Yr Ogof/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod III


II



BORE trannoeth, o'i sedd wrth y ffenestr gwyliodd Othniel hwy'n cychwyn ar eu taith i Jerwsalem, y teulu ar gamelod a'r gweision, Elihu ac Alys, ar asynnod. Chwifiodd ei law a gwenodd arnynt, gan geisio ymddangos yn ddidaro, ond gwyddai y byddai'n unig iawn hebddynt. Yn enwedig heb Alys. Daethai'r gaethferch fach o Roeg yn rhan o'i fywyd bellach, ac yr oedd meddwl am fod heb weld ei hwyneb na chlywed ei llais am wythnos gyfan yn ei ddychrynu. Bu adeg pan weddïai bob dydd am gael marw, am ddianc ymaith o boen a blinder ei gorff, ond byth er pan ddaeth Alys atynt, dyheai am gael byw am yfory a thrannoeth yn hyfrydwch ei chwmni hi. Hi a'i achubodd ef rhag anobaith.

Aeth y cwmni o'r golwg ymhen ennyd yng nghoed y berllan, ond nid cyn i Alys daflu edrychiad cyflym yn ôl tua'r tŷ—a ffenestr Othniel. Cyflym, rhag ofn bod llygaid llym Elisabeth, y brif forwyn, yn ei gwylio o'r tŷ. Troes yr hen Elihu hefyd ei ben yr un pryd, gan gymryd arno fod rhywbeth o'i ôl a dynnai'i sylw, ond gwyddai Othniel mai ymgais ydoedd i guddio chwilfrydedd Alys. Yr oedd yr hen gaethwas yn hoff iawn o'r Roeges.

Tywynnai'r haul yn ddisglair a llanwai'r adar y berllan â melyster eu cân. Bore hyfryd, ond cofiodd Othniel mai twyllodrus oedd gwenau'r gwanwyn. Yn aml iawn dygai'r bore heulwen ac awyr las, ond cyn nos wele gaenen o eira ar faes a chlawdd neu'r Khamsin, gwynt poeth yr anialwch, yn diffodd pob llewych o egni mewn dyn. Ond heddiw, yr oedd y gwanwyn ar ei orau; deunod y gog ymhell ac agos, y gwenoliaid yn ymdroelli'n llon uwchben, y fronfraith a'r durtur wrth eu bodd yng nghangau'r coed, ac ar y ddaear islaw gyfoeth o flodau amryliw. Gyferbyn â'r ffenestr, wrth droed coeden gitron, tyfai'r anemoni coch yn garped gloyw, ac yng nghanol y carped safai tri chlwstwr o gennin Pedr. Gwyliai Othniel gochni disglair y blodau bychain yn pylu fel y llithrai cwmwl, ennyd, dros yr haul, ac ymddangosai'r cennin Pedr yn awr fel brenhinoedd yn sefyll ar garped o broffor drud.

Daeth sŵn carnau'r camelod a'r asynnod i'w glyw: gadawsai'r cwmni lwybr glas y berllan a chyrraedd y ffordd galed, garegog. Gan fod y tŷ ar uchelder craig, gallai eu dilyn â'i lygaid i lawr y bryn at y cypreswydd llonydd, unfaint, wrth y tro ar y gwaelod a phwysodd ymlaen ar ei sedd i wylio pob symudiad o'r eiddynt.

Gwenodd fel y llithrodd ei lygaid o un i'r llall. Edrychai ei dad i lawr yn freuddwydiol, gan godi'i ben weithiau i gydsynio â sylwadau huawdl ei wraig. Tawedog iawn oedd ef, meddai Othniel wrtho'i hun, tawedog a digynnwrf a chyffyrddus, heb boeni fawr am ddim. Pan oedd yn hogyn, credai Othniel fod ei dad yn ŵr doeth a meddylgar a hynod grefyddol; onid ag ef yr ymgynghorai Rheolwr y synagog ynghylch pob gwasanaeth, ac onid âi i Jerwsalem yn rheolaidd i gymryd rhan yng ngwaith y Deml sanctaidd? A phan godwyd y synagog newydd yn Arimathea, ei dad a dalodd y rhan fwyaf o'r gost ac a ofalodd fod y gweithwyr yn llunio adeilad gwych. Galwai yno bob dydd i feirniadu neu i fendithio'u hegnïon, a phan dynnai'r gorchwyl tua'i derfyn, soniai amdano fel petai'n ffrwyth ei lafur ef ei hun. Tŷ i Dduw oedd y synagog, ond er ei waethaf tyfodd y syniad ym meddwl Othniel mai ei dad, ac nid Iafe, oedd piau'r un yn Arimathea. A phan gafodd, yn dair ar ddeg, y fraint o ddarllen rhannau o'r Gyfraith yn y gwasanaeth, ceisiai wneud hynny'n glir a dwys, gan wybod bod ei dad, yn hytrach na'r Goruchaf, yn gwrando.

Yr oedd yn wael yn awr ers pedair blynedd ac yn methu â dilyn ei orchwylion ar yr ystad. Pan oedd yn iach ni welsai lawer ar ei dad, ond dug ei segurdod hwy'n nes at ei gilydd. Gynt, am y gwinwydd neu'r olewydd y siaradent neu am bobl a phethau'r pentref, ond yn awr yn y rhòl a ddarllenai neu'r gerdd a luniai y ceisiai ennyn diddordeb ei dad. A sylweddolai Othniel yn fwyfwy bob dydd nad oedd ei dad yn feddyliwr o gwbl; pan ofynnai pwnc yr ymddiddan am ryw gymaint o wybodaeth neu ddychymyg, buan yr âi'n fudandod rhyngddynt. Er bod ei dad yn Sadwcead blaenllaw ac yn ŵr amlwg yng nghynghorau'r Deml, darganfu Othniel mai arwynebol oedd ei ddiddordeb yn y Gyfraith, a chasâi'r Phariseaid am eu manyldra a'u duwioldeb hwy. "Rhowch imi lonydd i fwynhau fy mywyd esmwyth a digyffro," a ddywedai'i holl natur. "Y mae'n wir i'm tad fod yn offeiriad pwysig yn y Deml ac yn ŵr defosiynol iawn. Pa waeth?

Pa waeth? Fe gasglodd gyfoeth mawr yno ac â'r cyfoeth hwnnw y prynodd yr ystad hon yn Arimathea. Wel, gedwch i minnau a'm teulu eistedd yn llawen wrth y bwrdd a arlwyodd 'ef inni. Lol yw sôn y Phariseaid am fywyd ar ôl hwn: felly, gedwch inni fwynhau'r dyddiau a'r pethau sydd gennym, gan roddi clod i Dduw amdanynt a chyflwyno cyfran dda ohonynt iddo ef yn ei Deml."

