yn enw'r eglwys, Merthyr Dyfan. Cafodd Tregatwg ei henw ar ôl Catwg Ddoeth. Chwi wyddoch, rwy'n siwr, mai i Gatwg Ddoeth y priodolir nifer mawr o ddywediadau doeth a ddaeth yn ddiarhebion ymhlith y Cymry. Un o'r rhai mwyaf adnabyddus yw, "Cas gŵr na charo'r wlad a'i maco."

Y mae'r ddwy eglwys hyn yn nodweddiadol o eglwysi Bro Morgannwg. Safant mewn cilfach (neu gwpan) o olwg y môr. Yr oedd rheswm digonol am eu hadeiladu felly, oherwydd yn y canrifoedd cynnar yr oedd Môr Hafren yn gyrchfan môr-ladron Danaidd, a'u gwaith cyntaf hwy oedd llosgi ac anrheithio'r eglwysi. (Dywedir bod Llanilltud Fawr wedi ei llwyr ddifetha gan y Daniaid hyn.) Felly, adeiladwyd yr eglwysi mewn mannau diogel, tawel, o olwg y môr. Y mae gan y ddwy eglwys hyn enghreifftiau da o'r math o dyrau a geir yn y Fro. Tŵr ysgwâr sydd gan eglwys Merthyr Dyfan, tra y mae tŵr eglwys Tregatwg ar lun cefn cyfrwy. Y mae'r ddwy eglwys yn fach a phrydferth, ac ym mynwent y llan ym Merthyr Dyfan ceir y tu allan i ddrws y de sylfaen hen groes Geltaidd. Dyma nodwedd arall ar eglwysi Bro Morgannwg.

Nodiadau[golygu]