Yny lhyvyr hwnn/Hanes bywyd Syr John Prys

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Yny lhyvyr hwnn Yny lhyvyr hwnn

gan John Prys


golygwyd gan John H. Davies
Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr

Hanes bywyd Syr John Prys

Mab oedd Syr John Prys i Rhys ab Gwilym Gwyn o Frycheiniog a Gwenllian ei wraig. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1502.[1] Yn ol Harl. MS. 1976, f.37, yr oedd yn deillio yn unionsyth o Einion Sais. Priododd Syr John un Joan, neu Johane, merch John Williams o Southwark, Llundain, a nith (merch chwaer) i Elisabeth, gwraig Thomas Cromwell. Dywed rhai fod John Williams yn nai i Forgan Williams o Lanishen, un o henafiaid Oliver Cromwell, ond haera eraill mai brawd Morgan Williams ydoedd. Yn ein tyb ni yr olaf sydd debycaf i'r gwir. Yr oedd Morgan Williams yn briod a Catherine, merch Walter Cromwell, a chwaer Thomas Cromwell, Iarll Essex, y gwladweinydd galluog. Felly yr oedd cysylltiadau teuluaidd lled agos rhwng Joan gwraig Syr John a Thomas Cromwell. Bu i Syr John a Joan un-ar-ddeg o blant, sef Gregory, Peter, Richard, John, William, Bartholomew, Elinor, Johane, Jane, Mary, Ursula. Bu Gregory, y mab hynaf yn aelod seneddol dros Henffordd, yn sirydd dair gwaith dros Swydd Henffordd, a dwy waith dros Swydd Frycheiniog. Bu rhan o'r dreftadaeth ym meddiant ei ddisgynyddion hyd y flwyddyn 1854.[2] Bu Richard farw yn ddi-blant, ac ni wyddys beth ddaeth o hiliogaeth y lleill. Priododd Johane, un o'r merched, dair gwaith, a'r trydydd gwr oedd Thomas Jones, Porthffynnon, Tregaron, un sydd yn lled adnabyddus wrth yr enw Twm Sion Catti. Hi, yn ol traddodiad, oedd aeres Ystrad Ffin y bu Twm yn ei charu mewn modd mor wreiddiol a nodweddiadol.

Sonia Syr John yn ei ewyllys am ferch arall o'r enw Catherine. Hwyrach i Syr John fod yn briod ddwywaith, ac mai plentyn y briodas gyntaf oedd hon. Fodd bynnag, yr oedd hi yn wraig briod yn 1555,[3] a thybiwn oddiwrth hynny ei bod yn hŷn na'r plant eraill, gan y gwyddom fod Gregory, y mab hynaf wedi ei eni yn 1535.

Y cyfeiriad cyntaf a geir at Syr John yw'r cofnod yn y State Papers,' cyf. iv., tud. 2943. Enwir ef a Wm. Brabazon, un o weision Cromwell. Casglwn felly fod John Prys yng ngwasanaeth Cromwell mor foreu a Gorffenaf, 1530. Dywedir, ar awdurdod Wood yn y bywgraffiadau sydd wedi ymddangos o dro i dro, fod Price yn aelod o Broadgates Hall yn Rhydychen, ac iddo gymeryd ei radd yn y Brifysgol yn y flwyddyn 1534. Yng nghofrestr y Brifysgol ceir y cofnod hyn:

Price or Pryce, John, supplicated for B.C.L. and dispensed July, 1534, adm. 12 July. Supplicated for B. Can. L. June, 1535, of Broadgates Hall.[4]

Hwn yn ddiau yw'r gwr y mae Wood yn cyfeirio ato, ond y mae yn anhawdd credu, fod Syr John Prys yn fyfyriwr yn Rhydychen tua 1534, oherwydd yr ydym yn gwybod fod Syr John tua'r adeg hyn yn tramwyo'r wlad i archwilio'r mynachlogydd, ac yn Mehefin, 1535, tra yr oedd y John Price uchod yn derbyn ei radd o B. Can. L. yn Rhydychen, yr oedd Syr John Prys yn brysur yn casglu tystiolaeth yn erbyn John Fisher, Esgob Rochester.[5] Y mae traddodiad fod William Salesbury, cyfieithydd y Testament Newydd, hefyd yn aelod o Broadgates Hall, ond nid yw ei enw ar gofrestr y Brifysgol. (History of Pembroke College'). Ond y mae cofnod boreuach ar gofrestr y Brifysgol sydd yn rhedeg fel hyn:

Pryse, John, supplicated for B.C.L. 21 May, 1519, adm. 29 Feb. 1524, supplicated for B. Can. L. March, 1530/1 Fellow of All Souls, 1523.

