Yr Ogof/Pennod VII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VI Yr Ogof

gan T Rowland Hughes

Pennod VIII


VII



YR hwyr hwnnw a thrwy'r dydd drannoeth teimlai Joseff yn llond ei groen. Pan roesai hanes y pwyllgor i Esther, uchel oedd ei chanmoliaeth hi, a phroffwydai y byddai ef cyn hir yn un o Gynghorwyr amlycaf y Sanhedrin. Nid oedd yr adroddiad a glywsai hi yn un hollol eirwir efallai, gan i Joseff daflu i mewn iddo rai sylwadau doeth na wnaethai yn y pwyllgor ei hun ond a ddaethai i'w feddwl wedyn ar ei ffordd adref, ond y ffaith bwysig iddi hi oedd bod ei gŵr o'r diwedd yn gwneud rhywbeth heblaw pesychu'n gyhoeddus. Ac wedi hir amynedd, fe'i gwelai Esther ei hun nid yn ninodedd Arimathea ond ymhlith gwragedd mwyaf ffasiynol Jerwsalem. Yr oedd hi'n wir falch o Joseff, a dywedodd hynny dro ar ôl tro wrtho.

Teimlai ef yn llawer hapusach hefyd ynghylch ei ferch Rwth a'i fab Beniwda. Ymddangosai'r ddau braidd yn dawel a phell, ond yr oedd hynny'n naturiol, meddai wrtho'i hun, wedi i un roi'r canwriad Rhufeinig heibio ac i'r llall olchi'i ddwylo rhag y Blaid. Chwarae teg iddynt am ufuddhau i'w gais a pharchu dymuniad eu tad, onid e? Yr oedd yn sicr iddo weld Rwth droeon yng nghwmni Gibeon, un o ŵyrion yr hen Falachi, ac er na hoffai ef mo'r teulu ariangar hwnnw—wel, yr oedd y llanc yn Iddew ac yn llwyddiannus fel prentis of gyfnewidiwr arian gyda'i dad Arah yng Nghyntedd y Deml. Am Beniwda, treuliai ef yr hwyr a'r dydd yn anniddig yn y Gwesty, fel petai'n ceisio osgoi'i gymrodyr yn y Blaid—er mwyn dilyn cyngor ei dad, wrth gwrs. Tybiai Joseff fod gan rai o wŷr ifainc y Blaid ryw gynllun beiddgar i geisio achub eu cyfeillion o gelloedd y Praetoriwm a bod Beniwda—ar ôl gwrando ar rybuddion ei dad—yn ddigon call i gadw draw oddi wrthynt.

Aeth yr hwyr a'r dydd wedyn heibio'n llwyddiannus yn y Deml hefyd, a mwynhâi Joseff ei gymeriad newydd fel gŵr blaenllaw. Gwelodd amryw o'r prif offeiriaid ac o'i gyd-Gynghorwyr yn ystod y dydd a chafodd gyfle droeon i ysgwyd ei ddyrnau. Dim synnwyr mewn rhoi'r fath ryddid i'r Nasaread hwn, meddai wrthynt, dim synnwyr o gwbl. Ond nid oedd raid iddynt bryderu. Yr oedd cynllun ar waith a rôi daw ar y dyn unwaith ac am byth. Na, ni allai ddweud ychwaneg am ddiwrnod neu ddau, ond caent weld, caent weld. A nodiodd yn gall, a'i lygaid yn culhau.

Dringodd y grisiau i'w ystafell wely yn gynnar iawn, rhag ofn y deuai un o negeswyr yr Archoffeiriad i'w alw i'r Sanhedrin gyda'r wawr y bore wedyn. Suddodd yn foddhaus i'r gwely cysurus, gan benderfynu ysgwyd ei ddyrnau yn y Sanhedrin ei hun drannoeth os câi gyfle. Â'i i weld Jafan yr adeiladydd hefyd ynglŷn â chodi'r tŷ yn Jerwsalem: gallai ef a'i weithwyr gychwyn ar y gwaith pan fynnent. Gwenodd Joseff yn fodlon ar y lloergan a ffrydiai i mewn drwy rwyllwaith y ffenestr, ac yna syrthiodd i gysgu.

Deffrowyd ef ymhen rhai oriau gan guro ar y drws. Yr oedd hi tua hanner nos.

"Ie?"

"Y mae yma negesydd oddi wrth yr Archoffeiriad, Syr," meddai llais Abinoam. "Y Sanhedrin yn cyfarfod ar unwaith.'

"Ymh'le?"

"Yn nhŷ'r Archoffeiriad, Syr.'

"O'r gorau, Abinoam. Af yn syth yno, dywedwch wrth y negesydd."

Gwisgodd Joseff yn frysiog, ond cyn troi o'r ystafell, safodd ennyd wrth y ffenestr i weld gogoniant y lloer yn goleuo'r ddinas a Mynydd yr Olewydd. Gwelai fagad o bobl â lanternau a ffaglau ganddynt yn dringo o ddyffryn Cidron, ac wrth iddo wrando'n astud, clywai dramp eu traed ar risiau Rhufeinig y ffordd. Milwyr. A'r Nasaread yn eu gofal, yn fwy na thebyg. Fe lwyddodd cynllun Caiaffas, felly.

Pan gyrhaeddodd blas yr Archoffeiriad a dringo'r grisiau o farmor amryliw tua cholofnau urddasol y porth, gwelai fod y drws yn agored a thyrrau o Gynghorwyr yn sefyllian yn y porth eang. Grwgnach yr oeddynt.

"Mi fûm i'n teithio drwy'r dydd," meddai un, gŵr o'r Deau. "Cychwyn yn y bore bach ac edrych ymlaen am noson dawel o orffwys heno. Wedi blino'n lân."

"A finnau," meddai llais crynedig yr hen Falachi. "Diwrnod ofnadwy o brysur yn yr hen Deml 'na ddoe."

"Gormod o arian i'w cyfrif, Malachi?" gofynnodd Joseff yn slei.

"I beth gynllwyn y mae eisiau galw'r Cyngor yr amser yma o'r nos?" oedd ateb yr hen frawd. "Ers deng mlynedd ar hugain yr wyf fi'n aelod o'r Sanhedrin, ond dyma'r tro cyntaf imi gael fy nhynnu o'm gwely iddo. Ac i beth, mi hoffwn i wybod? I beth?"

"Credaf iddynt ddal y dyn 'na o Nasareth," meddai Joseff. "

"O?"

Diflannodd dicter Malachi: nid oedd dim ond diddordeb yn ei lygaid yn awr—a boddhad mawr. Onid oedd ei dri mab ac amryw o'u meibion hwythau'n gyfnewidwyr arian yn y Deml, ac oni cheisiodd y ffŵl hwn o Nasareth ddifetha'u holl fusnes hwy? Arian oedd Duw a chrefydd yr hen frawd, a gwae i'r gŵr a feiddiai ymyrryd â'u sancteiddrwydd hwy.

