Neidio i'r cynnwys

Yr Ogof/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod VII


VI




AETH prynhawn y pedwerydd dydd, diwrnod pwysig yr oed â Chaiaffas, a mwynhâi Joseff gyntyn bach ar ôl cinio. Ond buan yr ysgydwyd ef o'i syrthni gan ei wraig.

"Y mae'n well i chwi fynd i wisgo, Joseff."

"Gwisgo?"

Cymerodd arno na ddeallai, gan edrych yn ymholgar ar ei wraig.

"Ie, gan eich bod chwi'n mynd i gyfarfod yr Archoffeiriad. Eich urddwisg."

"Dim ar gyfer pwyllgor bach answyddogol fel hwn, Esther."

"Y mae hwn yn gyfle i chwi, Joseff. Byddwch yn plesio Caiaffas, a gwyddoch mor hoff yw ef o wisgo yn ei holl urddas."

"Ond . . . "

"A pheth arall, mi fentraf y bydd y ddau Pharisead 'na yn edrych fel dau frenin."

"Pe bawn i'n mynd i'r Sanhedrin, fe'i gwisgwn, ond . . . ' "

"A 'wyddoch chwi ddim pwy arall fydd yno.

"Yr hen Annas, efallai, neu ddau neu dri o Sadwceaid eraill."

"O, o'r gorau.

"Ond mae tros hanner awr tan amser y pwyllgor."

"Oes, mi wn. Ond mae Rwth a finnau am fynd am dro i weld safle'r tŷ." Edrychodd yn arwyddocaol arno wrth chwanegu, "Rhag ofn bod y sylfaen wedi'i gosod heb yn wybod inni!"

"Bwriadaf siarad â Jafan yr adeiladydd yfory."

"Clywais hynny droeon o'r blaen, Joseff . . . Ond cyn imi fynd yr wyf am fod yn sicr eich bod chwi'n edrych ar eich gorau."

Cododd Joseff yn anfoddog; dywedai hir brofiad mai ufuddhau oedd ddoethaf. Bwriadodd orffwys am dipyn ar ôl y prynhawnbryd ac yna droi'n hamddenol tua'r Deml, ond gwyddai na châi lonydd nes gwisgo'i fantell o borffor drud a bod yn barod ryw hanner awr yn rhy fuan.

"A fuoch chwi yn nhŷ'r saer hwnnw'r bore 'ma, Joseff?" Gwyddai ei wraig cyn gofyn y cwestiwn beth fyddai'r ateb. "Naddo, wir, Esther. Fe aeth y bore fel gwynt, yn gweld hwn a'r llall yn y Deml. Mae gennyf amser i alw yno'n awr."

"Nac oes, neu byddwch yn hwyr i'r pwyllgor. Ni faddeuai Caiaffas i chwi am hynny . . . Dewch, brysiwch."

Wedi i'w wraig roi'i bendith ar ei wisg a mynd ymaith gyda Rwth, penderfynodd Joseff alw yn nhŷ Heman y Saer i brynu rhyw ddwsin o lestri pren tebyg i'r rhai a welsai yn nhŷ ei gymydog Joctan. Trigai'r saer yn Seion yn bur agos i'r Deml, a gallai felly alw heibio iddo ar ei ffordd i'r oed â Chaiaffas.

Dringodd yn hamddenol drwy'r ystrydoedd culion, poblog. O barch i'w wisg ysblennydd, camai llawer o'r dyrfa o'r neilltu i hyrwyddo'i ffordd, ond rhwystrai amryw ef, fel pe'n bwrpasol. Trigolion Jerwsalem oedd y rhai cyntaf, yn daeog o gwrtais i un o wŷr pwysig y Deml, gan wybod y dibynnent arno ef a'i fath am eu bywoliaeth; ond pobl o'r wlad, nifer mawr o'r Gogledd ag acen Galilea ar eu min, oedd y lleill. Yr oedd golwg herfeiddiol yn eu llygaid hwy, ac ni phetrusent rhag dangos eu casineb tuag at Sadwcead cyfoethog. Pe gwyddent ei neges yn y Deml, meddai Joseff wrtho'i hun, byddent yn cydio ynddo a'i lusgo ymaith i Gehenna: hwy oedd dilynwyr mwyaf selog y Nasaread hwn, ac ymfalchïent yn angerddol yn y ffaith mai o Galilea ac nid o Jwdea wawdlyd a thrahaus y deuai'r "proffwyd." Eu proffwyd hwy ydoedd: yn eu synagogau hwy a hyd eu ffyrdd hwy y dysgasai, ac onid iddynt hwy y datguddiodd yn gyntaf ac amlaf ei alluoedd gwyrthiol?—os oedd rhyw wir yn y storïau a glywsai, meddyliodd Joseff.

Ymlwybrodd ymlaen yn araf, gan ymddangos fel pe bai'r ffermwyr a'r pysgodwyr a'r marchnadwyr hyn islaw ei sylw, ond yr oedd ganddo, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef, ryw edmygedd slei tuag atynt. Hoffai wynebau didwyll ac iachus y pysgodwyr yn arbennig, gwŷr llydain, esgyrniog, a'u llygaid yn freuddwydiol a'u lleisiau'n ddwfn a thawel. Gwŷr anwybodus a gerwin, wrth gwrs, ond er pan welsai hwy gyntaf oll, yn fachgen gyda'i dad yma yn Jerwsalem ar Ŵyl y Pebyll neu Ŵyl y Pasg, gwyddai Joseff fod rhyw onestrwydd nerthol iawn wrth wreiddiau'r garwedd hwn. Trueni na thalent fwy o barch i'r Gyfraith yn lle rhedeg ar ôl rhyw "broffwyd" a fanteisiai byth a hefyd ar eu hygoeledd. A'r tro hwn—wel, yr oeddynt wedi meddwi'n lân. "Hosanna yn y goruchaf," wir!

