Yr Ogof/Pennod I

Oddi ar Wicidestun
Yr Ogof Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod II


I



YR oedd hi'n fore'r Sabath a pharatoai'r teulu a'r gweision a'r morwynion oll i fynd i'r synagog. Gofalai Joseff am hynny disgwyliai i bawb o'i dy ac o'r teios ar ei ystad fod yn y cwrdd. A chan mai ef a oedd piau'r rhan fwyaf o Arimathea, ei weithwyr a'i wcision ef oedd tri chwarter y gynulleidfa. Yn wir, "Tŷ Joseff" y gelwid y synagog newydd gan rai eiddigus o'i gyfoeth a'i awdurdod yn yr ardal. Yn bennaf am mai ef a roes y tir i'w godi arno ac a dalodd y rhan fwyaf o gost ei adeiladu, ond hefyd am na wnâi'r hazzan, y gweinidog, na'r Rheolwr fawr ddim heb ymgynghori ag ef yn gyntaf. Ni ddychmygai'r swyddogion am gynnal unrhyw gyfarfod arbennig heb ofyn barn Joseff ar y pwnc, ac ni ddosberthid arian y tlodion heb roi cyfrif manwl iddo. Ac ers blynyddoedd bellach, ef oedd Llywydd yr henuriaid a etholid gan y synagog i weinyddu'r gyfraith yn y cylch.

Teyrnasai Joseff fel brenin yn Arimathea. Yn arbennig ar y Sabath. Yn ystod yr wythnos gadawai'i weithwyr yng ngofal ei oruchwyliwr, Reuben, a phur anaml yr ymyrrai ef á hwy. Ond ar y Sabath taflai lygaid ymchwilgar arnynt oll, gan ddisgwyl iddynt ymddwyn yn deilwng o'r dydd. Nid ei fod yn orgrefyddol fel y Phariseaid, yn ceisio cadw pob math o fan reolau dienaid. O na, yr oedd y Gyfraith foel yn ddigon da iddo ef, fel yr oedd hi cyn i'r Phariseaid a'r Rabbiniaid ddyfeisio'n llu o orchmynion newydd. Gwneud bywyd yn faich i bawb yr oeddynt hwy a'u rheolau.

Aeth allan ar hyd llwybr y berllan, gan fwynhau heulwen y gwanwyn a gorfoledd yr adar. Pan gyrhaeddodd hi, pwysodd ar y glwyd wrth y ffordd fawr a redai i lawr y bryn tua'r pentref, a syllodd mewn balchder ar lethrau'r gwinwydd oddi tano. Er mai ef ei hun a ddywedai hynny, nid oedd gwinllannoedd i guro'i rai ef drwy holl Jwdea. Sylwodd gyda boddhad ar y frwynen wedi'i chlymu'n daclus am ambell gangen oddi ar y cangau hynny, a addawai roddi'r grawnwin gorau, y tynnid y blaenffrwyth ar gyfer y Deml yn Jerwsalem.

"Henffych, Joseff!"

Ei gymydog Joctan a ymlusgai heibio ar ddwy ffon : gan fod yr hen frawd mor fethedig, cychwynnai tua'r synagog ymhell o flaen pawb arall.

"Henffych, Joctan! Bore braf?"

Gwyddai Joseff beth fyddai'r ateb. Grwgnachwr heb ei ail oedd Joctan, a pha beth bynnag a ddywedech wrtho, chwiliai am rywbeth yn groes i hynny.

"Gweddol, wir, gweddol, Joseff, ond bod yr awel braidd yn fain, onid e ? Main iawn i hen bobl fel fi. A'r ffordd yn bell i'r synagog newydd, wrth gwrs."

Ergyd i Joseff oedd y frawddeg olaf. Pan aethpwyd ati i godi'r synagog, dadleuai'r hen Joctan mai ar y llethr gerllaw ei dŷ ef y dylid ei hadeiladu. Byddai hynny'n hwylustod mawr iddo ef, a gwnâi les i bawb arall gerdded bob cam i fyny o'r pentref. ryw filltir o ffordd. Siaradai'n huawdl ar y pwnc, er na chyfrannai'r hen gybydd ond ychydig iawn tuag at y treuliau.

"A ewch chwi i Jerwsalem at y Pasg, Joctan?"

"Ddim eleni, Joseff, ddim byth eto, y mae arnaf ofn. Na, rhy hen i'r daith, bellach. Mi fentrais y llynedd, fel y cofiwch chwi, a bûm yn fy ngwely am dair wythnos wedyn. Rhy ffaeledig i ddim erbyn hyn, er fy mod i'n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr hen synagog newydd 'na bob amser mewn pryd er gwaethaf y pellter a'r . . ."

"O, fe gryfhewch chwi eto gyda'r gwanwyn 'ma a'r tywydd cynnes, Joctan."

"Na wnaf." Yr oedd ei dôn yn llym a herfeiddiol, a hyfdra oedd i neb amau'r gosodiad.

Dyn tal a thenau oedd Joctan a'i wyneb wedi crebachu fel hen afal—ond afal sur. Clymodd Amser ugeiniau o linynnau tros ei wyneb a'u tynhau gymaint nes bod yn rhaid iddo aros ennyd i geisio'u llacio cyn trio gwenu neu synnu neu fynegi rhywbeth ar wahân i'w sarugrwydd gwastadol. Ef oedd echwynwr yr ardal, a gwae'r neb a fethai dalu'r llog iddo.

"Pa bryd y cychwynnwch chwi, Joseff?"

"Bore yfory. Y mae arnaf eisiau gweld amryw o bobl yn Jerwsalem cyn yr Ŵyl. Ac efallai y bydd yn rhaid imi fynd i rai o bwyllgorau'r Sanhedrin."

Ceisiai Joseff swnio'n ddifater, gan wybod bod yr hen Joctan yn bur eiddigus o'i safle fel aelod o'r Sanhedrin, prif Gyngor y wlad.

"Wel, braf yw'ch byd chwi, wir, braf yw'ch byd chwi . . . O, Joseff?"

"Ie, Joctan?"

"Mi gofiais i enw'r saer hwnnw. Neithiwr yn fy ngwely. Methu cysgu. Rhyw hen wayw yn fy nghoesau i.

"Saer?"

"Ie, y dyn a wnaeth y dysglau pren hynny."

Cofiodd Joseff iddo edmygu pentwr o lestri pren yn nhŷ Joctan. Prynasai'r hen frawd hwy gan ryw saer yn Jerwsalem.

"Heman—dyna'i enw, Heman y Saer. Y mae'n byw yn ymyl y Deml."

"Yn Ophel?"

"Nage, yn Seion, heb fod ymhell o'r Bont."

Rhan orllewinol Jerwsalem oedd Seion, a'r Bont oedd honno a groesai tros Geunant Tyropoen i'r Deml.

"Y mae'r dyn yn cael gwaith rheolaidd yn y Deml," chwanegodd Joctan. "Y mae'n grefftwr da."

"Ydyw, a barnu oddi wrth y dysglau 'na. Ni welais i eu gwell erioed, Joctan."

"Ydynt, y maent yn rhai da," cytunodd yr hen gybydd braidd yn anfoddog. "Ond drud, Joseff, drud."

Ni ddywedodd Joseff ddim: petai Joctan yn cael ugain ohonynt am ffyrling, y mae'n debyg y gwelai hwy'n ddrud.

"Wel, caf eich gweld yn y synagog, Joseff—os medraf gyrraedd yno cyn nos, onid e?"

Ymlwybrodd yr hen frawd i lawr y ffordd, gan anadlu ac ocheneidio'n uchel i brofi unwaith eto nad oedd synnwyr mewn codi synagog mor bell oddi wrth ei dŷ ef.

Troes Joseff yn ôl drwy'r berllan. Yn y tŷ, aeth yn syth i ystafell ei fab hynaf, Othniel. Yr oedd ef yn glaf o'r parlys ac yn methu â cherdded, ond gwnaethai saer y pentref gadair arbennig iddo a chludai'r gweision ef ynddi i'r synagog bron bob Sabath. Ond heddiw eisteddai ar ei sedd uchel wrth y tipyn ffenestr, heb arwydd y bwriadai fynd i'r gwasanaeth.

