Yr Ogof/Pennod IX

Oddi ar Wicidestun
Pennod VIII Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod X


IX



WEDI galw yn y gwesty i ymolchi a bwyta, brysiodd Joseff eto i blas Caiaffas. Cafodd y drysau mawr ynghau, ond ni churodd arnynt, gan ddewis aros yn y porth nes i eraill gyrraedd.

Yr oedd y bore'n oer, ond addawai awyr glir y dwyrain ddiwrnod teg. Clywai tu mewn i'r plas leisiau tawel y morwynion wrth eu gwaith o lanhau'r cwrt a'r neuadd uwchben, a chanai un ohonynt salm mor ddwys â phetai hi yn y synagog. Ymunodd un arall yn y gân ac yna drydedd a phedwaredd yr un mor ddefosiynol, nes tyfu o'r un llais yn gôr bychan swynol.

"Clyw fy llef, o Dduw, yn fy ngweddi: Cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. Cuddia fi rhag cyfrinach y rhai drygionus, rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon, i saethu'r perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. Ymwrolant mewn peth drygionus; ymchwedleuant am osod maglau'n ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt? . . .

Gwelai Joseff yr hen Falachi'n brysio i mewn drwy glwyd y plas: ef oedd y cyntaf yn y Sanhedrin bob gafael, ymhell cyn ei amser.

"Wel, wir, dyma fi wedi cael fy nghuro'n lân heddiw, Joseff!" gwaeddodd o waelod y grisiau o farmor.

"Do, y mae arnaf ofn, Malachi. Ond yr ydych chwithau'n rhy gynnar o lawer."

"Ydwyf, mi welaf . . . Wel, Joseff, ond oedd yr Archoffeiriad yn glyfar neithiwr, mewn difrif? Mae Caiaffas yn glyfar, wyddoch. Rhyngoch chwi a mi, Joseff, mae'n glyfrach na hyd yn oed yr hen Annas. Colli'i dymer yn lân a wnaethai Annas neithiwr, yn arbennig gyda'r penbwl o fab sy gennyf fi. Petai wedi defnyddio'i ben, fe welsai ar unwaith mai 'Mi a ddinistriaf y Deml' a ddywedasai'r tyst cyntaf ac mai dweud yr un peth oedd ei le ef. Mi rois i winc fawr arno, ond wincian ar dylluan yr oeddwn i. Un felly fu Arah erioed penbwl dwl, digrebwyll. Fel ei fam. Y mae'r bechgyn eraill i gyd yn fy nilyn i, ond am hwn! . . . "

"Malachi?"

"Ie, Joseff?"

"Gwyddoch chwi gymaint am y Gyfraith a'r Ddeddf Rabbinaidd â neb."

"Wel, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny, ond wrth gwrs, y mae fy ngwybodaeth i'n un bur helaeth. A manwl hefyd, gan eich bod chwi'n digwydd sôn am y peth. Ydyw, lled fanwl, a gallwn ddadlau â Thobeias neu Fathan ar unrhyw bwnc, er mai myfi sy'n haeru hynny. Nid fy mod i'n fy nghanmol fy hun, cofiwch, ond gan i chwi grybwyll y mater.

"Mi fûm i'n meddwl llawer am y praw yn ystod y nos, Malachi, a theimlwn yn bur anhapus.

"Wel, wir, yr oeddwn innau'n anesmwyth iawn. Llygaid y dyn, Joseff! Yn edrych drwoch, yn darllen eich meddwl chwi. Ysbryd drwg, Joseff, ysbryd drwg."

"Mi af yn gynnar i'r Sanhedrin yn y bore,' meddwn i wrthyf fy hun, i weld Malachi. Y mae'r hen ddoethor yn siŵr o fod yno o flaen pawb, ac fe ŵyr ef reolau'r Llys yn well na neb . . . "

"O, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny, Joseff, 'fuaswn i ddim yn dweud hynny. Ond wrth gwrs, mae gennyf gymaint o brofiad â neb yn y Sanhedrin—mwy na neb, mewn gwirionedd—ac efallai eich bod chwi'n iawn fy mod i'n gwybod rheolau'r Llys cystal, onid yn well na neb arall. Efallai, wir, wedi imi ddechrau meddwl am y peth . . .

"Yr hyn a oedd yn fy mhoeni i oedd bod y praw yn un annheg iawn, Malachi—yn wir, yn anghyfreithlon."

"Y?"

"Yr oedd y Nasaread ar braw am ei fywyd, onid oedd?"

"Oedd, wrth gwrs."

"Wel, yn ôl rheolau'r Llys, dylem fod wedi cyfarfod yn y Deml, nid yma, Malachi, ac nid oedd gennym hawl i ddechrau'r praw tan y bore. Ac felly.

"Wel, wir! Wel, wir!" Cerddodd yr hen Falachi o amgylch y porth, gan chwerthin yn fain ac uchel. "Mae Joseff y Sadwcead yn mynd yn fwy manwl nag un Rabbi! Beth a gawsoch chwi i swper neithiwr, Joseff? Hi, hi, hi!"

"A minnau'n meddwl y buasech chwi'n egluro pethau imi, ac yn tawelu fy nghydwybod, Malachi," meddai Joseff gan edrych yn ddwys ar yr hen frawd.

"Cydwybod! Cydwybod! Hi, hi, hi! Dydd i ddydd a draetha ymadrodd'! Sadwcead â chydwybod ganddo! Wel, wir! Hi, hi, hi!"

"Ond, Malachi . .

"Y mae'r Pasg yn dechrau heno, Joseff. Rhaid i bopeth fod drosodd cyn hynny. Y mae Pilat wedi difa llawer Galilead o dro i dro. Wel, dyma gyfle arall iddo! Ni chaiff y gŵr o Nasareth ymyrryd eto â gwaith y Deml. Ond, Joseff?"

"Ie, Malachi?"

"Rhaid inni beidio â gwastraffu ennyd y bore 'ma, neu fe fydd y Galileaid yn dechrau dod i mewn i'r ddinas. Ac os clywant hwy ein bod yn mynd ag ef at Pilat i ofyn iddo'i ladd.. Yr oeddynt fel pobl wyllt y dydd o'r blaen pan ddechreuodd ef droi'r byrddau yn y Cyntedd. Yn gweiddi ac yn dawnsio o lawenydd! Mi hoffwn i wybod faint o arian a gododd rhai ohonynt oddi ar y llawr hefyd. Dywedai Arah ei fod tua deugain sicl yn fyr. Deugain sicl! A'r cwbl oherwydd y creadur yna. Y mae arno ef ddeugain sicl i Arah, rhyw chwech ar hugain i Samuel, rhyw bymtheg i . . . "

Agorodd y drysau tu ôl iddynt, a synnai'r ferch a'u hagorai fod rhywrai yno'n barod.

"Awn i fyny i'r neuadd, Joseff," meddai Malachi. "Cawn le cyffyrddus i eistedd yno."

"Ewch chwi, Malachi. Arhosaf fi yma am ychydig. Y mae arnaf eisiau gweld un neu ddau o'r Cynghorwyr.'

"O'r gorau, Joseff, ond peidiwch â dangos eich cydwybod i'r lleill. Neu mewn llewyg y bydd pob Pharisead ohonom! Hi, hi, hi!”

Siaradai a chwarddai'r hen frawd wrtho'i hun fel y dringai'r grisiau tua'r neuadd uwchben. Yr oedd Joseff yn falch o'i weld yn mynd. Gwyddai mai ofer oedd ceisio deffro cydwybod y Pharisead ariangar hwn: nid oedd ganddo un. A phechasai'r Nasaread yn anfaddeuol trwy ymyrryd â'r cyfnewidwyr arian: oni chollasai Arah tua deugain sicl?

Oedodd eto'n anesmwyth ac unig yn y porth. Oddi tano yr oedd y ddinas yn dawel iawn, er bod ambell golofn o fwg yn dechrau ymddangos yma a thraw. Cyn hir, gan gerdded yn fân ac yn fuan fel un ar frys mawr, nesâi'r Rabbi Tobeias. Gwenodd Joseff wrth gofio nad oedd gan yr hen Ysgrifennydd syniad yn y byd am amser: hanner—redai yn awr, er ei fod lawer yn rhy fuan i'r cyfarfod o'r Sanhedrin.

"Henffych, y Rabbi Tobeias!"

