Neidio i'r cynnwys

Yny lhyvyr hwnn/Rhagair Yny lhyvyr hwnn

Oddi ar Wicidestun
Yny lhyvyr hwnn Yny lhyvyr hwnn

gan John Prys


golygwyd gan John H. Davies
Hanes bywyd Syr John Prys

RHAGYMADRODD.

RAI blynyddoedd yn ol penderfynodd Pwyllgor Llenyddol Urdd y Graddedigion ail-argraffu cyfres o glasuron llenyddiaeth Cymru. Barnwyd yn ddoeth ychwanegu at y clasuron cydnabyddedig, nifer o lyfrau eraill, i'r rhai y perthynai rhyw werth neu ddyddordeb neilltuol. Yn eu plith dewiswyd y llyfryn bychan hwn, ar gyfrif y dyb mai efe yw cyntafanedig y wasg Gymraeg. Gwasanaetha hefyd fel cof-arwydd am yr awdwr, un o'r gwladgarwyr puraf a fagodd Cymru erioed. Hwyrach mai hwn yw un o'r llyfrau prinaf yn yr iaith, oblegid cyn belled ag a wyddom nid oes ond un cyfargraff ar gael a chadw heddyw. Argraffwyd ef yn Llundain gan Edward Whitchurch yn y flwyddyn 1546. Cyfeiria yr Esgob Rhisiart Davies ato yn ei Epistol at y Cymry (1567) fel y canlyn: "Eithr mor ddiystyr fydday iaith y Cymro, a chyn bellet ir esceulusit, ac na allodd y print ddwyn ffrwyth yn y byt yw gyfri i'r Cymro yn i iaith i hun hyd yn hyn o ddydd neu ychydic cyn hyn i gosodes Wiliam Salsburi yr Efengylon a'r Epystelay a arferid yn yr Eglwys tros y flwyddyn yn Gymraeg yn print, a Syr Jhon Prys yntay y Pader, y Credo a'r X Gorchymyn." Flynyddau lawer ar ol hyn dywed yr Esgob Humphreys (1648-1712), yn ei ychwanegiadau at lyfr Anthony a Wood fod copi o'r llyfr yn ei feddiant ef ar un adeg, ond iddo fyned ar goll. Ceir cofnod am dano yng Nghofrestr Moses Williams (1717) o dan y penawd Bibl,' ac yn y Typographical Antiquities' gan Ames (1749), ond collwyd golwg arno o'r amser hynny nes y cafwyd ef yn Llyfrgell yr Arglwydd Macclesfield yng Nghastell Shirburn. Bellach y mae'r adran Gymraeg o'r llyfrgell werthfawr hon wedi dod yn feddiant i Syr John Williams, Barwnig, ac y mae iddi gartref clyd a diogel ym mysg trysorau y meddyg gwladgarol.

Llyfr di enw

Y mae un neilltuolrwydd arbennig yn perthyn i'r llyfr. Nid oes enw iddo. Bu hyn yn achos i ddyrysu y llyfryddwr llafurus Gwilym Lleyn. Y mae'n eglur ddigon na welodd efe mo'r llyfr, ond er hynny y mae yn gwneyd y nodiad canlynol arno: "Dodwyd Beibl mewn llythyrennau breision ar ben uchaf y ddalen gyntaf, i dynnu sylw mae yn debyg, gan fod rhannau o'r Beibl ynddo, yr hwn oedd hollol ddyeithr yng Nghymru yn y dyddiau hynry." Gwel y darllenydd fod y nodiad yn gwbl anghywir. Fe ddichon i Wilym syrthio i'r gwall hwn oherwydd fod y llyfr yn cael ei restru o dan y penawd 'Bibl' yng Nghofrestr Moses Williams.

Syr John Prys oedd yr awdwr

Gan nad yw enw yr awdwr wrth y llyfr, erys peth amheuaeth parthed ei awduraeth; ond, a barnu oddiwrth dafodiaith ac yng ngwyneb geiriau yr Esgob Davies, nid oes le i amheu nad i'r Deheuwr Syr John Prys y perthyn yr anrhydedd o'i gyhoeddi. Yn ei ragymadrodd, dywed yr awdwr mai er lles ysprydol y Cymry uniaith yr ymgymerodd efe a'r gorchwyl o ddwyn y llyfr allan. "Pechod mawr," meddai, "oedd ado yr sawl mil o enaideu y vyned ar gyfrgolh rac eiseu gwybodaeth y ffydd gatholic, ac y sydd heb wybod iaith yny byd onyd kymraeg." Hwyrach fod y brenin yn cymeradwyo ymgais yr awdwr, o herwydd ar ddechreu y llyfr dywed, "Yr awr nad oes dim hoffach gan ras yn brenhin urddassol ni no gwelet bot geirieu duw ae evengil yn kerddet yn gyffredinol ymysk y bobyl ef, y peth y ddengys y vot ef yn dywyssoc mor ddwyvawl ac y mae kadarn. A phan roes eiswys gymmaint o ddonieu pressennol y genedyl kymry ny bydd lhesgach y gennadhau yddyn ddonyeu ysprydawl."

