Ysgrifau Puleston/Cofiant Edward Matthews
← "Ffydd Ymofyn"—Syr Henry Jones | Ysgrifau Puleston gan John Puleston Jones |
Arafwch Buddugoliaeth yr Efengyl → |
COFIANT EDWARD MATTHEWS
Cofiant Edward Matthews, Ewenny. Gan J. J. Morgan. Cyhoeddedig gan yr Awdur. Pris, 10/6
FE gymer y llyfr yma'i le yn rhwydd ym mysg rhyw naw neu ddeg os nad llai na hynny, o'r cofiannau Cymreig goreu. Deil ei gymharu a Chofiant John Jones, Tal Sarn, gan Owen Thomas; Christmas Evans gan y Dr. Owen Davies; Llyfr Saesneg Mr. D. E. Jenkins ar Charles o'r Bala, a rhyw ychydig iawn y byddaf yn siwr o gofio am danynt ar ol danfon hwn i ffwrdd. Cofiant clasurol ydyw, y bydd gwiw, ac y bydd raid yn wir, i bawb a 'sgrifenno ar Grefydd Cymru yn y ganrif ddiweddaf ymgynghori ag ef.
Dau fath o gofiant yn y cyffredin y sydd, un wedi ei rannu'n gyfnodau, a'r llall wedi ei rannu'n ol agweddau i fywyd y gwrthrych. Y mae hwn yn cyfuno'r ddau. Cawn i ddechreu benodau tra chyflawn a difyr ar gyfnodau oes Matthews, amryw o honynt wedi eu teitlo oddiwrth y mannau y preswyliodd ynddynt—megis "Hirwaen," "Penllin," "Ewenni," Caerdydd,' "Pen y Bont ar Ogwr." Ydyw, y mae Ogwr yn gywir gan Awdur y cofiant hwn, fel popeth arall bron. Rhyw drachwant rhyfedd sy arnom ni Gymry am ddodi "wy " yn derfyniad lle bynnag y gwelom ni ddŵr—" Ogwy," "Banwy," "Fyrnwy," y ddau ddiweddaf yn lle "Banw" "Fyrnyw." Gyda llaw, buasai 'n llawn gwell gan rai spelio enwau cyfansawdd ar leoedd, naill ai yn eiriau ar wahân, neu yn rhannau a chydnod rhyngddynt Pen-Llin, Pen-Hydd, Pont-y-Pridd. Wrth yrru telegram yn unig y bydd edifar gennyf ddilyn John Rhys ar hyn o bwnc, a rhoi geiriau gwahân. Fe allai fod Mr. Morgan yn hyn yn canlyn arfer Matthews ei hun, a'r arfer oedd gan lawer ychydig amser yn ol; ond geiriau gwahân neu rai wedi eu clymu a chydnod sy'n ateb oreu i'r swn. Heblaw hynny, nid oes gennym ddim ffordd arall o wahaniaethu rhwng enwau fel Pentyrch a Phen-Tyrch.
Wedyn cawn benodau rhagorol ar deithi 'r gwrthrych yng ngwahanol gysylltiadau bywyd. Yr oedd llwyr angen hynny yn yr amgylchiad hwn yn enwedig, gan fod Edward Matthews yn un y cyfarfyddai ynddo'r fath amrywiaeth o deithi, ac yn un a apeliai mor wahanol at wahanol rai. Nid yw'r awdur yn y penodau hyn wedi ymdynghedu i glodfori, ond mynegi yn hollol y peth fel y mae.
Wrth adolygu llyfrau, chwilio y byddis ambell i waith am rywbeth i'w ganmol; a rhyfedd gymaint a geir ond chwilio mewn llyfr go gyffredin; ond yn hwn. chwilio am rywbeth i'w feirniadu sy raid.
Y mae llawer o'r hanes yn adlais o iaith Matthews ei hun; lle y crynhoir, neu roddi atgofion o bregethau, gofelir gwneuthur hynny hefyd yn arddull y pregethwr. Os clywch chi rywun yn adrodd Matthews, a deud "welwch chi?" yn lle "gwelwch chi"? chì ellwch benderfynu nad yw hwnnw ddim yn gofiwr cywir. Ymddengys fod y ffurf yna ar frawddeg holi mewn rhannau o'r Deheudir—" Gallwch chi, gwyddoch chi?" ac yn y blaen. Cyfrifir ef yn wall mewn Cymraeg lên; ond fe lithrodd i fewn i aml i damaid o gân, ac weithiau i ryddiaith hefyd. Dacw gân blant a ddaeth allan ychydig flynyddoedd yn ol, a'r gwall ynddi :
"Golchwyd chwi'n afon bur gwaed yr Oen?"
a'r peth yn gwestiwn. "Gwelwch chi?" sy ymhob man gan Morgan. Ac yn hyn, a channoedd o fân bethau eraill fe atgynyrchir dull Matthews a phriodwedd ei frawddegau i drwch y blewyn.