"Bore da, Othniel."

"Bore da, 'Nhad."

"A wyt ti am ddod i'r synagog, 'machgen i?"

"Na, ddim heddiw, 'Nhad."

"Ni theimli'n dda?"

"Ddim yn wych. Heb gysgu rhyw lawer neithiwr."

"O. Gwell iti orffwys ynteu."

Yr oedd ar fin troi ymaith pan sylwodd fod golwg drwblus yn llygaid ei fab. Fel rheol, er gwaethaf ei afiechyd a'i gaethiwed, ymddangosai Othniel yn weddol hapus a digynnwrf, gan dreulio'i amser yn darllen neu fyfyrio neu farddoni'n dawel ar ei sedd wrth y ffenestr neu allan ger y nant a redai hyd fin y berllan. Ond heddiw yr oedd rhywbeth wedi'i gythryblu.

"Beth sydd, Othniel?"

"'Nhad?"

"Ie, 'machgen i?"

"Y mae'n rhaid imi dorri f'addewid i chwi. Cofiwch imi addo na soniwn wrthych eto am y proffwyd o Nasareth."

Caledodd llygaid Joseff. Yr oedd yn hoff iawn o'i fab ac ni chofiai iddynt ddadlau na chweryla am ddim erioed. Hyd rai dyddiau'n ôl, pan ddychwelodd ei hen gaethwas Elihu o Galilea yn llawn o hanesion am ddywediadau a gwyrthiau'r ffŵl o saer a gynhyrfai'r bobl i fyny yno. Rhyw Iesu bar Joseff a fu'n saer yn Nasareth ond a grwydrai'r wlad ers yn agos i dair blynedd bellach, ef a'i ddisgyblion, gan gymryd arnynt wneud gwyrthiau a gyrru ysbrydion drwg allan o bobl. Bu cyfnod pan gâi'r dyn bregethu yn synagogau'r Gogledd, ond pan glywodd gwŷr y Deml yn Jerwsalem am ei hyfdra—a'i boblogrwydd, buan y gyrrwyd Ysgrifenyddion i fyny i Galilea i wylio a gwrando trostynt eu hunain ac i droi'r synagogau yn ei erbyn. Ond ni wnaeth hynny fawr ddim gwahaniaeth, oherwydd pregethai yn awr hyd fin yr heolydd neu ar lechweddau'r bryniau neu gerllaw Llyn Gennesaret, a daliai ef a'i fagad o bysgodwyr anllythrennog i gynhyrfu'r bobl er gwaethaf pob rhybudd. Daeth ei enw i fyny droeon yn y Sanhedrin, a chytunai'r Cynghorwyr y dylid ei ddal a'i gaethiwo pan ddeuai i Jerwsalem. Ond, gan ofni i'r pererinion o Galilea godi cynnwrf yn y ddinas, ni wnaed hynny. A cheisiai Joseff a phob Cynghorwr arall anghofio am y dyn a'i ffolineb, gan obeithio y blinai'r bobl ar hwn fel ar lawer "Meseia" arall a godai o dro i dro. Ond yn awr wele'i fab ei hun, Othniel, yn sôn amdano gyda . . . ie, gyda dwyster. Yr oedd yr hen gaethwas Elihu yn haeddu'i fflangellu am ddwyn y storïau hyn i lawr o'r Gogledd.

"Nid wyf yn gofyn llawer cymwynas gennyt, Othniel, ond gwyddost nad oes arnaf eisiau clywed sôn am y terfysgwr hwn."

"Addewais na chrybwyllwn ei enw eto wrthych, 'Nhad, ond y mae'n rhaid imi, y mae'n rhaid imi."

"Y mae'n rhaid i minnau gychwyn i'r synagog," meddai Joseff, gan droi'n benderfynol tua'r drws. "Nhad!"

Yr oedd taerineb y llais bron â bod yn orchymyn chwyrn. Edrychodd Joseff yn syn ar ei fab. Un addfwyn iawn oedd Othniel, dwys a breuddwydiol bob amser, heb fod byth yn cythruddo. Beth yn y byd a oedd arno heddiw?

"Wel?"

"Yn ôl eich dymuniad, peidiais â sôn am y Nasaread hwn wrthych. Ond er nad oedd ei enw ar fy nhafod, yr oedd ef a'i wyrthiau yn fy meddwl."

"Hy! Gwyrthiau, wir!"

"Breuddwydiwn amdano ef a'i ddisgyblion . . ."

"Criw o weilch heb ddim gwell i'w wneud na chreu cynnwrf hyd y wlad."

"Breuddwydiwn amdano ef a'i ddisgyblion yn dod yma i Arimathea, yn dringo'r bryn tuag at y tŷ, a minnau'n cael fy nghludo ato gan yr hen Elihu a Simeon.

"I'th wella, y mae'n debyg!" meddai Joseff yn ysgornllyd. "Ie, i'm gwella ganddo, 'Nhad," atebodd ei fab yn dawel, "ac yna i wrando ar ei efengyl."

"Ac wedyn buasai mab y Cynghorwr Joseff o Arimathea yn mynd gydag ef hyd y wlad i'w ddangos ei hun fel anifail mewn sioe, fel enghraifft o allu'r swynwr o Galilea."

"Yn fy mreuddwydion," meddai Othniel, heb gymryd sylw o'r dirmyg hwn, "gwelwn ei wyneb hardd a'i lygaid tawel, eofn. Yr un wyneb a welwn bob tro, a gwenai'n garedig arnaf, gan fy mendithio a'm hannog i fod yn ddewr. Ond neithiwr mewn breuddwyd—na, y mae'n rhaid i chwi wrando, 'Nhad—neithiwr mewn breuddwyd. . .

"Gwelaist y Nasaread hwn yn codi'i law a'r Archoffeiriad a'r Sanhedrin yn gwrando ar bob gair o'i eiddo ac yn ymgrymu o'i flaen." Yr oedd Joseff yn dechrau colli'i dymer.

"Neithiwr mewn breuddwyd"—cadwai Othniel ei lais yn dawel a thaer—"gwelwn y proffwyd ifanc o Nasareth yn sefyll tu allan i ogof dywyll, afiach. Yr oedd ei ddwylo'n rhwym a'i wedd yn welw gan flinder, ond safai yno'n wrol a chryf a'r heulwen ar ei wyneb a'r awel iach yn chwarae â modrwyau'i wallt. Ymddangosai i mi fel darlun o lendid a rhyddid a dewrder. Glendid, er bod olion gwaedlyd y fflangell ar ei wisg. Rhyddid, er ei fod yn rhwym. Dewrder, er y dywedai'i lygaid wrthyf fod ei fywyd yn nwylo cynllwynwyr yr ogof gerllaw."

"Pam y mynni i mi wrando ar y sothach hwn, Othniel?" "Yn yr ogof gwelwn amryw o wŷr pwysig a chyfoethog eu golwg a hardd eu gwisg yn cilwenu'n hyll ar ei gilydd. Yn ddieflig o hyll a'u hwynebau fel rhai rhyw anifeiliaid melltigedig o greulon. Pan edrychais i arnynt hwy, fe droes y breuddwyd yn hunllef. Deffrois mewn dychryn . . . 'Nhad?"

"Ie?"

"Adwaenwn un o'r wynebau hyn yn dda, er iddo ymddangos mor ddieflig yn fy mreuddwyd."

"A hwnnw?"

"Eich . . . wyneb chwi."

Chwarddodd Joseff, gan geisio swnio'n ddifater, ond yr oedd llygaid taer ei fab yn ei ddychrynu er ei waethaf.

"Ac ystyr y breuddwyd ffôl hwn?" gofynnodd. "Ni wn i ddim. Ond efallai fod ynddo. . .

"Ie?"

"Rybudd."

Chwarddodd Joseff eto, ac yna cofiodd wrth glywed lleisiau oddi allan fod yn bryd iddo gychwyn am y synagog.