Felly, yr oedd Othniel yn sicr, y siaradai'i dad ag ef ei hun, gan ymddwyn fel petai'n ddall i gyni'r bobl ac i ormes y Rhufeinwyr. Yr oedd trethi'r Deml a threthi Rhufain yn llethu'r genedl yn lân, a phrin y gallai'r rhai tlotaf yn eu plith gadw corff ac enaid ynghyd. Ond yr oedd yn fyd braf ar Sadwcead cyfoethog. Câi ef ddegwm da o drethi'r Deml; a chwarae teg i'r Rhufeinwyr, yr oeddynt yn prynu llawer o win ac yn talu'n dda amdano. Er hynny, gwelsai Othniel bryder yn llygaid ei dad droeon, a gwyddai nad oedd mor ddifraw ag y ceisiai ymddangos: o ganol ei esmwythyd a'i foeth taflai ambell olwg anesmwyth tua'r tlodi a'r trueni o'i amgylch. A ddoe, pan ddeallodd hyd sicrwydd fod ei fab ei hun, Beniwda, yn aelod o Blaid Ryddid, oni theimlai mai ar dywod yr adeiladodd blas ei ddigonedd? Un mab yn aelod o Blaid Ryddid, y llall yn sôn byth a hefyd am sôn byth a hefyd am y Nasaread a gynhyrfai'r wlad, y ferch mewn cariad â Rhufeinwr—a oedd sylfeini'r plas yn ymddatod?

Gwelai Othniel ei dad yn awr yn syth ac urddasol ar ei gamel, fel un heb bryder yn y byd, a theimlai'n drist wrth gofio am ddoe a'i helbulon. Buasai'n gyfaill yn ogystal â thad iddynt oll, yn hynod garedig a haelionus, yn bwyllog ac eangfrydig ei gyngor, yn dawel ac amyneddgar ei ffordd. A mawr oedd ei barch yn yr ardal, yn arbennig ymhlith y tlodion, oherwydd nid âi cardotyn byth ymaith o'i ddrws yn waglaw. Ei dad oedd arwr Othniel pan oedd yn llanc: yr oedd popeth a ddywedai ac a wnâi uwchlaw beirniadaeth. Erbyn hyn, ac yn arbennig er pan aeth yn wael, gwelai ei ddiffygion, ei ddifrawder cysurus yn enwedig, cystal â neb. Er hynny, yr oedd yn flin ganddo am helyntion ddoe a'r loes a ddygasant iddo. Pam yr oedd mor chwyrn yn erbyn y Nasaread, tybed? Gallai Othniel ddeall ei fraw a'i siom o ddarganfod bod ei fab yn aelod o Blaid Ryddid, ond os ffŵl penboeth oedd y proffwyd o Galilea, pam yr ofnid ef a'i ddylanwad? A deimlai gwŷr y Deml fod eu gafael ar y bobl yn llacio? A wyddai ei dad, yn ei funudau tawelaf, fod y pethau syml a sylfaenol y safai'r Nasaread trostynt yn fwy arhosol na holl ogoniant y Deml? Tybiai Othniel iddo weld rhyw euogrwydd yn llygaid ei dad pan soniodd am yr ogof wrtho, ond efallai mai canfod rhywbeth y chwiliai amdano a wnâi. Na, ymddangosai yn awr yn y pellter yn bur ddibryder, gan farchogaeth yn hamddenol a thaflu ambell drem fodlon ar lethrau graenus y gwinwydd.

Gwenodd Othniel wrth sylwi bod llaw a phen ei fam mor huawdl â'i thafod. Marchogai hi wrth ochr ei gŵr, gan barablu pymtheg y dwsin a phwysleisio pob gair ag ystumiau cyflym. Nid oedd Othniel mor hoff o'i fam ag ydoedd o'i dad; yn wir, yn ddiweddar, ac yntau'n byw a bod yn y tŷ, tyfodd rhywbeth tebyg i elyniaeth gudd rhyngddynt. Yr oedd hi'n dalp o egni, heb fod yn llonydd am eiliad, ac er ei gwaethaf, dirmygai'r mab a eisteddai'n syn wrth y ffenestr o fore tan nos a'i lygaid mawr yn llawn breuddwydion. Ei frawd Beniwda oedd ei ffefryn hi: yr oedd ef yn debyg iddi, yn llawn bywyd anesmwyth, yn dafodrydd fel hithau, heb gysgod ar ei feddwl chwim. Heb gysgod? Ymdaflodd yn sydyn i gynlluniau Plaid Ryddid, a gwyddai pawb beth a wnâi'r Rhufeinwyr ag aelodau o'r blaid honno pan ddalient hwy. Ym mhob gwersyll yr oedd croesau'n bentwr yn erbyn y mur yn barod i hoelio rhai fel Beniwda arnynt.

Marchogai ef yn awr tu ôl i'w dad ac wrth ochr Rwth, ond sylwai Othniel na siaradai Beniwda air â'i chwaer. I Genedlaetholwr chwyrn fel ef yr oedd hi'n ddirmygus—mewn cariad â Rhufeinwr ac yn siarad Groeg byth a hefyd. Byddai'r daith i Jerwsalem yng nghwmni'i gilydd fel hyn yn anghysurus, a hiraethai Beniwda, yn sicr, am gael brysio ymlaen ei hun i gyfarfod rhai o wŷr blaenllaw Plaid Ryddid yn y brifddinas. Gwelai Othniel fod ei fam yn taflu ambell sylw tros ei hysgwydd ato, a thybiai mai ceisio'i gadw'n ddiddig yr oedd. Ond byddai hithau'n sicr o droi'n ddifeddwl at ei merch cyn hir a dweud rhywbeth mewn Groeg; âi mulni Beniwda'n gynddaredd wedyn. Ni synnai glywed, pan ddychwelent o Jerwsalem, i Beniwda ddyfeisio rhyw esgus i'w gadael hwy ar y daith ac iddo gyrraedd y ddinas ymhell o'u blaenau.

Edmygai Othniel sêl a brwdfrydedd ei frawd. Yr oedd ei syniadau braidd yn gul, efallai, a thueddai i chwilio am wendidau pawb ond aelodau o'r Blaid, ond ymgysegrai â'i holl enaid yn awr i hyrwyddo'r mudiad. Denai Plaid Ryddid ugeiniau, onid cannoedd, o wŷr ifainc penboeth fel Beniwda i'w rhengoedd, ond araf oedd ei chynnydd ymhlith gwerin y wlad, yn bennaf, oherwydd gorhyder a phendantrwydd ffyrnig ei dilynwyr. Casáu a herio popeth a wnâi Rhufain—nid oedd hynny, ym marn y bobl gyffredin, yn ddigon o sylfaen i adeiladu arni. A pha siawns a oedd gan werin dlawd yn erbyn gallu milwrol y concwerwyr? Cofient lawer galanastra yn eu tref neu bentref pan feiddiodd rhywrai wrthod talu'r dreth i Gesar—a bodlonent ar ymostwng a cheisio byw ar y nesaf peth i ddim er mwyn rhoi arian y trethi o'r neilltu. Ond câi Beniwda a'i debyg ddeunydd huodledd ac ystrywiau yn ymdrechion y Blaid, a mwyaf yn y byd y siaradent ac y cynllunient, yn wylltach beunydd y llosgai tân eu ffydd. Petai'r aelodau oll mor onest ac annibynnol â Beniwda, fe dyfai'r mudiad, yn ddi—ddadl, yn un nerthol yn y tir, ond yr oedd llawer o'r dilynwyr uchaf eu cloch yn bur barod i dderbyn y ffafrau a'r swyddi a gynigiai'r rheolwyr cyfrwys iddynt. Tawent, gyda diolch, ac yr oedd amryw ohonynt erbyn hyn yn bublicanod blonegog. Ond adwaenai Othniel ei frawd yn ddigon da i wybod na lygrid mohono ef felly.