Ynglyn a'r gwr hwn y mae Anthony à Wood yn gwneyd y sylw canlynol : “ Farther also I find that in 1523, one John Price of All Souls College was admitted Bach. of Civil Law , and that he died 1554."

Tueddwn i gredu mai dyma'r gwr a ddaeth wedi hynny yn Syr John Prys. Nis gwyddom beth oedd awdurdod Wood dros ddweyd mai yn 1554 y bu farw , ond y mae'r dyddiad yn lled agos i'w le, oblegid bu Syr John farw yn 1555. Os yw'r eglurhad yma yn gywir, y mae yn symud cryn dipyn o anhawsder o'n ffordd. Hwyrach fod Syr John ar ol ymadael a Rhydychen wedi ymaelodi yn un o'r Inns of Court, a rhyw fodd neu gilydd wedi dyfod i adnabyddiaeth o Thomas Cromwell. Y mae'n amlwg fod Prys mewn cysylltiad lled agos a Cromwell yn y flwyddyn 1534 (os nad ynghynt), gan fod cyfeiriad ato mewn llythyr ysgrifenwyd at Cromwell fel "Your servant, John ap Rys." O'r adeg hynny ymlaen gallwn ddilyn ei gamrau yn lled fanwl. Bu yn ddyfal yn ystod 1534 a 1535 yn gwneuthur ymchwil dros y Brenin drwy fynachlogydd Lloegr. Yn Rhagfyr, 1534, gwnawd ef yn Gofrestrydd Côr Salesbury, ac yn 1536 bu yn gwneyd ymholiadau dros y Brenin yn Siroedd Lincoln a Norfolk. Ymhlith papurau y State Paper Office, ceir petisiwn oddi wrth Prys at Thomas Cromwell a ysgrifenwyd tua'r adeg hon, a chan fod yr ysgrif yn rhoddi ei hanes yn gryno yn ystod y blynyddoedd hyn, dodwn hi yma :

Considerations whereupon John ap Rece maketh his suit to the King's Highness.

His office is decayed, and no fee attached to it, yet it is charged with the keeping of the King's muniments. He has written for the King these things following without any allowance therefor:

Professions of all prelates persons and bodies; Divers instruments for my ladie Marie concerning the abdication of the Bishop of Rome's power and renunciation of appeals;

Divers great instruments as well of the process of divorce of Queen Anne, as of the contract and solemnization of the same between the King and Most Noble [late] Queen Jane, all which instruments and others he is charged by his office to keep,

He wrote to the King the abridgements of the comperts of the late visitation, also the confessions of the late rebels in Lincolnshire and Yorkshire and abridgements of the same. He rode post to the examination and execution of that traitor Halom and his accomplices at Hull. He was promised a pension of £40 out of Guysborough, but had it not. He has ever since been occupied in the examination of traitors, felons or heretics and daily is and shall be ready to do.

He kept one David at the King's appointment for half a year or more in his house at his own cost also he hath ridden upon his own costs to the execution of divers other the King's affairs. All which be now reciting not to ask anything therefor of duty but for the furtherance of his suit in this part by revocation of the same to the King's highness memory. And he now desires but £50 that is not in the King's hands and to bring to his Grace therefor £200 a year besides moveables worth £400 or £500.

Gwelwn fod Prys wedi bod yn ddiwyd yng ngwasanaeth y Brenin, ac wedi dod i gysylltiad pur agos ag ef ar fwy nag un achlysur.