"Ceisia orffwys dipyn, Othniel," meddai yn ei dôn arferol a charedig. Yr oedd yn hoff iawn o'r mab addfwyn a breuddwydiol hwn, ac edifarhâi yn awr iddo fod mor llym a gwatwarus wrtho.

"Mi wn fod coel mewn breuddwydion," chwanegodd, "ond nid ym mhob un, 'machgen i. A naturiol iawn yw i ti, gan dy fod yn wael, freuddwydio am y swynwr hwn a'r gwyrthiau' y mae pobl anwybodus ac ofergoelus fel Elihu yn clebran amdanynt . . . "

"'Nhad?"

"Ie, Othniel?"

"Pwy sy'n mynd i Jerwsalem yfory?"

"Dy fam a'th chwaer a'th frawd a minnau, wrth gwrs."

"Ie, mi wn. Ond pwy o'r gweision?"

"O, yr hen Elihu fel arfer i ofalu amdanaf fi a'th frawd, ac Elisabeth i weini ar dy fam a'th chwaer."

"A wnewch chwi un gymwynas â mi, 'Nhad?"

"Gwnaf, wrth gwrs, 'machgen i, os gallaf."

"Hoffwn weld Alys, y gaethferch fach o Roeg, yn mynd i Jerwsalem y tro hwn yn lle Elisabeth."

"Hm. Bydd Elisabeth yn siomedig. Hi yw'r brif forwyn a daeth i edrych ar ychydig ddyddiau yn Jerwsalem ar Ŵyl y Pasg neu Ŵyl y Pebyll fel ei rhagorfraint hi. Hm, bydd yn anodd. Anodd iawn. Pam yr wyt ti am i Alys fynd, Othniel?"

"Y mae'r gaethferch fach yn un anghyffredin, fel y gwyddoch chwi, 'Nhad. O deulu da yn Athen ac wedi cael addysg. Hi yw'r unig ferch y gwn i amdani sy'n gallu darllen. Bûm i'n gweld llawer arni, wrth gwrs, gan ei bod hi'n dod ataf bob dydd i ddarllen yn uchel imi, a siaredais droeon wrthi am Jerwsalem a'r Deml a . . . a Gŵyl y Pasg a . . . a'r pererinion o bob rhan o'r byd."

Siaradai Othniel yn gyflym ac eiddgar i guddio'i yswildod. Ond gwyddai Joseff fod ei fab yn hoff iawn o'r Roeges fach a ddaethai'n gaethferch atynt rai misoedd ynghynt.

"O'r gorau, Othniel, caiff Alys fynd y tro hwn. Gofynnaf i'th fam dorri'r newydd i Elisabeth."

"Diolch, 'Nhad. Bydd gweld Jerwsalem a'r Deml yn agoriad llygad iddi. Diolch yn fawr i chwi, 'Nhad."

"Popeth yn iawn 'machgen i. Hawdd fydd trefnu hynny.' "Y mae'n ddrwg gennyf imi'ch cynhyrfu'r bore 'ma, 'Nhad. Ond bu'r breuddwyd am yr ogof yn ddychryn imi am oriau yn y nos. Yr oeddwn yn falch o weld y wawr yn torri, ac ni fedrwn beidio â sôn wrthych am y peth

"Joseff! Joseff! Y mae'n bryd cychwyn os ydych am fod mewn pryd."

"Dy fam," meddai Joseff â gwên. "Nid oes neb yn y wlad 'ma mor brydlon â hi. Wel, rhaid mynd. Bore da, Othniel."

"Bore da, 'Nhad. A diolch eto.

Yn deulu a gweision, âi cwmni mawr o'r tŷ i'r synagog, y dynion yn gyntaf, pob un yn gwisgo ar ei dalcen y cas lledr yn cynnwys adnodau o'r Ysgrythurau, a'r merched yn wylaidd o'u hôl. Cerddai Joseff ar y blaen gyda'i fab Beniwda, a sylwodd hwnnw ei fod yn dawedog a synfyfyriol yn awr. Yr oedd hynny, meddyliodd Beniwda, yn beth pur anghyffredin, gan fod ei dad yn un mor fodlon a digyffro bob amser. Hm, gobeithio i'r nefoedd na chlywodd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ei fod ef, Beniwda, yn Genedlaetholwr chwyrn ac yn aelod o Blaid Ryddid! Byddai'r olew yn y tân wedyn! Ond rhywbeth arall a'i poenai, efallai, rhywbeth a ddywedasai Othniel wrtho.

Yn y tŷ, galwodd Othniel y gaethferch o Roeg ato. "Alys?"

"Ie, Syr?"

"Mi lwyddais!"

"I gymell eich tad?"

"Ie. Chwi, ac nid Elisabeth, a gaiff fynd i Jerwsalem yfory."

"O, y mae'n dda gennyf, Syr. Yr ydych yn sicr y bydd y Proffwyd o Nasareth yno?"

"Bydd, yn ôl Elihu, ef a'i ddisgyblion, tros yr Ŵyl."

"Af ato y cyfle cyntaf a gaf. O, y mae'n siŵr o wrando arnaf! Syrthiaf ar fy ngliniau o'i flaen, cusanaf ymyl ei wisg, erfyniaf arno i ddod yma. O, y mae'n siŵr, yn siŵr o ddod!" Disgleiriai llygaid Alys, a gwelai Othniel fod dagrau o lawenydd yn berlau ynddynt.

"Dywedais wrth fy nhad mai am i chwi weld Jerwsalem a'r Deml yr oeddwn."

"Ac fe gredodd hynny?"

"Do, wrth gwrs. Petai'n amau am ennyd fy mod i'n eich gyrru at y Nasaread . . . " Ysgydwodd Othniel ei ben yn lle gorffen y frawddeg.

"O, y mae'n siŵr o wrando arnaf!" meddai'r gaethferch eto. "Fe ddaw yma i Arimathea cyn gynted ag y bydd y Pasg drosodd a chewch chwithau eich iacháu ganddo. Ac yna . . .

"Ac yna?"

"Byddwch . . . byddwch yn un o'i ddisgyblion, efallai, ac ewch . . . ewch ymaith gydag ef." Swniai'i llais yn drist yn awr.

"Ac ni . . . ni hoffech hynny, Alys?"

Gwridodd Alys, ond ni fu raid iddi ateb. Yr oedd sŵn carnau march i'w glywed tu allan.

"Clywch, Syr! Y Canwriad Longinus, yn fwy na thebyg."

"Ie, ni synnwn i ddim. Dywedodd y disgwyliai gael ei symud i Jerwsalem cyn yr Ŵyl. Y mae'n galw yma ar ei ffordd. Dewch ag ef i mewn yma, Alys."

"Ar unwaith, Syr."

Brysiodd allan a dychwelodd ymhen ennyd gyda'r canwriad Rhufeinig.

"Croeso, Longinus, croeso! . . . Diolch, Alys."

Syllodd y canwriad ar ôl y gaethferch fel yr âi hi ymaith drwy'r drws.

"Y mae Alys yn edrych yn hapus iawn heddiw," sylwodd. "Ydyw. Yr wyf newydd gymell fy nhad i adael iddi fynd i Jerwsalem gyda'r teulu yfory."

"O! Campus. Yr ydych yn garedig iawn wrthi, Othniel. Y mae'n dda gan fy nghalon imi ddod â hi yma.

Longinus, ar fordaith yn ôl o Rufain rai misoedd cyn hynny, a achubodd y Roeges o'r môr mewn ystorm enbyd. Ond wedi i'r llong gyrraedd Jopa, ni wyddai beth yn y byd a wnâi â hi gan i'w thad a'i mam foddi ar y daith, nid oedd ganddi neb i ofalu amdani. Er ei fod yn ganwriad yn y garsiwn yno, nid adwaenai Longinus fawr neb yn Jopa, a phan laniodd y llong, safodd ar y cei mewn dryswch mawr, a'r Roeges fach yn amddifad a dychrynedig wrth ei ochr. Cyfarfuasai â Rwth, chwaer Othniel, droeon pan oedd hi ar wyliau yn y porthladd, a phenderfynodd fynd ag Alys i'w chartref hi yn Arimathea. Erfyniodd ar y teulu i'w chymryd fel caethferch, a byth er hynny galwai'n weddol aml i holi'i helynt—ac i weld Rwth.