"Felly'n wir!" meddai, â gwên hyll. "Dyma gyfle i dalu'r pwyth yn ôl i'r cyfaill o Nasareth. Hm, felly'n wir!" Rhwbiodd ei ddwylo ynghyd, gan grecian yn ei wddf. "Roedd hi'n werth gadael y gwely am hanner nos wedi'r cwbl. Hm, felly'n wir!"

Galwodd un o weision Caiaffas hwy, a dilynasant ef dros farmor y cwrt agored ac yna i fyny'r grisiau llydain i'r neuadd uwchben. Eisteddodd pawb ar y clustogau a drefnwyd yn hanner cylch o flaen y llwyfan Ile'r oedd gorsedd yr Archoffeiriad.

Daeth y ddau Pharisead Esras ac Isaac i eistedd wrth ymyl Joseff.

"Cynulliad da, ac ystyried yr amser," meddai Esras. "Pump ar hugain," meddai Isaac yn orchestol. "Mi fûm i'n cyfrif. Yn agos i hanner y Sanhedrin."

"A ddaliwyd y dyn?" gofynnodd Joseff.

"Do, a'i ddwyn i dŷ Annas," atebodd Esras. "Gwelais hwy'n mynd yno gynnau."

"Pam i dŷ Annas?"

"He! Cwestiwn ffôl, Joseff!" Chwarddodd Esras yn dawel a gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf.

Nodiodd Joseff. Yr un peth a oedd ym meddwl y tri. Gwyddent na châi dim ddigwydd yn y Deml na'r Sanhedrin nac unman arall heb i'r hen Annas fod â'i fys ynddo. Ers tros ugain mlynedd yn awr ef oedd yr Archoffeiriad: eraill a wisgai'r effod o wyn a glas a phorffor ac ysgarlad, ond y tu ôl iddynt yr oedd cynlluniau a chyfrwystra Annas. Llwyddodd i osod rhai o'i feibion yn y swydd ac i reoli drwyddynt, ac yn awr teyrnasai drwy'i fab yng nghyfraith, Caiaffas.

"He!" Taflodd Esras olwg o'i amgylch rhag ofn bod rhywun yn ei glywed, ac yna sibrydodd, "Mae Caiaffas yn 'i deall hi! Nid yw'n gwneud dim heb ymgynghori ag Annas, ond y mae'n cael ei ffordd ei hun, er hynny."

Yr oedd hynny'n wir. Cadw'r hen Annas yn ddiddig a wnâi Caiaffas, nid dilyn pob awgrym a mympwy o'i eiddo fel y gwnaethai'i flaenoriad yn y swydd. Ond gofalai gymryd arno bob gafael mai ufuddhau i orchmynion a dymuniadau'i dad yng nghyfraith yr oedd. A daliai Annas i gredu mai yn ei ddwylo ef yr oedd yr awenau o hyd. Oedd, yr oedd Caiaffas yn "ei deall hi"; ped ymddangosai'n rhy annibynnol, byddai'i ddyddiau fel Archoffeiriad wedi'u rhifo a châi Annas ffordd i roi rhywun mwy hydrin yn ei le.

Gwelai Joseff fod yr hen Falachi'n mynd o gwmpas yr ystafell i dorri'r newydd i'r aelodau. Dangosai wynebau pawb eu bod wrth eu bodd, a theimlai'r gŵr o Arimathea'n falch iddo gael cyfran fechan yn y cynllun i ddal y Nasaread. Yr oedd yn wir fod gan y rhan fwyaf ohonynt ryw reswm personol dros ei ddifodi—sawl un ohonynt a oedd heb berthynasau neu gyfeillion yn gwerthu anifeiliaid neu'n cyfnewid arian yn y Deml?—ond ar wahân i hynny, yr oedd y dyn yn beryglus, yn amharchu'r Deml, yn gyfeillgar â phublicanod a phechaduriaid, yn cynhyrfu meddwl y bobl, a hyd yn oed yn hawlio bod yn Feseia. Gellid deall ofergoeledd rhyw hen gaethwas fel Elihu a dyhead dyn sâl fel Othniel, ond pan glywai rhywun storïau am bobl ddiwylliedig a meddylgar yn talu sylw i'r creadur . . .

"Ni fydd ei garcharu'n dda i ddim, Joseff," meddai Esras.. "Byddai'i ddilynwyr yn sicr o godi twrw ac o geisio'i ryddhau.'

Cytunodd Isaac drwy wneud sŵn yn ei wddf.

"Rhaid dangos ein bod o ddifrif," meddai Joseff. "Mae'r dyn wedi cael gormod o ryddid yn barod. Ac wedi manteisio ar hynny. Fe gwyd dwsinau o rai tebyg iddo hyd y wlad 'ma os na sathrwn arno."

"Fe ddylai fod yr hawl i'w labyddio gennym, wyddoch chwi," sylwodd Esras, "yn lle'n bod ni'n gorfod mynd â phob achos gwir ddrwg o flaen Pilat. Gresyn i Annas gamddefnyddio'r hawl pan oedd ef yn Archoffeiriad, a rhoi esgus a chyfle i'r Rhufeiniaid i'w dwyn oddi ar y Sanhedrin."

Ie, cytunodd Isaac. "Dyna i chwi heno, er enghraifft. Gallwn gondemnio'r tipyn Meseia hwn, ond beth wedyn? Beth petai'r Rhufeinwyr yn gwrthod ei ddienyddio?"

"O, 'fydd dim trafferth felly," meddai Joseff. "Fe arwydda Pilat y condemniad bore yfory, ac yna . . . Cododd ei ysgwyddau ni hoffai sôn am y groes, y penyd melltigedig o greulon a ddefnyddiai'r Rhufeinwyr. Ond gwenodd Esras, a gwnaeth Isaac sŵn boddhaus yn ei wddf.

Daeth swyddog y llys, un o brif offeiriaid y Deml, i mewn a dringo'r ddau ris o flaen gorsedd Caiaffas; yna troes yn urddasol a tharo'r llawr deirgwaith â'i ffon. Tawelodd pob siarad, a chododd pawb. Rhwng y ddau offeiriad a oedd yn Ysgrifenyddion y Sanhedrin, cerddodd Caiaffas yn araf ar hyd y llwybr a dorrai'r hanner-cylch o Gynghorwyr yn ddwy ran yna wedi iddynt gyrraedd y grisiau o flaen yr orsedd, safodd y ddau offeiriad yn llonydd fel dau filwr, ennyd, cyn troi un i'r dde ac un i'r aswy, i gymryd eu lle ar ffiniau'r hanner-cylch. Wedi i'r Archoffeiriad eistedd, eisteddodd pawb arall.