Ychydig cyn hyn, sef yn y flwyddyn 1536, yr oedd Harri wedi pasio deddf Uniad Cymru a Lloegr, a thrwy sefydlu llywodraeth gref yn Llwydlo, wedi llwyddo i atal rhaib a phenrhyddid gwylliaid a bonedd y wlad; dau ddosbarth o bobl bron yn gyfystyr yng Nghymru yr adeg honno. Llys Llwydlo a'i swyddogion felly gynrychiolai y "doniau presenol," ac yr oedd y maes yn rhydd i Syr John Prys, William Salesbury a'r Esgob Morgan gyflenwi Cymru a "doniau ysprydol."

Trem ar Hanes Cymru.

Hwyrach mai buddiol fyddai taflu cipolwg frysiog ar ystad Cymru yn 1546. Yr oedd y Cymry am ddwy ganrif a hanner wedi talu gwarogaeth, ewyllysgar neu anewyllysgar, i Loegr. Ar brydiau codent mewn gwrthryfel yn erbyn y Sais, brydiau eraill ymladdent frwydrau'r Sais ar wastadedd Ffraingc. Adlewyrchid yr un teimladau yn llenyddiaeth Cymru. Tra yr oedd Cymry yn ymladd dan faner y Tywysog Iorwerth yn Ffraingc, yr oedd Dafydd ap Gwilym yn canu ei gywyddau mwynion i'w gariad-ferch Morfydd, ond pan gododd Owen Glyndwr mewn gwrthryfel, cawn Iolo Goch yn ei ddaroganau yn gweled yr Hafren yn llawn o Saeson meirw, ac yntau yn

"Dramwyaw draw yn drais,
Yn droedsych ar fol drud Sais."

Yn ddiweddarach canfyddir yr un cyferbyniad ym marddoniaeth Dafydd ab Edmwnt a Guto'r Glyn, ac yng nghywyddau Dafydd Nanmor a Lewis Glyn Cothi.

Y mae yn bwysig iawn cofio fod Cymru rhwng 1284 a 1536 wedi ei rhannu yn ddwy wlad. Ffurfid Tywysogaeth Cymru o dair sir Gwynedd, Ceredigion ac Ystrad Tywi, a llywodraethid y rhain gan farnwyr a swyddwyr y brenin yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin. Rhenid siroedd eraill Cymru yn diriogaethau bychain, pob un dan ei arglwydd ei hun. Nid oedd hawl, hyd yn oed gan y brenin, i ymyrryd a llywodraeth fewnol y tiriogaethau hyn. O fewn cylch ei arglwyddiaeth gwnai yr arglwydd y peth a fynnai; dedfrydai y diniwaid i farwolaeth, neu achubai einioes yr euog; nid oedd yn atebol i neb. Mae pob tyst yn cytuno fod ystad Cymru yn nechreu unfed ganrif ar bymtheg yn resynus i'r eithaf. Nid oedd bywyd neb yn ddiogel. Pe cyflawnid y llofruddiad mwyaf anfad cawsai y llofrudd noddfa ddiogel yn un o'r arglwyddiaethau bychain. Trigai haid o ladron digywilydd ym mynydd-dir Plynlumon, a llochesai haid arall yn nyffrynoedd Mawddwy. Rhuthrent i lawr i'r gwastadedd ar bob ochr, a difrodent yr holl wlad. Llofruddiwyd Barnwr y Brenin ar ei ffordd o'r Sesiwn yn Rhaiadr, gan fagad o wylliaid Arwystli.

