Yny lhyvyr hwnn/Y gwydyeu gochladwy
← Y deng air deðyf, ney yr dec gorchymmyn Duw | Yny lhyvyr hwnn gan John Prys golygwyd gan John H. Davies |
Saith Rinweð yr egglwys. → |
Y gwydyeu gochladwy. Y saith pechod marwol
Syberwyd neu valcheð.
Kenvigen, ney gyghorvynt.
Digasseð, neu irlhoneð.
Lhesgeð neu ðiogi.
Aggawrdeb ney gebyðiaeth.
Glythineb.
Godineb, ney aniweirdeb.
Y kampeu arveradwy. Kampeu da gwrthwyneb yr gwydieu vchod.
Vfyðdawt.
Kariat.
Anmyneð.
Ehudrwyð.
Haelioni.
Kymedrolder.
Diweirdeb.
Keingyeu syberwyt. xvi.
Ymvychaw. Yw na oðefer neb yn gyfuwch nac yn gyfrad.
Bocsachu. Kymeryd o wr vod eiðaw y peth nyd ydiw.
Ymdrychauael. Ymrhagori ehun gan dremygu erailh.
Anostwng. Ny ðarestwng y welh neu bennach noc ef.
Drudannaeth. hirdrigyat meðwl ar y drwc.
Ymchwyðaw. ymwrthlað yn tremygus yn erbyn awdurdot henafyon.
Kynhennu. Bloeðgar gynghewseð yn erbyn gwirioneð.
Anoðef. Gwylhtineb meðwl heb y ffrwyno.
Anuvyðdawt. Anostwng y vchafion ae gorchymynneu.
Tremyc. Gwalhus ebryvygu gwneythur y ðirperer.
Rhac ymgymryt. yw gommeð dylyedus anrhydeð y hynafion.
Kelhweir. afreolus ymgeiniaw drwy chwareys watwar.
Geugrevyð. kiðio y veieu, a dangos kampeu heb y bot.
Tralhavarieyth. gormoð olhwng tra orwagion barableu.
Tra achub. Trachwant y gael anrhydeð er clot tranghedic.
Clot orwac. gwyðyus oruoleð am gampeu y vo neu ny bon gantaw heb rodi moliant y ðuw am danunt.
Keingieu kenvigen.
Gogan, yw anglotvori aralh yny absein.
Anglot. yw goganu aralh yn dwylhodrus yny absein.
Absenair. yw kyfarthgar ogan hustyngus yn absenn aralh.
Klysthustingas, yw kashusting ðychymmyg drwg wrth, vedianneyd neu swyðogion y golhedu aralh o ðigasseð arnaw.
Dybrydrwyð, yw gwrthynebu clod oralh am y werthredoð da.
Melhtigaw, yw bwrw dryc dyb yn erbyn gweithred da, a chamysturyaw. kyvarsagu da a chydiaw clot.
Drycðychymic, gyrru ar aralh newyð ogan yn gelwyðawr.
Digasseð, yw anuynnu lhes neu damwein da y aralh.
Anghyweirdeb, yw aniolwch y aralh y da.
Kas chwerwder, yw gwenwynuar diffeith vedwl dirann o leweryð.
Anundeb, yw kassau aralh, hyt na mynner bod yn vn ac ef.
Gwatwar, yw kelhweirus digryswch, y dremygu aralh.
Kuhuðaw, yw menegi drwg ar aralh gerbronn brawdwr wrth, Y golhedu.
Kas yw angharu aralh drwy rhybychaw drwg idaw.
Keingyeu digasseð.
Cas, val y dywetpwyd vchod.
Anundeb, yw ymwahanu or rhai a notteint ymgaru.
Kynhen, yw sarhaed ar eireu megys ymchwyrny.
Ymwychyaw. yw ymsarhau drwy ar eireu rhoddigyon.
Anoðef, yw anwaharð tervyscus wylhtineb meðl heb y dovi.
Ymserthu. yw ymdorri drwy ðeisyuyd gyffro meðwl mewn geireu serthyon.
Mawrðrygeð. yw dichelhus ystriw y golhedu aralh.
Dryc ewylhus. yw rhybuchaw drwg y aralh, kynn nys galher ar weithred.