Ceisiodd Joseff frysio ymlaen i ddianc o sŵn y cannoedd a ymwthiai drwy'r heol, ac yn arbennig o glyw'r gwerthwyr a'r cardotwyr croch ar fin y ffordd. Yr oedd y cardotwyr yn fwy lluosog nag arfer eleni, meddai wrtho'i hun. Ac yn fwy eofn, gan ddangos eu clefydau a'u doluriau'n ddigywilydd i bawb a âi heibio; ar bob tu estynnai breichiau a dwylo ymbilgar, llawer ohonynt yn ddim ond cnawd ac esgyrn, a dolefai deillion a chloffion a chleifion ym mhob man. Yr oedd anifeiliaid o bob math hefyd ar eu ffordd i'r Deml, ac uchel oedd lleisiau'r gyrwyr. Tyrfaoedd swnllyd, gwerthwyr a phedleriaid croch, cardotwyr cwynfanllyd, porthmyn a bugeiliaid a gyrwyr asynnod a chamelod—a fu erioed y fath ddwndwr a rhuthr ac arogleuon? Yr oedd yn dda gan Joseff gael troi i'r chwith tua thŷ Heman y Saer.

Synnodd pan ddaeth at y tŷ hwnnw. Bychain a thlawd oedd yr aneddau oll yn y rhan hon o'r ddinas; yn wir, nid oedd llawer ohonynt ond cytiau llwydion i gysgu ynddynt ar dywydd mawr, gan mai allan ar Fynydd yr Olewydd neu yn y dyffrynnoedd o amgylch y treuliai llawer o'r trigolion eu dyddiau a'u nosau. Ond yr oedd y tŷ hwn yn eang a chymharol lewyrchus, a goruwch-ystafell helaeth iddo. Yr oedd Heman, yn amlwg, yn saer a chrefftwr llwyddiannus, a chofiodd Joseff y câi waith pur reolaidd hefyd gan awdurdodau'r Deml.

Curodd wrth y glwyd a daeth hogyn tua deuddeg oed i'w hagor. Edrychodd y bachgen yn syn ac ofnus ar y wisg orwych o'i flaen; yna taflodd olwg brysiog tros ei ysgwydd, fel petai'n ofni i Joseff weld rhywun neu rywbeth o'i ôl.

"Syr?"

"Hwn yw tŷ Heman y Saer, onid e?" "Ie, Syr. A hoffech chwi weld fy nhad? Mi redaf i'r tŷ i'w nôl."

"Diolch, 'machgen i."

Camodd Joseff drwy'r glwyd i'r cwrt bychan ysgwâr tu allan i'r tŷ. Yr oedd yn dŷ hardd a chadarn a'r grisiau cerrig i'r oruwch—ystafell yn gymesur bob un, nid fel petaent wedi'u taflu rywsut—rywsut yn erbyn y mur fel mewn llawer tŷ.

"O, dyma ef, Syr.'

Gwelai Joseff ddau ddyn wrth ddrws y tŷ. Gŵr ifanc tenau a chyflym a'i wallt yn hir oedd un, ac adnabu Joseff ef ar unwaith. Y dyn gorwyllt a boerodd arno ef a'r hen Falachi yng nghyntedd y Deml. Yr oedd y llall yn hŷn ac yn ymddangos yn araf a phwyllog ei ffordd. Edrychodd y ddau'n syn pan welsant Joseff yn y cyntedd, ac yna troes y gŵr ifanc yn ôl i'r tŷ, fel petai wedi anghofio rhywbeth. Aeth Joseff ymlaen at y llall.

"Heman y Saer?"

"Ie, Syr.'

"Y mae arnaf eisiau prynu hanner dwsin o ddysglau pren. Gwelais rai o'ch gwaith chwi yn nhŷ cyfaill imi.'

"Dewch i mewn, Syr."

Dilynodd y saer i'r tŷ ac yna drwy ddrws ar y dde i mewn i ystafell eang a ddefnyddid, yn amlwg, fel gweithdy.

"Esgusodwch fi, Syr. Af i nôl rhai i chwi gael eu gweld." A brysiodd Heman ymaith.

Llithrasai'r bachgen i mewn i'r ystafell o'u blaenau, ac eisteddai'n awr ar y llawr yn naddu darn o bren a ddaliai'n berffaith lonydd drwy glymu bodiau'i draed yn dynn am ei flaen.

"Beth yw d'enw, 'machgen i?"

"Ioan Marc, Syr."

"Am fod yn saer fel dy dad, 'rwy'n gweld."

"Ydwyf, Syr."

"Y dyn ifanc 'na a oedd gyda'th dad funud yn ôl—pwy oedd ef?"

Gwelai olwg ochelgar yn llygaid y bachgen.

"Cwsmer, Syr."

"O!"

"Pam yr oeddech chwi'n gofyn, Syr?"

"Dim ond imi feddwl fy mod yn ei adnabod, ond efallai . . . O, dyma dy dad."

Daeth Heman yn ei ôl â llond ei freichiau o ddysglau pren o wahanol ffurf a maint. Rhoes hwy ar fwrdd yng nghongl yr ystafell, ac edrychodd Joseff gydag edmygedd arnynt.

"Digon o ddewis i chwi, Syr?"

"Oes, wir, a bydd fy ngwraig wrth ei bodd pan wêl y rhain." Rhoes Joseff y rhai a fynnai o'r neilltu ar gongl y bwrdd. "Gyrrwch hwy i Westy Abinoam yn Heol y Pobydd,' meddai, wedi iddo dalu amdanynt.

"O'r gorau, Syr. Fe ddaw'r bachgen neu un o'r gweision â hwy yno.

Taflodd Joseff ddernyn arian i arffed y bachgen Ioan Marc wrth fynd heibio iddo, a rhoes ei law'n garedig ar ei ben. Hoffai'i lygaid mawr breuddwydiol.

Daeth Heman gydag ef i'r ystryd.

"Welais i erioed gymaint o bobl yma i'r Ŵyl, Syr," meddai y tu allan i'r glwyd. "Y mae 'na filoedd yn cysgu mewn pebyll hyd Fynydd yr Olewydd ac yr oedd golau cannoedd o danau ar y bryniau acw neithiwr. Tros ddeugain carafan o gamelod a gyfrifais i ar y ffordd wrth Borth Damascus gyda'r nos—o Antiochia a Damascus, amryw o Bersia hefyd. Yr oedd rhai ohonynt yn edrych yn flinedig iawn. A chlywais fod 'na dyrfa fawr o'r Aifft ac o Roeg a Rhufain."