Ym mis Gorffennaf, 1540, cawn ef yn cymeryd rhan yn y gweithrediadau ynglyn ag ysgariad Anne of Cleves a Harri'r Wythfed, ac yn y mis Medi canlynol etholwyd ef yn ysgrifenydd dros y Brenin yng Nghymru. Cwympodd allan ag un Charles Fox ynghylch y swydd hon, a gwysiwyd y ddau o flaen y Privy Council, gyda'r canlyniad i Prys gael ei wneyd yn ysgrifenydd i Gyngor Cymru a'r Gororau.

Nid ydym yn credu fod digon o brofion mai yr un gwr oedd efe a'r John ap Rece fu yn Gwnstabl yng Nghastell Clun, o dan Iarll Arundel.[6] Yr oedd Prys erbyn hyn wedi casglu llawer iawn o gyfoeth, a chawn ef o hyn allan yn byw yn ei dy yn Henffordd, fel gwr bonheddig a pherchen tir. Gwnaed ef yn farchog ar yr 22ain o Chwefror, 1546-7. Bu yn Uchel Sirydd dros Sir Frycheiniog yn 1543, a thros Sir Henffordd yn 1554, yn Aelod Seneddol dros Henffordd yn 1553, a thros Llwydlo yn 1554. Yn 1551, etholwyd ef yn aelod o Lys y Gororau (The Court of the Council of Wales and the Marches), a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth. Yr oedd ganddo diroedd lawer yn Sir Henffordd, ac efe hefyd oedd perchenog Priordy Aberhonddu. Ond tra eto yn ddyn canol-oed bu farw yn ei dy yn Henffordd ar y 15fed o Hydref, 1555.[7]

Dywed Nicholas, yn ei Annals of the Counties of Wales, ar awdurdod Theophilus Jones mae'n debyg, fod Syr John yn ffafr-ddyn gyda'r Brenin Harri, ac mai efe oedd awdwr, yn ogystal ag hyrwyddwr, y petisiwn a ddanfonwyd i'r Brenin i erchi cymundeb agosach rhwng Lloegr a Chymru.[8]

Yr ydym wedi methu dyfod o hyd i unrhyw dystiolaeth bendant fod llaw gan Prys yn y mudiad hwn, er fod y peth yn debyg o fod yn gywir. Rhaid cofio ar yr un pryd nad oedd Syr John mewn safle bwysig cyn 1536, ac y mae yn anhawdd credu fod yn bosibl iddo yn uniongyrchol beth bynnag ddylanwadu ar y Brenin. Ond yr oedd yn was i Cromwell, ac yn ddiameu yn dyfod i gyffyrddiad parhaus a'i feistr, a chan mai Cromwell oedd y prif offeryn i ddwyn oddiamgylch ddymuniadau y Brenin, gallwn fod yn sicr fod y Cymro ieuanc wedi gwneyd ei oreu i hyrwyddo unrhyw fudiad a fyddai er lles ei wlad, trwy egluro safle pethau yng Nghymru.

Llyfrau Syr John

Ysgrifennodd Syr John Prys nifer o lyfrau a thraethodau, ond ychydig o honynt sydd wedi eu cyhoeddi, ac y mae'r lleill yng nghudd mewn hen lyfrgelloedd neu wedi eu colli yn llwyr. Wele restr o rai o honynt:

1. Yn y Llyvyr Hwnn, &c. Llundain, 1546. 2. Historia Britannica Defensio, a gyhoeddwyd gan ei fab, Richard (Brit. Mus. Cotton MS. Titius F. iii. 170). Llundain, 1573. 3. Description of Cambria (translated and enlarged by H. Lhuyd). Published as part of the Historie of Cambria. London, 1584. 4. Tract on the restitution of Coinage. Written 1553, Dedicated to Queen Mary. New Coll. Oxon. MS. 317., iii,[9]

Ei Ewyllys

Tafla ewyllys Syr John dipyn o oleuni ar ei hanes a'i gymeriad. Ynghylch ei gladdu dywed:

My bodie to be buried in the Cathedrall Churche of Hereford if I die at Hereford orells in some other Christian buriall where my executors or administrators shall thinke most conveniente and I will that a stone with an inscription by the devise of somme of my executors or administrators be sett on my tombe within one yere after my decease mentioninge the daie and time of my decese and requeaste of all mennys praiers. And I will that a faire blacke stone whiche I lefte at Parshor (Pershore?) in Worcestershere be sett hither for that purpose my frende Master Martin curat of Parshor aforesaide dothe knowe where the stone remaineth.