"Henffych, fy ffrind!" Daeth i ben y grisiau o farmor a rhythodd i wyneb Joseff. "Nid. . . nid Joseff o . . . o Arimathea?" Yr oedd yn syndod bod ei gof yn gweithio.


"Ie. Yr ydych, fel finnau, yn rhy gynnar o lawer."

"Ydwyf, ydwyf. Yn rhy gynnar. Ydwyf, o lawer. O fwriad. Y mae arnaf eisiau gweld yr Archoffeiriad. Cyn y cyfarfod. Y mae'n bwysig. Pwysig iawn. Heb gysgu winc neithiwr. Dim winc. Oherwydd y praw."

"Yr annhegwch, Rabbi?"

"Y? Ie. Fy meddwl i'n mynd tros yr holl beth drwy'r nos. Fel ci ar ôl ei gynffon. Y cwbl yn anghyfreithlon. Rhaid imi gael gweld yr Archoffeiriad."

"Ni chysgais innau chwaith, y Rabbi Tobeias. Nid wyf yn ŵr doeth a dysgedig fel chwi, yn gwybod manylion y Gyfraith a rheolau'r Sanhedrin, ond gwyddwn ddigon i deimlo'n euog ar ôl eu hamharchu fel y gwnaethom neithiwr. Yn euog iawn, y Rabbi Tobeias. Os caniatewch imi, dof gyda chwi at yr Archoffeiriad."

Safent tu fewn i'r porth, ac ni chlywsent sŵn traed yn dringo'r grisiau tu allan. Troes y ddau at y gŵr a'u cyfarchai.

"Henffych, y Rabbi Tobeias! Henffych, Joseff!"

"Henffych, Nicodemus!" meddai Joseff, gan adnabod Pharisead o Jerwsalem, dyn bychan tawel a nerfus. Nodiodd y Rabbi Tobeias arno, ond yr oedd yn amlwg fod ei feddwl ymhell erbyn hyn gyda'r hyn a ddywedai wrth Gaiaffas, efallai.

"Yr ydych chwithau'n rhy gynnar," sylwodd Joseff, er mwyn bod yn gwrtais yn fwy na dim arall.

"Ydwyf. Gyda'r nos neithiwr y cyrhaeddais i'r ddinas. Bûm oddi cartref ers dyddiau, yn edrych am fy merch sydd yn wael iawn. Cysgais tan hanner awr yn ôl."

"Ni chlywsoch mo'r negesydd neithiwr?"

"Naddo. A gadodd fy ngwraig imi gysgu, gan wybod fy mod mor flinedig. Daeth negesydd yr Archoffeiriad eto'r bore 'ma, a chefais beth o'r hanes ganddo. Fe . . . fe gondemniwyd y Nasaread?"

Sylwodd Joseff ar unwaith ar y pryder yn ei lais. A oedd hi'n bosibl fod y Pharisead hwn o blaid y carcharor?

"Do. Am gabledd. Fe'i galwodd ei hun yn Fab y Dyn. O'n blaen ni oll. Fe rwygodd yr Archoffeiriad ei ddillad. Pam. . . pam y daethoch mor gynnar, Nicodemus?"

"Yr wyf am geisio gweld yr Archoffeiriad cyn y Sanhedrin. Rhaid imi ei weld."

Yr oedd y dyn yn anesmwyth iawn, a siaradai'n nerfus a chyflym. Curai calon Joseff fel morthwyl ynddo. Yr oedd yn sicr fod hwn hefyd yno i wrthdystio yn erbyn y dyfarniad neithiwr. Dyma dri ohonynt o leiaf o blaid y Nasaread, ac efallai y gallent ddylanwadu ar amryw eraill.

"Nid ydych yn cytuno â'r hyn a wnaethpwyd neithiwr, Nicodemus?"

"Cytuno? Nac ydwyf. Yn bendant, nac ydwyf. Yr oedd yr holl braw yn chwerthinllyd o anghyfreithlon. Gyda phob parch i chwi, Rabbi Tobeias, y dywedaf hynny, ond fe dorrwyd.

"O," meddai'r hen Rabbi, gan ŵyro o'i uchelder i siarad bron yn wyneb Nocodemus, "dyna pam y deuthum i yma mor gynnar. Í gael gair â'r Archoffeiriad am y praw. Anghyfreithlon. Y cwbl. Yr holl beth. Do, fe dorrwyd pob rheol. Pob un."

"Dyna pam y codais innau mor fore," meddai Joseff. "Awn ein tri at yr Archoffeiriad. Y mae'n rhaid iddo wrando arnom. Dewch, gyfeillion."

Amneidiodd ar ferch a welai'n croesi'r cwrt.

"Hoffem gael gair â'r Archoffeiriad.

"Ond y mae wrth ei forefwyd, Syr."

"Y mae'n ein disgwyl." Llithrodd y celwydd yn rhwydd oddi ar dafod Joseff.

"O. Y ffordd yma, Syr." Aethant i fyny'r grisiau o farmor a throi i'r dde. iddynt fynd heibio i amryw o ystafelloedd, curodd y forwyn yn ysgafn ar y drws a'i hwynebai.

"Ie?" gwaeddodd llais Caiaffas o'r ystafell.

"Y tri Chynghorwr i'ch gweld, f'Arglwydd."

"Tri Chynghorwr? Gwelaf hwy yn y Sanhedrin, dywedwch wrthynt.

Camodd y Rabbi Tobeias heibio i'r ferch ac agorodd y drws.

"Henffych, f'Arglwydd Caiaffas. Erfyniwn eich maddeuant. Ond y mae'n bwysig Pwysig iawn Diolch, fy merch i."

Aeth y forwyn ymaith, yn edrych braidd yn ansicr, ac ymwthiodd Joseff a Nicodemus i mewn tu ôl i'r hen Rabbi. Eisteddai Caiaffas ar fainc esmwyth yn mwynhau'r bwyd a'r gwin a oedd ar y bwrdd isel o'i flaen. Edrychai'n ddig, eithr dim ond am ennyd y foment nesaf, yr oedd yn gwrteisi i gyd.

"A gaf fi alw am gwpanau? Yr wyf yn sicr yr yfwch gwpanaid o win gyda mi."

Gwrthododd y tri, ac eglurodd y Rabbi Tobeias eu neges ar unwaith.

"Ynglŷn â'r praw neithiwr, f'Arglwydd Caiaffas. Y tri ohonom yn teimlo'r un peth.

"O? Maddeuwch imi am fynd ymlaen i fwyta."

"Anghyfreithlon, f'Arglwydd. Torri pob rheol."

'Anghyfreithlon? Nid wyf yn deall, Barchusaf Rabbi."

"Nid oedd gennym hawl i gynnal y praw y dydd cyn y Sabath, f'Arglwydd. Dyna un rheol a roed o'r neilltu gennym. Nid oedd gennym hawl i alw'r Sanhedrin yn y nos. Dyna un arall. Ni alwyd tystion o blaid y carcharor. Dyna drydedd. Ni roesom iddo Rabbi i'w amddiffyn. Dyna bedwaredd. Nid ymprydiodd neb ohonom y dydd cyn y praw. Dyna bumed. Nid oedd gennych chwi, y Prif Farnwr a maddeuwch imi am sôn am hynny, f'Arglwyddhawl i droi'n erlynydd. Dyna'r chweched." Pob tro y soniai am un o reolau'r Llys, edrychai'r hen Rabbi i'r nenfwd gan grychu'i aeliau fel petai'n ceisio syllu ar y rheol yn ysgrifenedig yno, ac yna gŵyrai'i ben yn sydyn i nodio ar yr Archoffeiriad cyn dweud, "Dyna drydedd" neu "Dyna bedwaredd." "Ac yn olaf, f'Arglwydd," chwanegodd, "y mae'r Gyfraith yn gofyn am ail wrandawiad llawn a manwl o'r holl dystiolaeth o'i blaid ac yn ei erbyn."

Nodiodd Caiaffas yn ddwys.

"Cofiaf i chwi ddechrau sôn wrthyf am y pethau hyn neithiwr, Barchusaf Rabbi, cyn i chwi fynd ati i holi'r tystion. A bûm fel chwithau yn anniddig iawn fy meddwl. Ond Barchusaf Rabbi . . ."

"Ie, f'Arglwydd Caiaffas?"

