Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Arafwch Buddugoliaeth yr Efengyl

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Edward Matthews Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Y Beibl yn Llyfr Cenedlaethau lawer



II


ATHRAWIAETHOL



I

Arafwch Buddugoliaeth yr Efengyl.

"Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlon: gosodai fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd. Nid ymryson efe, ac ni defain: ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd; hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. Ac yn ei enw ef y gobeithia'r Cenhedloedd."
Mathew xii. 18—21.

NID yw'r gwahaniaeth ddim yn bwysig rhwng y geiriau hyn a'r geiriau fel y ceir hwy yn nechreu yr ail a-deugain o Esaiah. Yr wyf yn eu darllen o'r fan yma er mwyn cael mantais i esbonio'r broffwydoliaeth yng ngoleu y cyflawniad o honi. "A'r Iesu, gan wybod fod y Phariseaid yn ymgynghori yn ei erbyn pa fodd y difethent ef, a giliodd oddiyno, a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt oll, ac a orchmynnodd iddynt na wnaent ef yn gyhoedd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y proffwyd, gan ddywedyd: " Felly, y peth yn y broffwydoliaeth y myn yr Efengylwr i ni graffu arno ydyw arafwch y Meseia yn dwyn ei waith ymlaen. Dyma echel y broffwydoliaeth, "Nid ymryson efe ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Chymer o ddim o lawer bob cyfle fuasai dynion yn ddisgwyl iddo gymryd i ddwyn ei waith i ben. "Efe a'u hiachaodd hwynt, ac a orchmynnodd iddynt na wnaent ef yn gyhoedd." Arno fo ei hunan y bu'r bai fwy nag unwaith na fuasai'r dyrfa wedi ei gipio a'i wneuthur yn Frenin.

Ac fel yr oedd yn ymarhous hynod yn nyddiau ei gnawd, felly y bu o wedyn yn ei Eglwys. Wedi i'r Apostolion lenwi'r byd y gwyddent hwy am dano â'r Efengyl, fe fu rhai o honynt hwy fyw digon o hyd i weld rhai o'r dychweledigion mwyaf addawol yn troi yn ol; eglwysi cyfain yn colli eu cariad cyntaf. Ac wedi i'r erledigaeth beidio, ac i'r Eglwys ddringo i awdurdod yn Llywodraeth Rhufain dan nawdd Cystenyn, 'doedd pethau fawr well. Fe ddaeth llygredigaeth i mewn trwy'r un drws â'r dyrchafiad daearol a rowd i Eglwys Iesu Grist. Trwy'r canol oesoedd drachefn 'doedd yr Eglwys ddim heb ryw ymdrech newydd o hyd i'w phuro ei hun. Codai urdd ar ol urdd o fynachod, rhai yn weinidogion sefydlog a rhai yn bregethwyr teithiol,—treio pob ffordd i edfryd purdeb a symledd i blith Cristionogion, ond dim byd yn tycio. Yr oedd y mynachod hyn ym mhen rhyw genhedlaeth neu ddwy yn llygru yr un fath a'r rhai y codid hwy i'w gwella. Dyna ddrwg mawr y Canoloesoedd. Nid na fu yn y canrifoedd hynny ddiwygiadau, rhai o'r diwygiadau mwyaf welodd y byd erioed, ond fod y diwygiadau ar ol eu myned heibio yn hynod ddiffrwyth. A'r un peth yw hanes y Diwygiad mawr, y Diwygiad Protestanaidd. Pan yr oedd y cynnwrf yn ei nerth, buasid yn tybio fod y don yn golchi dros Orllewin Ewrop i gyd; ond erbyn i'r don fynd yn ei hol dacw lawer o'r tir y bu hi arno yn sych a diymgeledd fel o'r blaen. Dacw Ffrainc, cartref y Protestaniaid mwyaf grymus, cyn pen can mlynedd ar ol y Diwygiad, wedi mynd yn Babyddol ac yn Anffyddol dros ben. Yr un peth ydyw hanes Diwygiadau Cymru; pawb yn dyfod i'r seiat; mae'r gwaith chi allech dybied i gyd ar ben; ond erbyn i chwi wneud cyfrif i fyny ar ddiwedd y flwyddyn, a chofio fod rhai o'r dychweledigion wedi gwrthgilio, a rhai wedi eu diarddel, nid ydych ond bron yn yr un fan. Y mae'r gwersyll wedi symud peth, ond y mae wedi crwydro llawer mwy. Nid yw'r ffrwyth arhosol ddim cymaint o lawer ag y buasid yn disgwyl iddo fod pan oedd y cynnwrf yn ei lawn nerth. Nid hanes rhyw un neu ddau o ddiwygiadau yng nghorff y pymtheg mlynedd diweddaf yr wyf yn ei adrodd, ond hanes pob diwygiad o ddyddiau'r Apostolion hyd yn awr. Y mae Iesu Grist eto megis cynt fel pe buasai yn deud wrth y rhai a iacheir ganddo, "Gwelwch nas gwypo neb." Araf ryfeddol y mae yn dwyn ei waith ymlaen. Nid yw yn cymryd o lawer bob cyfle y buasai dynion yn disgwyl iddo i gymryd i gael ei wneuthur yn Frenin. Pan feddylioch chi cyn lleied o'r byd yma ŵyr am Iesu Grist, ac o'r rhai ŵyr am dano faint sydd yn ei barchu, o'r rhai sydd yn talu rhyw wrogaeth arwynebol iddo, faint sydd yn credu ynddo fel yr ydych chwi yn ceisio gwneud; ohonoch chwithau a gyfrifir yn ddisgyblion iddo, faint sydd yn dangos i'r byd pa fath un oedd y Gwaredwr ei hunan;—pan ystyrioch chi hyn, onid yw yn syndod fod y Mescia mawr mor ymarhous? Pam, wedi'r lludded a'r llafur, wedi'r dagrau a'r gweddio mynych, y mae teyrnas nefoedd wedi'r cwbl yn mynd i le mor fychan? Pam y mae'r Hwn biau'r gwaith mor ddi-gynnwrf? "Nid ymryson efe ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd."