Weithiau, ryw un tro o ugain dyweder, fe bair Mr. Morgan i ni ameu onid yw wedi rhoi gair yng ngenau Matthews nad arferasai ef mo hono; ond gall fod y dyfaliad yn gwbl gyfeiliornus. Wrth adrodd pregeth hynod iawn ar Berson Crist, rhoddir y gair delfrydol (tud. 234), "y dyn delfrydol." A oedd delfryd " a "delfrydol" wedi dyfod i arferiad y pryd hwnnw? Yn sicr nid oeddynt wedi dyfod yn gyflawn aelodau efo'r Methodistiaid. Gair Wesleaidd oedd " delfryd ' yn amser Matthews. Y mae wedi dyfod yn Fethodist Calfinaidd erbyn hyn. Ond lled geidwadol oedd Matthews, at ei gilydd, yn ei arfer o eiriau, fel y dywed Morgan (tud. 406), y bu amser pan oedd yntau'n chwannog i eiriau mawr, chwyddedig. "Yr oedd dros 30 oed cyn taflu oddiwrtho'r "ewynfawr eiriau anferth" a gamgymerir gan gynifer am hyawdledd. Syndod i'r byd, y mae'r llythyrau yn 1840 ar waith blaenor ym mron yn hollol lân oddiwrth y meflau hyn. Rhaid fod Evan Morgan, Caerdydd, y llenor dillyn, wrth ei benelin, yn tynnu'r hirbluf yn ddidrugaredd o adanedd ac o gynffon pob brawddeg." Aeth llenor Cymraeg arall drwy'r unrhyw weddnewidiad, Lewis Edwards o'r Bala. Y mae ar gael rhyw bregeth Saesneg a draddododd ef yn Sir Gaerfyrddin, mewn Sasiwn, yn y dyddiau yr oedd farnis yr athrofeydd heb orffen sychu arno, lle y disgrifir y ddaear fel "this sublunary orb "—chwyddedigaeth y buasai ef ei hun, ychydig flynyddoedd wedyn, yn ei gystwyo yn ddiarbed. Dywedai John Nicol, Glasgow, wrth ben rhyw draethawd go hedegog, "Don't mistake me. don't object to flowers, for flowers mean fruit." "Nid yw waeth gennyf gael blodau, waith y mae blodau'n golygu ffrwyth."
Y mae "Mebyd a Maboed" yn deitl pennod. Yr un peth yw ystyr y ddau. Ar d. 121 cawn "enwebai" yn golygu "nominate." Gwnaethai "enwi" y tro yn burion yn lle "enwebu."
Ar dud. 81 cawn hwn: "Trefnodd y Cyfarfod Misol i gynnal pump o gyfarfodydd pregethu." Gwall a gychwynodd yng Nghymraeg llafar y De yw "trefnodd i gynnal." Ceir ef yn emynau Williams Pant y Celyn; ac ni newidiwn i mo hono yno; ond nid yw i'w efelychu ddim. "Trefnodd. . . gynnal" a ddylasai hwn fod.
Ceir "mwyrif" mewn dau neu dri o fannau yn lle "mwyafrif." "Y mwyaf o'r ddau " a ddywed y Cymro, nid y "mwy."
Cwestiwn heb ei benderfynu ydyw bryd y dylai 'sgrifennwr ei alw 'i hun yn "ni." Gwnai Matthews hynny o hyd yn nodiadau'r " Cylchgrawn"; ond dyna oedd defod gyson y wasg newyddiadurol ar y pryd. Gwnai Lewis Edwards yn y Traethodydd yr un peth. Ac y mae'n gofyn i olygydd beth bynnag siarad yn y rhif lliosog fel cynrychiolydd ei bapur neu ei gylchgrawn. Y mae yn weddeiddiach i awdur heb fod yn olygydd wneud yr un peth yn aml, yn lle bod yn fyfi"; ond tueddu at yr unigol y mae'r ddefod, yn Saesneg ac yn Gymraeg yrŵan. Mi dybiwn mai rhy chwannog i'r "ni" llenyddol yw Mr. Morgan os yr un. Dyma er enghraifft frawddeg lle y buasai'r unigol yn well. "Cawsom y fraint o fod yn y Sasiwn a'r oedfa hon yn llaw ein tad." "We and our wife went to see the Crystal Palace."