Ond dim ond am ennyd. Camodd swyddog y llys ymlaen i fin y llwyfan bychan, ac yna cododd pawb drachefn i gydadrodd yn dawel gydag ef: {{center block|

"Gwyn ei fyd y dyn
yr hwn ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion
ac ni saif yn ffordd pechaduriaid
ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr,
ond sydd â'i ewyllys yng nghyfraith yr Arglwydd
ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.

} "Y mae'n wir ddrwg gennyf orfod galw'r Sanhedrin mor hwyr yn y nos, gyfeillion," meddai Caiaffas wedi i bawb eistedd, "a theimlaf yn ddiolchgar i gynifer ohonoch am ddod ynghyd. Yn ddiolchgar iawn. Bûm yn petruso'n hir cyn gyrru'r negeswyr allan, ond teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnaf ddwyn yr achos hwn o'ch blaen yn ddiymdroi. Yr wyf yn sicr y maddeuwch imi."

Daeth murmur maddeuol o blith y Cynghorwyr.

"Cyfeiriaf at achos Iesu fab Joseff, y proffwyd o Nasareth." "Hy! Proffwyd!" meddai'r hen Falachi, ac ymledodd sibrydion dig drwy'r ystafell.

"Y mae miloedd yn credu hynny, yn arbennig yng Ngalilea. Yn wir, fel y gwyddoch chwi, cred llawer o bobl y Gogledd mai ef yw'r Meseia. . ." Arhosodd Caiaffas ennyd i roi cyfle i amryw godi dwylo ffiaidd. "Ef yn eu barn hwy sydd i arwain y genedl o'i chaethiwed! Ef sydd i eistedd ar orsedd Dafydd! Ef a yrrwyd gan Dduw i fod yn Frenin ar Israel! Ef yw Crist, mab y Duw byw!"

Gwenodd Isaac ar Joseff: gwyddai Caiaffas sut i gyffroi'r Sanhedrin. Yr oedd amryw ohonynt ar eu traed a chlywid ar bob tu y dychryn a greai'r fath gabledd: "Gorsedd Dafydd!" "Brenin ar Israel!" "Mab Duw!"

"Clywsoch o dro i dro adroddiadau'n hysbïwyr am y dyn hwn. Y mae'n amlwg fod rhyw gymaint o allu meddygol ganddo, ond defnyddiodd y gallu hwnnw i borthi ofergoeledd pobl anwybodus. Buom ni'n dyner ac amyneddgar tuag ato, ac ystyried y sen a'r dirmyg a daflodd ef atom ac at weision crefydd mewn llawer man. Y mae'n wir inni geisio'i ddal droeon o'r blaen yma yn Jerwsalem—yr hydref diwethaf yng Ngŵyl y Pebyll, er enghraifft—a chlywsom rai'n ein beirniadu am fethu'i daflu i un o'r celloedd sydd yn y graig o dan y plas hwn. Y mae'n hawdd ateb y feirniadaeth yna." Troes Caiaffas ei olwg tua'r fan lle'r eisteddai Joseff, gan anelu'i eiriau at y dwsin o Phariseaid a ddigwyddai fod gyda'i gilydd yno yr oedd amryw ohonynt yn Selotiaid eiddgar o ran ysbryd er na pherthynent, wrth gwrs, i Blaid Ryddid. "Y mae'n gwlad a'i phobl yn rhy annwyl inni i roi cysgod o esgus i filwyr Rhufain eu clwyfo hwy. Pe daliasem y Nasaread hwn yn un o Gynteddau'r Deml yn ystod Gŵyl y Pebyll neu yn ystod yr wythnos hon, beth fuasai'r canlyniad? Ni all unrhyw un a freintiwyd â dychymyg ond rhwygo'i ddillad mewn arswyd wrth feddwl am y peth. Y mae'r gŵr hwn yn boblogaidd, a gwyddom y codai'r pererinion, hyd yn oed yng nghynteddau sanctaidd y Deml, eu dyrnau o'i blaid. Y mae Gwersyll Antonia'n gryf a'i filwyr yn lluosog—ac yn ddidrugaredd weithiau. Trefn a thawelwch—dyna a fyn y Rhufeinwyr, ac i'w sicrhau y mae min ar eu cleddyfau a'u gwaywffyn. Nid oes gennyf ond gofyn un cwestiwn syml i'n beirniaid. Dyma ef: ai doeth aberthu ugeiniau, efallai gannoedd, o'n cenedl annwyl er mwyn tawelu un gŵr? A gochir cynteddau'r Deml a heolydd ein dinas sanctaidd gan waed ein pobl er mwyn ffrwyno rhyw saer gorwyllt o Nasareth? A phwy a ŵyr, efallai yr âi'r terfysg yn dân drwy'r wlad, gan alw gwaywffyn y Rhufeinwyr i bob pentref a thref o Hebron i Hermon. Na, buddiol yw i un farw fel na ddifether y genedl oll."

Dywedai Amenau dwys y Cynghorwyr mai prin yr oedd angen y pwyslais araf a roddai'r Archoffeiriad ar bob gair. Ond yr oedd Caiaffas yn ŵr trwyadl—ac yn mwynhau areithio.

"Aeth y Nasaread hwn yn eofn iawn yr wythnos hon. Wedi meddwi ar win ei boblogrwydd, penderfynodd mai ef, ac nid ni, a ddylai reoli'r Deml a'i haberthau a'i harian. Yn ein dwylo ni nid ydyw'r Deml sanctaidd ond ogof lladron.' Ein dyletswydd felly, gyfeillion, yw trosglwyddo'r Deml a'n synagogau iddo ef a'i bysgodwyr o Galilea, i'r gŵr sy'n honni y gall yrru allan gythreuliaid, a hyd yn oed. . . hyd yn oed atgyfodi'r marw . . .

Cododd Joseff a phob Sadwcead arall eu dwylo mewn braw. Atgyfodi'r marw! Yr oedd y syniad yn wrthun iddynt hwy: nid oes gair yn y Ddeddf am fywyd ar ôl hwn, a ffiloreg y Phariseaid oedd sôn am fyd arall. Darfyddai'r enaid pan drengai'r corff. Atgyfodi'r marw, wir! Nid oedd synnwyr yn y geiriau.

"Y maent yn honni iddo, ym mhentref Bethania wythnos yn ôl, atgyfodi gŵr ifanc a fuasai'n farw ers pedwar diwrnod. Beth a ddywedant yn nesaf, ni wn . . . A, yr ydym yn aros amdanoch, Amnon."

Amnon oedd pennaeth plismyn y Deml. Daeth ymlaen o'r drws i foesymgrymu gerbron yr Archoffeiriad.