I weld Rwth ar y cychwyn, ond wedi iddo ddod yn gyfeillgar ag Othniel a dechrau sgwrsio ag ef am lenyddiaeth ac athroniaeth, gydag ef y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser ar yr ymweliadau hyn. Oherwydd myfyrwir a meddyliwr oedd Longinus, ac nid milwr, a cheisiodd Othniel droeon ddarganfod pam y gwisgai helm a chleddyf yn lle bod yn athro yn un o golegau Rhufain neu Athen neu Alecsandria. Ond troi'r sgwrs yn frysiog a wnâi'r canwriad bob cynnig, fel petai'n ceisio dianc rhag rhyw atgof.

"Eisteddwch, Longinus."

Rhoes y canwriad ei darian ledr yn erbyn y mur ac yna eisteddodd ar y fainc esmwyth yng nghanol yr ystafell. Agorodd y drws eto a daeth Alys i mewn gyda dwy gwpanaid o win.

"Diolch, Alys," meddai Longinus wrth gymryd ei gwpan. "Clywaf eich bod yn mynd i Jerwsalem yfory?"

"Ydwyf, Syr."

"Yr wyf yn falch iawn. Y mae hi'n ddinas hardd, a chewch weld y Deml fawr. A bydd pobl o bob gwlad yno tros yr Ŵyl. Llawer o Roeg, Alys. Amryw o Athen, yn sicr.

"A rhai o Galilea," meddai Othniel, gan wenu ar y Roeges fel yr estynnai hi gwpan iddo yntau.

"Rhai o Galilea," ebai hithau'n dawel a hapus cyn troi i ymadael.

"Beth yw'r gyfrinach rhyngoch, Othniel?" gofynnodd y canwriad wedi i'r drws gau ar ei hôl.

"Cyfrinach?"

"Ynglŷn â Galilea?"

"Y tro diwethaf yr oeddych yma, Longinus, cofiwch imi sôn wrthych am . . . "

"Y proffwyd hwnnw o Nasareth? Gwnaf yn dda. A glywsoch chwi chwaneg amdano?"

"Naddo. Ond yn ôl Elihu, bydd yn Jerwsalem tros y Pasg. Ni allaf fi fynd ato, wrth gwrs, ac felly . . . "

"Yr ydych yn gyrru Alys?"

"Ydwyf. I erfyn arno ddod yma i Arimathea cyn troi'n ei ôl i'r Gogledd."

"Yr ydych yn credu y gall eich iacháu?"

"Ydwyf, mi wn y gall. Ond yr wyf yn dyheu hefyd am gyfle i'w gyfarfod ac i wrando ar ei efengyl. Y mae Elihu'n credu mai ef yw'r Meseia."

"Meseia?""

"Anghofiais am ennyd mai Rhufeinwr oeddych, Longinus," meddai Othniel â gwên. "Y mae pob Iddew yn disgwyl am y Meseia, am arweinydd o linach y Brenin Dafydd, wedi'i ddanfon gan Dduw i yrru pob gorthrymwr ymaith ac i fod yn frenin yn Jerwsalem. Addawyd hynny gan lawer o'n beirdd a'n proffwydi."

Chwarddodd Longinus yn dawel.

"Hoffwn wybod barn y Rhaglaw Pilat am y broffwydoliaeth!" meddai. "Y mae'r bobl yn dal i roi coel arni?"

"Ydynt. Hyd yn oed yn awr, a chwithau'r Rhufeinwyr ym. mhob tref a phentref o bwys. Yn fwy hyderus fyth yn awr, efallai, a'r trethi bron â'u llethu."

"A gredir hi gan eich tad?"

"Wn i ddim. Nid yw ef byth yn sôn amdani. Y mae byd fy nhad, fel y gwyddoch, yn un braf."

"Hm. Yn rhy braf i boeni am y Meseia hwn?"

"Efallai, wir. Yr ydych chwi'r Rhufeinwyr yn talu'n dda am y gwin y mae'n ei yrru i Jopa a Chesarea, ac fel Sadwcead cyfoethog, y mae'n casáu popeth a gred y Phariseaid.

"Y maent hwy'n disgwyl y Meseia?"

"Y Phariseaid? Ydynt, yn eiddgar, ac yn cysuro'r bobl wrth sôn amdano. Hwy yn fwy na neb sy'n cadw'r dyhead yn fyw."

"Y mae gennych barch i'r Phariseaid hyn—er bod eich tad yn eu casáu?"

"Oes. Rhagrithwyr ofnadwy yw rhai ohonynt yn cymryd arnynt ymprydio, er enghraifft, ac yn gwledda ar y slei!ond y mae llawer ohonynt yn wŷr heb eu hail. Yn byw er mwyn eu crefydd ac yn esiampl i bawb yn eu hufudd—dod i'r Gyfraith. Rhy fanwl, efallai, amryw ohonynt, yn chwerthinllyd o fanwl weithiau, ond . . Ysgydwodd Othniel ei ben yn araf mewn edmygedd.

"Pam y mae'ch tad yn eu casáu, ynteu?"

Tro Othniel oedd chwerthin yn dawel yn awr.

"Dywedais fod byd Sadwcead cyfoethog yn un hawdd," meddai mewn islais, rhag ofn bod un o'r gweision rywle wrth y drws.

"Ac nid yw un y Phariseaid felly?"

"Hawdd! Eu crefydd yw popeth iddynt hwy. Gŵyrant oddi tano fel rhai yn cario baich trwm. Y Phariseaid ysgwyddog y gelwir llawer ohonynt. Y mae ganddynt gannoedd o reolau—ynglŷn â bwyd, a glendid corff, a'r synagog, a'r Sabath, a'r Deml. 'Byddant yn ceisio glanhau'r haul yn nesaf,' yw sylw'r offeiriaid yn Jerwsalem."

"Pam y gwnânt eu bywyd yn faich fel hyn?"

"Credant fod byd ar ôl hwn ac y cânt eu gwobrwyo ynddo."

"Ac nid yw'ch tad yn malio am y byd hwnnw?"

"Y mae hwn yn ddigon da i'm tad," meddai Othniel â gwên. "Ac i bob Sadwcead arall."

"Ac i chwithau, Othniel?"

"Na," oedd yr ateb breuddwydiol. "Y mae arnaf ofn fy mod i'n Pharisead yn hynny. Ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. Fel hwythau, credaf yn y Meseia."

"Ond . . ."

"Ie?"

"Pa siawns sydd gan genedl fach fel eich un chwi yn erbyn Rhufain? Heb fyddin, heb arfau, heb arweinwyr milwrol." "Dim siawns o gwbl, Longinus. Ond y mae pethau sy'n gryfach na byddinoedd ac arfau."

"A'r rhai hynny?"

"Ein Duw a ffydd ein cenedl ynddo."

Cymerodd Othniel rôl oddi ar silff gerllaw iddo a throi ei dalennau nes dod o hyd i'r un a geisiai.

"Hoffwn i chwi wrando ar y gerdd hon, Longinus," meddai. "Ceisiaf ei chyfieithu i Roeg fel yr af ymlaen."

"Gan un o'ch hen feirdd?"

"Ie. Proffwyd o'r enw Eseia. Yr oedd ef yn byw pan oedd byddinoedd Asyria yn llifo tros y wlad. Ond er y gormes a'r anobaith, credai ef y deuai eto ryddid a chyfiawnder drwy'r tir a brenin fel Dafydd i'w orsedd yn Jerwsalem. Nid digon hynny i Eseia. Dylifai cenhedloedd y byd i addoli Iafe, ein Duw ni."

"Yn Jerwsalem?"