Kyndareð. yw colhi synwyr o dra lhid.
Tervysc. lhithredic gnawdoliaeth a ðel o vrenuolyath medwl.
Dryc anian, yw arðangos ar wyneb chwerwder meðwl.
Lhovruðiaeth. a wnair drwy weithred, megys pan laðo ðyn aralh. yn weithredawl.
Keingieu lhesgeð. ix.
Ergryn, yw ovynhau dechreu gwneythur da.
Mevyt. yw blinder wrth orffēnu da dechreuedig.
Lheturyt, yw ovynhau dechreu peth mawr aðwyn.
Gwelhyc, yw gwalh am wneythur y peth rhwymedic.
Ambruðder, yw na racweler am y pethen a ðelont rac lhaw.
Angkalhder, yw gochel rhyw bechod, yny syrthier yn aralh.
Trymlvowrwyð. lhesgu gorffennu y peth rhwymedic y ðiweðu.
Anwybot, yw na roðo gwr y weithred y gwplau yr vn vath beth.
Gorwagrwyð, yw parablu segurion eiryeu yn orwag.
Keingyeu Aghawrdeb neu gebyðiaeth. xv.
SYmoniaeth, yw prynu neu werthu peth ysprydawl.
Vsur, yw kymryd mwy no dleyed, drwy werthu yr amser.
Lhedrad, yw kymryd da aralh heb wybod yr perchennawg.
Herwryaeth, yw kribðeilaw da aralh yn ðirgel.
Anudon, yw kadarhau kelwyð drwy lw.
Kelwyð, yw dywedyd ffalsteð, drwy ynni twylhaw aralh.
Treis, yw yspeilo arall oy ðað yn anghyvarchus.
Anghyvarch, yw kymhelh aralh y wneythur y peth nys dleye.
An orffwys. yw kyffroi aralh yn enwir heb achos
Kamvarnu, yw barnu yn anghyfreithawl.
Drudannyaeth, yw kynnal yn ormoð ygyt ar drwg.
Brad, yw somi aralh yn dwylhodrus drwy wenieth.
Twylh, dirgeledic vawrdynged drwy wenieyth y sommi aralh.
Falsteð, Kuðiaw drucvycheð drwy ymðangos santeiðrwyd.
Ymolhwng, ymroði y gynullyaw da, heb ðarbot pa weð y caffer.
Kamweð, yw gyrru ar aralh veieu y wypo na bont arnaw.
Keingyeu glythyneb. xii.
Rhythni, yw kymryd gormoð vwyd.
Meðdawt, yw kymryd gormod o diodyð.
Folhaelder, yw treulo yn anghymedrol, lhe ny bo rhaid.
Anymgynnal, yw rhacvlaenu tervyn gossodedic y gymryt bwyd.
Angkymedrolder, Trachwennychu gormoð o vwyd neu ðiod.
Angkywilyð, dywedud croessau eirieu angkrevyðus.
Gorwac ym adrawð, yw dywedyd geireu drwy orwagrwyð seguryd.
Aniweirdeb glythni yw arðangos trachwant meðwl o vewn glythineb.
Anaðvwyndra, yw keisio gormoð anrhegion o vwyt blyssic.
Anhynawster, yw arver o dra gormoð o wiscoeð werthvawrussyon.
Tordynn yw, tragorthrymder y gallonn gan ormoð destlusrwyð.
Ehwyt, yd yw kymryt gormoð o vwyd neu ðiod yn y orffo, y adver drachefyn, a hynny drwy chwyðu.
Keingyeu Aniweirdeb. vii.
¶Fyrnigrwyð yw pob kyt gnawtawl ymaes o wely priawt.
Godmeb, yw kydiaw o wr priawt a gwreic aralh, neu wrthwyneb y hynny.
Tralhosgrach, pechu wrth gar neu gares, neu gyvathrachðyn.
Anghewilyd, yw arðangos aniweirdeb meðwl ar arwyðon o dieythyr.
Pechawd yn erbyn anian, gelhwng dynyawl had yn am gen le nac y vo tervynedic y hynny.
Drycchwant, meðwl ar y wahardeð c vedaltwyd eidunet.
Pechawd, lhwdyngar, yw pechu wrth ansynhwyron aniveileyd.