Y mae hyn yn fwy syn fyth pan gofiom ni mai Buddugoliaeth ydyw'r gair sydd yn niwedd y testun, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth." Wel, os buddugoliaeth sydd o'i flaen, pam y mae mor ymarhous, mor hamddenol ynghylch ei hennill hi?

I. Yn un peth, am mai Buddugoliaeth Duw ydyw ei fuddugoliaeth Ef, "Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn; neu i'r hwn yr ymfoddlonodd fy enaid. Digwydd sydd yma, nid teimlad gwastadol Duw at ei Fab yn gymaint; gweithred o eiddo Duw yn ymddiried i'r Mab am ddwyn ei fwriadau tragwyddol i ben. Arfaethau Duw am fywyd y byd sydd ganddo i'w cwblhau; a chan mai Buddugoliaeth Duw ydyw Buddugoliaeth Iesu Grist, nid yw amser ddim yr un peth iddo ef ag ydyw i ddynion. Mae amser yn gryn bwnc i ni. Pe baech yn mynd at siopwr yfory, ond odid na chymer lai na'i ofyn gennych os ydyw'r bill yn fawr am i chwi dalu yn ddiymdroi. Mae'n well ganddo, ac yn well iddo, droi rhyw gymaint yn ol o'r peth y mae yn ei ofyn er mwyn cael ei arian yn awr na disgwyl chwe mis a chael y cwbl. Gyda pharch y dymunwn i ddywedyd, raid i Dduw ddim discountio ei hawliau er neb, raid iddo Ef ostwng dim ar delerau'r fuddugoliaeth er mwyn byrhau'r amser. Y mae mil o flynyddoedd yn ei olwg Ef fel un dydd, ac un dydd fel mil o flynyddoedd. Nid ydyw'r peth sydd yn edrych i ni fel arafwch ddim yn arafwch iddo Ef. "Nid yw'r Arglwydd yn oedi ei addewid fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir ymarhous yw Efe, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch." Chyll o mo'r cyfle i achub un enaid er mwyn cael ei waredigion adref yn gynt.

Heb law hynny hefyd, gan fod hon yn fuddugoliaeth Duw, y mae ei hystyr hi yn rhy eang i ni fedru ei beirniadu hi, pe gweddai i ni geisio gwneud. Beth ydyw cysylltiad Buddugoliaeth Pen Calfaria a'r bydoedd eraill sydd yn Llywodraeth Duw? Wyddom ni ddim. Nid yw hi ddim heb ei hystyr yn ddiau i holl greaduriaid moesol y Brenin Mawr.

"Pam bydd poen, addfwyn Oen, Am dano yn eitha'r byd heb son?"