Wrth ei ochr, yn marchogaeth fel brenhines, a'i phenwisg ysgarlad yn nofio fel baner ar y gwynt, eisteddai Rwth yn urddasol ar ei chamel, fel petai'r torfeydd a lifai i Jerwsalem yn ymgasglu yno i'w chroesawu hi. Ysgydwodd Othniel ei ben yn freuddwydiol wrth syllu arni. Aethai Rwth, ei chwaer fach, yn llances hardd mewn noswaith megis. Ymddangosai fel doe yr adeg pan ddeuai hi ambell hwyr i'w alw o'i waith yn y gwinllannoedd ac y dygai ef hi i'r tŷ'n fuddugoliaethus ar ei ysgwyddau a'u chwerthin yn llon ac uchel. Ond erbyn hyn tyfasant ar wahân.

Ie, dieithriaid oeddynt mwyach. Trigent yn yr un tŷ, chwarddent uwch yr un pethau, ymgomient am yr un cydnabod a chyfeillion, ond yr oedd gagendor rhyngddynt yn awr. Pan oedd Othniel yn iach, treuliai lawer hwyr yn yr haf a'r

hydref ar y "tŵr-gwylio" yng nghanol y winllan, ar wyliadwriaeth rhag lladron. Mwynhâi unigrwydd a thawelwch y lle, ac yno y deuai rhai o'i salmau gorau i'w feddwl. Ond araf weithiau y llithrai'r amser heibio, a melys iddo ar yr adegau hynny oedd gweld Rwth yn dringo'r llechwedd tuag ato ac yn ymuno ag ef ar y tŵr. Treulient awr ddifyr yn cellwair, gan ddychmygu gweld lladron yn cloddio drwodd neu gymryd arnynt ymladd â'i gilydd neu geisio dynwared rhai o'r campau corfforol a welsent yn arena'r Rhufeinwyr un tro yng Nghesarea. Mor bell oedd y dyddiau hynny bellach! Ymddangosai pedair blynedd ei waeledd fel oes a dreuliodd ar ryw ynys leddf ac unig: a ddihangai ef byth ohoni yn ôl i sŵn chwerthin a chân a llawenydd?

Ni welsai ef lawer ar Rwth yn ystod y pedair blynedd hyn. Daethai rhyw ysfa i grwydro trosti—i Jericho, i Sora, i Gath, i Jopa, i rywle lle'r oedd perthynasau gan ei rhieni—a chrwydrodd yntau lawer i chwilio am iachâd. A phan fyddent ill dau gartref, ceisiai hi ei osgoi. Yr oedd gwendid corff ac afiechyd yn rhywbeth tu allan i fyd Rwth, yn ddieithrwch y dihangai'n ddychrynedig rhagddo. Yr oedd ei hoen a'i hynni'n ddihysbydd, fel egni anifail chwim, ysgafndroed; ond pan ddeuai hi i'w gwmni ef, yr oedd bellach yn ansicr a ffwndrus, fel petai'n ddyletswydd arni i ffrwyno'i hasbri yn ei ŵydd; yn wir, fel petai hi'n euog o'i blegid. Yr oedd ei chwerthin yn rhy sydyn ac eiddgar i fod yn naturiol, a chwiliai'n rhy ddyfal am rywbeth diddorol i'w ddweud. Cawsai ei rhybuddio, yn amlwg, i ymddwyn yn ddifraw, i beidio ar un cyfrif ag ymddangos yn dosturiol, i fod yn llon fel cynt yn ei gwmni, ond gwyddai Othniel fod yr ymdrech yn dreth arni ac y dyheai am ddianc yn ôl i ryddid dilestair ymhlith eraill.

Teimlai yntau'n annifyr yn ei chwmni, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef. Gynt, pinsio'i chlust a thynnu'i gwallt a ffug ymladd â hi a wnâi, a mawr oedd eu stŵr. "Nid yw'r ddau yna'n hanner call," fyddai sylw'i dad yn aml wrth glywed eu sŵn yn y berllan neu yn y tŷ. Ni allai gofio un egwyl o ymgomio neu ddadlau â hi yn y dyddiau hynny: pa le bynnag y cyfarfyddent, cymryd arnynt ymgiprys a wnaent bob gafael. Erbyn hyn yr oedd ef yn ddyn sâl, a gwthiodd ei wendid ef i fyd myfyr a dychymyg ac atgof. Ni wyddai ac ni phoenai Rwth am y byd hwnnw yn wir, prin y meddyliai am ddim ond am ei gwallt a'i dwylo a'i gwisg, er nad oedd fawr neb yn Arimathea i'w hedmygu. Am fân ddigwyddiadau ym mywyd y pentref y siaradent, a châi yntau hi'n anodd weithiau i dynnu'i feddwl oddi wrth ei fyfyrdodau a'i farddoni at y pethau hyn. Dôi geiriau i'w dafod a gwên i'w lygaid, ond daliai canol ei feddwl i fyfyrio o hyd.

Pam yr oedd y Rhufeinwr Longinus mor hoff o Rwth, tybed? Ai ei hwyneb tlws a'i chorff lluniaidd a'i denai? Efallai, yn wir. Ond a oedd ef yn hoff ohoni? Pan ddeuai ar wib i Arimathea, yn ymgomio ag ef, Othniel, y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser, gan fwynhau sgwrs am ddeialogau'r athronydd Groegaidd Plato. Siaradai fel un a sychedai am ymgom felly, fel petai wedi syrffedu'n lân ar sylwadau'i gyd-filwyr ar win a merched a brwydrau ac yn llawenhau drwyddo yng nghwmni enaid cytûn. Casâi Rwth y seiadau hyn aent â Longinus oddi arni, ac yntau wedi dod bob cam o Jopa i'w gweld. Edrychai'n gas ar ei brawd, ac ni siaradai air ag ef am oriau ar ôl un ohonynt. Ond chwarae teg, nid arno ef yr oedd y bai. Er mor felys oedd y sgwrs iddo, gwnâi bob esgus i geisio ymddeol ohoni, gan gymryd arno fod yn flinedig neu'n ddi-hwyl er mwyn i Longinus fynd â Rwth allan am dro. Ond buan y dychwelent ac yr ailgydiai'r Rhufeinwr yn y ddadl neu'r ddamcaniaeth. Nid tipyn o ganwriad ym myddin Rhufain a ddylai'r gŵr ifanc meddylgar a breuddwydiol hwn fod, a cheisiodd Othniel droeon ddarganfod pam y dewisodd fod yn filwr. Yr oedd fel hogyn yng nghwmni Rwth, yn cellwair a chwerthin yn wastadol, ond gwelsai Othniel ambell gysgod sydyn yn ei lygaid. Ai ceisio anghofio rhywun neu rywbeth yr oedd?