"Gwthiais bob rheol o'r neilltu. O fwriad, er mor anhyfryd oedd gorfod gwneud hynny. Gwyddwn fy mod yn rhoi sen arnoch chwi ac ar draddodiad aruchel y Sanhedrin. Yr oedd gofid yn drwm yn fy nghalon."

Swniai'r Archoffeiriad yn drist ac edifeiriol, ac am ennyd credodd Joseff fod ei eiriau'n ddiffuant. Ond pan edrychodd Caiaffas arno ef a rhoi cyfle iddo syllu i'w lygaid, yr oedd yn sicr fod cysgod gwên yn llechu ynddynt. Chwarae â Thobeias yr oedd.

"Anfelys iawn, Barchusaf Rabbi," chwanegodd yr Archoffeiriad, "oedd treisio'r rheolau cysegredig. Yr oedd yn loes i'm henaid. Ond nid achos cyffredin yw hwn. Yng Ngalilea, yn Jwdea, hyd yn oed yma yn Jerwsalem, gadodd y carcharor hwn i'r bobl ei gyfarch fel y Meseia, yr Eneiniog, y Brenin. Yn ein barn ni, nid oes: Brenin ond Duw; ym marn y Rhufeinwyr, nid oes Brenin ond Tiberius. Os ydym am fod yn ffyddlon i'r Goruchaf, a allwn ni gamu o'r neilltu i syllu ar y bobl yn rhuthro fel defaid ar ôl y Galilead hwn? A allwn ni, Barchusaf Rabbi?"

"Wel, f'Arglwydd Caiaffas.. dafod Tobeias.

Ond ni ddôi geiriau i

"Ac os ydyw'r Rhufeinwyr sydd yma am fod yn ffyddlon i'w Hymerawdwr, a allant hwy gamu o'r neilltu i wrando ar yr Iddewon yn cyfarch eu Brenin'? A allant hwy, Barchusaf Rabbi?"

"Ond a oes raid wrth y fath frys, f'Arglwydd?"

"Yn fy marn i, oes. Neithiwr dyfynnais yr hen ddihareb, 'Buddiol yw i un farw fel na ddifether y genedl oll.' Daeth miloedd yma i'r Ŵyl. Creu terfysg yw bwriad y Nasaread a'i ddilynwyr, Barchusaf Rabbi. Y mae gwaywffyn y Rhufeinwyr yn finiog. Yn finiog iawn. Yr oedd yn flin calon gennyf amharchu rheolau'r Llys, ac erfyniaf eich maddeuant, y Rabbi Tobeias . . . "

"O, f'Arglwydd Archoffeiriad, nid dod yma i . . . "

"Na, mi wn. Ond er hynny, y mae'n ddyletswydd arnaf ymddiheuro i chwi ac i bob Rabbi a Pharisead yn y Llys. Yn wylaidd y gwnaf hynny, Barchusaf Rabbi. Fy nghysur yw, inni trwy fod yn anghyfreithlon ddarganfod y cabledd ofnadwy sydd yn enaid y Nasaread hwn."

Yr oedd Caiaffas, meddyliai Joseff, yn rhy glyfar i'r hen Rabbi syml a didwyll. Gwyddai na roddai'r Archoffeiriad bwys o gwbl ar y rheolau' cysegredig yn wir, yr oeddynt fel pla yn ei olwg. Ond ar ôl y fuddugoliaeth a enillasai yn y nos, troediai'n ofalus yn awr gwell rhagrith defosiynol yn wyneb y Rabbi Tobeias na dadleuon a cholli amser yn y Llys. Ac yr oedd yn amlwg oddi wrth wedd Tobeias i Gaiaffas ennill brwydr arall. Teimlai Joseff ei bod hi'n bryd iddo ef ymyrryd.

"Yr ydych yn anghofio'r peth pwysicaf, f'Arglwydd Caiaffas."

Edrychai'r tri ohonynt arno, wedi sylwi ar y cryndod yn ei lais. Daliai'r Archoffeiriad ei gwpan gwin yn ei law, ac yfodd yn araf cyn gofyn,

"A hynny?"

"Ein bod ni, arweinwyr y genedl, yn cynllwyn i ladd y Meseia."

Rhoes Caiaffas ddychryn duwiol, fel miswrn, ar ei wyneb a chododd oddi ar y fainc. Credent ei fod ar fin rhwygo'i ddillad, ond achubwyd ef rhag hynny gan guro ar y drws.

"Ie?"

"Yr Arglwydd Annas newydd gyrraedd, Syr. Y mae ef a'r Ysgrifenyddion yn aros amdanoch."

"Dof ar unwaith, dywedwch wrthynt."

Gwyddent beth a olygai hynny yr oedd Annas a'r Ysgrifenyddion yno i dynnu allan y warant a gyflwynid i Bilat. A rhaid oedd ei geirio'n ofalus er mwyn argyhoeddi'r Rhaglaw fod y Nasaread yn her i allu ac awdurdod Rhufain.

"Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cymorth, Barchusaf Rabbi," meddai Caiaffas wrth Tobeias.

"O'r gorau, f'Arglwydd Caiaffas."

Dilynodd Tobeias yr Archoffeiriad o'r ystafell. Eisteddodd Nicodemus ar fainc esmwyth wrth y mur, gan syllu'n ddiobaith ar y llawr, ond cerddodd Joseff yn nerfus ymlaen ac yn ôl fel rhyw anifail caeëdig. Arhosodd o'r diwedd o flaen y llall.

"Pam y daethoch yma, Nicodemus?"

"Fel chwithau, i geisio dylanwadu ar Gaiaffas."

"Gwn hynny. Ond pam? A ydych yn . . . yn yn credu yn y Nasaread?"

Ni ddywedodd y Pharisead ddim am ennyd yr oedd, yn amlwg, yn ŵr gochelgar. Yna, fel petai'n cofio geiriau eofn Joseff wrth yr Archoffeiriad, ymwrolodd.

"Y Pasg dair blynedd yn ôl oedd hi," meddai'n freuddwydiol. "Yr oedd Cenan, brawd fy ngwraig, yn aros gyda mi dros yr Ŵyl. O'r Gogledd, o Fethsaida. Ganddo ef y clywais i sôn gyntaf am y Nasaread. Petawn i ddeugain mlynedd yn ieuangach, Nicodemus,' meddai wrthyf droeon, dilynwn y Rabbi hwn.' Dywedai fod rhai o wŷr ifainc Bethsaida yn gadael eu gwaith fel pysgodwyr i fynd ar ei ôl ac i'w dysgu ganddo. Pysgodwr oedd Cenan hefyd."

"Oedd?"

"Ie. Bu farw ddwy flynedd yn ôl. Soniai lawer am gymydog iddo o'r enw Sebedeus ac am ei ddau fab, Ioan ac Iago."

"Ioan? Cwrddais ef neithiwr—neu'r bore 'ma, yn hytrach."

"O? Ym'hle"?

"Yn nhŷ saer o'r enw Heman.'

Nodiodd Nocodemus yn araf, â gwên hiraethus yn ei lygaid.

"I dŷ Heman yr euthum innau i'w weld," meddai.

"I weld pwy? Y Nasaread?"

"Ie. Mynnodd Cenan imi fynd gydag ef i wrando arno'n athrawiaethu yng Nghyntedd y Deml. Ac wedi imi ei glywed, penderfynais geisio cael ymgom dawel ag ef yn ei lety. Galwodd Cenan Ioan o'r neilltu a threfnodd hynny. Liw nos, rhag i neb fy ngweld, euthum i dŷ Heman ac arweiniodd Ioan fi i'r oruwch-ystafell at y Rabbi. Bûm gydag ef yn hir. Aeth tair blynedd heibio er hynny, ond gallaf glywed ei lais y munud yma. 'Oddieithr geni dyn drachefn,' meddai, ni ddichon weled teyrnas Dduw

"Geni dyn drachefn?"

"Ie. Yr oedd ei eiriau'n dywyll i minnau. Am Deyrnas yr Iddewon a'r Meseia'n Frenin arni y meddyliwn i. Ond am eni dyn oddi uchod, o'r Ysbryd, y soniai ef. 'Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd,' meddai wrthyf, ond yr hyn a aned o'r Ysbryd sydd ysbryd.' Yr oedd yn bosibl i bob dyn fod yn aelod o Deyrnas Dduw . . . Joseff?"

"Ie?"

"A ydych chwi'n credu mewn gwirionedd ynddo?"

"Ydwyf. Cynlluniais gyda Chaiaffas i'w ddal a'i ladd, ond pan edrychodd arnaf neithiwr yn y Sanhedrin, gwelwn mor dlawd a diwerth oedd fy holl fywyd. A'r bore 'ma, yng ngardd Gethsemane, wrth siarad â physgodwr cyffredin o'r enw Simon Pedr. . ." Dechreuodd gamu'n ôl ac ymlaen eto, ac yna arhosodd yn sydyn.

"Nicodemus!"

"Ie?"

"Ni ddywedodd Caiaffas ei fod yn dychwelyd yma. Efallai fod y cadno. . ." Brysiodd i'r drws a'i agor.

"Yn cynnal y Sanhedrin hebom?" gofynnodd Nicodemus, gan ymuno ag ef.

"Ie, er mwyn osgoi ymyrraeth. Dewch, brysiwn."

Rhuthrodd y ddau tua'r neuadd. Clywent lais Caiaffas yn annerch y Cynghorwyr: yr oedd mwy na digon o sail i amheuaeth Joseff.

Aethant i mewn i'r neuadd a sefyll wrth y drws.

"Ac yn olaf,"—darllenai'r Archoffeiriad o'r rhòl yn ei ddwylo o flaen y Sanhedrin ei hun cablodd yn echrydus drwy hawlio'i fod yn Fab Duw. A'n cosb ni, yr Iddewon, am gabledd felly yw marwolaeth. A phrin y mae'n rhaid inni atgofio'r Ardderchocaf Raglaw fod honni hawl fel y Meseia, Brenin yr Iddewon, yn gwneuthur y carcharor Iesu bar Joseff yn deyrnfradwr yn erbyn yr Ymerawdwr.'"

Hon oedd y warant a luniwyd i'w rhoi o flaen y Rhaglaw Rhufeinig, Pontius Pilat. Rhoes Caiaffas y rhòl i'r Ysgrifennydd gwasaidd a safai gerllaw iddo, ac yna camodd ef ac Annas, y cyn-Archoffeiriad, oddi ar y llwyfan isel.

"Awn felly at y Rhaglaw," meddai. Y Rabbi Tobeias a minnau a'r Cynghorwyr a enwyd gennych. Y mae'n ein disgwyl."

Gododd pawb, a cherddodd y ddau Archoffeiriad yn urddasol ar hyd y llwybr a dorrai'r hanner-cylch o Gynghorwyr yn ddau. Brysiodd eraill i'w dilyn, yn eu plith yr hen Falachi ac Esras ac Isaac: y rhai hyn a ddewiswyd ar y ddirprwyaeth a âi at Pilat.

Camodd Joseff a Nicodemus o'r neilltu iddynt, a sylwodd y ddau ar y wên fuddugoliaethus yn llygaid Caiaffas. Nid oedd dim a safai yn ei ffordd ef, meddai holl agwedd yr Archoffeiriad.

Er ei bod hi mor fore, buan y casglodd tyrfa yn y Gabbatha, neu'r Palmant uchel ysgwâr tu allan i'r Praetoriwm, y plas lle trigai Pilat pan ddeuai i Jerwsalem. Rhedai oriel hyd wyneb yr adeilad, ac wrth waelod y grisiau llydain a ddringai iddi, safai'r carcharor yn awr yng ngofal rhai o blismyn y Deml. Gerllaw iddo edrychai Caiaffas a'r Cynghorwyr ar ei gilydd ac i fyny i'r oriel bob yn ail, yn ddiamynedd iawn wrth orfod aros fel hyn am y Rhaglaw Rhufeinig. Ped aent i mewn i'r plas caent eistedd yno ar gadeiriau heirdd yn Neuadd y Llys, ond ni wnaent hynny ar un cyfrif: rhaid oedd iddynt eu cadw eu hunain yn bur a dihalog ar gyfer y Pasg.

"Arhoswn yma tu ôl i'r bobl," sibrydodd Nicodemus yn ofnus.

"Na, awn ymlaen," meddai Joseff, gan gydio yn ei fraich. "Fe welodd Caiaffas ni'n eu dilyn yma, petai wahaniaeth am hynny."

"Ie, bellach," sylwodd y Pharisead â gwên nerfus.

Ymwthiodd y ddau ymlaen, Joseff yn eofn a phenderfynol, Nicodemus yn bur bryderus, i sefyll ar y chwith i Gaiaffas a'r lleill.

"Nid yw Pilat mewn brys," sibrydodd Nicodemus ymhen ennyd.

"Heb godi, efallai."

"Ond fe ddywedodd Caiaffas fod y Rhaglaw'n eu disgwyl." Gwenodd Joseff gan daflu'i ben. Ond nid oedd gwên yn ei galon. Ni welai un gobaith yn awr. Yr oedd y warant yn nwylo'r Rhaglaw yn barod, yn fwy na thebyg, ac arwyddai hi'n frysiog, gan felltithio'r Iddewon hyn am ei ddeffro mor fore: yna trosglwyddai'r carcharor i ddwylo'i filwyr.

Aeth orig hir ac araf heibio, a gwelai Joseff fod Caiaffas a'i gymrodyr yn anesmwyth iawn. Tyfai'r dyrfa hefyd, ond pobl o'r tai gerllaw oeddynt, ac nid oedd acen Galilea i'w chlywed yn eu plith. Pobl Jerwsalem i gyd, a gwnaent beth bynnag a ddymunai'r Archoffeiriad a gwŷr y Deml.

O'r diwedd, safai Pilat a rhai o'i swyddogion ar yr oriel, wrth ben y grisiau. Dyn canolig o ran maint oedd y Rhaglaw, ond ymddangosai'n dal yn awr yn ei urddwisg o liw'r hufen a'i hymyl o borffor drud, ac yn arbennig wrth ochr ei glerc byr a thew. Yn ei law daliai ei ffon fer o ifori, yn arwydd o'i awdurdod.

"Henffych, Ardderchocaf Raglaw!" meddai amryw o'r Cynghorwyr.

"Henffych!" atebodd Pilat yn gwta: nid oedd, yn amlwg, mewn un o'i hwyliau gorau. Yna, â threm frysiog tua'r warant yn nwylo'i glerc a thua'r carcharor,

"Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?"

Edrychodd Joseff a Nicodemus ar ei gilydd yn llawen. Hwn oedd y cwestiwn ffurfiol ar ddechrau pob praw Rhufeinig: a oedd Pilat am fynnu clywed yr holl dystiolaeth drosto'i hun? Os digwyddai hynny, âi'r carcharor yn rhydd wedi'i fflangellu, efallai—oherwydd gofynnai cyfraith Rhufain am achwynwyr ac achwynion pendant.

"Oni bai fod hwn yn ddrwgweithredwr," atebodd Caiaffas, "ni thraddodasem ni ef atat ti." Dywedai ei dôn na hoffai'r ymyrraeth hon, a chofiodd Joseff hefyd am yr elyniaeth a oedd rhwng yr Archoffeiriad a'r Rhaglaw.

Edrychodd Pilat i lawr ar y carcharor, a daeth rhyw hanner-gwên i'w wyneb. Y breuddwydiwr hwn yn ddrwgweithredwr? meddai'i holl agwedd. Beth gynllwyn a oedd yn bod ar wŷr y Deml? Ofni colli'u gafael ar y bobl, efallaia cholli rhai o'u trethi. A, wel, rhyngddynt hwy a'u pethauau— a'u carcharor.

"Cymerwch chwi ef a bernwch ef yn ôl eich cyfraith eich hunain."

Rhoes Caiaffas gam ymlaen yn frysiog.

"Nid cyfreithlon i ni ladd neb," meddai." Meddai. "A chawsom hwn yn haeddu marwolaeth

"A'i drosedd?"

"Gŵyrdroi'r bobl a gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan hawlio mai ef ei hun yw Crist Frenin."

Celwyddau llithrig, a gwelai Joseff yr hen Rabbi Tobeias yn syllu'n hurt ar y Cynghorwyr o'i gwmpas. Ond miswrn difater oedd wyneb pob un ohonynt. Cychwynnodd Joseff i'r dde, gan fwriadu mynd i sibrwd gair yng nghlust Tobeias, ond cydiodd Nicodemus yn gyflym yn ei fraich. "Na, wir, peidiwch, Joseff. Ni wnewch ond gyrru Caiaffas yn fwy penderfynol fyth."

