Yr Hafod Lom (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)
Mae Yr Hafod Lom yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi
- Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
- Er ei bod hi'n drom o siwrne,
- Mi gaf yno ganu cainc
- Ar ymyl mainc y simdde;
- Ac, ond odid; dyna'r fan
- Y bydda i tan y bore.