"Ac o Galilea," meddai Joseff â gwen. Chwarddodd Heman yn dawel.

"Yr ydych yn adnabod fy acen i, Syr," meddai. "Ofnaf ei bod hi mor amlwg ag erioed er imi fod yma ers rhai blynyddoedd bellach. Mae hi'n rhan ohonof, efallai—fel lliw fy ngwallt neu las fy llygaid!"

"O b'le yng Ngalilea y deuwch?"

"O Gana, ond yng Nghapernaum y bûm i'n gweithio fel saer cyn dod yma.'

"Cana? Mae hwnnw'n agos i Nasareth, ond ydyw?" "Ydyw." Yr oedd yr un llygaid breuddwydiol gan Heman ag a oedd gan ei fachgen, ond gwelai Joseff eu bod hwythau'n ochelgar yn awr.

"A welsoch chwi'r orymdaith y dydd o'r blaen?"

"Do, Syr."

"A oeddych chwi'n adnabod y dyn?"

"Iesu o Nasareth?"

"Ie."

"Oeddwn, wrth gwrs. Yr oedd ef yn saer yn Nasareth a'i dad yn gyfeillgar iawn â'm tad. Gwelwn hwy weithiau pan awn adref i Gana am dro. Crefftwr da oedd Iesu hefyd ac yn gweithio'n galed iawn i gadw'r teulu ar ôl marw ei dad.'

Siaradai Heman yn gyflym, gan ymddangos yn anesmwyth ac yn dyheu am droi'n ôl i'r tŷ.

"Cawsoch hwyl wrth ei weld, y mae'n siŵr, Heman!"

"Hwyl, Syr?'

"Ie, wrth weld tipyn o saer o Nasareth yn cymryd arno farchogaeth fel Brenin i mewn i Jerwsalem."

"Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr." Daeth y geiriau'n araf o enau'r saer ac edrychai'n eofn ym myw llygaid Joseff fel y siaradai. "Gwn nad wyf fi deilwng i ddatod ei sandalau ef. . . Prynhawn da, Syr."

Brysiodd Joseff i fyny i'r dde a thros y Bont i'r Deml. Gwyddai fod prydlondeb yn rhinwedd a bwysleisiai Caiaffas mewn eraill. Dim ond gan yr Archoffeiriaid eu hunain yr oedd hawl i fod ar ôl, a chadwai Annas a Chaiaffas y Sanhedrin i aros wrthynt bob tro. Dim ond er mwyn clywed y clebran yn tawelu a gweld pawb yn codi'n barchus i'w cyfarch, yr oedd Joseff yn sicr. Hm, dyna'i feddwl beirniadol yn mynnu ei amlygu'i hun eto! Ond heddiw dilynai gyngor Esther a chymryd arno lyfu llaw Caiaffas. Hi a oedd yn iawn, efallai. Dyma ef yn tynnu at ei drigain oed a heb fod yn neb o bwys yn y Sanhedrin. Bu'n rhy anfynych o lawer yn y cyfarfodydd drwy'r blynyddoedd, a phan âi yno, eisteddai'n dawel a diog heb fawr ddim diddordeb yn y trafodaethau. Yr oedd ar fai, fe wyddai, ond byth er pan gododd yn fyrbwyll i ddadlau tros ystwytho tipyn ar drefniadau'r dreth y flwyddyn honno pan fethodd y cynhaeaf, bodlonodd ar frathu'i dafoda brysio'n ôl i dawelwch Arimathea. Ei gyfoeth—nid ei ddaliadau na'i frwdfrydedd, yn sicr!—a roddai sedd iddo yn y Sanhedrin. Ond o hyn ymlaen, yn arbennig gan fod Esther yn benderfynol o fyw yn Jerwsalem, codai'i lais ym mhob cyfarfod ac enillai'i le fel un o flaenoriaid y Cyngor. Fel y dringai'r grisiau o Gyntedd y Cenhedloedd, gwelai fod tyrfa wedi ymgasglu ar y Rhodfa uwchben i wrando ar un o'r doctoriaid yn egluro'r Gyfraith. Un o'r doctoriaid? Nage. Clywodd rai a frysiai heibio iddo yn dweud yn eiddgar, "Y Nasaread! Y Nasaread!" Edrychodd yn syth o'i flaen, ond gwrandawai'n astud ar bob gair.

"Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr!" meddai'r llais, a chrynai'r dicter ynddo.

Trwy gil ei lygad gwelai Joseff fod amryw o Ysgrifenyddion a Phariseaid ar gwr y dyrfa a bod y bobl wrth eu bodd yn clywed y rabbi o Nasareth yn eu gwawdio fel hyn troent i wenu tuag atynt ac ar ei gilydd.

"Canys tebyg ydych chwi," aeth y llais ymlaen, "i feddau wedi'u gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid."

Yr oedd gwên slei yn llygaid Joseff fel y dringai'r grisiau o farmor ac y brysiai drwy Borth Nicanor ac ymlaen heibio i'r allor fawr tu draw iddo. "Beddau wedi'u gwynnu!" Hoffai weld wynebau rhai o Phariseaid y Sanhedrin pan adroddid yr hanes wrthynt! "Beddau wedi'u gwynnu"! Edrychai ymlaen at weld Esras ac Isaac.

Cafodd hwynt wrth ddrws yr ystafell—bwyllgor. Do, proffwydasai Esther y gwir: yr oedd y ddau wedi'u gwisgo yn eu gorau.

"Yr oeddwn i'n ofni fy mod i ar ôl," meddai wrthynt, wedi iddynt gyfarch ei gilydd.

"Newydd gyrraedd yr ydym ninnau," meddai Isaac, a fuasai'n loetran yno am hanner awr.

"Pa ffordd y daethoch chwi i mewn i'r Deml, Joseff?" gofynnodd Esras.