"Ie. Dyma'r darn:

A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant,
Deuwch ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob;
ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd,
a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef:
canys y gyfraith a â allan o Seion
a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.
Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd
ac a gerydda bobloedd lawer:
a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau
a'u gwaywffyn yn bladuriau:
ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl
ac ni ddysgant ryfel mwyach.'

"Gweledigaeth gain, Othniel," sylwodd y canwriad. "Ac eofn."

"Ond posibl, Longinus, posibl."

Gwenodd y Rhufeinwr ac yna yfodd o'i win.

"Pa bryd yr oedd y proffwyd hwn yn byw?" gofynnodd. "Eseia? Dros saith gant o flynyddoedd yn ôl."

"Hm. Y mae gan bob proffwyd a bardd hawl i freuddwydio! Ond peth arall yw i genedl gyfan fagu gobeithion ffôl fel hyn."

"Ffôl?"

"Wrth gwrs.

Yr Aifft, Asyria, Babilon, Persia, Syria, ac yn awr Rhufain—gorthrwm yw ei hanes er yr holl ddyheu. Gorthrwm a chaethiwed."

Edrychodd Othniel yn freuddwydiol drwy'r ffenestr, gan sisial,

"Wrth afonydd Babilon,
Yno yr eisteddasom ac yr wylasom,
pan feddyliasom am Seion.
Ar yr helyg o'u mewn y crogasom ein telynau "."

"Anobaith llwyr," sylwodd y canwriad.

"Dim ond am ennyd, Longinus," atebodd Othniel, gan droi o'r ffenestr. "Wrth afonydd Babilon hawdd oedd llaesu dwylo. Yr oedd Jerwsalem a'i Theml yn sarn a'i phobl wedi'u llusgo ymaith i Fabilon. Ond nid llaesu dwylo a wnaethant. Wrth afonydd Babilon yr aethant ati i gasglu ac i astudio'r hen Ysgrythurau. A phan gawsant ddychwelyd i'w gwlad ymhen blynyddoedd, yr oedd ganddynt bellach gyfreithiau a llenyddiaeth heb eu hail."

"Gwych. Ond ni ddaeth eich Meseia. A phe codai . . . " "Ie?"

"Fe'i hysgubid ef a'i fyddin ymaith mewn dim o amser." Cydiodd Othniel eto yn y rhòl a'i dal yn gariadus yn ei ddwylo.

"Eseia!" meddai mewn edmygedd. "Nid ysgubwyd hwn ymaith. Asyria, nid hwn, a ddiflannodd i'r llwch."

Cymerodd ròl arall oddi ar y silff.

"Eseia arall," meddai.

"O, yr oedd mwy nag un?"

"Oedd. Ym Mabilon y canai hwn, rhyw fardd dienw a'i feddyliau'n aur pur. Ym Mabilon, Longinus. Y mae hwn yn aros―ond beth a ddaeth o holl ogoniant Babilon?"

Nodiodd y canwriad yn araf.

"Proffwyd, nid milwr, fydd y Meseia, felly?" gofynnodd. "Yr wyf fi'n ddyn sâl, Longinus," oedd yr ateb, "ac yn cael digon, mwy na digon, o amser i freuddwydio a darllen a myfyrio. Am arweinydd milwrol y mae'r genedl yn disgwyl. Ond tyfodd un peth yn glir iawn i mi yma yn fy nghongl wrth y ffenestr."

"A hwnnw, Othniel?"

"Mai pethau'r meddwl a'r ysbryd sy'n fawr ac yn wir nerthol. Na, nid milwr fydd y Meseia."

"Proffwyd?"

"Fe fydd yn broffwyd." "Meddyliwr?"

"Fe fydd yn feddyliwr."

"Nid wyf yn deall, Othniel."

"Bydd yn fwy na hynny. Yn Fab Duw."

Edmygai Longinus yr Iddewon hyn a'u syniadau crefyddol. Gwych o beth, er enghraifft, oedd addoli un Duw yn lle cannoedd fel cenhedloedd eraill. Mawrygai hefyd y parch a dalent i'w proffwydi a'u Hysgrythurau, a pharchai bobl a adawai i grefydd a'i weision ymwneud â'u holl fywyd beunyddiol. Öeddynt, yr oeddynt yn genedl ar wahân, yn anghyffredin mewn llawer ystyr. Ond yr oedd ganddynt lu o syniadau a defodau na ddeallai ef mohonynt—ac na cheisiai eu deall.

Mab Duw? Mab Duw? Edrychodd mewn dryswch ar Othniel, ond ni ofynnodd iddo egluro.

"A chred eich hen gaethwas Elihu mai'r gŵr hwn o Nasareth yw'r Meseia?" gofynnodd.

"Daeth yn ôl o Galilea yn rhyfeddu at ei weithredoedd yno," atebodd Othniel. "Ac nid yw wedi siarad am fawr ddim arall byth er hynny. Ond nid yng nghyw fy nhad, wrth gwrs.

"A phan ddaw'r Nasaread hwn yma, fe fydd yn eich iacháu?”

"Os daw."

"O, y mae'n siŵr o wrando ar apêl Alys."

Yr oedd cysgod yn llygaid Othniel a chwaraeai'n anesmwyth â'r rhòl yn ei ddwylo.

"Credwn innau hynny," meddai. "Tan neithiwr." "O? Beth a ddigwyddodd neithiwr?"

"Cefais freuddwyd annifyr iawn, Longinus. Gwelwn y proffwyd ifanc hwn yn sefyll yn rhwym tu allan i ogof dywyll ac afiach. A thu fewn i'r ogof yr oedd wynebau ffiaidd a chreulon yn cilwenu ar ei gilydd. Cynllwynwyr.'

"Lladron?"

"Nage. Gwŷr urddasol a phwysig a gwisgoedd heirdd amdanynt. Ac yn eu plith yr oedd wyneb . . . fy nhad."

"Breuddwyd yw breuddwyd, Othniel," meddai'r canwriad, gan godi a chymryd ei darian oddi wrth y mur. "Ceisiwch ei anghofio. Bydd Alys yn sicr o ddwyn y proffwyd yma, cewch weld. Y mae'n siŵr o wrando ar Alys. Ni fedrai neb ei gwrthod hi. Ac wrth erfyn trosoch chwi bydd ei holl enaid . . . "

Yr oedd y gwrid yn llamu i wyneb Othniel, ac ni ddywedodd y canwriad ychwaneg.

"Wel, y mae'n rhaid imi fynd," meddai. "Yr wyf am fod yn Jerwsalem cyn nos."

"Gwell i chwi aros nes daw fy chwaer yn ôl o'r synagog," sylwodd Othniel. "Neu bydd helynt yma."

"Na, y mae'n ddoeth imi gychwyn. Byddaf yn cyfarfod Rwth yn Jerwsalem nos yfory."

"Pa bryd y cawn ni gwrdd eto, Longinus?"

"Wn i ddim, wir. Hawdd oedd imi redeg i lawr yma o Jopa ar ddiwrnod rhydd a mynd yn ôl i'r gwersyll i gysgu. Ond y mae Jerwsalem ymhell."

"Cewch ychydig ddyddiau rhydd cyn hir, efallai?"

"Dau ddiwrnod hollol glir, ymhen rhyw bum wythnos."

"Rhaid i chwi eu treulio yma, ynteu. Cofiwch!"

"Hoffwn hynny, Othniel."

"Campus. Edrychaf ymlaen at eich gweld."

"Diolch yn fawr iawn."

"Tan hynny, pob bendith, Longinus."

"Ac i chwithau, Othniel. A breuddwydion melysach."

"Gyrrwch air ataf o Jerwsalem."

"Gwnaf, ac yn fuan.'

O'i ffenestr gwyliodd Othniel ef yn marchogaeth ymaith hyd lwybr y berllan ac yna, wedi i'r coed ei guddio am dipyn, i lawr y bryn tua'r cypreswydd llonydd ar ei waelod. Hoffai'r Rhufeinwr myfyrgar a diffuant hwn yn fawr; yn wir, ni allai feddwl am neb y carai ei gwmni'n fwy. Neb ond Alys. Gresyn ei symud o'r garsiwn yn Jopa gerllaw. Ni welai fawr ohono yn awr, ac yntau yng Nghaer Antonia yn Jerwsalem. Llithrodd ei feddwl yn ôl tros lawer seiad felys gyda'r canwriad, pan dreulient oriau yn trafod beirdd ac athronwyr Groeg neu pan wrandawai Longinus yn astud ond beirniadol ar ryw salm a gyfansoddodd ei gyfaill claf. Daethai Othniel i edrych ar y Rhufeinwr fel un o'i ffrindiau pennaf. Câi ei weld eto ymhen rhyw bum wythnos. Ond cyn hynny, deuai rhywun mwy na Longinus i Arimathea. Y Nasaread y soniai'r hen gaethwas Elihu gymaint amdano. Deuai, er gwaethaf y breuddwyd hyll am yr ogof a'i chynllwynwyr. Deuai, fe ddeuai, yr oedd yn sicr o ddod.

Arhosodd Joseff ar ôl yn y synagog i ymgynghori â'r gweinidog a'r Rheolwr a rhai o'r henuriaid. Neu, yn hytrach, i roi cyfle iddynt hwy ymgynghori ag ef. Gŵr pwysig a rhadlon a gerddai tuag adref, wedi i bawb gytuno'n wasaidd â phob awgrym o'i enau. Felly y teimlai Joseff bob Sabath wrth ddychwelyd o'r synagog, a chan fod y ffordd yn dringo hyd lethrau'r gwinwydd, yr oedd balchder bob amser yn ei drem. Ei winwydd ef.

Gresyn i Othniel gymylu'r dydd drwy sôn am y breuddwyd ffôl 'na. Ond dyna, yr oedd y bachgen yn wael, a deuai pob math o ddychmygion i feddwl rhywun claf. Deuai, a rhaid oedd maddau i un felly. Ond fe haeddai'r hen gaethwas Elihu gerydd am gludo rhyw storïau gwirion fel hyn o'r Gogledd. Pam gynllwyn na chadwai'r hurtyn ei ofergoelion iddo'i hun? Gwyrthiau, wir!

Pan gyrhaeddodd waelod yr allt a ddringai tua'i dŷ, daeth ar draws yr hen Joctan yn eistedd ar fin y ffordd.

"Cael sbel fach, Joctan?"

"Ie. Yr hen synagog newydd 'na mor bell a'r hen goesau 'ma mor wan." "Hen" oedd popeth i Joctan.

Cododd yn awr, a cherddodd Joseff yn araf wrth ei ochr. "Sut y mae'r mab hynaf y dyddiau yma, Joseff?" "Othniel? Gweddol, wir.'

"Da iawn, da iawn. Nid oes angen gofyn sut mae'r mab arall."

"Beniwda? Na, y mae ef yn llawn bywyd, onid ydyw?" Rhoch chwern oedd ateb yr hen frawd. Ymlusgodd ymlaen am dipyn ac yna arhosodd i gael ei wynt ato.

"Mi welais i bump ohonynt yn cael eu croeshoelio unwaith,' meddai ymhen ennyd. "Yn Jerwsalem. Bedair blynedd yn ôl."

Ni ddeallai Joseff ac edrychodd yn syn ar ei gydymaith. "Croeshoelio? Pwy, Joctan?"

"O, gan na wyddoch chwi ddim, Joseff, gwell imi gau fy ngheg. Neu bai am glebran a gaf fi."

Ymlwybrodd ymlaen eto, gan anadlu'n swnllyd. Am yr ail waith yr un bore, yr oedd terfysg ym meddwl Joseff. Ei fab Beniwda? Croeshoelio? Beth a geisiai'r hen gybydd hwn ei ddweud?

Safodd Joctan eto cyn hir i bwyso ar ei ddwy ffon. Llaciodd linynnau'i wyneb i geisio gwenu'n gyfrwys.

"Na, nid yw Joctan eisiau cael ei alw'n Hen Geg gan neb," meddai. "Ond chwarae â than y mae rhai o'r dynion ifainc 'ma, er hynny. A rhywbeth gwaeth na thân. Y mae'r Rhufeinwyr 'ma'n ddidrugaredd weithiau."

Edrychodd Joseff yn syth o'i flaen, gan geisio ymddangos yn ddidaro, ond teimlai fod llygaid bychain, maleisus yr hen gybydd arno. Dyn yn hoffi clwyfo eraill oedd Joctan a châi bleser yn awr yn chwilio am bryder yn wyneb y Cynghorwr. Dringodd y ddau yn araf eto, ond dyheai Joseff am gael prysuro adref. Ni chofiai fore Sabath fel hwn. Othniel a'i freuddwyd i ddechrau, ac yn awr Beniwda a'i . . . A'i beth? Pa ffolineb a wnâi ef? Yr unig ddehongliad ar eiriau Joctan oedd fod Beniwda'n Genedlaetholwr, yn Selot, yn aelod o Blaid Ryddid, a gwyddai pawb mor llym oedd y Rhufeiniaid ar rai felly. Ac wedi meddwl, pump o wŷr y Blaid oedd y rhai a groeshoeliwyd yn Jerwsalem ar y Pasg bedair blynedd ynghynt. Cofiodd Joseff i'w fab Beniwda droi'n chwyrn yn erbyn popeth estron yn ddiweddar. Pan alwai'r Rhufeinwr Longinus yn y tŷ, ni siaradai air ag ef, a phan ddywedai ei chwaer neu ei fam rywbeth mewn Groeg, â'i yn gaclwm gwyllt. Do, daethai rhyw newid mawr trosto.

A'r fath gythrwfl yn ei feddwl, ni allai Joseff ddioddef ychwaneg o ymlusgo wrth ochr yr hen Joctan.

"Rhaid i chwi faddau imi am eich gadael a brysio o'ch blaen, Joctan," meddai. "Yr wyf newydd gofio bod rhyw gyfeillion yn galw acw."

"O, popeth yn iawn, popeth yn iawn, Joseff. Pwy yw'r hen Joctan dlawd i neb ymboeni ag ef?"

Cafodd Joseff ei fab Beniwda yn eistedd ar glustog wrth ddrws y tŷ.

"Y mae arnaf eisiau siarad â thi, Beniwda," meddai wrtho. "Awn am dro bach i'r berllan."

"O'r gorau, 'Nhad. Ond peidiwch â swnio fel petai hi'n ddiwedd y byd."

Safodd y ddau o dan hen olewydden yng nghanol y berllan.

"Wel?" meddai Joseff.

"Wel beth, 'Nhad?"

"A ydyw'r hyn a glywais yn wir?"

Chwarddodd Beniwda i guddio'i euogrwydd. "Nid hawdd yw ateb y cwestiwn yna, 'Nhad! Os dywedwch beth a glywsoch . . . "

"A wyt ti'n aelod o Blaid Ryddid?"

Wynebodd Joseff ei fab a syllodd yn syth i'w lygaid. Gwyddai nad oedd angen iddo ofyn ychwaneg.

"Pwy a fu'n cario'r stori hon i chwi? Yr Hen Geg, ie? Gwelais chwi'n dringo'r allt gydag ef."

"Nid yw hynny o wahaniaeth. Ateb fy nghwestiwn i."

"Chwilio am storïau felly y mae'r hen Joctan o fore tan nos."

"Ateb fy nghwestiwn i. A wyt ti'n cyboli â dihirod y Blaid?"

Dihirod? Rhuthrodd gwrid i wyneb Beniwda a thân i'w lygaid.

"Ydwyf, yr wyf yn un o'r dihirod," meddai'n herfeiddiol, "os dihirod yw rhai sy'n caru'u gwlad ac yn ceisio'i hachub rhag y gorthrymwr. Ydwyf, yr wyf yn perthyn i'r Blaid! Ac yn falch o'r anrhydedd."

Edrychodd Joseff ar fon a brigau cnotiog yr hen olewydden fel gŵr mewn breuddwyd. Beniwda, ei fab ei hun, yn aelod o Blaid Ryddid! Bob tro y daethai un o'r Blaid o flaen y Sanhedrin yn Jerwsalem, pleidleisiodd ef dros ei gondemnio a'i gyflwyno i'r Rhufeinwyr i'w groeshoelio ganddynt.