Ond trown i gyfeiriad arall. Ganrifoedd cyn hyn yr oedd amryw o dywysogion ac arglwyddi Cymru wedi trosglwyddo tir i'r gwahanol urddau Eglwysig. Teimlai hen dywysog, feallai, ar ol oes o ymladd yn erbyn gelynion ei wlad, fod yn rhaid iddo wneyd iawn am ei weithrediadau pechadurus. Hwyrach fod esgob neu fynach wrth ei benelin, a chyn pen hir cyflwynwyd rhyw lanerch brydferth yng nghilfachau y mynyddoedd i ofal y Brodyr Du neu'r Brodyr Llwyd, tra rhedo dwfr. Mewn cymoedd neilltuedig a dyffrynoedd anghysbell, ar draws ac ar hyd Cymru, codasant hwythau, y mynachod diwyd, eu mynachlogydd a'u prior-dai prydferth. Ac oddi amgylch yr adeiladau, lle nid oedd o'r blaen ond eithin a grug a garwdir diffaith, wele erddi a gwinllanau a physgod-lynoedd hyfryd yn ymrithio i'r golwg. Yma y trigai aml i hen bererin o Gymro, ac yma yr ymneilltuai yn hwyrddydd bywyd lawer i hen fardd i alaru am ryddid Cymru, ac i broffwydo am waredwr nad oedd byth i ddod. Byddai y brodyr ieuainc yn trin y tir, a'r hen yn gofalu am y tlodion, ac hwyrach y codai o'u plith ambell i fardd neu lenor, i gadw yn ofalus hanes a thraddodiadau eu cenedl. Dichon eu bod yn ofergoelus, yn rhoddi cred mewn llawer chwedl ffol; eto iddynt hwy yn fwy na neb, rhaid diolch am gadw yspryd Cymru yn hoenus, a'i llenyddiaeth yn fyw trwy ganrifoedd o orthrwm a thywyllwch. Ond erbyn dechreu yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd yr yspryd yn gwanychu a'r corff yn llesghau, ac hwyrach fod llawer o ddiofalwch ac esgeulustra wedi llithro i mewn, a llawer o'r purdeb cynhenid wedi ei golli. Yn yr adeg hyn, pan yr oedd rhaib a gormes yn llywodraethu'r wlad, a phan yr oedd crefydd Cymru yn isel, daeth gwaredigaeth o Loegr.

Yn 1536, pasiwyd deddf Uniad Cymru a Lloegr. Gwnawd i ffwrdd a'r mân diriogaethau, rhanwyd Cymru yn siroedd, a rhoddwyd cynghor yn Llwydlo i lywodraethu'r wlad. Rowland Lee, Esgob o Sais oedd ben ar y Cynghor. Mewn naw mlynedd yr oedd y gŵr hwn wedi ysgubo Cymru yn làn. Dywed un hanesydd iddo grogi 5,000 o ladron ac yspeilwyr yn ystod chwe blynedd.

Tua'r un amser dadwaddolwyd a dadgorfforwyd y mynachlogydd, a dadseiliwyd llywodraeth y Pab yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, yn anffodus, nid oedd dim i gymeryd lle y grefydd Babaidd, yr oedd yr offeiriaid yn ddiog ac anwybodus, nid oedd un diwygiwr mewn golwg. Dilynai y Cymry eu hen arferion, er gwaethaf gorchymynnion y Brenin a'i esgobion, aent ar eu pererindodau i'r ffynnonau cysegredig, cynneuent ganwyllau o barch i'w seintiau, addolent eu delwau yn y dirgel, cadwent eu creiriau sanctaidd a chyfrifent eu paderau. Ychydig a fedrai ddarllen, a llai fyth a fedrai ysgrifennu. Yn y cyfwng yma, pan oedd addysg Cymru wedi diflannu, a'i chrefydd wedi dirywio, cawn ddau o wyr y gyfraith yn unig ar ddihun. Syr John Prys a William Salesbury gynneuodd y goleu sydd wedi dwyn y Cymry o'r tywyllwch i sefyll yn y rheng flaenaf o bobl ddiwylliedig y byd.

Yn y Llyvyr Hwnn.

Llyfr i'r werin yn bennaf oedd llyfr Syr John Prys. Gofal cyntaf yr awdwr oedd rhoi cyfarwyddiadau i ddarllen yr iaith. Ymgeisiodd hefyd at wneuthur trefn ar ei llythreniaeth, a phe bai William Salesbury wedi dilyn Prys yn y mater hwn, hwyrach y byddai iaith pwlpud a gwasg Cymru dipyn yn fwy cydweddol a'r iaith lafaredig. Wedi'r traethawd ar lythreniaeth daw'r Calendyr. Y mae hwn yn neilltuol o ddyddorol, gan ei fod yn cofnodi dyddiau gwyl cynnifer o seintiau Cymru.[1] Ar waelod pob tudalen ceir cyfarwyddiadau i'r amaethwr pa fodd i drin ei dir, a gofalu am ei ardd, a chredwn fod Syr John yn wr o brofiad pan yn sôn am y pynciau hyn. Wedi'r Calendyr daw'r Gredo, y Pader, yr Ave Maria, a'r Deg Gorchymyn.