Nis gallwn ddweyd a wnaed yn ol ei ddymuniad ai peidio. Nid oes son am ei feddfaen yn yr Eglwys Gadeiriol. (Dun- combe's Herefordshire; Rawlinson's Hereford Cathedral). Gan iddo farw o fewn ychydig ddiwrnodau ar ol gwneyd ei ewyllys, tybiwn yn sicr i hynny ddigwydd yn ei dy yn Henffordd.

Barn Gasquet am Syr John.

Fath ddyn oedd John Prys? Mae'r hanesydd Pabyddol, y Tad Gasquet, yn ei lyfr ar "Henry VIII, and the English Monasteries," yn rhoddi cymeriad annymunol iawn iddo. Fel y dywedwyd eisoes, bu Prys yn un o'r dirprwywyr a ddanfonwyd gan y Brenin chwilio cyflwr mynachlogydd y deyrnas. Wrth wneyd hyn yr oedd yn anhawdd iddo beidio aflonyddu llawer ar y mynachod a'r lleianod, yn eu cartrefi clyd. Os caniateir fod y neges yn un atcas, nid yw o angenrheidrwydd yn dilyn fod y negesydd yntau yn ddihiryn; os bu raid i John Prys gydweithio a dynion digrefydd a diegwyddor, nid yw hynny yn brawf yn y byd fod John Prys yn bagan ac yn dwyllwr. Ond tyn y Tad Gasquet ddarlun gwrthun o hono. Y mae yn wr digymeriad, yn hyrwyddo pob drygioni, yn euog ei hun o droseddau anfad ac yn was a chynffonwr i'r arch-heretic Thomas Cromwell. Nid oes gennym le i ddadrys y cyhuddiadau hyn, ond y mae yn amlwg fod yr hanesydd yn gadael i'w deimlad lywodraethu ei farn wrth sôn am Prys. Ar yr un pryd nid yw ond teg i gofnodi fod y Tad Gasquet, a gydnabyddir fel un o brif haneswyr y Pabyddion, yn dal y syniadau hyn.

Barn arall am dano.

Fel tâl am ei wasanaeth i'r Brenin, derbyniodd Prys lawer o dir y mynachlogydd. Yn hyn o beth nid oedd yn eithriad i eraill o wyr y Llys, ac nid oes angen condemnio Prys am nad oedd ei foesoldeb o radd llawer uwch na'r eiddo ei gyfoedion. Gwyddom hefyd iddo gael rhyw gymaint o ddodrefn y mynachlogydd, a hwyrach iddo fachu aml i hen lyfr prin a gwerthfawr. Y mae ei ewyllys yn taflu peth goleu ar hyn:

Item. I will that my executors shall deliver and distribute to churches within the countie of Hereford all such churche apparell as I had within this countie if any remaine in my house.

Item. To the Cathedrall Church of Hereforde to be set in their library all my written bookes of Divinitee.

Gwelwn felly fod Prys wedi dychwelyd peth o'r yspail, a hwyrach fod rhai o'r llyfrau eto ar gadw yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Henffordd. Gwaith anhawdd iawn hyd yn oed i gydoeswyr yw ffurfio syniad cywir am gymeriad, natur, a chyneddfau dyn. Anhawddach fyth yw ceisio pwyso rhagoriaethau a diffygion gwr sydd yn y bedd er's blynyddau maith. Gedy ambell i wr ei ôl ymhob llythyr a ysgrifenna ac ymhob gweithred a wna, un arall a ysgrifenna lawer heb ddadguddio i neb gyfrinach ei fywyd. Ychydig iawn a wyddom am Syr John Prys. Casglwn oddiwrth gyfeiriadau yma a thraw yn y State Papers fod y rhai oedd yn cydweithio ag ef yn rhoddi gair da iddo, a dyna i gyd a allwn ddweyd. Ond y mae yn digwydd fod Syr John ei hun, yn anfwriadol bid sicr, wedi rhoddi rhai awgrymiadau i ni yn ei lyfrau a'i lythyrau, ac er na fydd pawb, fe ddichon, yn dyfod i'r un casgliad a ninnau, byddwn yn ddigon hyf i draethu ein syniadau ar y pwnc.