"Yr oeddwn i yn y Sanhedrin yr wythnos ddiwethaf," meddai'n dawel. "A chondemniwyd tri ohonynt gennym.'

"Do, mi wn. Gestas a Dysmas a Barabbas."

"Gwyddost beth fydd eu tynged. Yn arbennig Barabbas. Fe laddodd ef filwr Rhufeinig mewn ysgarmes wrth y Deml." "Fe'u croeshoelir. Oni allwn wneud rhywbeth i'w hachub."

"Gwneud beth?"

Nid atebodd Beniwda. Tynnodd ddeilen oddi ar gangen a dechreuodd ei fysedd nerfus ei thorri'n ddarnau.

"Beth . . . beth a wnaeth i ti ymuno â'r . . . â'r Blaid?" "Y mae'n ddrwg gennyf eich clwyfo, 'Nhad," meddai Beniwda ymhen ennyd. "Gwn eich bod chwi a gwŷr y Deml a'r Sanhedrin yn casáu'r Blaid. Ond yr ydych yn ddall."

"Dall?"

"Ydych, i gyd yn ddall. Yn y Blaid y mae unig obaith y genedl. Lle bynnag yr ewch, beth a welwch chwi? Y bobl yn llwgu a threthi'r Rhufeinwyr a threthi'r Deml yn eu gwasgu i farwolaeth. Ewch i Jopa, ewch i Gesarea, ewch i Jericho, ewch i . . . "

Codai Beniwda ei lais a siaradai fel areithiwr ar lwyfan. Torrodd Joseff ar ei draws.

"Nid oes golwg llwgu arnat ti, Beniwda. Nac ar neb yn Arimathea hyd y gwn i."

"Y mae Arimathea'n eithriad. Pam? Am eich bod chwi'n digwydd talu'n dda i'r gweithwyr. Ond hyd yn oed yn Arimathea y mae Job y Publican yn blingo'r bobl."

"Iddew, nid Rhufeinwr, yw Job."

"Ond y Rhufeinwyr yw ei feistri. Hwy sy'n ei apwyntio i gasglu'r trethi iddynt. Ddoe ddiwethaf yr oeddwn i'n siarad â hen wraig yng ngwaelod y pentref. Yr oedd hi newydd fod â basgedaid fawr o ffrwythau yn y farchnad.

'Gwerth pum darn o arian,' meddai Job y Publican wrthi yn y porth, gan ddal ei law allan am y dreth ar hynny. Bu raid iddi dalu'r bumed ran o'u gwerth hwy, un darn o arian, yr unig un a oedd ganddi ar ei helw. Ond wedi iddi fod yn y farchnad drwy'r dydd, dim ond un darn a gafodd hi am y cwbl oll.

A phan aeth hi'n ôl at Job, ni wnaeth hwnnw ond chwerthin am ei phen hi."

"A sut y mae Plaid Ryddid yn mynd i symud y pethau hyn?"

"Cewch weld. A chyn hir hefyd."

"Cawn weld y Rhufeinwyr yn croeshoelio mwy a mwy o aelodau'r Blaid . . . Beniwda?"

"Ie?"

"Gwrando, 'machgen i. Chwarae â thân yr wyt ti. Â rhywbeth gwaeth na thân. Y mae'r Rhufeinwyr yn ddidrugaredd weithiau."

Ailadroddai Joseff eiriau'r hen Joctan yn beiriannol, gan gymaint ei bryder a'i ofn. "Nid wyt ti wedi cyfri'r gost, Beniwda. Yr wyt ti yn fab i mi, a phan fyddaf fi farw, i ti ac i Othniel yr à f'ystad a'm cyfoeth i gyd. Byddi'n gefnoga gelli ddefnyddio dy gyfoeth er mwyn daioni. Rho heibio'r ffolineb hwn, fy mab. Er mwyn dy fam. Er fy mwyn i. Er dy fwyn dy hun."

Syllodd Beniwda ar y llawr heb ateb. Yna tynnodd ddeilen ifanc arall oddi ar frigyn i'w malu rhwng ei fysedd.

"Rhaid . . . rhaid i chwi roi amser imi feddwl am y peth, "Nhad."

"Rhaid, 'machgen i, rhaid, mi wn. Ond yn y cyfamser—ac yn enwedig yn Jerwsalem y dyddiau nesaf 'ma—yr wyf yn erfyn arnat am gadw ymaith oddi wrth y Blaid. Y mae'n debyg fod rhai o'r arweinwyr yn cyfarfod yno dros y Pasg?"

"Efallai," meddai'r llanc yn wyliadwrus.

Cydiodd Joseff yn ei fraich a'i arwain yn ôl tua'r tŷ.

"Yr wyt ti'n ifanc, Beniwda. Ac yn llawn antur. Ond petai rhywbeth yn digwydd iti, fe dorrai dy fam ei chalon. Gwyddost beth yw'r rhywbeth hwnnw."

Yr oedd cwmwl bychan ar lun croes wedi'i blannu ar orwel y gorllewin. Syllodd y ddau arno fel y cerddent drwy'r berllan.

"A gwyddost hefyd," chwanegodd Joseff, "yr enw a rydd y Rhufeiniaid ar Selot."

"Lleidr,' meddai Beniwda rhwng ei ddannedd. "A pham? Am ei fod yn ceisio dwyn ei eiddo ef ei hun. Ei ryddid. Ei hawl i fyw ac i feddwl ac i lunio'r dyfodol. Os oes rhywrai'n haeddu'r enw lladron,' y Rhufeinwyr yw'r rheini, yn ysbeilio ac yn lladd ac yn . . . "

Gafaelai huodledd yr areithiwr ynddo eto. Safodd Joseff ar y llwybr a gwasgodd ei fraich.

"Cymer di amser i feddwl am y pethau hyn, 'machgen i. A gweddïa ar Dduw am ei arweiniad. Gwn nad oes arnat eisiau torri calon dy fam."

Gwyddai'r tad mai honno oedd y ddadl gryfaf y gallai ei defnyddio. Beniwda oedd cannwyll llygad ei fam.

Pan ddaethant i'r tŷ, gwelai Joseff ei ferch Rwth yn gadael ystafell Othniel. Yr oedd ei hwyneb yn fflam, a rhoes glep ffyrnig ar y drws.

"Beth sy, Rwth?" gofynnodd ei thad.

"Bob tro y daw yma, y mae Othniel am ei gael iddo'i hun." atebodd y ferch yn wyllt.

"Pwy, 'ngeneth i?"

"Longinus. Fe alwodd yma gynnau ar ei ffordd i Jerwsalem. Ond yn lle ei gadw yma nes down i o'r synagog, fe adawodd Othniel iddo fynd i'w daith."

Brysiodd Beniwda yn ei flaen, gan wrthod gwrando ar y sgwrs hon. Nid oedd ar Genedlaetholwr eisiau clywed dim am Rufeinwr, a gwelai fai ar ei dad am adael iddo ddyfod ar gyfyl y tŷ o gwbl.

"Fe wnaeth y canwriad yn gall i fynd yn ei flaen," sylwodd Joseff. "Y mae'n debyg ei fod am gyrraedd Jerwsalem cyn iddi dywyllu."

Taflu'i phen a wnaeth Rwth ac edrych yn gas ar ddrws ystafell Othniel.

Diwrnod o hamdden a thawelwch oedd y Sabath, meddai Joseff wrtho'i hun, o orffwys a myfyrio. Ond y nefoedd fawr, yr oedd hwn yn troi'n helynt ar ôl helynt. Othniel, Beniwda, ac yn awr Rwth. Wel, gan mai i'r cyfeiriad hwnnw y mynnai'r dydd fynd, terfysg amdani, ynteu.

"Gan dy fod ti wedi dechrau sôn am y Canwriad Longinus," meddai, a cheisiai guddio'r cryndod a lithrai i'w lais, "efallai ei bod hi'n bryd i mi ddweud gair ar y pwnc."