Dywedodd Pilat rywbeth wrth un o'i swyddogion ac yna aeth ef a'i glerc ac eraill i mewn i'r Praetoriwm. Amneidiodd y swyddog ar Amnon, pennaeth plismyn y Deml, a nodiodd yntau cyn rhoi gorchymyn i'w wŷr i arwain y carcharor i fyny'r grisiau.

"Y mae rhyw obaith yn awr, Nicodemus," meddai Joseff yn eiddgar. "Bwriada'r Rhaglaw ei groesholi trosto'i hun."

"Ac y mae'r amser yn llithro ymlaen. Edrychwch y mae Caiaffas ar bigau'r drain."

"Ydyw, yn camu'n ôl a blaen yn ddig. Fe ŵyr fod Pilat yn ei gasáu. A diolch am hynny.

Gwenodd Joseff wrth wylio anesmwythyd Caiaffas, ond ciliodd ei wên ymhen ennyd gwelai'r Archoffeiriad yn troi at y Cynghorwyr ac yn egluro rhywbeth iddynt.

"Nicodemus! Y mae rhyw gynllwyn eto gan Gaiaffas." "Oes. Ac y mae'r hen Falachi a'r lleill wrth eu bodd." Gwelsant yr hen Falachi ac eraill o wŷr y Sanhedrin yn troi i blith y bobl ac yn cyfarch rhai a adwaenent. "Y mae'u bwriad yn amlwg," sylwodd Joseff. "Cyffroi'r bobl yn erbyn y carcharor?""

"Ie. Fe lwyddant hefyd gyda'r taeogion hyn."

"Gwnânt: edrychwch arnynt yn nodio ac yn cilwenu ar ei gilydd. Yr oedd Cenan, fy mrawd yng nghyfraith, yn iawn. Yn Jerwsalem, meddai ef, yr oedd y bobl fwyaf gwasaidd yn yr holl wlad. 'Cynffonwyr y galwai ef hwy. Petai'n eu gweld yn awr, fe fyddai holl regfeydd pysgodwyr Galilea ar ei dafod. Ac ni all neb regi fel hwy."

Syllodd Joseff ar y rhai a wrandawai'n awchus ar yr hen Falachi a'r lleill, a gwelai eto wynebau dieflig yr ogof.

"Gwyrdroi'r bobl, yn wir!" meddai'n ddig. "Beth yw hyn, mi hoffwn wybod?"

Yna syrthiodd ei lygaid ar Heman y Saer a'i fachgen Ioan Marc ac amryw eraill o ddilynwyr y Nasaread: safent yn dwr pryderus ar fin y dyrfa. Ymh'le yr oedd Simon Pedr, tybed? Gan wybod ei fod yn ŵr byrbwyll, efallai iddynt ei gymell i aros ymaith. Edrychent yn unig a digymorth iawn yno ar gwr y bobl fileinig hyn.

Dychwelodd Pilat a'i glerc i'r oriel a galwodd swyddog am dawelwch. Darfu pob siarad a sisial a phwysai pawb ymlaen i glywed y ddedfryd. Safodd y Rhaglaw gyferbyn â Chaiaffas a chyhoeddodd mewn llais clir ac uchel,

"Nid wyf yn cael dim bai ar y dyn hwn."

Torrodd ystorm o wrthdystio.

"Y mae'n euog!"

"Cablwr!"

"Y mae'n haeddu marwolaeth!" "Terfysgwr!"

"Y mae'n cyffroi'r bobl yn erbyn Cesar!"

"Yn awr yn Jwdea!"

"Yma yn Jerwsalem!"

"Ar ôl ennill holl Galilea!"

"Tiberius! Tiberius am byth!"

"Nid Galilead!"

"Cesar, nid Galilead i ni!"

Tu ôl i'r ysgrechau hyn rhuai llu o leisiau mewn sŵn dieiriau, ac edrychodd y Rhaglaw braidd yn syn ar y dyrfa ac yna ar ei glerc. Ni ddisgwyliasai ef y fath gynnwrf. Taflodd drem ar Gaiaffas a'i ddyrnaid o Gynghorwyr—a deallodd. Hawdd oedd gweld oddi wrth wyneb yr hen Falachi'n unig mai ystorm wneud oedd hon: ni allai ef, fel yr Archoffeiriad, guddio'i foddhad.

Dywedodd Pilat rywbeth wrth ei glerc, a nodiodd hwnnw. Yna cododd swyddog ei law i alw am osteg.

"Ai Galilead yw'r dyn?" gofynnodd y Rhaglaw i Gaiaffas. "Ie, saer o Nasareth,"—y gair saer' mewn dirmyg. "Deiliad Herod Antipas, felly?"

"Ie, ond cyflawnodd yma yn Jerwsalem

Ond ni wrandawai Pilat. Troes at ei glerc a siaradodd yn dawel ag ef, gan wenu'n slei. Tybiodd Joseff mai dweud rhywbeth digrif am Herod yr oedd. Gwyddai am yr elyniaeth a oedd rhyngddynt.

Wedi iddo roi gorchymyn i'w swyddogion, brysiodd y Rhaglaw ymaith ar hyd yr oriel heb gymryd sylw pellach o'r Archoffeiriad a'i gyfeillion. Cerddai'n dalog, gan ddal i wenu ar ei glerc, a dywedai ysgogiad ei ben nad ddoe y ganwyd Rhufeinwr. Rhyngddynt hwy a'r hanner-Iddew Herod Antipas!

Ymunodd rhai o'r milwyr a'r swyddogion Rhufeinig yn awr â phlismyn y Deml, ac arweiniwyd y carcharor i lawr y grisiau ac ar draws y Palmant. Ymgynghorodd Caiaffas â'r Cynghorwyr, ennyd, ac yna, gan geisio ymddangos yn ddwys ac urddasol, cychwynasant ar ôl yr osgordd. Dilynodd Joseff a Nicodemus hefyd, ac o'u cwmpas ymwthiai'r bobl yn dyrfa swnllyd. Rhuthrai degau o rai eraill o'r tai hyd ochrau'r ystrydoedd troellog, a chyn hir yr oedd gorymdaith enfawr ar ei ffordd tua phlas Herod. Cerddodd Joseff yn araf, gan feddwl aros am Heman y Saer a'r lleill; yna sylweddolodd fod y bachgen Ioan Marc wrth ei ochr.

"Fy nhad am i chwi fynd yn eich blaen, Syr, a pheidio â chymryd arnoch eich bod yn ein hadnabod ni. Efallai y cewch gyfle i siarad dros y Meistr, Syr." Yna llithrodd y bachgen yn ôl a diflannu yn y dorf.

"Y mae Pilat yn gyfrwys," meddai Nicodemus fel y brysient ymlaen.

"Yn talu gwrogaeth i Herod?"

"Ie. Gŵyr fod Antipas yn ffafr yr Ymerawdwr."

"Fe ddylai fod—ar ôl codi dinas gyfan er mwyn rhoi'r enw C Tiberias' arni!"

"Clywais ei fod yn dal i yrru negeswyr i Rufain bob cyfle i achwyn yn erbyn Pilat. Fe wna hyn hwy'n gyfeillion, efallai! Beth a ddigwydd yn awr, debygwch chwi, Joseff?"

"Gwyddom beth fu hanes Ioan Fedyddiwr pan syrthiodd ef i ddwylo Herod," oedd yr ateb lleddf.

Yr oedd y cwrt mawr tu allan i blas Herod yn orlawn, a safai gwylwyr yn awr wrth y pyrth haearn i gadw'r bobl allan. Ond cafodd Joseff a Nicodemus yn eu gwisgoedd urddasol lwybr drwy'r dyrfa ymlaen at ymyl Caiaffas a'r Cynghorwyr. Nid oedd golwg o'r carcharor a'i osgordd: aethent hwy i mewn i'r plas, yn amlwg.