"Drwy Gyntedd y Gwragedd."

"A ydyw'r Nasaread 'na ar y Rhodfa o hyd?"

"Ydyw, a thyrfa fawr yn gwrando arno. Aç yr oeddynt wrth eu bodd."

"O?"

"Oeddynt, yn ei glywed yn sôn amdanoch chwi'r Phariseaid." Arhosodd Joseff ennyd i fwynhau'r ofn yn eu llygaid.

"Beth a ddywedodd ef?" Daeth y cwestiwn o enau'r ddau ar unwaith.

"Dim ond dweud eich bod chwi fel beddau wedi'u gwynnu." "Beddau wedi'u gwynnu?" Ni ddeallai Esras.

"Yn deg oddi allan, ond oddi mewn yn llawn o esgyrn meirwon a phob aflendid. 'Gwae chwi ragrithwyr!' meddai."

Er ei fod mor dew, yr oedd Esras yn ŵr tanllyd. Caeodd ei ddyrnau'n chwyrn a cherddodd o gwmpas yn wyllt, fel petai ar gychwyn tua'r Rhodfa i hanner lladd y rabbi o Nasareth. Ond ni wnaeth Isaac ond ysgwyd ei ben yn ddwys gan lusgo'r sŵn defosiynol o'i wddf. O'r ddau, meddai Joseff wrtho'i hun, hwn oedd y gwir Pharisead, gŵr dwys ond milain, oerllyd fel pysgodyn ond ag iddo bigiad sarff wenwynig ni chynhyrfid hwn gan ddim, ond pan ddôi cyfle i ladd ei elyn rhoddai'i droed ar ei wddf—gan lafar-ganu salm. Troes at Joseff yn awr, gan ddywedyd,

"Ni chaiff ef fedd wedi'i wynnu! Mae'r tanau sy'n llosgi'r ysbwrial yng Nghwm Gehenna yn hwylus weithiau!" A gwenodd ar Esras.

"Hawdd i chwi wenu, Isaac," meddai hwnnw, a ddaliai i gamu'n anesmwyth yn ôl ac ymlaen. "Yr ydych chwi'n byw i lawr yma yn Jwdea, nid i fyny acw yng Ngalilea. Mae'n hawdurdod ni'n lleihau bob dydd yno. Pa bryd oedd hi? O ie, bythefnos i heddiw. Tri hogyn yn gweiddi Esras Dew! ar fy ôl i yng Nghapernaum acw. Meddyliwch, mewn difrif! Ar ôl Cynghorwr sydd wedi bod ar y Sanhedrin ers deng mlynedd! A beth yw'r achos? Y Creadur yna a'i ddamhegion a'i wyrthiau.'

"Gwell inni fynd i mewn i aros, gyfeillion," meddai Joseff, gan symud tua drws yr ystafell—bwyllgor.

"Y?" Yr oedd braw yn wyneb Esras.

"Na," meddai Isaac, "y mae'n well inni aros nes daw'r Archoffeiriad."

Nodiodd Joseff, gan gofio'i benderfyniad i dalu pob gwrogaeth i Gaiaffas.

"Y mae'n glyfar, nid oes dim dwywaith am hynny," meddai Esras.

"Y Nasaread hwn?"

"Ie. Rhy glyfar hyd yn oed i Fathan! Ac os oes un Pharisead yn deall y gyfraith o Alffa i Omega, Mathan yw hwnnw."

"Beth a ddigwyddodd?" gofynnodd Joseff.

"Pan aeth Mathan ac eraill i'r Rhodfa i geisio'i faglu," atebodd Esras. Pwy roes awdurdod i ti i wneud y pethau hyn yn y Deml?' gofynnodd Mathan iddo, gan obeithio y dywedai mai ef oedd y Meseia a'i fod uwchlaw awdurdod y Deml a Rhufain a phawb. Ond yn lle ateb fe ofynnodd yntau gwestiwn i Fathan. Bedydd Ioan,' meddai, ai o'r nef yr ydoedd ai o ddynion?' 'Taech chwi'n gweld wyneb yr hen Fathan! Os dywedai O ddynion,' fe fyddai'r dyrfa wedi cydio ynom ni, bob un ohonom, a'n llusgo o'r Deml ac o'r ddinas i'n llabyddio. Oherwydd yr oeddynt yn meddwl y byd o'r Ioan 'na, fel y gwyddoch chwi, ac yn ei alw'n Broffwyd Duw. Ond os dywedai O'r Nef,' yna gofynnent pam y gadawsom iddo gael ei ddal a'i wawdio a'i ladd gan Herod. Yr oedd rhyw ddyn yn dawnsio o flaen Mathan, gan grechwenu a chwifio'i ddwylo yn ei wyneb a gweiddi Atebwch! Atebwch! Bu bron imi alw rhai o blismyn y Deml, ond yr oeddwn i'n ofni cynnwrf."

"Beth a ddywedodd Mathan?"

"Beth a allai ef ddweud, Joseff? Dim ond na wyddem ni ddim o b'le yr oedd awdurdod Ioan.'"

"Hm. A'r bobl?"

"Wrth eu bodd, wrth eu bodd. Fe chwarddodd y crechwenwr dros bob man, fel dyn gwallgof. Wedyn, dyna'r dyrfa i gyd yn dechrau chwerthin yn wawdlyd, amryw yn pwyntio'n ddirmygus atom, rhai hyd yn oed yn gwthio'u tafodau allan. Meddyliwch, mewn difrif, Joseff!" Sychodd Esras y chwys oddi ar ei dalcen wrth gofio am y peth. "Ni chafodd offeiriaid a henuriaid erioed eu trin fel hyn yn unman. Naddo, erioed! Ac yng nghyntedd y Deml!" Daliodd ei ddwy law i fyny i bwysleisio'i fraw cyn chwanegu, "Yng nghyntedd y Deml sanctaidd ei hun, Joseff "

"Dacw'r Archoffeiriad yn dod," sibrydodd Isaac.

