Neidio i'r cynnwys

Y peraidd dir hyfrydlon

Oddi ar Wicidestun
Bydd canu yn y nefoedd Y peraidd dir hyfrydlon

gan William Williams, Pantycelyn

Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu

673[1] Gorffwysfa'r Saint.
77. 87. D.

1 Y PERAIDD dir hyfrydlon,
Yr ardal euraid dirion,
Ag oedd ymhell, yn sefyll draw,
A ddaeth gerllaw yr awron;
Er lludded ac er blino,
Na fydded in ddiffygio;
Yr ŷm yn nesnes, awn ar frys
I mewn i'r llys yn gryno.

2 Cawn orffwys yn ddihangol
O'n temtasiynau'n hollol,
Mewn maith dangnefedd pur di-drai
Sydd yn parhau'n dragwyddol;
A hyfryd ymddifyrru
Yn ein Hanwylyd Iesu;
A threulio Sabbath melys gwiw
Tragwyddol i'w foliannu.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 673, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930