Gwaeddai'r bobl yn wyllt fel y gwnaethent o flaen Pilat, gan gyhuddo'r carcharor eto o gynhyrfu'r holl wlad yn erbyn awdurdod Cesar, o fod yn Jwdas o Gamala arall. Yr oedd enw Jwdas o Gamala yn ddychryn i Herod. Hwnnw, pan fu farw'i dad, Herod Fawr, a gychwynnodd wrthryfel y Selotiaid yng Ngalilea, gan gasglu byddin gref a meddiannu tref Sephoris a'i chronfa o arfau. Ond byr fu ei lwyddiant. Brysiodd y Cadfridog Varus a'i lengoedd i lawr o Syria, a chreulon fu'r dialedd. Llosgwyd Sephoris i'r llawr a gwerthwyd holl bobl y dref yn gaethion: lladdwyd miloedd drwy'r wlad croeshoeliwyd dwy fil yn Jerwsalem. Dihangodd Jwdas i aros am gyfle arall, ond pan gododd ei faner eilwaith ymhen rhai blynyddoedd, cymhellodd awdurdodau'r Deml y bobl i fodloni ar dalu'r trethi i Rufain. Ac yn awr wele Jwdas o Gamala arall yn y ddalfa, a gwŷr y Deml unwaith yn rhagor yn achub yr Iddewon rhag gwrthryfel a'r gosb ofnadwy a'i dilynai!

Ond chwerthin a wnâi'r Tetrarch am ben y fath gyhuddiad, meddai Joseff wrtho'i hun. Onid oedd ganddo ysbïwyr drwy holl Galilea ac oni wyliai'r rheini symudiadau pob un a ymddangosai'n derfysgwr? Na, ni thwyllid yr hen gadno Herod Antipas gan yr achwynion hyn.

Beth a ddigwyddai tu fewn i'r plas, tybed? Yr oedd y drysau trymion yn agored, a gwelai Joseff a Nicodemus nifer o wylwyr Herod a rhai o blismyn y Deml wrth ddrws y Neuadd ar y chwith yno, felly, y safai'r carcharor o flaen y Tetrarch. Tawelodd y dyrfa'n awr, ond clywai Joseff rai ohonynt yn sisial wrth ei gilydd o'i amgylch.

"Dyma'i gyfle o'r diwedd," sylwodd un dyn mawr ac araf, gan droi'i ben yn gall cyn chwilio am le i boeri ar y llawr. Yr oedd wrthi'n cnoi rhywbeth, a sylwai Joseff fod ei boer yn diferu o'i enau i'w farf.

"Pwy? Antipas?" gofynnodd ei gymydog, gŵr bychan eiddil ond un awdurdodol ei lais, a'i lediaith Roeg mor amlwg ag y gallai ef ei gwneud.

"Ie," meddai'r poerwr a'i lygaid gweigion yn cau gyda'i gilydd mewn winc ddoeth. "Fe geisiodd ddal hwn droeon o'r blaen."

"Do, mi wn, up in Galilee."

"Do.

Un o Galilea yw Sem fy nghefnder, ac mi glywais i Sem yn . . .

"Dianc ar draws y Llyn every time."

"Ie, dyna oedd Sem yn ddweud."

"Every time. Gwneud speeches o gwch wrth y lan, ac yna off ag ef. i wlad Philip, brawd Herod Philip ddim yn trwblio'i ben about him. Ond yr oedd Antipas. John the Baptist risen from the dead."

"Y?"

"Ioan Fedyddiwr wedi codi eto! Dyna oedd Herod yn gredu."

Llyncodd y gŵr araf beth bynnag a oedd yn ei geg yn ei fraw.

"Ond fe dorrodd Antipas ben hwnnw."

"Clean off. I blesio'i wraig Herodias. Ar ôl i'w merch Salome ddawnsio o'i flaen. Soldier brought it in on a salver."

"Ond sut y gall dyn heb ben atgyfodi?"

"Gofynnwch i'r Phariseaid!"

Edrychai'r gŵr mawr o'i gwmpas braidd yn anghysurus, fel petai'n disgwyl canfod rhywun heb ben yn nesáu ato o ganol y bobl. Yna chwarddodd yn blentynnaidd i anghofio'i anesmwythyd.

"Ioan Fedyddiwr wedi atgyfodi, wir!" meddai. "Beth sy'n bod ar Herod Antipas? Ddim hanner call! Dyn heb ben yn byw eto! Wel, wir! Hy, hy, hy!" Ond darfu'i chwerthin yn sydyn fel y syllai'n geg—agored ar ysgwyddau llydain rhyw ddyn o'i flaen: digwyddai'r gŵr blygu'i ben yn isel i chwilio am rywbeth tu fewn i fynwes ei wisg.

Gwelai Joseff y gwylwyr a'r plismyn wrth y porth yn nodio a gwenu ar ei gilydd, ac yna torrodd hyrddiau o chwerthin uchel o'r Neuadd, a llais dwfn a chwrs Herod yn arwain y miri. Caeodd Joseff ei ddyrnau'n chwyrn.

"Antipas yn cael hwyl am ben y carcharor, gellwch fentro," meddai wrth Nicodemus.

"Ie, 'synnwn i ddim.'

Ymwthiai rhai o'r bobl ymlaen gan feddwl gweld y difyrrwch, ond buan y gyrrwyd hwy'n ôl gan y gwylwyr. Dringodd amryw ohonynt wedyn ar ysgwyddau eraill, a mawr oedd eu mwynhad wrth edrych i mewn drwy'r ffenestri. Yna neidiasant i lawr yn gyflym a brysio'n ôl tua'r porth yr oedd y digrifwch drosodd.

"Ho, ho! Y Brenin! Y Brenin!"

"Henffych i'r Brenin!"

"Hosanna!"

Llefai a chwarddai'r dorf mewn bloddest wrth agor llwybr i'r carcharor a'i osgordd. Amdano yn awr yr oedd gwisg glaerwen lliw brenhinol yr Iddewon—ac ymgrymai llawer mewn ffug—wrogaeth fel yr âi heibio iddynt. Poerai eraill arno. Manteisiai'r plismyn a'r milwyr hefyd yn awr, wedi gweld ffordd Herod o'i drin, ar bob cyfle i'w wthio ymlaen yn ddiseremoni. Ond hwy, nid ef, meddyliai Joseff wrth syllu arno, a gollai urddas.

Ymlwybrodd y dyrfa'n ôl tua'r Praetoriwm, a phawb yn preblan yn gyffrous. Beth a wnâi Pilat ag ef y tro hwn? Yr oedd yn rhaid iddo'i gondemnio Oedd, y Rhufeinwr trahaus iddo, yn lle rhoi sen ar y Sanhedrin a'r Archoffeiriad fel hyn. A fyddai croeshoelio? Pa bryd? Heddiw?

Llanwyd y Palmant eto, a chynyddasai'r dorf gymaint nes bod llu mawr a checrus tu allan i'r pyrth. Llefai'r bobl hyn beth bynnag a ddeuai'n rhwydd i'w tafodau, gan weiddi er mwyn gweiddi, fel plant swnllyd wrth chwarae.

Aethai negeswyr o'u blaenau, yn amlwg, a disgwyliai Pilat hwy. Dygesid ei orsedd o ifori i'r oriel ac eisteddodd arni, gan edrych i lawr yn ddig ar y dyrfa afreolus. Wedi i'r milwyr a'r plismyn arwain y carcharor i fyny'r grisiau, galwodd swyddog am osteg, ac yna llefarodd y Rhaglaw braidd yn ddiamynedd, fel petai'n dyheu am roi terfyn buan ar yr holl ystŵr a brysio ymaith.

"Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi fel un yn gŵyrdroi'r bobl ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gwydd chwi ac ni chefais ynddo ddim bai, ddim o'r pethau yr ydych chwi'n ei gyhuddo ohonynt. Na Herod chwaith. Anfonais chwi at y Tetrarch, ond yn ôl yma y gyrrodd ef y carcharor. Ni wnaeth hwn ddim sy'n haeddu marwolaeth. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf ymaith."

Gwelai Joseff wynebau llon Heman ac Ioan a'r lleill yng nghefn y Palmant a gwenodd yn hapus arnynt. Ond bu farw'r wên ar ei wyneb cyn gynted ag y daethai yno: o'i amgylch ym mhob cyfeiriad, fel tonnau chwyrn yn ymhyrddio ar greigiau, torrodd rhyferthwy o brotest, gan ymdaenu i gyrrau pellaf y dorf tu allan i'r pyrth. A chilwenai'r hen Falachi a'r lleill ar ei gilydd.