Yn hoff o'i gartref.

Yn y flwyddyn 1540 yr oedd Prys yn byw mewn ty yn ninas Henffordd, ac yn dal lês dan y Brenin. Daeth y si fod Y Brenin yn bwriadu gwerthu'r ty, ac ysgrifennodd Prys ar unwaith at Cromwell i geisio ei brynnu:

ffor considering that I have alredy paid so moche for the fferme, been dwelling thereupon a good while and my children and part of my familie there yet remayning, and [have] buylded thereupon as moche as coste me a hundred markes. I had lever spend all that I have to my shirte than be putt beside it.

Ond fath dy oedd gan John Prys yn Henffordd? Yn ei ewyllys y mae yn gadael i'w wraig:

"That house where I now lie to dwell in as long as she be unmarried, and one of the orchardes, and a garden, and pasture for six "kine and a geldinge."

Syr John fel amaethwr

Ty, gardd, perllanau, lle i gadw chwech o wartheg ac un ceffyl; dyna gartref John Prys. Nid rhyfedd ei fod yn hoff o'r lle. Yma y byddai yn dianc o ganol ei waith yn Llundain i fwynhau ychydig seibiant, ac yma yn nhawelwch ei erddi ac yng nghysgod ei goed afalau, y deuai i anghofio helbulon y llys yn Llwydlo. A mwy na hynny, onid oedd yn ymhyfrydu yngwaith y ffarm fechan? Pwy a ddarllena y nodiadau ar waelod y Calendyr heb ganfod hynny. Ym mis Ionawr :

Torr dy goed defnydd ac ni holhtan. Diwreidda y koedach ar dyryssi oth wairglodd ac ny thyfan eilwaith pâl dy ardd, symyd dy wenyn-dinoetha wreiddeu dy goed ffrwyth, yn enwedig o'r rhai a fo ben ac heb ddwyn ffrwyth; gwna ddefnyddion dy aradyr [a rho hwynt yn dy simne i sychu erbyn y gaua nesaf.]

Ym mis Chwefror:

Tynn y mwsswng oddyar dy goed ffrwyth, torr y keingyey dyfyrlhyd, dod goed byw, a choed rhos ar vath hynny, scathra a phlyg dy berth yn niwedd y lheuad, dod gyffion koed ievaink a cheingieu, a chlwmmey yn y lhawnlhoer. Ardd dy wndwn, a haya dy ffa ath bys, ath geyrch mewn tir sych yn y newydd loer, mewn tir gwlyb wedy yr hawn lhoer neu o vewn pedwar niwarnod y nailh ae kynt ae gwedy.

Onid yw'r amaethwr profedig yn siarad ymhob gair o'r cynghorion hyn? Pwy ond amaethwr a fyddai yn sôn am scathru a phlygu perthi wrth ysgrifennu Calendyr Eglwys Loegr.

Yn ymhyfrydu mewn hen lyfrau.

Ond yr oedd atdyniadau eraill yn y ty yn Henffordd. Yr oedd yno liaws o hen lyfrau. Soniwyd eisioes am "my written bookes on Divinitee."

Yn ei ewyllys dywed:

Item. I give to my sonnes Gregorie and Richarde all my printed bookes saving the workes of Sainte Austin and Course of the Canon Law whiche I give to the aforesaide Master Smithe, Vicar of Bromeyarde to be divided betweene them by the discretion of my executors.

Item. I bequeath to my son Richarde all my written books of histories and humanitee.

Llyfrau Cymraeg. Heblaw y rhain credwn mai nid llai diddan i'r perchennog oedd y llyfrau a nodir yn ei ewyllys yn y geiriau hyn:

Item. I give my Welche bookes to Thomas Vaughan of Glamorganshire.