Ie, pam bydd eithafoedd creadigaeth Duw heb brofi grym y marw a fu ar y Groes mewn rhyw wedd,—ym mha wedd nis gallwn ddeud. Pwy ŵyr nad ydyw'r gwaith sydd yn cerdded yn araf i'n golwg ni, mewn rhai o'i gysylltiadau eraill yn prysuro yn gyflym i ben? Pwy ŵyr nad yw'r môr sydd yn drai yn ein hymyl ni yn llanw mawr i olchi rhyw geulennydd sychion yn rhywle arall? Mae buddugoliaeth Iesu Grist, gan mai Buddugoliaeth Duw ydyw, yn rhy eang ei hamgylchoedd i ni fedru cymryd ei hystyr hi i mewn, na medru ffurfio barn deg pa un ai araf ai cyflym y mae hi yn cerdded.

II. Ond rheswm arall dros arafwch y Meseia yn cwblhau ei fwriad,—Buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd ydyw ei Fuddugoliaeth ef, "Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, i'r hwn yr ymfoddlonodd fy enaid; gosodaf fy Ysbryd arno.' Nid ydyw pob buddugoliaeth o eiddo Duw ddim yn fuddugoliaeth Duw yn ei ysbryd yn ystyr uchaf y gair. Y mae trigolion y ddaear a llu'r nef, a nerthoedd anian at ei alwad i drechu ei elynion, ond fyn o mo rheini yn yr ymgyrch hon. Thry o ddim yn awr i'w gawell saethau am fellt, nac i'w arfdy am genllysg. 'Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy Ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd.' Arglwydd y lluoedd' yw ei enw ef, ond nid trwy ei luoedd y mae am orchfygu yn awr, trwy fy Ysbryd.' Dyna ydyw buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd,—buddugoliaeth sydd yn ddwyfol drwyddi. Mae concwest sancteiddrwydd a gras yn oruchafiaeth Duw, nid yn unig yn ei hamcan terfynol, ond yn ei chynllun, yn ei holl fanylion. Digon o goncwest gan yr adeiladydd ydyw gweld yr adeilad i gyd wedi ei orffen yn datguddio rhyw ddrychfeddwl cyfan. Ond ni fydd Iesu Grist ddim yn fodlawn nes cael pob maen yn y deml ysbrydol yn deml fechan. Felly y mae natur yn gweithio. Mae Duw yn gwneud pob cangen ar ddelw'r pren, ac yn tynnu llun coeden ar bob un o'r dail. Felly rhaid i fuddugoliaeth Iesu Grist, gan mai Buddugoliaeth Ysbrydol ydyw hi, dwyfol o'i dechreu i'w diwedd, fod yr un fath drwyddi. Rhaid i'r holl fanylion ddwyn delw egwyddor ac amcan y gwaith i gyd. "Er ein bod yn rhodio yn y cnawd, eto nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd; canys arfau ein milwriaeth nid ydynt gnawdol." Dyna, debygaf fi, ydyw'r pwyslais; nid yn unig nid yw'r egwyddorion a'n cymhella ni i drin yr arfau yn gnawdol, ond nid yw yr arfau eu hunain ddim yn gnawdol chwaith. Pan wnaed y ffordd haearn rhwng Ffestiniog a'r Bala acw, yr oedd ymwelydd y Llywodraeth yn hynod o ofalus yn ymlusgo drwy bob culvert ei hunan i edrych ar fod pob carreg yn ei lle, pob troedfedd o'r gwaith cystal ag yr oedd yn cymryd arno fod. Y mae Brenin Seion yn fanylach fyth. Nid yn unig rhaid i'r gwaith basio yn ei holl fanylion, ond rhaid i'r arfau basio. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw,"—yn ol y Cyfieithiad Diwygiedig, "nerthol gerbron Duw." Nid ydym ni yn defnyddio'r un arf yng ngwasanaeth y Brenin y buasai arnom ofn iddo Ef ei hunan ei weled, "nerthol gerbron Duw i fwrw cestyll i'r llawr." Chewch chi ddim arfer yr un ystryw anianol hyd yn oed i ddadymchwel cestyll y gelyn; chewch chi ddim defnyddio moddion amheus hyd yn oed er mwyn yr amcan goreu. Chewch chi ddim rafflo i dalu dyled y capel. Y mae Buddugoliaeth Iesu Grist i fod yn ysbrydol o ben i ben, yn ysbrydol yn ei chynllun yn gystal ag yn ei hamcan.

Y peth cyntaf a wnaeth y diafol a'r Iesu yn yr anialwch oedd ceisio cael ganddo ameu gwirionedd ei genadwri a dwyfoldeb ei anfoniad. "Os mab Duw wyt ti," ebe fe yn y ddwy demtasiwn gyntaf fel y rhoir hwy gan Mathew; ond yn y demtasiwn olaf does dim hanes am hynny. "A chaniatau," fel pe dywedasai Satan, "dy fod di yn iawn, mai ti ydyw Mab Duw, mai tydi ydyw etifedd pob peth, mai i ti y daw'r cwbl yn y diwedd, ti wyddost y dioddef sydd rhyngot ti a sicrhau dy hawl; ti wyddost faint o dywallt gwaed dy ferthyron di raid fod cyn y byddi di yn Frenin. Dyma fargen, ac am unwaith mi safaf ati hi. Hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli i.' Gad yna Gethsemane; dos heibio i Galfaria; hyn oll a roddaf i ti.'" Wedi methu tynnu Iesu Grist oddiwrth ei genadwri a'i amcan mawr, y mae'r un drwg yn barod i ymfodloni ar ei weld yn newid tipyn bach ar ei gynllun. "Anghofia pwy wyt ti am darawiad llygad er mwyn i ti gael bod y peth wyt ti yn ddiymdroi." Hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli i." Na," ebe'r Iesu,dos yn fy ol i, Satan,' hanner amrantiad o wrogaeth i'r un drwg fuasai yn ddigon i andwyo fy muddugoliaeth i. Fe fuasai arnaf gywilyld ei dangos yng ngŵydd angelion wedi ei hennill ar delerau mor wael. 'Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi."", Anghydweld â Chynllun Mab Duw fyddai addoli diafol am foment er mwyn cael rhyddid i addoli Duw yn oes oesoedd. Chawn ni ddim gwneud y mymryn lleiaf o ddrwg er mwyn cael bod yn dda byth wedyn. Fynnai'r Iesu ddim difetha ei fuddugoliaeth hyd yn oed yn ei manylion er mwyn prysuro ei waith. Ac fe aeth o'r anialwch fel y daethai yno heb golli arweiniad Ysbryd yr Arglwydd. Y mae Efe yn araf, yn hamddenol, yn hunan—feddiannol dros ben, am fod y fuddugoliaeth y mae Ef a'i fryd arni yn fuddugoliaeth Duw, ac yn fuddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd.

"Ie," meddech chi, "ond ai nid oes rhywbeth nes atom na hynna i gyfrif am arafwch a hunan-feddiant y Meseia yn nygiad ei waith ymlaen?" Buddugoliaeth Duw, a Buddugoliaeth Duw yn ei Ysbryd ydyw ei fuddugoliaeth Ef; ond y mae hynny yn esbonio gormod, ac felly nid ydyw yn esbonio dim yn iawn. Mi allwn ni ymdawelu yn wyneb unrhyw ddyryswch wrth glywed mai felly y mae Duw wedi ordeinio, ac mai felly y mae Ysbryd Duw yn cyfarwyddo, ond ai nid oes rhyw ystyriaeth yn ei hymyl y gallwn ni daro llaw arni—rhywbeth yn natur Buddugoliaeth Iesu Grist a dawela ein meddwl ni yn wyneb ei ddull tawel, ymarhous ef o weithio? Oes. Pa beth ydyw Buddugoliaeth Duw? Dyna ydyw hi mewn enghraifft, ac mewn enghraifft y deallwn ni beth fel hyn oreu, Buddugoliaeth Barn, "Wele fy ngwasanaethwr; gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd "; a chadw yn fanylach at drefn y geiriau, 'a Barn i'r Cenhedloedd a draetha efe.' Barn fydd ei genadwri. Beth atolwg ydyw Buddugoliaeth Duw yn ei ysbryd? Dyna ydyw honno eto mewn enghraifft, Buddugoliaeth ar ddynion, buddugoliaeth ar galonnau, Dyna ydyw'r unig wir fuddugoliaeth ysbrydol. "Barn i'r Cenhedloedd a draetha efe." Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth." A phan ddyco efe allan farn, fe dry dynion o'r diwedd o'i blaid; "yn ei enw Ef y gobeithia'r cenhedloedd." Felly dyna yn ein hymyl ni ddau reswm dros hunan—feddiant ac arafwch rhyfeddol y Meseia yn ennill ei fuddugoliaeth. Y mae hon yn fuddugoliaeth tegwch ac yn fuddugoliaeth denu, yn fuddugoliaeth barn ac yn fuddugoliaeth ar ddynion.

I. Y mae Iesu Grist yn ymarhous am mai Buddugoliaeth Barn ydyw ei fuddugoliaeth Ef, "A Barn i'r cenhedloedd a draetha efe."