Yn y bennod wych ar ddull Edward Matthews yn y pulpud, fe ddatgan Mr. Morgan syndod fod gŵr mor barchus o'r Beibl a Matthews yn trin dalennau'r llyfr mor ddibris; ac edrydd amryw ystorïau tarawgar iawn ar hynny o bwnc. Ni allwn ninnau lai na synnu bod gŵr mor barchus o'r Beibl a Mr. Morgan mor chwannog i addurno 'i frawddegau ag Ysgrythyrau wedi eu llusgo o'u cysylltiadau. Yr wyf ym mhell o feddwl fod hyn yn fai llenyddol yn y rhan fwyaf o'r mannau y gwneir ef ganddo. Ac nid yw difynnu adnod y bo blas ysmaldod ar y dyfyniad ddim yn bechod yn erbyn chwaeth nac yn erbyn parchedigaeth chwaith mewn cannoedd o enghreifftiau, Naturiol i ddyn fynd ar ofyn y Llyfr a fedro oreu at lawer pwrpas heb law pwrpas y Llyfr ei hun. Ni fyddai deud fod John Hughes yn y Gogledd, a Matthews yn y De, yn bur dueddol i hynny, ddim yn ddigon i gyfiawnhau'r arferiad. Eithr byddai cofio bod Henry Rees yn ymollwng i beth felly yn ddigon i atal dyn rhag condemnio'r peth. Ryw dro fe âi Rees o Gae'r Sasiwn yn y Bala, a gweled John Hughes, Pontrobert, yn gwerthu rhywbeth yn y porth. "Beth sy gynnoch chi, John Hughes?" meddai. "Fy llun," oedd yr ateb. Faint ydyn nhw?" "Chwech, Mr. Rees." Ah," ebai Rees, wrth dalu amdano, Wel, John Hughes, "yn rhad yr ymwerthasoch." Dyna esiampl lle'r oedd cymryd benthyg adnod i smalio yn hollol gyfreithlon. Y mae yn y gyfrol hon, rhwng gwaith Matthews ei hun a gwaith Morgan ugeiniau o rai mor gyfreithlon a hithau. Dyma un "Gellid pennod faith o'i ddisgrifiadau o swynion natur ond ni feiddiwn fwy na throchi blaen y wialen yn y mel a'i brofi. Os bydd yn felys i'r genau, ymweled y darllenydd a'r cwch." (tud. 401). Colled fuasai bod hebddynt. Hebddynt buasai dawn y Cofiannydd yn llai disglair a gwiwddestl. Y mae adnod Matthews wrth wrthod y D.D. yr un ffunud, yn gwbl weddaidd: "Nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd." Ond y mae yma rai siamplau gan yr Awdur a chan ei wrthrych y buasai cystal hebddynt. Fel hyn y disgrifir Cymraeg Matthews pan fyddai hwrdd o lefaru clasurol arno, wrth ymgyfaddasu ar gyfer pobl y Gogledd. "Erbyn cyrraedd Lerpwl neu Amlwch nid oedd edefyn o honi (iaith y Fro) arno; yr oedd ei arddull mor bur a chlasurol fel mai o'r braidd y beiddiai 'r craffaf ei gyhuddo, "Yr wyt tithau hefyd yn un o'r Galileaid." (tud. 221). Rywsut, ni wn i ddim paham chwaith, buasai yn well gennyf ado 'r adnod yna yn ei chynefin, heb ei defnyddio at unrhyw bwrpas ond ei phwrpas ei hun. Y mae rhyw adnodau cysegredicach na'i gilydd. Ond ychydig iawn o beth fel hyn sydd yma. Od oes lle i feirniadu o gwbl, y cŵyn yw fod y dyfynion addurniadol yma'n digwydd ar yr amlaf braidd. Y mae unrhyw ddyfais at addurno yn colli ei min o'i defnyddio 'n rhy aml. Byddai dyn yn blino ar gynganeddion yr hen gyfaill Eifionydd yn ei lythyrau a'i ymddiddanion, er donioled oeddynt. Eithr y fath yw priodolder chwaethus dyfynion Morgan, nad ych byth yn blino arnynt. Mi ddywedwn i, fe allai y cyfrifir mai deud ar ry fach o ystyriaeth, fod y peth yn digwydd yn rhy aml o lawer gan Matthews ei hun, megis yn yr adroddiadau o Gasgliad Trefeca yn y "Cylchgrawn." Ond fel y dywed Mr. Morgan ei hun, wrth ddarlunio dawn ddramodol Matthews, " nid oes safon sefydlog i chwaeth, ond y dylid ystyried amser ac awyrgylch a chynulleidfa." Ni ddywedwyd erioed beth gwiriach ar hyn o bwnc. Ac yn wir y mae sylwadau Morgan ar gwestiynau o arddull a dawn yn ddeunydd llawlyfr o addysg pe cynhullid hwy ynghyd.
Ond dyna y mae pob beirniadu ar lyfr mor dda. a hwn yn rhwym o fod yn annheg fel mater o gysondeb (proportion); oblegid fe leinw mân frychau ryw chwarter neu un ran o dair o erthygl, lle na byddent, gyda'i gilydd, yn un ran o ddeg ar hugain o'r llyfr. Mân ac anaml yw'r brychau yn ymyl rhagoriaeth eithriadol y gwaith. