Neidio i'r cynnwys

Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Bachgen

Rhagymadrodd

Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall, - a chyda hwy daw atgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n clust yn ôl, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid.

Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth, - y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall, - yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneud i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar. Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechrau. Hwy ddefnyddia'r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt, - Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau eraill. Gwneir iddynt

chware a'i gilydd; llechant yng nghysgod ei gilydd, siaradant a'i gilydd; ant gyda'i gilydd i chware, neu i hel gwlân, neu i ladd defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi'r adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.

Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy'r un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n wyllt ar y glin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaith mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala, - dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd. Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai'r plentyn i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cêl bach yn esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.

A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg orau plentyndod. Am genedlaethau'n ôl, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r dull hwnnw yw, - dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd drawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i sŵn rhyw hen gerdd hwian, - dyna faban ar ben gwir lwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim dweud yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r hwiangerddi. Ynddynt hwy geir llais greddf mamau'r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaith llawenydd iach.

A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiamau. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chrymaf a sicraf yw hwn, - darllenwch ei darllenwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a di-chwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu'r un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afieithus yn ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylliedig a'i hanes yn glir oddi wrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill, -

"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."

Disgwylir i mi ddweud, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw'r rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddi wrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg, - nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynnaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododdin ac yn paratoi'r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o ŵyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal â phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneud y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy,[1] a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr Harry Evans ym Merthyr Tydfil.[2]

Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw bod yr hen hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.

OWEN M. EDWARDS.

Nodiadau

[golygu]
  1. Hwiangerddi Cymru. Rhan I. Darluniau gan Winifred Hartley. 2s. 6d. Conwy: R. E. Jones a’i Frodyr.
  2. Welsh Nursery Rhymes. Collected by Cadrawd. Arranged by Harry Evans. 2s. The Educational Publishing Company, Merthyr.