"Mae dydd y farn yn dod ar frys,"

ond dydd cyhoeddi'r ddedfryd fydd hwnnw. Barn yn gwthio i'r golwg a feddylir yma, barn ar ganol ei dwyn i oleuni. Yng nghanol tryblith amgylchiadau dynion, yng nghanol terfysg y bobloedd, dadwrdd penaethiaid y byd, y mae un llais tyner ond awdurdodol yn para i gyhoeddi barn ac yn ennill mwy o wrandawiad o hyd. Thâl hi ddim iddo fo gyffroi. Nid dadleu ei ochr ydyw gwaith y Barnwr. Mae Iesu Grist yn ddadleuydd, ac fel dadleuydd y mae ei hyawdledd tanbaid yn cynhyrfu'r nefoedd, ond byddai hyawdledd cyffrous yn beth o'i le ar y fainc. Ni ddywed yr un gair i dueddu'r tystion. "Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd." Mae achos Iesu Grist yr un mor glir na fydd raid iddo ef ei hunan ar ryw olwg ymryson dim o'i blaid. Fe ennill yr achos hwn ei le ohono ei hunan; barn ydyw. Fel Barnwr, y mae yr Iesu mor ddi-duedd yn llywodraethu'r llys a phe na buasai a fynno fo ei hunan ddim â'r canlyniadau. Barnwr ydi o yma; nid Dadleuydd. Nid Brenin mono yma chwaith. Y mae efe yn Frenin, ond nid dyna ydyw ei gymeriad yn awr. Y mae gwedd ar yr Efengyl, gwedd o rwysg di-ymaros: y mae hi i fynd rhag ei blaen doed gwrthwynebiadau o'r man y delont, a theyrnas ydyw ei henw yn y wedd honno; ond fe fydd yn dda gen i feddwl am air arall heblaw y gair teyrnas, teyrnas ac amynedd ein Harglwydd Iesu Grist." Fel Buddugoliaeth Teyrnas nid ydyw ei oruchafiaeth ef yn aros wrth neb na dim; ond fel Buddugoliaeth amynedd y mae yn aros wrth bob peth. Disgwyl ydyw ei hanfod hi. Y mae gwedd ar yr Efengyl yn yr hon nid ydyw ei buddugoliaeth ddim ond buddugoliaeth amynedd. Aros i'r hyn sydd yn deg a da ei wthio ei hunan i'r wyneb; aros i'r drwg fynd yn waeth ac i'r da fynd yn well. Ai nid dyma ddull Iesu Grist yn ei Eglwys? Erbyn i chi gael hanes y dyn a fu yn wrthddrych disgyblaeth, nid ar unwaith y gosododd Duw ef mewn llithrigfa: na, yr oedd hen wrthgilio wedi bod cyn i Dduw ei ollwng ef i gyflawni'r pechod anfad a barodd fod pawb yn unfryd am ei ddiarddel. Ar yr un egwyddor y llywodraethir y byd i gyd; dioddef i'r efrau fynd yn fwy o efrau, a disgwyl i'r gwenith fynd yn fwy o wenith. Swydd Iesu Grist yn y cymeriad hwn ydyw dwyn pobl i edrych ar bethau fel y maent. "Efe yw goleuni y byd," goleuni gwyn heb ddim arlliw o amhuredd ynddo. Nid ydyw ei bresenoldeb ef ei hunan yn effeithio dim ar degwch yr olwg y mae yn roi ar bob peth. Dyna un peth sydd i'w ddysgu oddiwrth y damhegion hynny lle y gesyd y Gwaredwr ei hunan allan fel gŵr yn mynd oddicartref,—y meddwl yw fod y prawf ar ei weision mor deg a phe buasai Ef ei hunan o'r golwg. Nid ydyw yn dywedyd dim mwy na phe buasai heb fod yno i droi'r fantol: dal y glorian ydyw ei waith. Byddai brenhinoedd Lloegr, y rhai salaf o honynt, ganrifoedd yn ol, yn gwneud cryn gamchwarae trwy fynd eu hunain i'r Llysoedd Barn, a siarad yno i wyro uniondeb, nes y dywedodd y Barnwr wrth un o honynt o'r diwedd nad oedd i gael bod yno, ac os deuai ei Fawrhydi yno, fod yn rhaid iddo dewi. 'Does i'r Brenin fel Brenin ddim llais mewn Llys Barn. Ond y mae ein Brenin ni mor ymatalgar, mor hamddenol, mor ddistaw fel y mae dynion rai yn beiddio ei gablu yn ei Lys ei hunan. "Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg." "Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc; y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi." Gan mor dawel ydyw y Barnwr y mae rhai yn barod i'ch taeru mai gwag ydyw'r fainc. Ond peidied neb a cham—gymryd, y mae'r Barnwr ar y fainc. Y mae yn ymarhous, yn dda ei amynedd, er fod y gweithrediadau yn para yn hir; ond y mae efe ar y fainc. Fe fu o flaen y fainc; do, fy nghyfeillion, fe fu eich Ceidwad chwi o flaen y fainc, ac fe wyddai pa fodd i ymddwyn yno. Tewi yn foneddigaidd yr oedd gerbron ei farnwr, ond ar y fainc y mae o erbyn heddyw, Ac Efe a draetha farn. Wel—