Gwelent ef yn y pellter, offeiriaid yn cerdded un bob ochr iddo ac un arall o'i ôl, yn nhraddodiad y Deml. Yr oedd Caiaffas wedi'i wisgo yn ysblander ei wisg seremoniol, fel petai ar ei ffordd i wasanaeth pwysig neu i'r Sanhedrin.

"Y mae Herod newydd alw i'w weld," sibrydodd Isaac eto. "Mi welais ei negesydd yn dod o'i flaen ryw awr yn ôl."

Gan ei fod mor dal, edrychai Caiaffas yn urddasol yn ei wisgoedd amryliw o wyn a glas a phorffor ac ysgarlad, a hyd yn oed o bellter disgleiriai'r ddwyfronneg o aur a'r deuddeg perl ar ei fynwes a'r cylchau o edau aur hyd ymylon ei wisg. Ond cerddai'n ddifater, fel petai'n cymryd arno nad oedd dim anghyffredin ynddo ef na'i wisg. Arhosai weithiau i fendithio rhywun a ymgrymai ar fin ei lwybr, fel gŵr goludog yn rhoi elusen i drueiniaid, ac yna cerddai ymlaen drachefn yn urddasol o hamddenol. Dywedai ei wyneb rhadlon nad oedd dim yn y byd yn blino Caiaffas: yr oedd yn feistr llwyr arno'i hun, ar bob edrychiad ac ystum.

Nodiodd yn gyfeillgar ar y tri ohonynt, ac wedi i un o'r offeiriaid agor y drws yn wasaidd iddo, dilynasant ef i mewn i'r ystafell. Eisteddasant ar y clustogau gorwych a oedd hyd y llawr, a dechreuodd Esras ar unwaith ailadrodd hanes Mathan yn ceisio baglu'r Nasaread.

"Mi glywais y stori," meddai Caiaffas. "Fe ddaeth Mathan i roddi'r hanes imi." Yr oedd gwên yng nghornel ei lygaid wrth iddo chwanegu, "Yr oeddwn i'n meddwl eich bod chwi'r Phariseaid yn wŷr cyfrwys!"

Ysgydwodd Esras ei ben yn drist, a gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddfi ddangos ei werthfawrogiad o ysmaldod yr Archoffeiriad. Syllodd Joseff yn freuddwydiol ar y nenfwd hardd, lle troellai ambell linell o aur ar y gwyndra glân. Edrych i fyny felly a wnâi bob amser pan geisiai ymddangos yn ddifater, rhyw gymryd arno nad oedd neb na dim o'i amgylch yn bwysig iawn iddo. Ond yr oedd cyffro yn ei galon. Onid oedd ef yn un o dri a gâi'r fraint o gyd—eistedd â'r Archoffeiriad mewn pwyllgor cyfrinachol fel hyn yn y Deml? Nid oedd y pwyllgor yn un pwysig, efallai, ac ni roddai'r ddau Pharisead hyn, Esras dew ac Isaac ferchedaidd, urddas arno, ond pwysig neu beidio, yr oedd ef yn un o dri yng nghwmni'r Archoffeiriad. Lwc iddo ddilyn cyngor Esther a rhoi'r urddwisg amdano.

"Nid oes amser i'w golli, f'Arglwydd," meddai Esras. "Yr oedd yn tynnu tyrfaoedd i fyny acw yng Ngalilea, ac yn awr dyma'r un peth yn digwydd yn Jerwsalem ac yn y Deml sanctaidd ei hun! A'r bobl—yma yn y Deml f'Arglwydd! —yn gwawdio'u harweinwyr, yn chwerthin am ben Mathan, un o'n Cynghorwyr hynaf a mwyaf defosiynol!"

Nodiodd yr Archoffeiriad yn ddwys iawn, ond nid ymddangosai'n bryderus ei feddwl. Yr oedd gan Annas a Chaiaffas, meddai Joseff wrtho'i hun, ryw gynllun i roi diwedd ar ffolineb a haerllugrwydd y saer o Nasareth. Tybiai Joseff hefyd mai rhywbeth a wisgai'n hwylus ar ei wyneb oedd dwyster Caiaffas, ond fe'i beiodd ei hun ar unwaith am goleddu'r fath syniad. Ei ddyletswydd ef oedd parchu'r Archoffeiriad a chadw'i addewid i Esther.

"Ydyw," meddai Caiaffas, "y mae'n rhaid inni roi taw buan ar y rabbi hwn. Ac fe wnawn."

"Y mae gennych ryw gynllun, f'Arglwydd?" gofynnodd Esras.

"Oes. Ni allwn roi'n dwylo arno yn y dydd, pan fo'r dyrfa o gwmpas. Felly rhaid cael rhywun i'n harwain ato yn yr hwyr neu'r nos, pan fo'r bobl wedi gwasgaru i'w pebyll. A chred Annas ei fod wedi llwyddo i wneud hynny.

"Campus, campus," meddai Esras, gan rwbio'i ddwylo ynghyd.

Gwnaeth Isaac sŵn edmygol yn ei wddf.

Ni ddywedodd Joseff ddim, ond teimlai'n annifyr ai'r bwriad oedd cymell un o ddilynwyr y Nasaread i'w fradychu? "Y mae ganddo," aeth Caiaffas ymlaen, "ddeuddeg o ddisgyblion sy'n ei ddilyn i bobman. Galileaid yw un ar ddeg ohonynt." Edrychodd ar Esras wrth ychwanegu, "Y mae un o Gapernaum."

"Oes, mi wn, f'Arglwydd," meddai Esras. "Dyn o'r enw Mathew. Bu'n bublican acw, wrth Borth y Gogledd."

"Y deuddegfed sy'n ddiddorol i ni," sylwodd Caiaffas. "Un o'r De yma yw ef, o Gerioth. Gŵr ifanc penboeth a fu unwaith yn aelod gwyllt o Blaid Ryddid. Ond fe adawodd y Blaid ryw dair blynedd yn ôl a chrwydro i'r Gogledd i ymuno â'r Nasaread. Ef yw Trysorydd y rabbi hwn yn awr. Er mai prin y mae angen Trysorydd ar y Galilead a'i griw!"