Tu ôl i Rwth, ar asyn fel y gweddai i gaethferch, marchogai Alys, ac wrth ei hochr hi, yr hen Elihu. Syllodd Othniel yn hir ar Alys yn ei gŵn gwyn a'i phenwisg o las golau. Ni welai hi eto am wythnos gyfan, a byddai ei fyd yn wag hebddi. Cofiai'r diwrnod cyntaf hwnnw, ddeufis yn ôl pan ddug Longinus y ferch o Roeges atynt. Wrth groesi o Rufain i Jopa, daliesid y llong y teithiai ef ynddi mewn storm enbyd un nos, ac yn y bore, pan dawelodd y môr, gwelodd un o'r llongwyr ddarn mawr o bren yn nofio tuag atynt. Syllodd yn bryderus arno, gan ofni yr hyrddiai'r tonnau ef yn erbyn y llong, ac yna sylweddolodd fod rhywun yn hongian wrtho. Rhuthrodd yn gyffrous i flaen y llong, gan alw am gymorth ei gyd-forwyr i daflu rhaff dros y bwrdd. Heb oedi ennyd, clymodd Longinus y rhaff am ei ganol a neidiodd i'r môr. Trawodd y pren yn erbyn y llong a thaflwyd y ferch oddi arno. Yn ffodus, i gyfeiriad Longinus y lluchiwyd hi, a buan ei fraich amdani a'r ddau'n cael eu codi i ddiogelwch y llong; Pan ddaeth yr eneth ati'i hun ac adrodd ei stori, yr oedd dagrau yn llygaid hyd yn oed hen gapten gerwin y Livia. Croesai Alys a'i rhieni o Athen i Gesarea: cawsent air fod ei brawd Melas, a oedd yno ar fusnes, wedi'i daflu i garchar gan y Rhufeinwyr. Holltodd eu llong yn ddwy yn rhyferthwy'r ystorm, a hyd y gwyddai, hi yn unig a ddihangodd yn fyw.

Cyrhaeddwyd Jopa cyn hir, ac ni wyddai neb beth yn y byd i'w wneud â'r Roeges fach. Cynigiodd yr hen gapten, a fwriadai alw yn Athen ar ei ffordd i Rufain, ei chludo'n ôl yn rhad ac am ddim, ond ni allai hi feddwl am ddychwelyd i wacter oer ei chartref. Wylai'n hidl wrth ei dychmygu'i hun yno heb ei thad a'i mam. Yr oedd ei chwaer fach Diana newydd farw o'r pla, ei rhieni yng ngwaelod y môr, ei brawd mewn cell Rufeinig—torrai'i chalon mewn anobaith llwyr. Cofiodd Longinus am deulu Rwth yn Arimathea, a dug hi yno, gan erfyn arnynt ei chymryd fel caethferch.

Gwelai Othniel hi'n sefyll o'u blaenau eto fel y gwnaethai y diwrnod cyntaf hwnnw â'i llygaid yn llawn ofn.

Pan edrychodd ef i mewn i'r llygaid rhyfeddol hynny, ni ddeallai sut y gallai ei fam wrthsefyll eu hapêl. Na, meddai hi wrth y Rhufeinwr, nid oedd arnynt eisiau caethferch arall, ond efallai y carai'r hen Joctan, eu cymydog, ei chael. Cododd holl natur Othniel mewn gwrthryfel: ni châi'r ferch hon fynd at yr hen gybydd blin Joctan. Gwyddai mor hoff oedd ei fam o rodresa tipyn drwy siarad Groeg ac o sôn, yng nghwmni dieithriaid yn arbennig, am yr ychydig wythnosau a dreuliasai unwaith yn Athen. Taflodd winc ar Longinus. "O Athen y daw'r ferch hon, 'Mam," meddai, "a chewch holl hanes y lle ganddi—a gwybod am y ffasiynau diweddaraf yno." Yr oedd y ddadl yn ddigon.

Yna, rai dyddiau wedyn, bu'r helynt â Rwth.

Eisteddai Othniel un prynhawn yn ei hoff fan wrth y ffrwd yng nghwr pellaf y berllan. Teimlai'n swrth, a llithrodd y rhòl a darllenai o'i ddwylo i'r llawr. Yr oedd hanner y ffordd i fro cwsg pan glywodd sŵn rhywun yn beichio wylo. Gŵyrodd ymlaen i edrych heibio i foncyff y ffigysbren a oedd rhyngddo a'r sŵn; gerllaw, a'i holl gorff yn cael ei ysgwyd gan ei thrallod, pwysai'r Roeges fach yn erbyn coeden, yn torri'i chalon yn lân. Tawelodd yr wylo cyn hir a throi'n riddfan isel dwfn a oedd yn dristach fyth. Llithrodd i'r llawr gan gydio'n ffwndrus yn y glaswellt a'r dail gwywedig, a'u dal yn ei dwylo gan syllu'n orffwyll arnynt. Gwelodd Othniel hi'n cusanu un ddeilen fechan ac yn sisial rhywbeth yn floesg wrthi. Gwrandawodd yn astud, ond ni chlywai'r geiriau. Yna daeth y beichio wylo drachefn ac wedyn y griddfan torcalonnus.

"Alys!"

Troes ei phen mewn braw: ni wyddai fod neb yn dyst o'i galar. Sychodd ei dagrau'n frysiog a daeth ato: ymddangosai fel rhyw anifail eiddil, dychrynedig.

"Beth sydd, Alys?"

"Dim byd, Syr."

"Dim byd?" "Dim ond . . . dim ond hiraeth am fy nhad a'm mam." "Efallai eu bod hwy'n ddiogel yn rhywle, Alys, fel chwithau."

"Nac ydynt, Syr. Gwelais don fawr yn eu hysgubo gyda'i gilydd i'r môr." Rhoes ei llaw ar ei llygaid, fel pe i'w cuddio rhag yr atgof.

"Ond yr oedd hi'n nos."

"Yr oedd y wawr yn dechrau torri, Syr. Gwaeddodd y Capten fod y gwaethaf drosodd a bod y gwynt yn dechrau troi i'r deau. Ond yr oedd y tonnau o hyd fel bleiddiaid o gwmpas y llong, yn neidio arni mewn cynddaredd, fel pe i geisio'i llarpio. Yn ystod y nos ysgubwyd tri o'r llongwyr ac amryw o'r teithwyr a phob anifail a oedd ar y bwrdd—cludo anifeiliaid i Gesarea yr oedd y llong, Syr—i'r môr, a rhwygwyd yr hwyliau'n gyrbibion. Yr oedd y llyw hefyd yn ddiwerth erbyn hyn a'r llong mor ddiymadferth â darn o bren. Trueni inni deithio arni. Nid oedd hi'n gymwys i ddim ond i'w thorri'n danwydd."

"Rhy hen i'r môr?"

"Yr oedd rhannau o'r dec yn pydru, a thrwy'r nos disgwyliem glywed sŵn y llong yn hollti'n ddwy oddi tanom. Yna, wedi i'r Capten weiddi bod y storm yn llacio a'r gwynt yn symud i'r deau, syrthiodd ton anferth, mynydd o ddŵr gwyrdd.. Rhoes ei llaw tros ei llygaid eto.

"Na, peidiwch â dweud rhagor: ceisio anghofio yw'r peth gorau i chwi."

"Yr oeddym ein tri gyda'n gilydd, Syr, yn gafael am ein bywyd mewn rhyw hen angor haearn. Clywais hwy'n gweiddi a medrais agor fy llygaid i weld y llifeiriant yn eu hysgubo dros y bwrdd. Yr oedd yr hen long ar ei hochr a charpiau'r hwyliau bron â chyffwrdd y dŵr. Ymsythodd y llong eto ymhen ennyd, ac yna rhuthrodd mynydd arall."

Daeth llais Rwth o gyfeiriad y tŷ yr oedd yn amlwg ei bod hi'n wyllt am rywbeth. "Mi fyddaf yn rhoi gorchymyn i Elisabeth," meddai—Elisabeth oedd y brif forwyn—"i'w chwipio hi nes bydd hi'n gwaedu. Fy ngwisg newydd i!"' Gan mai yn Aramaeg y siaradai Rwth, ni ddeallai Alys y geiriau.