Yn gwrthwynebu Polidor yr Eidalwr Nid nepell oddiwrtho trigai Polidor Vergil, y mynach o'r Eidal, a ysgrifennodd Hanes Prydain, ac a ddifenwodd yr hen Frutaniaid. Amheuai Polidor eirwiredd y chwedlau a adroddai Sieffre o Fynwy ynghylch tarddiad a hanes boreuol y Cymry. Teimlodd Prys hyn i'r byw, a dywedir iddo roddi llawer o gymhorth i Leland pan yn ysgrifennu ei Assertio Arturi. Aeth gam ymhellach na hyn, o herwydd ysgrifennodd lyfr ei hun i wrthbrofi syniadau Polidor. Ni fu byw i gyhoeddi'r llyfr, ond yn ei ewyllys dywed:

Item. I wyll that my sonne Richarde shall put my booke in printe that I have made againste Polidorus Storye of Englande, and to annexe to the same some pece of antiquitie that is not yet printed out of the written bookes of histories that I have in my house, as William Malmesburie, de Regibus Anglorum, or Henricus Huntingdon, and towardes the charges thereof I bequeathe him twentie marks.

Cyflawnwyd ei gais gan Richard, a daeth y llyfr allan o'r wasg yn 1573, dan yr enw Historie Britannicae Defensio.

Syr John yn Gymro i'r carn.

Dengys y rhagymadrodd i'r llyfr a ail-argraffir yma fod Syr John Prys yn Gymro gwladgarol, ac yn teimlo yn ddyledswydd arno i wneuthur yr hyn a allai i hyfforddi'r Cymry yn egwyddorion crefydd.

Ac er bod y gofal mwya yn perthyn yr periglorion, eto ni bydd neb dibwl, ac y rhoes Duw ddonyeu neu gyfarwyddyd yddaw, ny wnelo y peth y alho er hysbyssu yddy gydgristion y pynkeu y sy mor anhepkor ar rhain.

Yn wyllt ei dymher.

Hwyrach ein bod bellach mewn cyfle i ffurfio rhyw syniad fath ddyn oedd John Prys.

Dengys yr ymdrafodaeth rhyngddo a Fox ei fod yn wyllt ei dymher; ond os na allai lywodraethu ei natur, byddai yn edifarhau yn fuan. Pan gyda Dr. Lee ar ei ymweliad a'r mynachlogydd methasant a chytuno ac mewn canlyniad ysgrifennodd Prys lythyr chwerw iawn at Cromwell i achwyn ar ei gyd-swyddog ffroen-falch. Ond y diwrnod nesaf ysgrifennodd lythyr arall i dynnu ei eiriau yn ol.[10] Dyn hawdd ei gyffroi, a hawdd ei dawelu ydoedd.

Yn gyfreithiwr ac yn ddyn ymarferol.

Yr oedd yn ddyn ymarferol.[11] Hwyrach fod ei ddygiad i fyny fel cyfreithwr yn ddigon o reswm am hyn. Gwelodd yn eglur fod dau angenrhaid yng Nghymru; y cyntaf oedd gwneuthur rhyw drefn ar lywodraeth y wlad, a'r ail oedd ei haddysgu. Bu am bymtheng mlynedd yn cymeryd rhan flaenllaw yn llywodraethiad Cymru, ac nis gallasai Cymro mor wladgar a chyfreithwr mor ddysgedig lai na gadael ei ol ar drefn a dull y llysoedd barn. Yn sicr, cawsai pob Cymro a ymddangosai o flaen y llys yn Llwydlo chwareu teg tra yr oedd Syr John Prys yn aelod o hono. O fewn pedair blynedd wedi ei benodiad yn glerc i'r Cynghor, cyhoeddodd ei lyfr Cymraeg. Amcan y llyfr, fel y dywedasom o'r blaen, oedd dysgu'r Cymry uniaith i ddarllen y Gymraeg ac i'w hyfforddi yn rhai o egwyddorion y grefydd Gristionogol. Y mae yn beth hynod iawn mai dyn o safle Syr John Prys gyhoeddodd y llyfr cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Nid ydym yn credu fod yr un marchog, neu wr o safle gymdeithasol gyffelyb wedi ysgrifennu a chyhoeddi llyfr yn yr iaith ar ol ei amser ef. Dengys hyn mor werinol yw llenyddiaeth Cymru. Fel y dywed ef ei hun yr oedd periglorion Cymru "y sy yny mysk oswaethhiroedd y nailh ae nys medran, ae nys mynnan ddangos yw plwyvogyon y petheu y maen yn rhwymedic y lhailh yw dangos ar lhalh eu gwybod."