Chwarddodd Esras ac Isaac yn daeog.

"Y mae Annas," meddai Caiaffas, "yn adnabod ei deulu, a gyrrodd negesydd at ei dad i ddweud yr hoffem weld ei fab. Disgwyliaf ef yma'n awr."

"A ydych chwi'n meddwl y daw, f'Arglwydd?" gofynnodd Joseff.

"Daw. Cawsom neges oddi wrth ei dad y bore 'ma." Ar y gair dyma guro gwylaidd ar y drws.

"I mewn!" gwaeddodd Caiaffas.

Un o wylwyr y Deml a oedd yno. Moesymgrymodd. "Ie?"

"Mae yma ddyn o'r enw Jwdas i'ch gweld, f'Arglwydd." "Rwy'n ei ddisgwyl," meddai'r Archoffeiriad, gan nodio'n swta.

Wedi i'r drws gau, rhwbiodd Esras ei ddwylo ynghyd eto, a daeth sŵn boddhaus o wddf Isaac.

"Welais i mo f'Arglwydd Annas yn methu erioed," meddai Esras.

"Erioed," cytunodd Isaac, gan ysgwyd ei ben mewn edmygedd a dal i gynhyrchu'r sŵn yn ei wddf. Nodiodd Joseff, gan chwarae â'i farf a gwenu ar Gaiaffas. "Na minnau," meddai, gan deimlo y dylai ddweud rhywbeth a chan wybod yr adroddai'r Archoffeiriad hanes y prynhawn yn fanwl, fanwl wrth yr hen Annas.

Agorodd y drws eilwaith.

"Jwdas o Gerioth, f'Arglwydd," meddai'r gwyliwr cyn moesymgrymu a throi ymaith.

Moesymgrymodd y dieithryn yntau, ond braidd yn frysiog ac esgeulus, cyn dyfod ymlaen atynt. Adnabu Joseff y gŵr ifanc hirwallt a welsai'n sleifio'n ôl i dŷ Heman y Saer.

"Yr Arglwydd Annas a yrrodd neges i'm tad," meddai, "yn gofyn imi ddod yma i'ch gweld, f'Arglwydd Caiaffas."

"Y mae'n debyg dy fod yn amau pam?" oedd sylw Caiaffas. "Ydwyf, f'Arglwydd."

Bu distawrwydd ennyd. Gwelai Joseff y dieithryn yn gwlychu'i fin ac yn plethu'i ddwylo'n anesmwyth.

"Wel?"

"Beth yw eich dymuniad, f'Arglwydd?"

"Y mae'r Galilead hwn yn cynhyrfu'r bobl ac yn amharchu'r Deml. Ymhen deuddydd fe fydd Gŵyl sanctaidd y Pasg. Bwriadwn ei ddal, a'i garcharu dros yr Ŵyl. Ac y mae arnom eisiau dy help.'

"Ym mha fodd, f'Arglwydd?"

"Wrth gwrs, byddai'n hawdd inni yrru rhai o blismyn y Deml allan i'r Cyntedd y munud yma i afael ynddo."

"Hawdd iawn, hawdd iawn," sylwodd Esras.

"Hawdd iawn," cytunodd Isaac, gan dynnu'i law dros ei dalcen i leddfu'r boen ar ôl y fath ymdrech meddwl.

"Ond y mae'n rhaid inni osgoi cynnwrf," chwanegodd Caiaffas.

"Rhaid, rhaid osgoi cynnwrf," meddai Esras.

"Rhaid. Dim cynnwrf," cytunodd Isaac gan lusgo o'i wddf sŵn tebyg i'r un a wna ci pan fo'n griddfan yn ei gwsg.

Teimlai Joseff y dylai yntau ddweud rhywbeth.

"Ie, wir," meddai, gan sylweddoli, fel y deuai'r geiriau o'i enau, y buasai "Rhaid, wir" yn well.

"Gwyddom fod un neu ddau o wŷr gwyllt a phenboeth yn ei ddilyn," meddai Caiaffas, "a byddai'r rheini bron yn siŵr o godi'u dyrnau."

Daeth cysgod gwên i lygaid y gŵr ifanc.

"Un neu ddau, f'Arglwydd?" gofynnodd yn dawel.

"Wel, amryw, ynteu. Felly y mae'n rhaid inni ei ddal heb iddynt hwy wybod. Yn hwyr y dydd neu yn y nos.'

"Ie, y nos a fyddai orau," meddai Esras.

"Ie, y nos," cytunodd Isaac.

"Ai'r Pasg sanctaidd heibio'n dawel ac esmwyth wedyn, ac ni fyddai diferyn o waed Iddewig ar waywffon Rufeinig. Y mae yma rai cannoedd o filwyr Rhufeinig, fel y gwyddost ti, a phe dôi ymrafael . . . " Ysgydwodd yr Archoffeiriad ei ben yn ddwys.

"Rhaid, rhaid osgoi cynnwrf," sylwodd Isaac eto, ac yr oedd rhyw dristwch mawr yn ei lygaid.

"Gwyddom fod rhai sydd yn y ddinas yn chwilio am ryw esgus i daro yn erbyn y Rhufeinwyr. Y mae rhai ohonynt yn wŷr onest a meddylgar, Iddewon i'r carn, a hawdd deall eu teimladau wrth weld eu gwlad annwyl dan iau'r estron."

"Ydyw, wir," meddai Esras. "Ydyw, hawdd iawn." Gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf.

Gwyddai Joseff fod Caiaffas yn casáu gwladgarwyr Plaid Ryddid ac yr hoffai weld Rhufain yn croeshoelio pob un ohonynt. Pam yr oedd yn eu canmol fel hyn, ynteu? Cofiodd i'r Jwdas hwn fod yn perthyn iddynt unwaith, ac efallai y gwyddai Caiaffas fod ganddo gydymdeimlad a hyd yn oed gysylltiad â hwy o hyd.

"Ond nid yw hynny'n wir am y rhelyw ohonynt," chwanegodd yr Archoffeiriad. "Cynnwrf er mwyn cynnwrf a hoffent hwy. A gŵyr Rhufain sut i ddiffodd tân mewn crinwellt."