Hyd yma y mae'r llyfr yn dilyn yr un drefn a'r llyfrau Plygain Seisneg argraffwyd tua'r un adeg. Geilw rhai ef yn "Primer" am y rheswm yma. Ond, a siarad yn fanwl, nid yw yn Brimer, gan mai math o lawlyfr at wasanaeth teuluaidd oedd hwnnw, ac yr oedd ynddo liaws o weddiau boreuol a hwyrol, ac hefyd emyn neu ddau. Cyhoeddwyd o leiaf dri argraffiad o'r Llyfr Plygain yng Nghymru cyn 1640; un yn 1618, un arall yn 1633, ac un rhwng y ddau ddyddiad yma. Y mae y rhan olaf o'r llyfr yn cynnwys rhestr o'r saith pechod marwol wedi eu dosrannu yn wahanol benau. Hwyrach fod Syr John wedi codi sylwedd hwn oddiwrth un o'r traethodau crefyddol oedd mor gyffredin yn y canol oesoedd. Os cymherir ef a'r traethawd "Py Delw y dyly Dyn credv y Duw" a argraffwyd gan y Proff. J. Morris Jones yn Llyfr yr Ancr (tud. 141-3), gwelir fod cryn debygolrwydd rhyngddynt. Fel rheol, arferir yr un geiriau í ddynodi y pechodau a'u ceingiau,' chwedl Syr John. Cyfaddasiad, mwy na thebyg, yw y rhan olaf o'r llyfr o ryw ysgriflyfr Cymraeg.

Mae llawer o wallau argraffyddol yn y llyfr, ond ein dyledswydd ni oedd dilyn y gwreiddiol er mwyn i'r adargraffiad fod mor debyg iddo ag oedd yn ddichonadwy. Lle methwyd gwneuthur hyn, rhoddir rhifnod uwchben y gair er mwyn dangos y gwall. Er esiampl, dynoda y rhifnodau 1, 9, 10-20, 22-25, 38-9, 40-6, fod accen ar y llafariaid yn y geiriau hyn; rhifnodau 2-8, 21, 26, 47, fod y llythyren 'It' ar goll, a rhifnodau 27-37, 48, 49, fod to wedi ei argraffu yn lle. Y mae'r awdwr ei hun yn syrthio i'r gwall olaf yn fynych.

Ai hwn oedd y llyfr cyntaf yn yr iaith.

Er ein bod yn credu mai hwn oedd y llyfr cyntaf argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, eto nid oes sicrwydd am hyn. Nid oes dyddiad wrth "Oll Synnwyr Pen Kembero." Argraffwyd ef gan Nycholas Hyll, a gwyddom ei fod ef yn argraffu llyfrau rhwng 1546 a 1554.[2] Y mae cyfeiriad yn y rhagymadrodd at waith John Heywood yn cyhoeddi ei gasgliad o Ddiarhebion Saesoneg. Daeth y llyfr hwnnw allan yn 1546, medd Lowndes, ac felly ysgrifenwyd y rhagymadrodd gan Salesbury yn, neu wedi y flwyddyn honno. Cyfeiria Salesbury hefyd at Polydore Vergil fel "un o'r dyscedickaf heddy o wyr llen Lloecr," a chasglwn oddiwrth hyn fod Polydore ar dir y byw. Bu ef farw yn 1555. Dywed Salesbury ymhellach, "Pererindotwch yn droednoeth at ras y Brenhin ae Gyncor y ddeisyf cael cennat y cael yr yscrythur lan yn ych iaith." Bu Iorwerth VI. farw yn 1554. Felly y mae'n lled glir fod y llyfr wedi ei argraffu rhwng 1546 a 1554. Cyhoeddodd William Salesbury ei Eiriadur Cymraeg a Saesneg yn 1547, a llyfrau eraill yn 1550 a 1551, a'r casgliad naturiol yw mae tua'r un amser yr argraffwyd "Oll Synnwyr Pen Kembero." Os felly llyfr Syr John Prys oedd y cyntaf argraffwyd yn yr iaith.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gwel llyfryn y Parch. John Fisher, The Welsh Calendar.'
  2. Arber's Stationers' Registers, vol. v. xciv; Catalogue, British Museum; Ames' Typographical Antiquities, vol. iv., p. 230-6.