Y Wen Fro/Emynwyr Bro Morgannwg
← Iolo Morganwg (1746-1826) | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Ewenni → |
Llandathan
EMYNWYR BRO MORGANNWG
DYWEDAIS ychydig wrthych yn y bennod o'r blaen am Iolo Morganwg (Edward Williams). Yn y bennod hon carwn roddi ychydig hanes am dri o emynwyr y Fro. Gwyddoch am hen draddodiadau'r Cymry fod rhyw hud arbennig yn perthyn i'r rhif tri. Y mae hyn yn wir hefyd am draddodiadau cenhedloedd eraill.
Yn awr y mae'n hynod mai Williams oedd enw'r tri emynydd hyn, er nad oeddynt, cyn belled ag y gwn i, yn perthyn o gwbl i'w gilydd. Fe gredwch, mae'n debyg felly, fod Williams yn enw cyffredin iawn ym Mro Morgannwg.
Heddiw carwn fynd â chwi ar bererindod i'r mannau lle y gorffwysa'r tri emynydd. Yn y Canol Oesoedd yr oedd pererindodau yn gyffredin iawn, a gallasem ninnau yn yr ugeinfed ganrif wneuthur gwaeth peth nag efelychu'r amseroedd gynt yn hyn o beth.
Yn Llyfr Du Caerfyrddin, perl llawysgrifau Cymru, a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif, y mae penillion a elwir "Englynion y Beddau," a dechreua pob un gyda'r geiriau "Piau y bedd hwn?" Wel, fe awn am dro i dair mynwent, a cheisio ateb y gofyniad hwn deirgwaith.
Yn gyntaf, gadewch i ni ymweled â Llandathan, pentref bychan tua phedair milltir i'r deau o'r Bont Faen. Yma y mae eglwys ar ffurf croes, ac ynddi gorwedd delwau rhai o deulu y Berkerolles. Hwy oedd Arglwyddi Maenordy Llandathan er amser dyfodiad y Normaniaid. Efallai i chwi glywed y stori am Owain Glyn Dŵr yn cyfarfod ag un o'r teulu hwn, sef Syr Lawrence Berkerolles. Chwi gofiwch fod Shakespeare yn ei ddrama "Henry IV", yn priodoli rhyw ddylanwad hud a lledrith i enedigaeth Glyn Dŵr, oherwydd yr oedd ei fywyd yn hynod ymhob ystyr. Ni allasai neb ei ddal, ac yn wir ni ŵyr neb hyd heddiw am fan ei fedd. Dyma'r stori. Ceisiodd dieithryn urddasol gael llety yng nghastell East Orchard, cartref Syr Lawrence Berkerolles. Cafodd groeso cynnes, ac yr oedd mor hynod o ddawnus a chwrtais fel yr erfyniwyd arno am aros ysbaid. O'r diwedd dywedodd fod yn rhaid iddo gychwyn ar ei daith, ond gwasgodd ei letywr arno aros yn hwy. Câi dâl ardderchog am hynny o weled Owain Glyn Dŵr fel carcharor yn y Castell cyn y nos, oherwydd sicr oedd na allai Owain ddianc y tro hwn. Er gwaethaf y cymell aeth y gŵr dieithr ar ei ffordd, ond cyn myned diolchodd yn gynnes iawn am letygarwch eithriadol Syr Lawrence tuag at Owain Glyn Dŵr! Cafodd Syr Lawrence gymaint arswyd, medd yr hanes, fel y collodd ei leferydd!
Ond yr ydym yn crwydro. Amcan ein taith yw gweled y garreg goffa a ddodwyd yn ddiweddar y tu allan i fur yr eglwys, ger bedd John Williams yr emynydd. Brodor o Sir Forgannwg oedd, a bu fyw yn y pentref bychan hwn. Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn byw, o 1728 i 1826. Ef oedd awdur yr emynau adnabyddus sy'n dechrau â'r llinellau:—
"Pwy welaf o Edom yn dod,"
a
a
A ydych yn cofio'r emynau hyn? Os ydych, fe ganwn un ohonynt yn dawel ar lan ei fedd.
Awn yn awr ar ein taith o Landathan tuag at Boverton, pentref tua milltir i'r ochr hon o Lanilltud Fawr. Credir mai dyma Bovium y Rhufeiniaid. Prun a yw hynny'n wir ai peidio, fe ddarganfuwyd olion Rhufeinig yma. Y mae yma hefyd olion hen gastell, a dywedir bod Jasper Tudor, ewythr Harri'r VII, wedi bod yn ymguddio ynddo.
Ond cyn cyrraedd pentref Boverton, trown ar y dde, a thua milltir a hanner ymlaen gwelwn gapel ger y ffordd heb na phentref na thŷ gerllaw iddo. Disgynnwn, oherwydd dyma Fethesda'r Fro, lle y bu Thomas Williams (1761—1844) yn weinidog, ac yma y gorwedd ei weddillion. Ef oedd awdur "Dyfroedd Bethesda," casgliad o emynau. Efallai mai'r rhai mwyaf cyfarwydd yw'r rhai yn dechrau â'r llinellau:—
a
"Rwy'n tynnu tuag ochr y dŵr."[1]
A wyddoch chwi am y gân "Gweddi Pechadur" a gyfansoddodd y ddiweddar Morfydd Owen ar eiriau Thomas Williams?
"O'th flaen, O, Dduw! rwy'n dyfod,
Gan sefyll o hir bell."
O Fethesda'r Fro awn ar draws y wlad i Lanbedr y Fro, ac yno, yng Nghroes y Parc, gwelwn garreg fedd Dafydd Williams (1712—1794). Fe fu'r gŵr hwn yn gofalu am un o Ysgolion Teithiol Griffith Jones, ac fe weithiodd yn egniol fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr.
Ef oedd awdur yr emynau yn dechrau:—
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,"[2]
ac
"O! fy enaid, cod dy olwg."
Gobeithaf y bydd ystyr newydd i'r emynau hyn yn eich meddwl pan genwch hwy nesaf.