"Gŵyr, fe ŵyr Rhufain sut i sathru crinwellt," sylwodd Esras.

"Tân mewn crinwellt!" Edrychodd Isaac ar yr Archoffeiriad ag edmygedd mawr. "Tân mewn crinwellt!" meddai drachefn, fel petai'n cael blas ar farddoniaeth y frawddeg.

"Wrth gwrs, fe dalwn iti." A gwenodd Caiaffas ar y dieithryn.

Nodiodd y gŵr ifanc, ond nid oedd fel petai'n gwrando. Yr oedd yn amlwg i Joseff nad y wobr a'i hudodd yno.

Hoffai olwg y dyn, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef. Y llygaid braidd yn wyllt, efallai—fel rhai ei fab Beniwda, o ran hynny ond yr oeddynt mor glir ac onest â'r dydd. Yr oedd ei enaid yn ei lygaid—eiddgarwch, onestrwydd; ynni anesmwyth, chwyrn. Disgwyliasai Joseff weld gŵr llechwraidd a gwasaidd, ond yr oedd hwn yn eofn o annibynnol—fel Beniwda eto.

Pam y bradychai'r Rabbi o Nasareth, tybed? Er mwyn arian? Efallai. Câi ryw dri chan darn o arian am eu helpu i'w ddal, a byddai hynny'n ffortun i ŵr o'i safle ef.

Ac eto, pan soniodd Caiaffas am dalu iddo, ni fflachiodd golau i'w lygaid. Ai wedi ei siomi yn ei arwr yr oedd? Ai'n eiddigeddus? Ai'n dal dig am rywbeth?

Gwibiai'r cwestiynau hyn drwy feddwl Joseff fel y llithrai ei lygaid yn ôl ac ymlaen o wyneb Caiaffas i wyneb y dyn o Gerioth. Breintiwyd yr Archoffeiriad ag wyneb hardd, a gwnâi ei lygaid mawr iddo ymddangos yn ŵr caredig a breuddwydiol. Yn dawel a chwrtais hefyd y siaradai, ac ni chofiai Joseff ef yn ei ganmol ei hun un adeg. Yn wir, credai llawer iawn ei fod yn ŵr mwyn a gostyngedig, heb fymryn o rodres yn perthyn iddo; ond gwelsai Joseff ddigon arno erbyn hyn i wybod mai cuddio tu ôl i'r addfwynder a'r cwrteisi yr oedd y gwir Gaiaffas. Craff, cyfrwys, penderfynol, sicr ohono'i hun—dyna'r cymeriad tu ôl i fiswrn y gwyleidd—dra. Yr oedd y gŵr ifanc difrif hwn o Gerioth, a'i holl galon yn ei lygaid gwyllt ac onest, fel oen a fentrodd i loches llwynog. Cadno cwrtais, efallai ond ni wnâi hynny ef yn llai cyfrwys. Fel y dywedasai Joseff droeon wrth Esther, yr oedd Caiaffas yn ddyfnach hyd yn oed nag Annas.

Fel y daeth enw'i wraig i'w feddwl, cofiodd Joseff eto am ei addewid iddi. Hyd yn hyn ni ddywedasai ef ddim i wneud argraff ar yr Archoffeiriad, ac anfelys iddo oedd gwenieithio fel y gwnâi Esras ac Isaac. Gŵyrodd ymlaen a chliriodd ei wddf. Troes yr Archoffeiriad ei ben.

"A hoffech chwi ddweud rhywbeth, Joseff?" gofynnodd. "Dim ond gofyn un cwestiwn bach i'r gŵr ifanc, f'Arglwydd."

"Ewch ymlaen."

"Tŷ Heman y Saer," meddai wrtho, ac yna arhosodd ennyd gwelai fod y llygaid onest yn wyliadwrus yn awr. "Ai yno y lletya'r Nasaread pan fo yn Jerwsalem?"

"Nage. Nid yw'n lletya yn y ddinas."

"Yno y mae'n cael bwyd, efallai?"

"Nid yw'n poeni llawer am fwyd. Bwytawn yn rhywle, pan fo chwant—a bwyd i'w ddiwallu."

Bu distawrwydd rhyngddynt yr oedd yn hawdd gweld bod y gŵr ifanc yn anesmwyth.

"Pam yr oeddech chwi'n gofyn, Joseff?" holodd Caiaffas. "Dim ond imi weld ein cyfaill ifanc yn dod o dŷ Heman y Saer gynnau, f'Arglwydd."

"Mi fûm i'n gyfeillgar iawn â Heman ar un adeg," meddai Jwdas, braidd yn frysiog yn nhyb Joseff. "Un o ymyl Cerioth yw Mair, ei wraig.

Edrychai ar Joseff fel y siaradai, ond nid oedd ei lygaid mor ddi—syfl erbyn hyn. Gwyddai Joseff ei fod yn cuddio rhywbeth. Yr oedd cysylltiad rhwng y Nasaread a thŷ Heman, ond ni fynnai iddynt hwy wybod hynny. Ofnai ddwyn helynt i dŷ'r saer, yr oedd hynny'n amlwg.

"Wel, a wyt ti'n barod i'n helpu?" gofynnodd Caiaffas. "Ydwyf, f'Arglwydd."

"Da iawn. Byddi'n gwneud gwasanaeth mawr—i'th genedl, i'r Deml sanctaidd, i Iafe. Bydd Jerwsalem, fel ei henw, yn Ddinas Heddwch dros yr Ŵyl. Nid yn faes ymladd.'

"Jerwsalem. Trigfan Heddwch," meddai Esras yn ddwys. "Jireh—Shalem," meddai Isaac yr un mor ddefosiynol, ac yna llafar—ganodd yn dawel eiriau o un o salmau Dafydd, Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a'th hoffant." "

"Ie, wir; ie, wir," sisialodd Esras, a llafar—ganodd yntau'r ddwy linell nesaf, "Heddwch a fyddo yn dy ragfur, a ffyniant yn dy blasau.' Ie, wir; ie wir."