"Y mae fy chwaer Rwth yn bygwth chwipio rhywun," meddai Othniel. "Chwi, efallai? Beth a ddigwyddodd i'r wisg?"

Torrodd y Roeges i wylo eto.

"Dwyn cwpanaid o win i'ch mam yr oeddwn i," meddai cyn hir "I'r oruwch-ystafell. Ac mi lithrais ar y grisiau pan oedd eich chwaer yn brysio heibio imi. Collais beth o'r gwin ar ei gwisg."

"Y mae'r grisiau'n gul. Lle Rwth oedd aros nes i chwi gyrraedd eu pen. Peidiwch â phoeni: mi gaf fi air â hi."

"O, diolch, Syr. 'Wn i ddim beth a wnawn i petawn i'n cael fy ngyrru oddi yma. Nid oes gennyf arian i fynd yn ôl i Athen, a phed awn yn ôl, gwn y torrwn fy nghalon yno heb fy nhad a'm mam.'

"Y mae Rwth yn ifanc, Alys—a thipyn yn wyllt, efallai. Ond mae'i chalon hi'n iawn, er ei bod hi'n ymddangos mor ddideimlad. Ni synnwn i ddim ei gweld hi'n rhoi'r wisg 'na i chwi—fel arwydd o'i hedifeirwch!"

Gwenodd y Roeges drwy'i dagrau, ac yna plygodd i godi'r rhòl a oedd wrth draed Othniel.

"Hesiod!" meddai wrth ei throsglwyddo iddo.

Agorodd llygaid Othniel mewn syndod.

"Ef oedd hoff fardd fy nhad," chwanegodd y ferch, gan wylo'n dawel.

"Ond . . . ond sut y gwyddech chwi mai gwaith Hesiod oedd hwn?" gofynnodd Othniel.

"Eich gweld chwi'n ei ddarllen yn y tŷ y bore 'ma a wnes i, Syr. A gynnau, pan gariodd y gweision chwi yma i'r berllan, gadawsoch y rhòl ar y fainc."

"Do, anghofiais amdani, a bu'n rhaid imi yrru Simeon i'w nôl."

"Yr oeddwn i wrthi'n ei darllen pan ddaeth Simeon yn ôl i'r tŷ. Gobeithio y maddeuwch imi, Syr."

"Nid oes un ferch y ffordd yma yn gallu darllen. Dim ond y bechgyn ac nid pawb o'r rheini. Pwy a'ch dysgodd?"

"Fy nhad. Fe ddechreuodd ddysgu Diana hefyd."

"Diana?"

"Fy chwaer fach. Ond bu hi farw dan y pla a ddaeth i Athen. Chwech wythnos yn ôl. Yr oedd Diana'n dysgu'n gyflym iawn hefyd, yn gyflymach na fi o lawer."

"Fuasech chwi . 'fuasech chwi'n darllen i mi weithiau? Mae . . . mae fy llygaid i'n blino'n fuan."

"O, wrth gwrs, Syr. Mi fuaswn i wrth fy modd."

A dyna gychwyn y gyfathrach rhyngddynt. Erbyn hyn, gwrando ar fiwsig ei llais —tawel a syllu ar ei hwyneb tlws a'i gwallt gloywddu oedd hyfrydwch pennaf Othniel. Yr oedd yn ei charu, a gwyddai ei bod hithau'n hoff ohono yntau. Petai'n gwella—a daliai i obeithio y câi adferiad—gofynnai iddi ei briodi, a thrigent yn un o'r tai newydd a godasai'i dad yng nghwr uchaf yr ystad. Petai'n gwella . . .! Beth, tybed, a ddywedai'r Nasaread wrthi?

Fel y syllai arni'n marchogaeth tu ôl i Rwth, gwyddai na allai ddanfon neb gwell at y rabbi o Galilea i erfyn ar ei ran: ymbil dros un a garai y byddai hi. Ni fynegasai hi hynny i neb, a chadwai'n wylaidd ei lle fel caethferch yn y tŷ, ond nid âi awr heibio na chwiliai hi am gyfle i wneud rhyw gymwynas fach ag ef. Tybiai Othniel fod dealltwriaeth gyfrin rhyngddi hi a'r hen Elihu yn aml iawn pan ofynnai ef am rywbeth i Elihu, Alys a'i dygai iddo.

Elihu Gwyliai ef yn awr ar ei asyn, yn ymddiddan ag Alys, a gwenai Othniel wrth gofio mor afrwydd oedd Groeg yr hen frawd. Buasai'n gaethwas i'w dad ers tua deng mlynedd ar hugain bellach, a chawsai gynnig ei ryddid droeon. Ond nis mynnai. Ar ddiwedd pob chwe blynedd digwyddai'r un peth. Gwrthodai Elihu ei ryddid, ond buasai'n dra diolchgar i'w feistr am adael iddo gael un golwg arall ar fro'i ieuenctid. Gwyddai yr un oedd ei eiriau bob tro—ei fod yn hy, yn gofyn llawer ar law ei feistr haelionus, yn manteisio ar ei garedigrwydd, ond hiraethai am droedio unwaith eto wrth lan Llyn Gennesaret. Yno, gerllaw Capernaum, y chwaraesai yn hogyn; yno yr oedd bedd ei dadau. Rhoddid iddo asyn ac arian a bwyd i'r daith, ac i ffwrdd ag ef fel gŵr bonheddig am ryw dair wythnos. Fel gŵr bonheddig er gwaethaf ei ddillad tlodaidd a rhic y caethwas yn ei glust. A phob tro yr âi, codai dadl rhwng mam a thad Othniel—hi'n haeru na adawai neb yn ei lawn bwyll i gaethwas fynd i grwydro'r wlad fel hyn ac na welai ef mo'i asyn na'i gaethwas byth wedyn, ac yntau'n ceisio egluro'n bwyllog ac amyneddgar mai Elihu oedd Elihu. Ar ôl tocio'r gwinwydd yn nechrau'r flwyddyn yr âi'r hen gaethwas, a chyn sicred ag y clywid llais y durtur eto yn y wlad, gwelid ef a'i asyn yn dringo'r bryn tua'r tŷ. A châi Othniel, a hoffai gwmni'r hen frawd, hanes pysgodwyr Galilea a darluniau byw o'r prysurdeb dibaid hyd y Via Maris, y ffordd fawr a redai o Ddamascus drwy Gapernaum tua'r môr. Treuliai Elihu, ar ei wyliau' fel hyn, oriau meithion yn gwylio'r carafanau lliwgar yn mynd heibio o Ddamascus a'r Dwyrain Pell. Ond y tro olaf hwn, am y rabbi o Nasareth a'r gwyrthiau rhyfeddol a gyflawnai y soniai: âi dros yr un ystori ddegau o weithiau, ac nid oedd dim arall i'w glywed ganddo. Siaradai mewn islais dwys, fel petai'n sôn am Abraham neu Elias. Yr oedd ef yn sicr mai hwn oedd y Meseia.

Aethai'r cwmni o olwg Othniel yn awr tu ôl i'r clwstwr o gypreswydd ar waelod yr allt, ac ni welai ond gwyn a choch a glas eu gwisgoedd rhwng y coed. Yna aeth tro yn y ffordd â hwy o'r golwg. Galwodd ddau was a welai'n dychwelyd i'r tŷ o'r winllan.

"Simeon! Nahor!"