"Dywedwch yr hanes wrthym—yn fyr."

"O'r gorau, f'Arglwydd. Cawsom ef a'i ddilynwyr yng ngardd Gethsemane. Wedi inni ei ddal a rhwymo'i ddwylo, aethom ag ef at f'Arglwydd Annas.'

"A ddaeth ef yn ufudd?"

"Do, f'Arglwydd, er i ddau o'i ddisgyblion dynnu'u cleddyfau. Fe glwyfodd un ohonynt eich gwas Malchus."

"Hm. A gyffesodd y Nasaread ei droseddau?"

"Naddo, f'Arglwydd. Y mae'n ŵr ystyfnig. Gofynnodd f'Arglwydd Annas iddo am ei athrawiaeth a'i ddisgyblion."

"A'i ateb?"

"Aeth yn hy ar f'Arglwydd Annas, a bu'n rhaid inni ei geryddu. Dywedodd iddo lefaru'n agored yn y synagogau ac yn y Deml, ac os mynnai f'Arglwydd Annas wybod beth a ddysgai, yna dylai holi'r rhai a'i clywsai. Pam y gofynni i mi? Gofyn i'r rhai a'm clywsant.'—dyna'i eiriau f'Arglwydd."

"Ewch ymlaen, Amnon."

"Nid oes mwy i'w adrodd, f'Arglwydd. Dygasom ef yma.

"Hm. Fe droes y saer huawdl yn ŵr tawedog felly. O'r gorau. Efallai y bydd wynebau'r Sanhedrin yn rhyddhau'i dafod gwyddom iddo dalu llawer teyrnged inni, yn Phariseaid a Sadwceaid ac Ysgrifenyddion, pryd na allem fod yn bresennol i ddiolch iddo! A ydyw'r Rabbi Tobeias wrthi'n holi'r tystion, Amnon?"

"Ydyw, f'Arglwydd, yng ngŵydd y carcharor."

"Da iawn. Yr ydym yn aros i weld y Meseia 'o Nasareth." Moesymgrymodd Amnon cyn cerdded yn filwrol tua'r drws. Troes Caiaffas at y Cyngor.

"Dylwn egluro imi alw nifer o dystion yma," meddai, "a rhoddais y gwaith o'u holi hwy i'n Prif Ysgrifennydd parchus a galluog, y Rabbi Tobeias. Gofynnais iddo ddewis rhai ohonynt i'w dwyn o'ch blaen."

Daeth y Rabbi Tobeias i mewn ar y gair. Hen ŵr tal a thenau oedd ef â barf hir ond â'i ben yn foel o dan ei gap bychan hirgrwn, a cherddai'n gyflym, gan edrych i lawr ar ei draed fel pe i wylio'u camau byrion. Gwenodd amryw ar ei gilydd, oherwydd yr oedd yr hen frawd yn enwog am ddweud a gwneud pethau anghyffredin ac annisgwyl. Cerddai o amgylch y Deml a'i lygaid gloywon, suddedig yn gwenu ar bawb ond heb adnabod fawr neb, a pharablai ag ef ei hun drwy'r dydd, gan aros yn sydyn weithiau i grychu'i drwyn a tharo'i law ar ei dalcen mewn penbleth fawr. Dilynid ef gan fechgyn direidus hyd heolydd Jerwsalem, a manteisient ar bob cyfle i ofyn cwestiynau iddo am fanion Deddf y Rabbiniaid, gan gymryd arnynt wrando'n ddwys ac eiddgar ar ei lais main yn esbonio'r gyfraith iddynt. Pam na allai hen ŵr wisgo'i wallt gosod ar y Sabath? Gan na ellid bwyta'r wy, a oedd modd perswadio iâr i beidio â dodwy ar y Sabath? Gan y gwaherddid i un gario dim ar y Sabath, pam y câi hwn-a-hwn lusgo'i goes bren i'r Deml? Rhoddai'r hen frawd ystyriaeth fanwl i'w holl gwestiynau, ac â'i law anesmwyth ar ei dalcen a'i drwyn yn crychu rhwng pob brawddeg, eglurai ac athrawiaethai ar fin yr heol fel petai'n sefyll o flaen dosbarth yn y Coleg. Ond er ei holl wendidau, yr oedd y Rabbi Tobeias yn fawr ei barch yn y Deml ac yn y ddinas ac, yn wir, drwy'r wlad. Cofiai pawb am ei dlodi cynnar, amdano'n gweithio ddydd a nos, yn fachgen, fel gwneuthurwr sandalau, i gasglu arian i fynd i'r Coleg yn Jerwsalem; amdano'n cerdded bob cam o Ogledd Galilea i'r brifddinas i astudio yno; am y blynyddoedd caled pan oedd yn fyfyriwr yn y dydd ac yn wneuthurwr sandalau yn y nos; am ei esboniadau disglair ar y Gyfraith; ac yn bennaf oll, pan wnaed ef yn Brifathro'r Coleg yn Jerwsalem, am y modd y talai o'i boced ei hun dreuliau ugeiniau o fyfyrwyr tlawd. Oedd, er gwaethaf ei odrwydd bellach, yr oedd y Rabbi Tobeias yn uchel ei barch, a disgwyliasai llawer mai ef fuasai'n Archoffeiriad ar ôl y pumed o feibion Annas. Ond anghofient fod gan Annas fab yng nghyfraith.

"Wel, Barchusaf Rabbi?"

"Wyddwn i ddim fod y fath benbyliaid i'w cael yn y byd, f'Arglwydd Gaiaffas."

Gwenodd pawb, ond ymddangosai Caiaffas braidd yn ddiamynedd. Nid oedd hwn yn amser i fod yn ddigrif.

"Beth a fu?"

"Tystion! Un yn dweud un peth, y llall beth gwahanol, yna'r trydydd yn gwrthddweud y ddau. Geiriau yn llifo fel dŵr, f'Arglwydd Caiaffas, ond twll mawr yng ngwaelod pob ystên. Nid oes un ohonynt yn gallu meddwl yn glir am hanner munud, f'Arglwydd, a'r unig gasgliad y gallaf fi ei dynnu yw mai dyfod yma i geisio ennill ychydig o arian am . . . "

Sylw cywir ac onest—ond un braidd yn anffodus, gan mai Caiaffas a logasai'r tystion hyn. Torrodd yr Archoffeiriad ar draws parabl cyflym yr hen ddoethor. "Gresyn hynny, Barchusaf Rabbi. Ond y mae'n sicr fod rhai ohonynt â'u tystiolaeth yn werthfawr?"

"Dim ond dau, f'Arglwydd, y ddau'n dweud iddynt glywed . . . "

"Carem eu gweld, ac yn ddiymdroi; nid oes amser i'w golli."