Troes Rwth ei phen yn herfeiddiol.

"Hyd y gwelais i," aeth Joseff ymlaen, "y mae'n ddyn ifanc glân a hoffus, ac ymddiriedaf bob amser ym marn Othniel am rywun. Nid oes gennyf wrthwynebiad iddo ddod yma am dro weithiau, ond y mae gweld fy merch yn rhedeg ar ôl Rhufeinwr . . .”

"Pwy sy'n rhedeg ar ei ôl?"

"Na, nid hynny oeddwn i'n feddwl, Rwth, ond. "Pwy sy'n rhedeg ar ei ôl?"

Gwyddai Joseff y dylasai ddewis ei eiriau'n fwy gofalus: yr oedd tymer wyllt ei mam gan Rwth.

"Yr hyn oeddwn i'n feddwl, Rwth, oedd mai Rhufeinwr yw Rhufeinwr. Ein lle ni yw—wel, bod yn gwrtais, wrth gwrs, ond peidio â thalu gormod o sylw iddynt. Y maent yn wahanol iawn i ni, ac er bod dynion da yn eu plith—fel y canwriad hwn, er enghraifft—ni ddylem fod yn gyfeillgar â hwy."


"Pam?" Syllai Rwth yn ystyfnig ar y llawr.

Yr oedd hwn yn gwestiwn annifyr i Sadwcead cyfoethog. Casáu'r Rhufeinwyr a wnâi'r Phariseaid, gan ddefnyddio pob cyfle i ennyn llid y bobl yn eu herbyn, ond chwiliai Joseff a'i ddosbarth am fywyd esmwyth, tawel, gan geisio cael y gorau o'r ddau fyd, eiddo'r Iddew a'r Rhufeinwr. Y gorau mewn cyfoeth a moeth. Wedi'r cwbl, dim ond unwaith yr oeddych ar yr hen ddaear 'ma, onid e? A chan i chwi ddigwydd bod mewn gwlad ag estroniaid yn rheoli ynddi, wel, rhaid oedd talu rhyw gymaint o wrogaeth iddynt. Dim ond i chwi fod yn gwrtais wrthynt hwy, yr oeddynt hwythau felly wrthych chwithau. A thalent yn hael ac yn brydlon am y gwin a brynent gennych.

"Wel," meddai Joseff, gan osgoi'r gofyniad, "efallai y bydd y dyn ifanc yn cael ei symud eto cyn hir—i Germania neu i Gâl am ddim a wyddom ni. Ac os ei di yn rhy hoff ohono, byddi'n ei theimlo hi'n chwith ar ei ôl."

Ceisiai swnio'n garedig a thadol, a siaradai'n araf a phwyllog. Ond yr hyn a hoffai ei ddweud mewn gwirionedd oedd bod ei ferch wedi gwirioni'i phen yn lân â'r canwriad a bod gan Longinus fwy o ddiddordeb yn ei brawd Othniel nag ynddi hi. Gallai rhywun dall weld hynny, meddai wrtho'i hun.

"Y mae Longinus wedi cael ei symud i Jerwsalem yn awr," meddai'r eneth yn ddicllon, gan rythu ar ei thad fel petai ei fai ef oedd hynny. "Pan oedd yn Jopa, gallai redeg i lawr yma i'n gweld weithiau. Ond ni welwn ddim ohono o hyn ymlaen. Dyna beth sy'n dod o fyw mewn rhyw dwll o le fel hwn."

Rhuthrodd heibio iddo ac allan o'r tŷ cyn iddo gael cyfle i ddweud gair arall. Aeth yntau ymlaen yn ffwndrus tua'r ystafell—fwyta.

Yr oedd y bwrdd yno wedi'i osod, a hanner—orweddai ei wraig ar fainc esmwyth yn aros i'r teulu ymgynnull. Plannodd ddau lygad llidiog arno.

"Arnoch chwi y mae'r bai, Joseff."

"Y? Bai? Bai am beth, Esther?"

"Am fod Beniwda'n tyfu'n wyllt fel hyn. Y mae'r bachgen yn un anturus ac yn dyheu am ryw gyffro yn ei fywyd."

"Ond . . . ond sut y mae'r bai arnaf fi?"

"Beth a ddisgwyliwch oddi wrth fachgen mewn lle fel Arimathea 'ma? Cyfrif ei fysedd yn ei oriau hamdden, y mae'n debyg!"

"Ond y mae Beniwda'n cael mynd o gwmpas y wlad i gasglu archebion ac arian am y gwin. Nid wyf yn eich deall, Esther."

"Yr ydych yn fy neall yn iawn, Joseff. Nid Arimathea yw'r lle i fachgen mentrus fel Beniwda."

"O? P'le, ynteu?"

"Prynasoch dir yn Jerwsalem i godi tŷ arno.

Y mae yn agos i dair blynedd er hynny, onid oes? A chredem i gyd y byddem yn byw yn Jerwsalem ymhell cyn hyn. Ond hyd y gwn i, nid oes carreg wedi'i gosod arno."

"Wel. . . y. . . yma yn Arimathea y mae'r ystad, a . . . "

"A Reuben y goruchwyliwr yn gofalu amdani. Esgus sâl, Joseff. Ac ar wahân i gysur Rwth a Beniwda a minnau, y mae rheswm arall dros i chwi godi'r tŷ."

"O?"

"Oes. Y Sanhedrin. Edrychwch gymaint o'r cyfarfodydd yr ydych yn eu colli. A phaham? Am y teimlwch y daith yn bell. Ac os caf fi siarad yn blaen, Joseff . . ."

"Ie, Esther?"

"Y mae'n bryd i chwi fod yn rhywun yn y Sanhedrin. Ac ni ellwch chwi fod yn rhywun yn y Cyngor heb fynd i bob cwrdd â chodi'ch llais yn amlach yno. Pwy a ŵyr, efallai mai chwi fydd yr Archoffeiriad nesaf! Ond nid wrth aros yma ym mherfedd y wlad fel hyn y dewch yn bwysig yn y Sanhedrin. A byddai Beniwda a Rwth yn cael cyfle yn Jerwsalem."

"Cyfle i beth, Esther?"

"I fod yn rhywun, debyg iawn. Pwy mae Rwth yn gyfarfod yma yn Arimathea?"

"Wel . . . y . . .

"Neb. Clywais chwi'n ei beio am dalu cymaint o sylw i'r Canwriad Longinus. Petaem ni wedi symud i Jerwsalem ni fuasai hi wedi cyfarfod y Rhufeinwr o gwbl, ac efallai mai ag un o feibion yr Archoffeiriad y buasai hi'n gyfeillgar erbyn hyn. A dyna Beniwda. Gweithio yn y gwinllannoedd a thrafaelio i werthu gwin! Petai yntau yn Jerwsalem, buasai'n astudio yn y Coleg yno ac yn..

"Ond ni ddangosodd Beniwda fod ganddo ddiddordeb mewn astudio, Esther."

"Wyddoch chwi ddim sut y datblygai'r bachgen yn yr awyrgylch iawn. I beth yr oeddych chwi eisiau prynu'r tir yn Jerwsalem oni fwriadech adeiladu arno?"

"O, o'r gorau, af i weld Jafan, yr adeiladydd, yr wythnos nesaf."

"Y mae gennych fedd yn Jerwsalem, un o'r beddau mwyaf costus yn yr holl dinas, ond am y tŷ, y mae'r darn tir mor noeth â . . .

"Dyna ddigon, Esther, dyna ddigon yn awr. Dywedais yr awn i weld Jafan yr wythnos nesaf 'ma.'

Daeth Beniwda a Rwth i mewn ac eisteddodd y teulu ar glustogau wrth y bwrdd isel i fwynhau bwyd a gwin. Mwynhau? Tawedog iawn oedd y cwmni oll, ac ni chofiai Joseff Sabath mor anghysurus â hwn. "Am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabath ac a'i sancteiddiodd ef." meddai'n chwerw wrtho'i hun.

Nodiadau[golygu]