Brysiodd y ddau ato.

"Hoffwn eistedd allan yn y berllan."

"O'r gorau, Syr," meddai Simeon. "Yn eich lle arferol?"

"Ie. Wrth y ffrwd."

Cydiodd y ddau, un bob ochr, yn ei gadair a'i gludo ynddi i gwr pellaf y berllan, at y ffigysbren ar fin yr afonig.

Hwn, parabl dŵr y nant, oedd y perffeithiaf sŵn yn y byd i Othniel. Su awel mewn dail, cân adar y gwanwyn, chwerthin merch—yr oeddynt oll ynghudd yn ei islais ef. A gwelai ei ddychymyg liwiau yn y sŵn—nid yn y dŵr troellog yn unig ond yn ei lafar hefyd a hoffai gau ei lygaid a gadael i'r sisial cysurlawn droi'n wynder a glesni ac aur a phorffor yn nhawelwch ei feddwl. Heddiw, gwyn a glas a welai, a thrwyddynt gwenai llygaid tyner a thirion Alys. Mor llon fyddai'r llygaid hynny os llwyddai i ddwyn y Nasaread yn ôl gyda hi! Os ildiai'r rabbi ifanc i erfyniad rhywun, i ddyhead Alys y gwnâi, i'r weddi yn ei llygaid rhyfeddol hi.

Yr oedd y saer hwn o Nasareth yn ŵr anghyffredin, yn amlwg. Gwir fod gan yr hen Elihu ddychymyg byw a'i fod yn hoff o chwanegu cufydd at bob stori, ond y tro hwn, yn rhyfedd iawn, ni chynyddai'r hanesion o'u hailadrodd. Ni feiddiai Othniel amau gair ohonynt yng ngwydd yr hen frawd: pan ddaeth gwên ddrwgdybus i'w lygaid un diwrnod, arhosodd Elihu ar ganol ei stori a haeru ei fod yn barod i roi ei enaid i'r Diafol ei hun os oedd cysgod o gelwydd yn yr hyn a ddywedai.

Aeth meddwl Othniel dros rai o'r hanesion eto, fel y gwnaethai dro ar ôl tro o'r blaen. Yn ôl Elihu, am wyrthiau'r Nasaread ac nid am ddim arall y siaradai pawb yng Nghapernaum, a thynnai pobl sylw'i gilydd ar yr heolydd at rywun a fu'n ddall neu'n gloff neu'n wahanglwyfus ond a iachawyd gan y rabbi a'i ddisgyblion. Ond y stori a lynodd fwyaf yn ei feddwl efallai am fod Othniel yn dioddef oddi wrth yr un afiechyd—oedd honno am ryw ŵr yn glaf o'r parlys. Gan i Elihu gyfarfod un o weision y dyn, yr oedd y manylion i gyd ganddo, ac adroddai'r hanes ag awdurdod.

"Yr oedd ef newydd wella gwas y canwriad Rhufeinig, Syr,' meddai. "Heb ei weld o gwbl! Pan oedd ar ei ffordd i'r tŷ, gyrrodd y canwriad neges ato. Dweud y gallai ef iacháu'r gwas dim ond wrth ddymuno hynny. A dyna a wnaeth, Syr, wedi synnu fod gan y Rhufeinwr y fath ffydd ynddo ef. Dyn da yw'r canwriad 'na sydd yng Nghapernaum, Syr. Yn yr hen dref y mae'r synagog harddaf a welais i erioed. Harddach hyd yn oed na hon a gododd eich tad yma yn Arimathea. A'r canwriad 'na a dalodd am ei hadeiladu. Y mae rhai o'r Rhufeinwyr 'ma, Syr, y mae'n rhaid imi ddweud, yn ddynion gwych. Ydynt, yn wir, er eu bod hwy'n baganiaid rhonc a chanddynt gymaint o dduwiau ag sydd o ffigys ar y goeden 'ma

"Y dyn a oedd yn wael o'r parlys, Elihu—beth a ddigwyddodd?"

"O, ie, Syr. Un go flêr wyf fi'n dweud stori, onid e? Ond yn wir, y mae'r canwriad 'na sydd yng Nghapernaum yn haeddu lle yn y Nefoedd, Syr. Ydyw, wir—a begio'ch pardwn am sôn am y Nefoedd mewn bywyd ar ôl hwn. Siawns go sâl a gefais i yn hwn, fel y gwyddoch chwi, er nad oes gennyf lawer i gwyno yn ei gylch, o ran hynny—wedi cael iechyd da drwy f'oes a'ch tad mor garedig wrthyf ac yn gadael imi fynd bob chwe blynedd yn rêl gŵr bonheddig am dro yn ôl i'r hen ardal.. .

"Y dyn a oedd yn wael o'r parlys, Elihu?"

"Daria unwaith, dyna fi'n crwydro eto, Syr. Wel, fe aeth y rabbi'n ôl i dŷ un o'i ddisgyblion. I lawr wrth wal y Llyn, Syr. Pysgodwr o'r enw Simon. Y tŷ bach delaf a welsoch chwi erioed. Ar ei ben ei hun a lle agored rhyngddo a mur y traeth. Mi fûm i'n eistedd ar wal y Llyn am oriau un bore, dim ond i edrych ar y tŷ a rhag ofn y gwelwn i'r Proffwyd yn mynd iddo. Ond yr oedd ef a'i ddisgyblion rywle yn y De a thros Iorddonen . . . "

"Fe aeth i dŷ'r pysgodwr. Ac wedyn?"

"Yr oedd llawer o Ysgrifenyddion yng Nghapernaum yn ei wylio, Syr. O bob man. O holl Galilea a Jwdea a hyd yn oed o Jerwsalem ei hun. Dynion da, Syr, dynion da iawn, gwŷr dysgedig dros ben a'r Gyfraith ar flaenau'u bysedd. Ond—os maddeuwch chwi i hen gaethwas am ddweud hynny, Syr—rhy glyfar, rhy fanwl, rhy ddeddfol. Wedi'r cwbl, yr oedd y Proffwyd yn medru gwneud pethau na fedrent hwy, ac nid arno ef yr oedd y bai am fod y bobl yn tyrru ar ei ôl. Dywedai Caleb y gwas y cefais i'r stori ganddo—fod yno gannoedd o'r wlad tros Iorddonen mewn pebyll tu allan i Gapernaum a channoedd eto, pobl o Phenicia, hyd y bryniau i'r gogledd, a miloedd o Galilea a Jwdea yn y dref ac yn y pentrefi o gwmpas. Miloedd o bobl sâl hyd y lle, yn gobeithio am iachâd. Nid rhyfedd fod yr Ysgrifenyddion yn anesmwyth, oherwydd yr oedd miloedd yn dilyn y Proffwyd dim ond i'w glywed yn siarad, Syr. Yn syml a chartrefol, meddai Caleb. Pawb yn ei ddeall. Nid hollti blew am y Gyfraith fel rhai o'r Ysgrifenyddion, ond egluro popeth mewn damhegion am bethau cyffredin. Nid fy mod i'n dweud dim yn amharchus am yr Ysgrifenyddion, cofiwch, Syr. Dynion da, dynion gorau'r genedl. Na, mi rown i fy nghorff i'w losgi cyn dweud gair yn erbyn un Rabbi. Ni fethais i erioed, Syr—wrth y synagog neu ar fin y ffordd neu yn y farchnad—ymgrymu pan âi Rabbi heibio. Erioed yn unman. 'Elihu, 'machgen i,' fyddai geiriau fy nhad ers talm, beth bynnag arall a anghofi di, cofia mai gan yr Ysgrifenyddion y mae doethineb. Hwy sy'n deall y Gyfraith, cofia, a lle bynnag y cei di gyfle i wrando ar Rabbi—mewn priodas neu angladd neu yn y synagog neu yng nghyntedd y Deml—bydd yn astud.' Gwn nad yw'ch tad, fel Sadwcead, yn cytuno â llawer o'u dysgeidiaeth, Syr, ond . . .'