Nodiodd Caiaffas ar un o Ysgrifenyddion y llys, ac aeth hwnnw gyda'r Rabbi Tobeias tua'r drws. Dychwelasant ymhen ennyd a thu ôl iddynt y tyst cyntaf; Amnon, pennaeth y plismyn; a'r carcharor yng ngofal tri phlisman. Aethant oll ymlaen at fin y llwyfan.

Edrychai'r carcharor yn flinedig, ond yr oedd ei lygaid yn ddisglair ac eofn yn ei wyneb gwelw. Synnodd Joseff wrth ei weld: nid gŵr ifanc glân ac onest yr olwg fel hwn a ddarluniasai yn ei feddwl, ond rhyw adyn gerwin a gwyllt. Gwnâi hwn iddo feddwl am wyneb Othniel y bore o'r blaen ar ôl y breuddwyd rhyfedd a gawsai. Ymddangosai hwn yn ŵr ifanc tawel a meddylgar, ac efallai, petai'r Archoffeiriad wedi dewis y llwybr hwnnw, y gallasai rhai ohonynt ei ddarbwyllo a dangos iddo gyfeiliorni ei ffyrdd. Teimlai'r gŵr o Arimathea briadd yn anghysurus, a thynnodd ei olwg yn gyflym oddi ar y Nasaread i syllu ar y rhai o'i amgylch ef.

Safai swyddog y llys o flaen y tyst.

"Dy enw?"

"Magog fab Lefi, Syr. Cyfnewidiwr arian."

"Magog fab Lefi, a'th law ar y rhòl sanctaidd hon, gwrandawed dy glustiau'n astud ar rybudd y llys."

Rhoes y tyst ei law ar y rhòl, ac yna adroddodd y swyddog y rhybudd mewn llais uchel, treiddgar.

"Yn y praw hwn am fywyd, os pechi, O dyst, nac anghofia y bydd yn dy erbyn di hyd ddiwedd amser waed y cyhuddedig a gwaed ei had ef. Yn un dyn ac yn unig y crëwyd Adda, fel y dysger iti hyn—os dinistria tyst un o eneidiau Israel, fe'i cyfrifir ef gan yr Ysgrythur fel un a ddistrywiodd y byd; a'r gŵr a achubo un enaid fel un a achubodd y byd.'

Yna y camodd y Rabbi Tobeias ymlaen i holi'r tyst. Yr oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau ddyn yn ddigrif i'r eithaf, un yn dal a thenau a'i ben yn foel, a'r llall yn fyr a thew ac ar ei gopa wrych o wallt dudew.

"Magog fab Lefi, dywed wrth y llys gabledd y carcharor am y Deml sanctaidd."

"Gwnaf, Barchusaf Rabbi." Yr oedd y dyn bach yn eiddgar iawn am roi tystiolaeth—ac am ennill ychydig ddarnau o arian. "Dair blynedd yn ôl, ar Ŵyl y Pasg, y gwelais i'r carcharor gyntaf. Yr oeddwn i wrth fy mwrdd yng Nghyntedd y Cenhedloedd . . . " "Yn cyfnewid arian."

"Yn cyfnewid arian, Barchusaf Rabbi, pan ddaeth y carcharor yno . . .

"A cheisio gyrru'r gwerthwyr a'r cyfnewidwyr arian oddi yno â fflangell. Gwyddom yr hanes hwnnw. Beth a ddywedodd ef am y Deml sanctaidd—dyna sydd gennym yn awr."

"Gan ei fod yn gwneud y pethau hyn fel un ag awdurdod ganddo, gofynnodd y bobl iddo am arwydd, a dywedodd yntau, Barchusaf Rabbi, ei fod am . . .

"Y mae arnom eisiau'r geiriau fel y llefarodd ef hwy. Beth yn union a ddywedodd?"

"Dweud ei fod am ddinistrio'r Deml ac am . . .

"Ie, mi wn, ond beth oedd ei eiriau ef ei hun? Beth yn union a ddywedodd?"

""Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.'—dyna'i eiriau, Barchusaf Rabbi."

Cododd Caiaffas oddi ar ei orsedd. "Dinistrio'r Deml!" meddai. "A glywodd neb erioed y fath gabledd? A'i hadeiladu drachefn mewn tridiau! Dim ond galluoedd y Fall a allai gyflawni'r fath orchwyl. Deuai Satan a llengoedd o ysbrydion drwg i roddi maen ar faen wrth ewyllys Iesu fab Joseff o Nasareth." Troes tuag at y carcharor. "Clywaist y dystiolaeth hon i'th erbyn, Iesu fab Joseff. Beth a ddywedi?"

Ar amnaid eu pennaeth, gwthiodd y plismyn y Nasaread gam neu ddau ymlaen yn ddiseremoni, ac yna ciliodd y tri'n ôl tua mur yr ystafell. Safai'r carcharor yn awr ar y chwith i'r llwyfan, yn wynebu'r hanner-cylch o Gynghorwyr. Edrychai'n unig iawn, ond yr oedd ei ben yn uchel a'i lygaid yn wrol.

"Beth a ddywedi?" gofynnodd Caiaffas eilwaith. Eithr nid atebodd ef ddim.

Curai calon Joseff yn wyllt o'i fewn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a deimlai'r rhai o'i amgylch fel y teimlai ef. Disgwyliai ganfod rhyw syndod mawr yn eu llygaid, rhyw rythu ofnus tuag at y gŵr ifanc unig a thawel hwn. Ond ymddangosent mor ddichellgar ag o'r blaen, gan sibrwd wrth ei gilydd i ennyn dig. Rhwbiodd ei lygaid yn ffwndrus. Ai ar ei olwg ef yr oedd y bai? Tybiai fod y lle'n tywyllu, a gwelai hwythau, henuriaid y genedl, fel criw o gynllwynwyr â'u pennau ynghyd yng ngwyll rhyw ogof. Cilwenent ar ei gilydd, gan sibrwd a nodio'n fradwrus yn awyr fwll ac afiach yr ogof, ond y tu allan, yng nglendid heulwen ac awel iach a chân adar a siffrwd dail, safai'r carcharor hwn, yn lân a rhydd ac urddasol. Rhydd? Ie, ef a oedd yn rhydd, a hwythau yng nghaethiwed eu cynllwynion. Sylweddolodd Joseff fod ei feddwl, heb yn wybod iddo bron, yn ail—fyw'r breuddwyd a gawsai Othniel, a chynhyrfwyd ef drwyddo gan ei fraw a'i ofn.

"Onid atebi di ddim?" Swniai llais yr Archoffeiriad yn atgas i Joseff yn awr, yn rhan o dywyllwch a ffieidd-dra'r ogof. Darfu'r sibrwd ennyd, a gŵyrodd amryw ymlaen yn astud. Ond ni ddywedai'r carcharor air, dim ond edrych yn ddiysgog i wyneb yr Archoffeiriad.

