Y Wen Fro/Iolo Morganwg (1746-1826)
← Porth Prydferth Beaupre | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Emynwyr Bro Morgannwg → |
Llandow
IOLO MORGANWG (1746—1826)
NI bu cymeriad mwy diddorol ac amryddawn nag Edward Williams, neu fel yr adweinid ef gan bawb, Iolo Morganwg, yn byw ym mro Morgannwg.
Carech, mi wn, wybod ychydig am y dyn rhyfedd hwn. Ganed ef ym mhlwyf Llancarfan,—lle y clywsoch amdano mewn pennod flaenorol. Bu fyw'r rhan fwyaf o'i oes yn Nhreffleming, yn y Fro, ac yno y mae man tawel ei fedd. Saer maen oedd wrth ei alwedigaeth, a dywedir i rai o'r beddargraffiadau yn Eglwys Llanilltud Fawr gael eu cerfio ganddo. Ychydig addysg a gafodd yn ei ieuenctid, a dywedir mai wrth weled ei dad yn cerfio llythrennau ar gerrig beddau y dysgodd ddarllen.
Ond dyn eithriadol ydoedd, a daeth i adnabod enwogion Cymru a Lloegr. Bu'n gyfaill mawr i Southey, y bardd Saesneg.
Teithiodd o'r naill ran o Gymru i'r llall mewn oes na wyddai am drên, gan gerdded cannoedd a channoedd o filltiroedd i geisio caniatâd i gopio hen lawysgrifau Cymraeg. Dywedir na chymerai ei wrthod gan neb. O'r defnyddiau hyn cyhoeddwyd y Myfyrian Archaiology a llawysgrifau Iolo, fel y'u gelwid, yn gyfrolau anferth o waith.
Dengys ysgolheictod diweddar mai dyn anodd, yn wir, amhosibl ei ddeall oedd Iolo, oherwydd er ei fod yn awyddus am glod fel bardd, priodolodd rai o'r darnau prydferthaf o'i waith ei hun i Ddafydd ap Gwilym, bardd y bedwaredd ganrif ar ddeg, er enghraifft:—
Gyda Gwen 'r wy'n ddibenyd,
Gwna hon fi'n galon i gyd."
Y mae'n sicr mai Iolo oedd awdur y cywydd, "Gyrru'r Haf i Annerch Morgannwg," ac yn hwn cawn nifer o gwpledi a ddengys gariad cynnes Iolo at ei gynefin fro.
"Gwlad dan gaead yn gywair,
Lle nod gwych, llawn ŷd a gwair;
Llynnoedd pysg, gwinllannoedd pêr,
A maendai, lle mae mwynder."
"Llawn adar a gâr y gwŷdd—
A dail a blodau dolydd,
Coed osglog, caeau disglair,
Wyth ryw ŷd a thri o wair;
Perlawr pawrlas, mewn glas glog,
Yn llannaidd a meillionnog!"
"Morgannwg ym mrig ynys
A byrth bob man, llan a llys."
A dywed wrth yr Haf:—
Gwasgar hyd ei daear deg
Gu nodau dy gain adeg."
Carodd ryddid yn fawr, ac yr oedd yn edmygydd dwfn o Wilberforce, rhyddhawr y caethion. Yn ddiamau, yr oedd ganddo argyhoeddiad cryf ar fater caethwasiaeth. Dywedir iddo wrthod ffortiwn gan ei fod ei fod yn ofni bod yr arian yn llwgr drwy fasnach mewn caethion.
Adroddir llawer stori am ei gariad tuag at anifeiliaid a'i serch tuag at ei ferlyn a âi gydag ef ar ei deithiau hir fel cwmni, ac nid er mwyn ei gario.
Chwi gofiwch i mi ddweud wrthych iddo fyw yn y Bontfaen, a chadw siop lyfrau yno. Saif honno gyferbyn â Neuadd y Dref, a gwelwch heddiw garreg goffa i Iolo ar y mur.
Er gwaethaf ei hynodion, anodd eu dirnad, cofiwn iddo wasanaethu Cymru yng ngwir ysbryd cariad. Heb os nac onibai carodd Forgannwg yn angerddol, a theilynga le fel un o wŷr enwog y Fro.