"Wedi i'r Nasaread fynd i mewn i'r tŷ wrth lan y Llyn, Elihu?"

"Dyna fi'n crwydro eto, Syr, yn lle mynd ymlaen â'r stori. Fel hen ddafad a'i thrwyn yn rhuthro ar ôl pob blewyn glas. 'Y neb a gadwo ei enau a'i dafod a geidw ei enaid rhag cyfyngder,' medd yr hen air, onid e, Syr? . . . Wel, i mewn ag ef i'r tŷ gan feddwl cael tipyn o dawelwch yno hefo'r pysgodwr Simon a'i frawd Andreas ac eraill o'i ddisgyblion. Ond fe ddaeth rhai o'r Ysgrifenyddion a llu o bobl eraill at y tŷ, amryw ohonynt yn ymwthio i mewn. Cyn hir yr oedd y lle gwag rhwng y tŷ a wal y Llyn yn llawn o bobl, llawer ohonynt yn disgwyl dadl rhwng y Proffwyd a'r Ysgrifenyddion. Yr oedd y Proffwyd yn sefyll wrth y drws er mwyn i'r rhai tu fewn yn ogystal â'r rhai tu allan ei glywed yn pregethu, a gwrandawai pawb yn astud arno. Yna daeth pedwar o ddynion ifainc yn cario meistr Caleb tua'r lle. Ar fat ei wely, Syr. Yr oedd yn wael o'r parlys ac yn methu â symud llaw na throed ers rhai blynyddoedd. Dyn ifanc fel chwi, Syr, ond yn llawer gwaeth na chwi, wrth gwrs. Pan ddaethant at gwr y dyrfa, gwelsant nad oedd un gobaith iddynt dorri llwybr drwyddi. Wedi'i gludo ef daith awr o Gapernaum, o ymyl Chorasin, yr oeddynt yn siomedig iawn. 'Wyddoch chwi beth a wnaethant, Syr? Mynd i gefn y tŷ a chlymu rhaffau am gonglau'r mat. Yr oedd digon o hen raffau yn y cwrt wrth gefn y tŷ, rhaffau ar gyfer rhwydi a hwyliau'r ddau bysgodwr Simon ac Andreas. Wel i chwi, i fyny â hwy wedyn i'r to a chodi meistr Caleb yno. Mewn dim o amser yr oeddynt wedi crafu'r pridd yn ôl oddi ar ddarn o'r to a chodi'r brigau a'r coed a'r meini o'u lle. Yr oedd y bobl yn yr ystafell oddi tanynt wedi dychrynu, yn methu'n glir â gwybod beth a oedd yn digwydd. Fe dawodd y Proffwyd, a rhoi cam i mewn i'r tŷ i weld achos y cynnwrf, a chyn gynted ag y gwnaeth ef hynny, dyma'r dynion ifainc yn gollwng y mat yn araf i lawr drwy'r to. Wrth draed y Proffwyd, Syr. Yr oedd Caleb i fyny ar y to hefo'r dynion ifainc ac yn edrych i lawr ar wyneb ei feistr. Ni fedrai'r hen was beidio â chrio wrth weld llygaid mawr ei feistr—yr oedd yn methu siarad gair ers tro—yn erfyn am i'r Proffwyd ei iacháu. Buasai'r dyn ifanc yn un go wyllt ar un adeg, yn byw er mwyn pleser a dim arall.

Ond yr oedd ganddo galon iawn, meddai Caleb. Caredig a haelionus dros ben, wyddoch chwi, ac yn rhoi arian o hyd o hyd i'r tlodion. Un diwrnod, pan ddaeth hen gardotyn i'w dŷ . . .

"Beth ddywedodd y Nasaread wrtho, Elihu?"

"Wel, Syr, dyna lle'r oedd y dyn ifanc ar y mat wrth ei draed, yn methu â dweud gair na symud bys na bawd, dim ond ceisio siarad â'i lygaid. Yr oedd pawb yn dawel. Dim siw na miw yn yr ystafell. Yna fe ŵyrodd y Proffwyd ymlaen uwchben y dyn ifanc a dweud,' Ha, fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau'."

"Beth!"

"Dyna a ddywedodd, Syr. Yn dawel, ond clir. Y llais mwyaf caredig a glywsai Caleb erioed. Caredig a llawn cysur, ond â rhyw awdurdod rhyfedd ynddo hefyd.'

"Nid oes gan neb awdurdod i ddweud hynny, Elihu. Dim ond Duw ei hun. Y dibechod yn unig a all faddau pechodau.' "Y mae'r Proffwyd hwn yn ddibechod, Syr. Ef yw'r Meseia."

"A ydyw'n hawlio hynny?"

"Fe wnaeth y diwrnod hwnnw, Syr. O flaen yr Ysgrifenyddion hefyd. Ac y mae llawer a'i clywodd ac a welodd ei wyrthiau yng Nghapernaum yn credu hynny. Fel yr oeddwn i'n dweud wrth eich tad. . . "

"Beth a ddywedodd yr Ysgrifenyddion?"

"Dim byd, Syr, ond yr oedd eu hwynebau'n huawdl iawn. Ni chlywsant erioed y fath gabledd."

"Naddo, yn sicr. Yr oedd yn cablu, Elihu."

Ysgydwodd yr hen gaethwas ei ben yn ddwys.

"Mae Caleb yn un crefyddol iawn, Syr, yn llawer mwy duwiol na fi. Ond yr oedd ef yn credu'r Proffwyd, yn gwybod yn ei galon mai llais y Meseia a lefarai. Gwelai ryw lawenydd mawr yn llygaid ei feistr a dagrau'n dechrau rhedeg i lawr ei ruddiau. Gwyddai wrth edrych i lawr ar ei wyneb, fod rhyw dangnefedd rhyfeddol yn meddiannu'i enaid. A syrthiodd yr hen Galeb ar y to i ddiolch i Dduw am y Proffwyd ac am iddo faddau pechodau'i feistr."

"A'r Ysgrifenyddion?"

"Fe symudodd rhai ohonynt gam ymlaen, gan feddwl ceryddu'r Proffwyd. Dyna wahaniaeth a oedd rhyngddo ef a hwy, meddai Caleb. Ef mewn gwisg gyffredin wedi'i gweu gan Nadab y Gwehydd yng Nghapernaum acw, a hwythau wel, gwyddoch mor urddasol y gall Rabbi edrych, Syr. Ond cyn iddynt yngan gair, fe droes y Proffwyd atynt a gofyn, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? Canys pa un hawsaf, ai dweud, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dweud, Cyfod a rhodia? Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y Dyn ar y ddaear i faddau pechodau .

"Mab y Dyn!"

"Ie, Syr. Dyna'r unig dro iddo honni bod yn Feseia, yn ôl Caleb."

"A rwygodd yr Ysgrifenyddion eu dillad?"