Offeiriaid dioglyd.

Pan oedd offeiriaid Cymru yn rhy anfedrus neu yn rhy ddioglyd i ddysgu eu plwyfogion, cyfreithwr prysur yn unig oedd ar ddihun. Deallodd ef, fel Griffith Jones, Llanddowror, ddwy ganrif yn ddiweddarach, fod yn rhaid dysgu'r bobl i ddarllen, ac argraffu llyfrau at yr amcan hyn cyn y deffroa Cymru o'r trwmgwsg meddyliol a chrefyddol yr oedd ynddo.

Yr oedd yn ddyn dysgedig a hoff o ddysgeidiaeth. Dengys ei yrfa yn Rhydychen hyn, ac y mae ei lyfrau a'r hanes a gawn am ei lyfrgell yn cadarnhau hynny.

Ein syniad am dano mewn gair yw, mai Cymro byrbwyll, gwladgarol oedd, hoff o'i deulu a'i gartref, heb ronyn o farddoniaeth yn ei natur, ond yn gwneyd y gwaith cyntaf a ddaethai i'w law. A hwyrach i'w ddylanwad ar Gymru fod yn llawer mwy llesol a pharhaus na dylanwad ugeiniau o Gymry sydd yn fwy adnabyddus heddyw nag yw efe. Wrth derfynu rhaid diolch i'r Iarlles Macclesfield a Syr John Williams am eu caredigrwydd a'u parodrwydd i roddi benthyg y llyfr, ac i liaws eraill am lawer o gymhorth a dderbyniwyd wrth ddwyn y llyfr trwy'r wasg.

J. H. DAVIES.
CWRTMAWR, LLANGEITHO,
Ebrill 15, 1902.

Nodiadau[golygu]

  1. Cambrian Journal, Mawrth, 1857, tud. 40.
  2. Duncumb and Cooke's Hereford,. cyf. i. tud. 111.
  3. James Gomond oedd enw ei gwr, yr un dyn mae'n debyg a'r James Gomond fu yn Uchel Sirydd Swydd Frycheiniog ya 1569-70.
  4. Reg. Univ. Oxford, i. 178.
  5. Dichon mai y John Pryce a dderbyniwyd yn aelod o Lincoln's Inn, Gorffennaf 14, 1540, oedd hwn. Yr oedd gwr o'r un enw yn Attorney General in Wales and the Marches, yn 1559. (Williams'Welsh Judges, p. 10).
  6. Gwel Dict. National Biography, dan enw Prys a S. P. Dom. Henry VIII., cyf. ix. tud. 91, xiii. 289, xvi. 6.
  7. Inquis. Post Mortem, Ph. & M., C. 105., No. 83.
  8. Ceir y Petisiwn yn llawn yn Lord Herbert of Cherbury's Life of Henry VIII., arg. 1683, tud. 436-9.
  9. Gwel hefyd y Cambrian Journal, Mawrth, 1857, tud. 39-47, lle desgrifir llawysgrif fu unwaith yn ei feddiant; ac hefyd "A Catalogue of the MSS. relating to Wales in the British Museum, gan Ed. Owen, 1900, tud. 8, 32; a Cat. Lib. Manuscriptorum Angliae et Hiberniae, 1696. 1239, 1302 & 317.
  10. S. P. Dom. H. viii. Cyf. ix. (Hyd. 16 a 17, 1535-)
  11. Yn ei ewyllys ceir a ganlyn: Item. I give towards the mendinge of the Bridge upon Uske in Brecknock ten poundes, and towards reparation of the highway between Hereford and Lugge Bridge five pounds.