Syllodd Pilat yn ddirmygus ar y dyrfa, gan wybod mai creaduriaid Caiaffas a'i fagad o Gynghorwyr taeog oedd y mwyafrif ohonynt. Yna taflodd olwg ar y carcharor, a chredai Joseff fod edmygedd yn ei wedd. Safai'r Nasaread rai camau oddi wrth yr orsedd, yn llwyd ac unig ond yn ddewr ac urddasol a'i ddwylo rhwym wedi'u plethu o'i flaen. Er bod y Rhaglaw'n enwog am ei greulonderau gwaedlyd, edmygai Joseff ef yn awr yr oedd am fynnu chwarae teg i ŵr diamddiffyn.

Ond ymddangosai'n betrus, heb wybod beth oedd y cam nesaf. Amneidiodd ar ei glerc i ymgynghori ag ef, ac yna, fel petai rhyw weledigaeth ganddynt, nodiodd y ddau ar ei gilydd. Galwyd am osteg eto a chododd Pilat yntau ei law. Bu tawelwch disgwylgar.,

"Bob blwyddyn, ar Ŵyl eich Pasg fel hyn," meddai'r Rhaglaw, a siaradai'n glir a phwyllog yn awr, gan yrru pob gair i'r clustiau pellaf, "y mae'n arferiad gennym ollwng carcharor yn rhydd i chwi. Pa un a fynnwch? Ai Iesu Barabbas, ai Iesu a elwir Crist?"

Edrychodd y bobl ar ei gilydd yn ansicr. Yr oedd Barabbas yn derfysgwr peryglus, ac yn yr helynt, pan ddaliwyd ef wrth fur y Deml, fe laddwyd milwr Rhufeinig: y groes oedd y lle gorau iddo ef, rhag ofn iddo greu cynnwrf eto. Pob parch i'r Selotiaid gorwyllt hyn, ond heddwch, tawelwch amdani ar bob cyfrif: yr oedd gwrthryfelwyr fel Barabbas yn sicr o droi'r ddinas yn ferw bob cyfle, a chadwai hynny bobl—ac arian—o Jerwsalem. Na, i'r groes â Barabbas!

Troes Caiaffas i ddweud rhywbeth wrth yr hen Falachi, ac aeth hwnnw ar unwaith i ganol y Cynghorwyr eraill a'i dafod a'i ddwylo'n huawdl. Brysiodd amryw ohonynt i blith y bobl, ac ymhen ennyd llithrai'r gair Barabbas' drwy'r dyrfa fel su awel mewn hesg. Tyfodd y su'n glebar a'r clebar yn sydyn yn ysgrechau.

"Barabbas! Barabbas!"

"Bwrw hwn ymaith!"

"Gollwng Barabbas inni!"

"Nid hwn, ond Barabbas!"

"Barabbas!"

Yr oedd yr hen Falachi a'i gyd—Gynghorwyr wrth eu bodd, ond ymddangosai Caiaffas yn ddigyffro, heb arwydd o wên na boddhad ar ei wyneb. Gwelai Joseff y Rhaglaw'n rhythu'n ddicllon ar yr Archoffeiriad, ond ni chymerai Caiaffas arno sylwi ar yr edrychiad: dywedai ei wyneb dwys mai am gyfiawnder y llefai'r bobl.

Agorodd drws ar y dde a daeth morwyn hardd ei gwisg drwyddo ac ar hyd yr oriel. Ar ôl gair brysiog ag un o'r swyddogion Rhufeinig, moesymgrymodd o flaen Pilat a chyflwyno iddo dabled wêr mewn cas o ifori. Darllenodd y Rhaglaw'r neges a oedd arni, ac yna syllodd yn ffwndrus ar ei glerc ac ar y dabled bob yn ail. Wedi iddo'i throsglwyddo i'r clerc, ymddangosai hwnnw hefyd mewn penbleth fawr ac edrychai'r swyddogion a'r milwyr ar ei gilydd yn anesmwyth. Islaw ar y Palmant tawelodd y dorf ac ymdaenodd sisial chwilfrydig drwyddi, ond daliai'r rhai a oedd tu allan i'r pyrth i weiddi "Barabbas!" yn wyllt.

Cododd Pilat ei ben a lledodd ei ysgwyddau mewn penderfyniad sydyn. Nodiodd ar y swyddog a ofalai am osteg, ac wedi i bob sŵn ddarfod, meddai'r Rhaglaw yn araf ac uchel am yr ail waith,

"Ni chefais yn y dyn hwn ddim bai. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf ymaith. Ef fydd y carcharor a ddewisaf i'w ollwng

Ond llyncwyd gweddill y frawddeg gan gynddaredd y dorf.

"Croeshoelia, croeshoelia ef!"
"Golgotha! Golgotha!"
"Y groes! Y groes!"
"Croeshoelia ef!"

Yr oedd cynddaredd yng nghalon Joseff hefyd fel y syllai ar yr wynebau gweigion o'i amgylch. Nid nepell oddi wrtho, rhuai'r dyn mawr glafoeriog a'i daran o lais yn saethu allan dawch o boer ar y rhai o'i flaen.. O, na ddeuai pererinion y Pasg i blith y dihirod hyn!

Am y drydedd waith amneidiodd Pilat am ddistawrwydd: bwriadai, yn amlwg, wneud un apêl arall. Nid arhoes am dawelwch llwyr y tro hwn ac edrychodd yn syth ar Gaiaffas a'r Cynghorwyr wrth siarad.

"Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf yn rhydd."

Oernadodd y dyrfa fel bleiddiaid. Erbyn hyn ysgyrnygai llu ohonynt eu dannedd a chwifiai ugeiniau eu dyrnau'n wyllt.

"I'r groes! I'r groes!"
"Croeshoelia, croeshoelia ef!"

Gwgodd y Rhaglaw ar y môr o wynebau mileinig o'i flaen ac yna suddodd yn ôl ar ei orsedd yn ddig. Aeth ei glerc ato i gynnig rhyw gyngor, a nodiodd Pilat cyn amneidio ar un o'i swyddogion milwrol i roi gorchymyn iddo. Saliwtiodd hwnnw a throi ymaith. Arweiniwyd y carcharor ar hyd yr oriel ac allan o'u gwydd. Cododd Pilat a mynd i mewn i'r Praetoriwm.

"Y mae'n ildio i'r cŵn," meddai Joseff.

"Ydyw," atebodd Nicodemus, gan blethu'i ddwylo'n nerfus. "Aethant ag ef i'w fflangellu. Y maent yn fflangellu bob amser cyn . . . cyn . . . " Ond ni ddôi'r gair "croeshoelio" i'w enau.

Tawelodd y dyrfa, gan ddisgwyl am sŵn y fflangell ac ysgrechau'r carcharor o'r cwrt gerllaw. Arhosent yn awchus, er gwybod mor ddieflig o greulon oedd y fflangell Rufeinig a'r darnau o haearn a phlwm ac esgyrn wedi'u clymu yn ei rheffynnau o ledr: gyrrai'r driniaeth hon lawer truan yn orffwyll, a threngai eraill yn ei harteithiau. Un, dau tri . . . caeodd Joseff ei lygaid a'i ddannedd yn dynn wrth wrando ar yr ergydion, a phlethai a dadblethai Nicodemus ei ddwylo yn ei fraw. Ysgydwai Caiaffas ei ben yn ddwys: gresyn hyn, meddai'i fiswrn o wyneb—ond anorfod, onid e?

Darfu'r ergydion, a'r bobl braidd yn siomedig: ni roddwyd iddynt ysgrechau nac ochain i wrando arnynt. A fu'r carcharor farw o dan y fflangell? Na, daeth hyrddiau o chwerthin gwatwarus o'r cwrt: yr oedd y milwyr yn cael hwyl am ei ben. Ceisiai'r dyrfa ymwthio ymlaen yn ei chwilfrydedd a brysiodd milwyr Rhufeinig a phlismyn y Deml i lawr y grisiau i'w hatal. Troes Caiaffas a'r Cynghorwyr a chodi dwylo pryderus i'w llonyddu, gan ofni rhuthr a phanig; yna syrthiodd y bobl yn ôl i'w lle wrth weld Pilat a'i glerc eto ar yr oriel.

"Wele," gwaeddodd y Rhaglaw, "yr wyf yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai." Yna, gan daflu golwg i'r chwith, "Wele'r dyn!"