2. Y mae Iesu Grist yn ymarhous yng nghylch dwyn ei waith i ben am mai Buddugoliaeth ar ddynion ydyw ei Fuddugoliaeth ef. Buddugoliaeth tegwch; ïe, a phawb yn gweld mai tegwch fydd o. Buddugoliaeth Barn, ïe, a barn yn troi yn drugaredd ar wefusau y Barnwr wrth ei chyhoeddi, ac os ydyw ymaros barn yn hir—ymaros, y mae ymaros trugaredd yn aros hwy. Buddugoliaeth ar galonnau ydyw buddugoliaeth yr Efengyl; nid buddugoliaeth trais, nid buddugoliaeth daeargryn. Y mae i oruchafiaeth Iesu Grist yn y wedd yma eto, fel yn y wedd arall, ei hadegau prysur. Yr un fath yn union ag y mae hi mewn natur, y graddol a'r disymwth bob yn ail. Rhoddi hâd yn y ddaear,—dyna beth ar unwaith. 'Doedd o ddim yno yn y bore; y mae o yno cyn y prynhawn. Yr hâd yn tyfu y modd nis gŵyr yr heuwr—dyna y graddol yn dilyn y disymwth. Wyr neb pa fodd y mae yn tyfu, ac eto fe ŵyr pawb mai tyfu mae o. "Ond pan ddel y cynhaeaf, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman i mewn,"—dyna y peth ar unwaith yn dilyn y gweithrediad graddol. Mae'r ŷd addfed yn chwifio yn awelon y bore, ac wedi dechreu gwywo cyn machlud haul. Felly yn union yn nheyrnas nefoedd, y mae y graddol a'r disymwth bob yn ail. "Wele fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen"—dyna yr arloesi graddol. Yn ddisymwth " wedyn "y daw yr Arglwydd ei hun i'w deml, sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei ddisgwyl. Eithr pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef?" Ddaliwn ni ddim llawer o oruchwyliaethau disymwth prysur. Son am ymweliadau grymus o eiddo Duw, ydach chi'n barod iddynt? Fedrech chi eu dal pe gwelai Duw yn dda eu rhoi?" Pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef?" Y maent yn dal y son am dano, ond pwy a saif pan ymddangoso Efe? "Canys Efe a fydd fel tân y toddydd ac fel sebon y golchyddion"; a dyma i chwi draws-gyweiriad siarp, "efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian." Tân y toddydd ydi o y naill foment, Efe ei hunan ydyw'r toddydd y foment nesaf. Efe ei hunan ydyw'r tân; ïe, ac Efe ei hunan ydyw'r toddydd hefyd sydd yn gofalu na chaiff y tân mo dy ddifa di wrth ddifa dy sorod. "Efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian."

"Cerdd ym mlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glan,"