"Y mae'n greadur ystyfnig," sibrydodd Esras yng nghlust Joseff.

Nodiodd Joseff, ond prin y clywai'r geiriau. Ai yn erbyn y gŵr hwn yr aethai ef yn daeog at Gaiaffas â'i urddwisg amdano ac eiddgarwch yn ei lygaid? Ai ar hwn y dymunai Esther iddo sathru er mwyn dringo i ffafr yr Archoffeiriad? Gwelai eto wyneb Othniel ar ôl ei freuddwyd rhyfedd, a chlywai eilwaith frawddegau dwys yr hen Elihu yn y winllan. "Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr. Gwn nad wyf fi deilwng i ddatod ei sandalau ef." Na, nid Elihu ond Heman y Saer a lefarodd y geiriau yna. Tybed a roddwyd i ŵr ifanc yn glaf o'r parlys ac i hen gaethwas annysgedig ac i saer o Gana Galilea ddoethineb mwy nag i Archoffeiriad ac arweinwyr y genedl?

Sylwai Joseff nad edrychai Caiaffas i lygaid y carcharor; troesai ato am ennyd wrth ofyn y cwestiwn, ac yna crwydrai'i olwg i bobman ond i'w wyneb ef. Ni synnai Joseff ddim. Yr oedd rhyw dreiddgarwch rhyfedd yn y llygaid hynny—a rhyw dosturi mawr.

Ymddangosai fel petai'n ofidus ganddo achosi'r cynllwyn annheilwng hwn ymhlith blaenoriaid ei bobl ac fel petai arnynt hwy yn hytrach nag arno ef y dôi barn. Yn wir, hwy, ac nid ef a oedd ar braw.

Troes y llygaid dwys ac unig i edrych ar Joseff.

Nid oeddynt yn ei gyhuddo na'i feio, ac nid oedd ynddynt ddim dicter. Gallai Joseff wrthsefyll y pethau hynny: pe cyhuddai'r llygaid ef, gallai geisio'i amddiffyn ei hun a chwilio'n wyllt am esgusion; a phe ceryddent ef, heriai ddicter â dicter. Ond o flaen yr edrychiad hwn, fel niwl y bore y diflannai pob rhagrith, ac o fannau dirgelaf ei enaid codai meddyliau a hanner-meddyliau llechwraidd, gan ymlusgo ymaith mewn dychryn. Yr oedd ei enaid ef, Joseff o Arimathea, Cynghorwr pendefigaidd a droes yn gynllwynwr taeog, yn noeth i'r llygaid hyn. Ni chofiai erioed y fath noethni—na'r fath ryddid. Teimlai fel plentyn yn eiddgar a syn a diniwed, cyn tyfu o fiswrn ffuantwch ar ei wyneb. Esmwythyd, awdurdod, cyfoeth—diddim oll: rhodres, cysêt, uchelgais—llwch i gyd. Y syml, y didwyll, y pur—am y rhai hynny y chwiliai'r llygaid, am ddiniwedrwydd y plentyn ynddo. O, na ddeuai cerydd neu ddirmyg neu apêl i'r llygaid hyn! Yr oedd yr ymchwilio tosturiol hwn yn . . . yn ddidrugaredd.

"Dy enw?"

Safai'r ail dyst wrth y llwyfan yn ôl rheolau'r llys, nid oedd tystiolaeth y cyntaf o werth heb ei hategu.

"Arah fab Malachi. Cyfnewidiwr arian."

Un o feibion yr hen Falachi oedd hwn, dyn bychan cyfrwys yr olwg fel ei dad, a'i lygaid cyflym yn agos iawn at ei gilydd. Wedi i'r swyddog adrodd y rhybudd eilwaith, gŵyrodd y Rabbi Tobeias uwch y dyn bach.

"Dywed wrth y llys beth a ddywedodd y carcharor am ddinistrio'r Deml?"

"Gwnaf, Barchusaf Rabbi. Yr oeddwn i yno ar y pryd, wrth y bwrdd nesaf at un ben-Lefi. Cofiaf y bore'n dda, oherwydd fe gododd rhyw ddyn o Gorinth dwrw wrth newid deg drachma a disgwyl cael.

"Nid oes gan y llys ddiddordeb yn arian y dyn o Gorinth."

"Y mae'n ddrwg gennyf, Barchusaf Rabbi. Ond ef a gychwynnodd y terfysg, ac fe ddaeth y carcharor i'r Cyntedd i gymryd ei blaid, ac yna

"A gofi di eiriau'r carcharor pan soniai am ddinistrio'r Deml?"

"Mi allaf ei weld ef y munud 'ma, Barchusaf Rabbi, yn sefyll wrth borth y Cyntedd ac yna . . ."

"A elli di ei glywed?—dyna a ofynnir iti."

"Gallaf, Barchusaf. Yr oedd yn sefyll wrth borth y Cyntedd â'i law i fyny ac yn dweud â llais uchel—Mi a allaf ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.' Ac wedyn ..

"Mi a allaf ddinistrio teml Dduw '—ai dyna a ddywedodd?"

"Ie, Barchusaf Rabbi. Yr oeddwn i'n sefyll o fewn . . ."

Mi a allaf ddinistrio' neu Mi a ddinistriaf'?"

Troes y tyst ei ben yn gyflym tua'r fan lle'r eisteddai'r hen Falachi, fel petai'n disgwyl cael arweiniad ganddo ef.

"Mi a allaf ddinistrio neu Mi a ddinistriaf'?" gofynnodd y Rabbi eilwaith.

"Wel, Barchusaf Rabbi, yr oeddwn i'n meddwl iddo ddweud ond wrth gwrs y mae tair blynedd yn amser go hir yr oeddwn i'n meddwl iddo ddweud Mi a allaf,' ond wrth gwrs . . ."

Cododd Caiaffas oddi ar ei orsedd.

"Y mae'r ddau'n cytuno ar yr adeiladu drachefn mewn tridiau," meddai. Troes at y Cyngor.

"Pwy a allai godi'r Deml sanctaidd mewn tridiau? Dim ond Duw ei hun. Neu'r Crist, Mab Duw."

Camodd yn araf i'r chwith, i fin y llwyfan.

"Clywaist beth y mae'r rhain yn ei dystiolaethu yn dy erbyn. A atebi di ddim?"

Ni ddywedodd y carcharor air.