Cododd gweiddi a chwerthin croch ar bob tu. Am y carcharor yn awr yr oedd gwisg borffor un o'r swyddogion Rhufeinig, a thrawyd ar ei ben goron ddrain. Gwthiodd y milwyr ef, er mai prin y gallai sefyll ac er bod chwys a gwaed yn ei ddallu'n llwyr, yn ôl at orsedd Pilat.

Gwyliai'r Rhaglaw y dorf yn graff: disgwyliasai y byddai'r olwg druenus ar y carcharor yn eu bodloni ac y gallai yn awr ei ryddhau. Ac am ennyd credai Joseff i'r cynllun lwyddo: cilwenai a chwarddai'r bobl ar ei gilydd, gan anghofio'u cri am y penyd eithaf. Ond troes Caiaffas at yr hen Falachi a'r Ileill, a buan y deffrowyd eilwaith lid y giwed o'u hôl.

"Croeshoelia, croeshoelia ef!"

Edrychodd Pilat ar ei glerc mewn anobaith chwyrn, ar fin colli'i dymer yn lân.

"Cymerwch chwi ef," gwaeddodd tua Chaiaffas, "a chroeshoeliwch ef eich hunain: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo."

"Croeshoelia, croeshoelia ef!" oedd ateb y dorf.

Daliodd Caiaffas ei law i fyny am osteg, ac wedi iddo'i gael, "Y mae gennym ni gyfraith," meddai, "ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, gan iddo'i wneuthur ei hun yn Fab Duw." Mab Duw! Ai ofn a oedd yn llygaid Peilat? Taflodd olwg ar y clerc ac ar hyd yr oriel tua'r drws y daethai'r forwynig drwyddo. Dywedodd rywbeth wrth un o'i swyddogion cyn troi ymaith i mewn i'r Praetoriwm, a brysiodd hwnnw i roi gorchymyn i'r milwyr. Yna arweiniwyd y carcharor ar ôl y Rhaglaw.

"Edrychai Pilat yn ofnus," meddai Joseff.

"Gwnâi. Clywais ei fod yn ŵr ofergoelus iawn," sylwodd Nicodemus.

"Beth a oedd ar y dabled wêr 'na, tybed?"

"Neges oddi wrth ei wraig, efallai. Un o forwynion Procula oedd y ferch, yn siŵr i chwi. Ac efallai . . . "

"Efallai beth?"

"Efallai ei bod hi o'i blaid—wedi clywed am ei wyrthiau a'i ddysgeidiaeth."

Yr oedd Caiaffas a'r Cynghorwyr yn anesmwyth eto, a rhoesant arwydd i'r dyrfa o'u hamgylch i ailgydio yn eu bloeddio: llithrai'r amser ymlaen a chyn hir byddai pererinion. y Pasg yn llifo i'r ddinas o'r bryniau a'r pentrefi cyfagos.

Dychwelodd Pilat i'r oriel, a thawodd y bobl i wrando arno. Sisialodd Caiaffas rywbeth wrth yr hen Falachi.

"Wele, holais ef drachefn," meddai'r Rhaglaw, "ond ni chefais ynddo ddim bai. Mi a'i gollyngaf yn rhydd."

Daeth ateb ar unwaith—yn llais main yr hen Falachi. "Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a'i gwnelo'i hun yn frenin y mae'n herio Cesar."

Bygythiad i achwyn arno yn Rhufain oedd hwn, ac aeth yr ergyd adref. Gŵr i'w gasáu oedd pob Rhaglaw Rhufeinig, ond gwyddai Pilat ei fod ef yn fwy amhoblogaidd nag un o'i ragflaenwyr. Ped ymunai gwŷr y Deml â'r Tetrarch Herod Antipas i yrru negeswyr at yr Ymerawdwr, byddai ei ddyddiau yng Nghanaan ar ben. Ildio iddynt a wnâi Tiberius: bellach mwynhâi'r hen Ymerawdwr henaint diog yn Ynys Capri, gan ddewis y ffordd rwyddaf allan o bob anhawster. Ac unwaith yr â'i Caiaffas a'i Sanhedrin ati i lunio cyhuddiadau i'w erbyn, byddai'r rhestr, fe wyddai'r Rhaglaw, yn un faith.

Eisteddodd Pilat ar ei orsedd unwaith eto, yn ŵr sur, wedi'i drechu. Amneidiodd ar swyddog i ddwyn y carcharor yn ôl i'r oriel, ac yna, â dicter yn ei lais,

"Wele eich Brenin," meddai

Yr oedd her a dirmyg yn y geiriau. Hwn, yn ei boenau a'i waradwydd, yn ei wisg borffor a'r goron ddrain am ei ben, oedd yr unig frenin a gaent hwy byth.

Corwynt o floeddio oedd yr ateb. "Ymaith ag ef! Ymaith ag ef!" "Croeshoelia ef!"

Wedi i'r llefau dawelu, saethodd y Rhaglaw un cwestiwn arall i gyfeiriad Caiaffas,

"A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi?"

Yr Archoffeiriad ei hun a atebodd y tro hwn. "Nid oes i ni frenin ond Cesar," meddai.

Dychrynodd hyd yn oed y bobl daeog hyn wrth glywed y fath gabledd o enau eu Harchoffeiriad. Er pan oeddynt yn blant, dysgwyd hwy mai Iafe oedd eu Brenin hwy. "Yr Arglwydd sydd Frenin byth ac yn dragywydd," a glywid beunydd yn y synagog ac yn y Deml.

Syrthiodd distawrwydd, ennyd, fel cwrlid tros y dyrfa. Yna o amgylch Caiaffas a'r Cynghorwyr, gan ymdaenu i bob cyfeiriad, cododd eilwaith y llefau chwyrn,,

"Ymaith, ymaith ag ef!" "I'r groes! I'r groes!" "Croeshoelia, croeshoelia ef!"

Chwiliodd llygaid Joseff am Heman ac Ioan a'r lleill. Safent draw yng nghefn y dorf yn syllu'n ddig o'u cwmpas, ac wylai'r bachgen Ioan Marc ar fraich ei dad. Diolchai Joseff nad oedd Simon Pedr gyda hwy byddai ef a'i gleddyf byrbwyll yn nwylo'r Rhufeinwyr ymhell cyn hyn.

Nodiodd Pilat ar ei glerc, a dug hwnnw'r warant iddo i'w harwyddo. Gan daflu golwg ffiaidd ar Gaiaffas, cydiodd y Rhaglaw yn yr ysgrifell a thorrodd ei enw'n ffyrnig o frysiog ar y memrwn. Yna galwodd un o'i swyddogion ato a rhoi gorchymyn iddo.

Yr oedd y dyrfa wrth ei bodd yn awr: oni chollodd Rhufain y dydd? Chwiliai'r dyn mawr glafoeriog yn foddhaus am le i boeri ar y llawr, a dywedai ei lygaid gweigion mai ei fuddugoliaeth bersonol ef oedd hon. A melys i ŵr bach y llediaith oedd gweiddi "To the Cross!" gydag arddeliad.

Dug gwas ddysgl arian i'r oriel. Cododd Pilat, a chyda threm herfeiddiol tua'r Archoffeiriad, golchodd ei ddwylo yn y dŵr a oedd ynddi. Syllodd y bobl yn syn a thawel, ac nid oedd yn rhaid i'r Rhaglaw godi'i lais wrth lefaru.

"Dieuog ydwyf fi," meddai, "oddi wrth waed y cyfiawn hwn edrychwch chwi."

Cilwenodd yr hen Falachi a'r Cynghorwyr eraill ar ei gilydd a deffroes hynny eto lid y creaduriaid o'u hamgylch.

"Bydded ei waed ef arnom ni," gwaeddodd un.

"Ac ar ein plant," llefodd arall.

Cydiodd ugeiniau o dafodau yn y geiriau, a hyrddiwyd y frawddeg o bob cyfeiriad tua'r oriel. Safai Pilat yn berffaith lonydd a'i wyneb yn welw gan ddirmyg: yna, heb air arall, troes a brysio ymaith.

Troes yr Archoffeiriad hefyd ymaith tua phorth bychan ar y dde. Ymddangosai'n ddwys a difrifol iawn: onid oedd hi'n ddarpar—ŵyl ac yntau'n hwyr i'w orchwylion sanctaidd yn y Deml? Heddiw yr aberthid Oen y Pasg.

Nodiadau[golygu]