"Cyn i neb gael amser i ddim fe ŵyrodd eto uwchben y dyn ifanc, gan ddweud, Cyfod, cymer dy wely i fyny a dos i'th dŷ.' Fe anghofiodd pawb bopeth arall wrth weld y dyn ifanc, Syr.'

"Yn. . . yn codi?"

"Ie, Syr, ar ei eistedd i ddechrau, ac yna ar ei draed o flaen y Proffwyd. Fe safai yno, meddai Caleb, gan edrych o'i gwmpas yn ffwndrus, fel petai'n methu â chredu bod y peth yn wir. Ac yna fe syrthiodd ar ei liniau wrth draed y Proffwyd Syr?"

"Ie, Elihu?"

"Clywais—maddeuwch imi am sôn am y peth—clywais cyn gadael Capernaum fod y Proffwyd . . ." Tawodd, yn ansicr.

"Fod y Proffwyd i lawr yn Jwdea?"

"Tu draw i Iorddonen, Syr, ond yn bwriadu bod yn Jerwsalem dros yr Ŵyl. Ac yr oeddwn i'n meddwl, Syr, os maddeuwch imi am fod yn hy arnoch

"Y gallwn i fynd i Jerwsalem?"

"Nage, Syr. Fe fyddai'r daith yn ormod i chwi."

"Beth, ynteu? Nid âi fy nhad yn agos i'r Nasaread—dim ond i'w ddilorni.'

"Na wnâi, mi wn, Syr. Y mae'n ddig iawn wrthyf fi am sôn cymaint amdano. Ond. . .'

"Wel?"

"Alys, Syr."

"Alys? Beth amdani?"

"Rhaid i chwi faddau imi, Syr, ond os medrai rhywun gymell y Proffwyd i ddod y ffordd yma . . . "

"Efallai, wir. Ond ni fydd Alys yn Jerwsalem. Elisabeth a chwithau yw'r gweision sy'n mynd i bob Gŵyl."

"Mae Alys yn gweddïo trosoch bob dydd, Syr. Rhyngoch chwi a mi, wrth gwrs. Ar ryw dduw o'r enw Zeus."

"Prif dduw y Groegiaid, Elihu."

"Felly yr oedd hi'n dweud, Syr. Bob bore a phob nos yn daer y mae hi'n erfyn trosoch. Ond peidiwch â chymryd arnoch i mi sôn gair wrthych, os gwelwch yn dda, Syr. Meddwl yr oeddwn i . . .

"Ie?"

"Y gallech chwi gymell eich tad i adael i Alys am y tro hwn . . . "

"Fynd i Jerwsalem?"

"Ie, Syr. Y mae ef, fel chwithau, yn hoff ohoni ac yn ddrwg ganddo trosti."

"Ond ni wnâi ond gwylltio pe soniwn am ei gyrru i weld y Nasaread. Gwyddoch mor chwyrn ydyw ef a gwŷr y Deml yn erbyn y Galilead."

"Nid oes raid i chwi sôn am y Proffwyd, Syr. Pe dywedech wrtho y byddai'r daith i Jerwsalem yn gymorth iddi i anghofio'i galar, efallai . . ."

Galwai llais Reuben, y goruchwyliwr, o'r winllan.

"Reuben yn chwilio amdanaf, Syr. Caf dafod ganddo oni frysiaf. Meddyliwch am yr awgrym ynglŷn ag Alys, Syr. Diar, pe clywech chwi'r hen Galeb yn sôn am y Proffwyd! Ni fu neb tebyg iddo meddai ef. Dim ers dyddiau Elias, beth bynnag. Dywedai fod y tyrfaoedd yn llifo i lawr at y Llyn i wrando arno'n pregethu o gwch y pysgodwr Simon. Pobl o bob cyfeiriad. Ô Tyrus a Sidon, o bob rhan o Galilea, o . . . " Daeth llais Reuben eto o'r winllan. "Rhaid imi 'i gwadnu hi, neu fe fydd Reuben yn hanner fy lladd i. Ond cofiwch feddwl am y peth, Syr."

Un o lawer oedd y sgwrs honno, ond hi a gofiai Othniel gliriaf. Am mai hi a'i cyffroes fwyaf. Bob dydd wedyn, dychmygai weled Alys yn ymgrymu o flaen y Nasaread yng Nghyntedd y Cenhedloedd yn y Deml ac yn erfyn arno ddyfod i Arimathea. Gwelai'r Proffwyd yn ildio i'w chais ac yn ei bendithio a'i chysuro. A phob nos breuddwydiai am y Proffwyd a'i ddisgyblion yn dringo'r bryn tua'r tŷ, a'r gweision yn eu gludo ef i'w cyfarfod ac yna . . .

Tan echnos. Dinistriwyd y breuddwyd melys gan un arall. Yr ogof a'i chynllwynwyr. Beth a olygai hwnnw, tybed? Gwelsai wyneb ei dad yn berffaith glir yng ngwyll yr ogof. A neithiwr, pan geisiai adennill y breuddwyd am y Nasaread a'i ddisgyblion yn dringo'r bryn, methai'n lân. Yr ogof a'i hwynebau mileinig a ymwthiai i'w feddwl er ei waethaf, a phan ddeffroes yng nghanol y nos, cilwenent arno oddi ar fur ei ystafell. Bu'n effro wedyn am oriau, a cheisiodd ddihangfa o'i anesmwythyd trwy ddechrau llunio salm. Ond ofer oedd pob ymdrech. Yr ogof, yr ogof a'i chynllwynwyr, a welai o hyd, a thu allan iddi y gŵr ifanc eofn a hardd.

Ond rhyw ddychryn a berthynai i'r nos a'i breuddwydion afiach oedd yr ogof. Yma, yn sŵn y ffrwd a murmur y dail a chân yr adar, y darlun arall a welai—y Nasaread a'i ddisgyblion yn dringo'r bryn, ac yntau, Othniel, yn cael ei gludo tuag ato.

Deuai, fe ddeuai; yr oedd yn sicr o ddod. A châi Othniel, yn iach a hoyw unwaith eto, wrando arno'n sôn am y Deyrnas y daethai i'w sefydlu. Dim ond briwsion o'i ddysgeidiaeth a gasglodd Elihu—yr oedd ei ddiddordeb ef a diddordeb pobl Capernaum, yn amlwg, yn fwy yn ei wyrthiau nag yn ei neges —ond clywsai Othniel ddigon i wybod bod rhyw newydddeb mawr yn efengyl y proffwyd hwn . . . "Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt . . . "—na, nid rhyw saer cyffredin oedd y Galilead hwn.

Pam yr âi i Jerwsalem, tybed? Ni allai, wedi cyrraedd yno, ymatal rhag pregethu yng Nghynteddoedd y Deml a chyflawni rhyfeddodau, gan iacháu cleifion a bwrw allan gythreuliaid. Ni hoffai'r offeiriaid na'r Sanhedrin, a'i dad yn eu plith, mo hynny, a byddent yn sicr o gynllwyn i'w ddal a'i garcharu.. Cynllwyn? Cynllwyn? . . .

Na, rhaid iddo anghofio'r ogof a'i chynllwynwyr. Am y breuddwyd arall y soniai'r ffrwd a'r dail a'r adar, am y Proffwyd a'i ddisgyblion yn dod yma i Arimathea ato ef. A'r breuddwyd hwnnw a ddeuai'n wir.

Nodiadau[golygu]