"Wel, yn awr, ynteu," meddai Caiaffas, rhag ofn, fe dybiai Joseff, i'r pwyllgor droi'n gymanfa, "pa bryd a pha le?"

"Nos yfory, f'Arglwydd.'

"A'r lle?"

"Ni wn eto. Byddwn yn bwyta swper y Pasg gyda'n gilydd, ac yna, y mae'n debyg yr awn i Fynydd yr Olewydd neu i rywle tebyg am y nos. Dof yn syth—yma, f'Arglwydd?"

"Nage. I'm tŷ i. Bydd rhai o blismyn y Deml a rhai o'r milwyr Rhufeinig yn dy ddisgwyl yno. Gyrraf neges i wersyll Antonia ar unwaith. Byddant yng nghefn y tŷ.'

"O'r gorau, f'Arglwydd."

"Ni fydd yr un—camgymeriad?"

"Na fydd, f'Arglwydd. Arweiniaf hwy i'r fan, ac yna, rhag ofn y bydd hi'n dywyll o dan y coed ac amryw o'i ddilynwyr gydag ef, af ato a'i gusanu. Y gŵr a gusanaf . . ."

"Fydd y Nasaread. Campus. Campus."

"Ond bydd yn well i'r plismyn a'r milwyr fod yn fintai gref, f'Arglwydd. Mae pysgodwyr Galilea yn gallu ymladd. Gwn fod un ohonynt yn gleddyfwr medrus."

Gwenodd Caiaffas. "Gofalwn am hynny," meddai.

Tybiai Joseff, gan mor rwydd ei eiriau, fod y cynllun yn glir ym meddwl y gŵr ifanc cyn iddo ddyfod atynt. Pam y gwnâi hyn, tybed? Er mwyn y wobr wedi'r cwbl, efallai. Câi dri chan darn o arian, ac os oedd yn fargeiniwr deheuig, fwy na hynny.

"Dywedais y talwn iti."

Daliai Caiaffas i wenu arno.

Nodiodd y dyn—eto fel petai'r peth yn ddibwys iddo. "Rhown yr arian i bennaeth y plismyn, a chei hwy ganddo ef nos yfory."

"O'r gorau, f'Arglwydd."

Moesymgrymodd, ar fin troi ymaith. Rhythodd Esras ac Isaac arno.

A oedd hi'n bosibl fod Iddew na fanteisiai ar gyfle i wneud bargen? A oedd y dyn yn ei synhwyrau?

"Cei ddeg darn ar hugain o arian."

Rhuthrodd bys bach Esras tua'i lygad de i chwilio am lychyn dychmygol a aethai iddo, a darganfu Isaac fod llinellau diddorol yn gweu drwy'i gilydd ar gefn ei law. Gwyddai Joseff mai cuddio'u difyrrwch yr oeddynt. Deg darn ar hugain!

Gwyliodd Joseff y dyn ifanc. Gwelodd wrid yn llifo i'w ruddiau a dig yn fflachio, dro, i'w lygaid. Er hynny, brathodd ei dafod, gan nodio eto.

"Diolch, f'Arglwydd."

Tynnodd Esras ei fys o'i lygad i rythu arno eilwaith. Yr oedd ceg Isaac hefyd yn agored.

"Campus. Campus. Nos yfory felly." A chanodd Caiaffas y gloch arian a oedd ar fwrdd bychan gerllaw.

"Nos yfory, f'Arglwydd."

Tybiai Joseff fod rhyw lewych yn llygaid y gŵr ifanc, fel petai ef, ac nid Caiaffas, a enillasai'r dydd.

"Wel, dyna hwn'na," meddai'r Archoffeiriad, wedi i'r drws gau ar ei ôl. Cododd pawb. "Llongyfarchiadau, f'Arglwydd! Gwych! Gwych!" meddai Esras, gan rwbio'i ddwylo ynghyd. "Deg darn ar hugain!"

Chwarddodd Isaac yn dawel, ac yna dywedai'r sŵn yn ei wddf na fu neb tebyg i Gaiaffas erioed.

Ni chymerodd yr Archoffeiriad sylw ohonynt. Syllodd yn hir ar y drws yr aeth y dieithryn drwyddo, ac yna troes at Joseff.

"Wel, Joseff?" meddai.

"Wel beth, f'Arglwydd?"

"Pam y daeth yma?"

Yr oedd y cwestiwn yn un sydyn ac annisgwyl.

"Ar gais f'Arglwydd Annas, wrth gwrs.

"Ie, mi wn. Ond mi hoffwn fedru darllen meddwl Jwdas o Gerioth. Mae rhyw gynllun beiddgar yn llechu yno." Ac edrychodd yn hir eto tua'r drws caeëdig.

"Cynllun, f'Arglwydd?"

"Ie. Ceisiais ei wylltio trwy gynnig iddo ddeg darn ar hugain o arian. Gwyddoch pam y dewisais y swm hwnnw." "Y pris a delir gan rywun am niweidio caethwas, f'Arglwydd."

"Yn hollol." Ceisio rhoi sen ar y Nasaread yr oeddwn i, gan ei gyfrif fel caethwas. O bwrpas, i gyffroi'r cyfaill o Gerioth. Fe welodd yr ergyd ar unwaith, yr wyf yn sicr o hynny, ond fe frathodd ei dafod. A phan aeth ymaith yr oedd rhyw hanner gwên yn ei lygaid, fel petai wedi cael y gorau arnom cawn Wel, weld."

Oedd, yr oedd Caiaffas yn ŵr craff, meddai Joseff wrtho'i hun ar ei ffordd o'r Deml. Ac yn anesmwyth ei feddwl. A oedd cynllun tu ôl i lygaid ffyddiog y dyn o Gerioth tybed?

"Ffyddiog"—ie dyna'r gair. Ffyddiog, disgwylgar, hyderus sicr. Sicr o beth? Teimlai Joseff yntau yr hoffai fedru darllen meddwl y gŵr ifanc a welsai yn nhŷ Heman y Saer.

Nodiadau[golygu]