Yny lhyvyr hwnn/Y deng air deðyf, ney yr dec gorchymmyn Duw
Gwedd
← Y gredo, ney bynkeu yr ffyð gatholig | Yny lhyvyr hwnn gan John Prys golygwyd gan John H. Davies |
Y gwydyeu gochladwy → |
Y deng air deðyf, ney yr dec gorchymmyn Duw.
NA vid yt vn geuduw, rhac vy wyneb i.
Na wna yt ðelw gervedic, na lhyn dim ar y syð yny nefoeð o uchel, nac yn y ðayar o issel, nac yn y dyfwr is law yr ðayar: na orestwng yðynt, nac anrhydeða hwy.
Na chymmer enw dy arglwyð ðuw yn over.
Koffa santeiðo dy ðyð sul.
Anrhydeða dy dad ath vam.
Na Lað neb.
Na wna oðineb.
Na ðwc gam dystoliaeth yn erbyn dy gymmodawg.
Na whennycha dy dy gymmodawc, nae wraig. nae was mae vorwyn, nae ych, nae assen, na dim ac y vo eiðaw.
Krist a roes yn ni ðeu orchymmyn er kyflawny yr holh degair uchod.
KAr dy arglwyð ðuw oth holh gallon, oth holh enaid, oth holh nerth, ac oth holh veðwl A char dy gyfnessaf yn gymemt a thi dyhun.