Yr oedd y tawelwch hwn yn rhywbeth newydd iawn i Gaiaffas. Gŵr cwrtais oedd ef, artist mewn gair ac osgo ac ystum, digyffro bob amser yn ei ymwneud â'r awdurdodau Rhufeinig, digynnwrf ym mhob storm ym mhwyllgorau'r Deml neu yn y Sanhedrin—bonheddwr i'r carn. Pan ymfflamychai eraill, ni churai'i galon ef yn gyflymach ac ni ddeuai un cryndod i'w lafar ef: pan godent hwy leisiau a dwylo cyffrous, ni chrychid llyfnder ei feddwl ef: ffyliaid a ymwylltiai gan dywyllu cyngor â brwdfrydedd: nam ar urddas oedd eiddgarwch. Ni chofiai neb fflach dicter neu sêl yn llygaid Joseff Caiaffas, er iddo orfod gwrthdaro droeon yn erbyn rhyfyg Pontius Pilat y Rhaglaw. Valerius Gratus a'i hapwyntiodd yn Archoffeiriad. Daethai'r ddau, trwy ystrywiau Annas, yn bur gyfeillgar, a llifodd llawer o gyfoeth y Deml i goffrau Rhufain y flwyddyn honno. Yna dilynwyd Valerius Gratus gan y gŵr balch a byrbwyll Pontius Pilat, a thrwy'r blynyddoedd bu helynt ar ôl helynt. Ond er pob sen ar ei bobl a'u crefydd a'u Teml ac arno ef ei hun fel eu Harchoffeiriad, wynebai Joseff Caiaffas y Rhaglaw Rhufeinig o hyd fel pe am y tro cyntaf erioed, yn gwrtais a rhadlon, a'i wên yn gyfeillgar. Casâi Pilat ef â chas perffaith, ac ni chuddiai'i deimladau milwr oedd ef, garw ond unplyg, gwyllt ond onest, trahaus ond didwyll, digydwybod ond digynllwyn. Rhyferthwy o ddyn, a ddirmygai â'i holl erwinder ystumiau gofalus yr Archoffeiriad o Iddew. Daliai Annas i dywallt arian y Deml i'r Praetoriwm, a'r cyfoeth hwnnw a ataliai lid y Rhufeinwr chwyrn. Rhoddai Pilat lawer am yrru'r rhagrithiwr cwrtais hwn yn bendramwnwgl o'i orsedd, ond ni phoenai'r llwynog pan ruai'r tarw. Yr oedd urddas a chwrteisi Joseff Caiaffas mor ddifrycheulyd ag erioed.

Urddas a chwrteisi. O flaen popeth, urddas a chwrteisi. Llawer gwaith yn y Sanhedrin yr ymlusgodd carcharor ar y llawr o'i flaen, gan ymbil am drugaredd a chusanu ymyl ei wisg, a phob tro bu Caiaffas yn urddasol o anhrugarog, mor ddideimlad â'i wisg. A phan godai helynt rhyw ddadl boeth yn y Cyngor, araf a dethol oedd ei eiriau ef. Hyd yn oed pan daflodd Hasael y Pharisead, un noswaith ystormus, y gair 'llwfrgi' i'w ddannedd, nis cythruddwyd i ddial â brawddegau miniog. Bu'n gwrtais—gan wybod y deuai cyfle i dalu'n ôl. Byr fu gyrfa Hasael y Pharisead yn y Sanhedrin.

Ni chollasai Caiaffas ei dymer erioed, ond yr oedd ar fin hynny'n awr wrth geisio edrych i lygaid eofn y carcharor hwn o Nasareth. Gofynasai'r cwestiwn "Onid atebi di ddim?" yn weddol dawel, ond clywsai'r rhai a'i hadwaenai orau beth cynnwrf yn ei lais. Y mymryn lleiaf, efallai, ond digon i fradychu'r ffaith fod ei hunanlywodraeth ddi-feth yn sigledig. Yn y saib a fu ar ôl y cwestiwn, tybiodd yr Archoffeiriad iddo weld cysgod gwên yn llygaid y Rabbi Tobeias, ac ni hoffai'r olwg a daflai'r plismyn ar ei gilydd. A oedd tipyn o saer o Nasareth yn mynd i'w herio a'i drechu ef, yr Archoffeiriad Joseff Caiaffas, yng ngŵydd y Cynghorwyr a'r plismyn a'r tystion hyn? Disgwyliasai i'r carcharor, fel cannoedd o rai eraill yn yr ystafell hon, blygu o'i flaen a chrefu am drugaredd. Ond yr oedd yn amlwg fod hwn yn greadur ystyfnig.

Safai Caiaffas yn betrus ar fin y llwyfan, a gallai Joseff ddychmygu'i feddyliau ef. Yn ôl rheolau'r llys, yr oedd y praw drosodd a'r Nasaread yn rhydd i ddychwelyd at ei ddisgyblion. Gallai'r Archoffeiriad ei rybuddio'n llym ac, os mynnai, orchymyn ei fflangellu am ei ryfyg yn y Deml, ond nid oedd ganddo dystiolaeth i'w yrru i'r groes.

Ped âi ag ef at Pilat gan ofyn i'r Rhaglaw ei ladd, ni wnâi'r Rhufeinwr ond chwerthin. Rhyw ffwl yn dweud y gallai adeiladu'r Deml mewn tridiau? Wel, wir! Haerodd rhyw ddyn yn Rhufain unwaith y dylifai'r afon Tiber dros y ddinas oll pe poerai ef iddi! Ei gyngor ef fyddai gwneud fel y gwnaethai'r Rhufeinwyr—chwerthin am ben y creadur a gofyn i un o'r beirdd lunio cân ddigrif amdano.

Nid oedd dim amdani ond gohirio'r achos nes dod o hyd i well tystion a chyhuddiadau mwy damniol. Gohirio? Culhaodd llygaid Caiaffas. Gohirio? Cerdded yn ôl i'w orsedd wedi'i orthrechu? Troi at y Sanhedrin a dweud, "Y mae'n wir ddrwg gennyf imi eich tynnu o'ch gwelyau, gyfeillion, ond, fel y gwelwch . . . "? Na, heno, heno amdani. Ni threchid ef, Joseff Caiaffas, gan ryw anfadyn o Galilea. Dywedai rheol y llys na ellid "condemnio neb i farwolaeth ar ei gyffesiad ef ei hun," ac felly nid oedd gwylltio'r carcharor a thynnu cyfaddefiad o'i enau o un gwerth. Ond . . . ond! Ymsythodd Caiaffas uwchben y carcharor, ac yr oedd ofn methu yn gryndod yn ei lais.

"Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy y Duw byw i ddywedyd wrthym ni ai tydi yw'r Crist, mab Duw."

Gŵyrasai'r Nasaread ei ben yn ystod petruster yr Archoffeiriad, ond cododd ef yn awr i ateb yn dawel,

"Ti a ddywedaist."