meddech chi wrth ganu, ac yr ydych yn synnu na cherdda fo yn gynt. Ac fe losgai bopeth o'i flaen onibai mai nid tân ydi o i gyd. Nid yw'r tân yn cael ei ffordd ei hunan. Mae Duw yn burwr, yn gystal a bod yn dân y purwr, "Efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian." Ië, dynion sydd dan y driniaeth. Dyna pam y mae o mor ymarhous. Arian sydd yn y ffwrnes, ac am hynny nid coll amser ydyw i'r glanhawr eistedd yn hamddenol i edrych arno yn puro. Pan gadwyd canmlwyddiant yr Ysgol Sul yn y Bala acw, yr oedd gorymdaith fawr wedi codi allan. Yr oedd yr hynafgwr llesg i'w gael yn y dyrfa, a phob plentyn tair oed wedi codi allan i anrhydeddu'r diwrnod. Fe ddaeth yno rai cerbydau heibio pan oedd yr ysgolion yn cerdded, rhai o honynt, mae'n ddigon posibl, ar negeseuon prysur; ond yr oedd pob cerbyd yn arafu, ac aml un yn cwmpasu cyrion y dyrfa rhag niweidio'r gweiniaid oedd yn yr orymdaith. Maddeuwch y gymhariaeth. Nid cerbyd pleser na cherbyd marchnad ydyw cerbyd yr efengyl, ond cerbyd rhyfel a cherbyd buddugoliaeth. Pam ynte y mae'r Gorchfygwr dwyfol yn symud mor araf? A ydyw cerbydau ei iachawdwriaeth Ef wedi peidio a blino yn eu hymdaith? meddech chi. A ydi'r ugain mil wedi peidio a sefyll? Na, fy nghyfeillion, cwmpasu ac arafu y maent—aros i bechaduriaid syrthio i'r rhengoedd. Pe byddai i gerbydau iachawdwriaeth Duw gyflymu llawer, fe fyddai yma ddigon dan draed mae arna i ofn, ac nid o'i fodd y blina ac y cystuddia efe blant dynion, i fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed." Troed y fyddin fawr o'i llwybr os oes berygl iddi dorri corsen ysig ar y ffordd. Arafed angel, pa mor brysur bynnag y byddo ei neges, os oes berygl i wynt ei adenydd ddiffodd llin yn mygu. "Corsen ysig nis tyr." Os torri, torred; thorra i moni hi. Os ail asio, asied; mi ddyhidla innau gawod i'w chynorthwyo i dyfu. "Llin yn mygu nis diffydd." Os diffodda, diffodded; ddiffodda i moni hi. Os ail gynneu, cyneued; mi chwythaf finnau awel dyner i gynhyddu'r fflam. Goruchwyliaeth arbed y gorsen ysig ydyw hon. Ac y mae Iesu Grist yn awr yn prysuro cymaint ag a fedr o heb ddryllio'r gorsen ysig. Son am bethau mawr, son am amlygiadau grymus, mae Duw yn rhoi heddyw y pethau mwyaf fedr o heb beidio a bod yn Dduw yr achubydd. Y mae yn barod i roi'r pethau mwyaf fedd yn awr i'r rhai sydd yn barod i'w derbyn nhw. "Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth. "Mae'r dorraeth wedi mynd heibio heb i mi gael trugarhau wrthyn nhw," ebe'r Anfeidrol. "Ond gadewch i hynny fod, mi faddeua i i'r gweddill." Raid i chwi ddim aros iddi hi fynd. yn rhyw faddeu mawr cyn gofyn i Dduw eich achub chi. "Y mae efe yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth." "Mi a wn yr atgyfodir ef," meddai Martha am ei brawd, "yn yr atgyfodiad y dydd diweddaf." "Pan ddaw hi yn atgyfodiad, fe gwyd fy mrawd." Cwyd," meddai Iesu Grist, "ac mi wnaf fi atgyfodiad yn unswydd er mwyn ei godi ef. Fe gaiff fynd yn atgyfodiad y munud yma cyn y caiff Lasarus aros yn ei fedd." Wyddoch chi am ryw farw ysbrydol yn y gymdogaeth hon, a sawyr y bedd wedi mynd arno? Peidiwch aros iddi hi fynd yn ddiwygiad cyn codi'r maen. Y mae'r Atgyfodiad a'r Bywyd yn ymyl heddyw. Pe byddai achos fe rwygai'r awyr â'i utgorn mawr, fe ddisgynnai gyda'i osgordd glaerwen i achub dim ond un. Ydi, y mae Duw yn rhoi heddyw'r pethau mwyaf a fedd a'r pethau mwyaf fedr o roi yn gyson ag arbed y gorsen ysig. "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth."

Wedi iddo ef ddwyn allan farn, faidd neb ei hameu hi. Hyd hynny, hyd oni ddygo efe allan farn, y mae'n arbed y gorsen ysig a'r llin yn mygu. Pan fyddo'r Iesu wedi gorffen ei waith, fydd yno yr un gorsen ysig na fydd hi wedi tyfu neu wedi crino—yr un llin yn mygu na fydd hi wedi diffodd neu wedi cynneu yn fflam,

Ac y mae mwy o waith Duw yn cael ei wneud y dyddiau tawel yma nag y mae neb yn ei gredu. Rhyw weithio danodd yn raddol y mae buddugoliaeth y Gwaredwr yn awr. Mae'r efengyl yn mynd i bopeth a than bopeth. Y mae hi yn cloddio yn ddistaw dan sylfeini'r ddinas gadarn; a phan ddaw'r adeg, fydd dim ond taro'r fall i lawr na fydd y ddinas yn bentwr, a'r dref gadarn yn garnedd. Yr oedd mwy wedi ei wneud nag oedd neb yn dybied tuag at feddiannu Canaan tra y bu Israel Duw yn crwydro mewn anialwch gwag erchyll. Yr oedd son am y Duw orchfygodd Amalec a Moab wedi mynd o flaen y genedl i Ganaan. Ac wedi clywed am fuddugoliaethau'r anialwch, yr oedd dinasoedd caerog yn danfon i gyfarfod Israel i gynnyg amodau heddwch cyn erioed weld y fyddin. Felly eto, fy nghyfeillion, y mae mwy yn cael ei wneud yn y dyddiau tawel, digalon hyn nag y mae llawer o honoch yn barod i gredu. Byddwch chi yn eofn dros eich Duw. Mynnwch gael cewri yr anialwch dan eich traed. Darostyngwch feddwdod, a glanhewch aflendid ein hardaloedd. Gwnewch son am fuddugoliaethau'r anialwch; ac ond i'r son am fuddugoliaethau'r anialwch fynd o'ch blaen chi, fe fydd meddiannu Canaan yn waith hawdd. Ryfeddwn i ddim na syrth dinasoedd caerog wrth eich clywed yn canu, "Clodforwch Dduw y duwiau, yr Hwn a darawodd frenhinoedd mawrion, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd; Sehon, brenin yr Amoriaid, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd; ac Og, brenin Basan, oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd." Do, fe ddarfu'r gelynion cyn y darfu ei drugaredd ef. Ymleddwch chwi yn awr â'r cewri sydd yn eich cyrraedd chwi, ac fe fydd gwaith y mil blynyddoedd wedi ei hanner wneud cyn i'r mil blynyddoedd ddechreu. Hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth."

"Ac yn ei enw Ef y gobeithia'r cenhedloedd." Fe ddaw pawb ryw ddiwrnod i gredu mai Iesu Grist sydd yn iawn, ac mi ddon' o honyn' eu hunain. "Yn ei enw ef y gobeithia y cenhedloedd." Peth ddaw o hono ei hunan ydyw gobaith, os daw o hefyd. Mae yn haws gorfodi popeth na gorfodi gobaith. Rhwymwch chi ddyn a gefynnau heyrn yn y daeardy, fe fydd ei obaith yn rhydd ar ei aden wedyn. Fe fydd teilyngdod Iesu Grist mor amlwg yn y man fel y daw dynion ato na wyddan nhw ddim pam. Fe ddaw yr holl genhedloedd i glymu eu gobeithion wrtho ef. "Pa le y buom ni cyhyd heb ddyfod at hwn?" Yn hwn y gwelant eu digon, y gwelant hynny o dda ym mhopeth oedd ganddynt o'r blaen. Fe welir y diwrnod hwnnw mai o hono Ef y mae pob pelydr o oleuni a gafodd meibion dynion erioed, ac mai ato Ef drachefn y mae pob rhinwedd a phob prydferthwch yn tynnu. "Yn ei enw Ef y gobeithia'r cenhedloedd." Pa beth ydyw'r ymchwil diflino am y gwir sydd yn nodweddu'r oes hon? Pa beth ydyw'r cynnwrf anesmwyth sydd ym mhob meddwl difrif? Pam y mae hyd yn oed dynion digrefydd mor anniddig na bai'r byd yn well? Argoel ydyw hyn fod Iesu Grist yn buddugoliaethu ar rai sydd eto heb arddel ei enw, ei fod wedi eneinio llawer Cyrus sydd eto heb ei adnabod Ef. A phwy a ŵyr na fydd y rhai sydd yn edrych bellaf oddiwrth Iesu Grist ryw ddiwrnod yn gweithio i'w ddwylaw wedi'r cwbl. Oes, y mae argoelion fod y cenhedloedd ar y ffordd i glymu eu gobeithion wrth Fab Duw. Y mae Seba wedi llwytho ei haur, y mae brenhinoedd y dehau wedi cychwyn eu rhoddion, y mae camelod yr anialwch dan eu beichiau, mae hwylbrennau Tarsis yn gwyro eisoes dan yr awelon i gludo golud y cenhedloedd i gysegr Duw er mwyn harddu lle ei draed. Beth feddyliech chi o'r fuddugoliaeth hon? Ai nid yw hi yn werth ambell gyfarfod gweddi gwan gwan i drydar am dani? Os erys, disgwyl am dani, canys hi a ddywed o'r diwedd, "Gan ddyfod y daw, ac nid oeda."

[Caernarfon, Medi, 1888.

Nodiadau[golygu]