Gwelai Joseff ysgwyddau Caiaffas yn llacio gan siom a'i daldra urddasol yn lleihau. Methasai. Disgwyliasai y byddai'r ateb yn gabledd noeth, a'r ddedfryd am gabledd oedd marwolaeth. Ond yr oedd y carcharor hwn yn rhy gyfrwys iddo. Gohirio, nid oedd dim arall amdani, aros hyd oni . . .

Troes y carcharor i edrych i wynebau'r Sanhedrin, a thywynnai rhyw ddisgleirdeb rhyfedd yn ei lygaid. Ef erbyn hyn a oedd yn ei lawn daldra, a phan agorodd ei enau, gwrandawai pawb yn syn ac astud ar ei eiriau.

"Eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef."

Bu distawrwydd syfrdan. Syllodd Joseff ar y llawr o'i flaen, gan aros i'r ystorm dorri. Ond ni thorrodd. A oedd y cabledd yn un mor ofnadwy nes mynd â'u hanadl ymaith? Cododd ei olwg yn bryderus, a llamodd ei galon mewn llawenydd wrth ganfod y dryswch syn ar yr wynebau o'i gwmpas: gwnaethai'r geiriau argraff ddofn hyd yn oed ar yr hen Falachi. Yr oedd ceg Esras yn agored a rhyw hanner gwên ffôl yn hofran o'i hamgylch: gŵyrai eraill ymlaen ag ofn yn gymysg â'r syndod yn eu llygaid. Dim ond Isaac a ymddangosai'n ddigyffro, ond arhosai ef i weld beth a ddigwyddai cyn gwneud y sŵn yn ei wddf.

Torrwyd ar y distawrwydd gan sŵn dillad yn cael eu rhwygo ufuddhâi Caiaffas yn awr i orchymyn y Ddeddf. "Y wisg uchaf a'r un oddi tani â rhwyg anhrwsiadwy"hynny a archai'r Gyfraith i'r Archoffeiriad yng ngŵydd cabledd, ac â dwyster dramatig yr ufuddhaodd Caiaffas. Yna troes at y Sanhedrin.

"Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? Wele, yr awr hon y clywsoch ei gabledd ef."

Chwipiodd y geiriau hwy'n ôl i'w gelyniaeth. Caeodd Esras ei geg ac ysgyrnygodd ei ddannedd: gwnaeth Isaac sŵn yn ei wddf: cododd yr hen Falachi i chwifio'i ddyrnau'n wyllt. Enillasai Joseff Caiaffas y dydd.

Gwyddai hynny, ac ni wastraffodd ennyd. Ar unwaith, â llais uchel, taflodd at y Sanhedrin y cwestiwn ffurfiol a ragflaenai'r ddedfryd.

"Beth a debygwch chwi?"

Cododd dau Ysgrifennydd y Cyngor, un o bobtu'r hanner-cylch, i gyfrif y pleidleisiau o blaid ac yn erbyn. Ond nid oedd eu hangen. Ag un llef gwaeddodd y lleisiau chwyrn,

"Y mae ef yn euog o farwolaeth."

Yna, cyn i Gaiaffas gael amser i gyhoeddi'r ddedfryd, rhuthrodd yr hen Falachi ymlaen i boeri yn wyneb y carcharor ac i'w daro'n ffyrnig ar ei rudd. Dilynwyd ei esiampl gan ei fab Arah a chan y plismyn, ac uchel oedd sŵn gwawd a chrechwen a chernod a phoeri. Ni chofiai Joseff y fath olygfa yn y Sanhedrin. Tynnodd un benwisg y Nasaread i lawr tros ei wyneb, a chan ei daro'n giaidd dro ar ôl tro, gwaeddodd,

"Proffwyda, O Grist, pwy a'th drawodd!"

Caeodd Joseff ei ddyrnau a chamodd yn chwyrn, gan fwriadu ymwthio rhyngddynt hwy a'r carcharor. Fe'i cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Chaiaffas.

"Nid ymyrrwn i ddim, Joseff." Gwenai'r Archoffeiriad yn gyfeillgar, ond yr oedd y rhybudd yn ei lais yn ddigamsyniol.

"Ni bu praw mor felltigedig o annheg yn unman erioed, f'Arglwydd Caiaffas. Ac yn awr, fel petai'r annhegwch heb fod yn ddigon

"Geiriau plaen, Joseff o Arimathea!"

"Digon plaen i fod yn eglur, efallai, Joseff Caiaffas." Troes ar ei sawdl a brysio tua'r drws.

"Bydd y Cyngor yn cyfarfod eto ar yr awr gyntaf," galwodd yr Archoffeiriad ar ei ôl.

Yn ffwndrus a pheiriannol y cerddodd i lawr y grisiau o'r neuadd. Islaw, ar ganol y cwrt agored, tyrrai plismyn a gweision o amgylch tân a losgai mewn rhwyll haearn.

"Yr oedd hwn hefyd gyda Iesu o Nasareth," gwaeddodd rhyw ferch.

"Uffern dân! Am yr ail waith, nid adwaen i'r dyn."

Acen Galilea, meddai Joseff wrtho'i hun fel y brysiai ar draws y cwrt tua'r porth. Sylwodd ar y dyn wrth fynd heibio iddo, gŵr llydan a chadarn ei ysgwyddau ac ar ei wyneb gerwin felyndra haul a gwynt. Pysgodwr o Lyn Galilea, efallai. Ond beth yn y byd a wnâi ef yma?

Tu allan, yr oedd lloer Nisan yn fawr yn y nef a'r sêr yn ddisglair uwch tawelwch gwyn y ddinas. Oedodd yn y porth, heb wybod yn iawn i b'le'r âi. Os dychwelai i'r gwesty, ni allai gysgu, ac yn y bore byddai cwestiynau Esther yn ddiderfyn. Beth a ddywedai hi, tybed, pan glywai am ei ffrae â Chaiaffas?

Tu ôl iddo, wrth dân y cwrt, codai lleisiau dig, "Wyt, yr wyt ti'n un ohonynt!"

"Y mae dy leferydd yn dy gyhuddo!"

Daeth llais dwfn y pysgodwr o Galilea,

"Damnedigaeth! Am y trydydd tro, nid adwaen i'r dyn." Yn glir ac uchel, fel un a geisiai dorri ar gwsg y ddinas, canodd rhyw geiliog anesmwyth yn rhywle gerllaw.

Camodd Joseff o gysgod y porth i olau'r lloer, ac fel y gwnâi hynny, rhuthrodd rhywun heibio iddo, fel petai'n ceisio dianc am ei fywyd. Aeth y dyn i lawr y grisiau o farmor o flaen y porth ar ddwy naid, ac yna rhedodd ymaith yn wyllt i'r chwith. Y Galilead a regai yn y cwrt.

Troes Joseff hefyd i'r chwith a'i feddwl fel trobwll. Teimlai yr hoffai yntau redeg am ei fywyd.

Nodiadau[golygu]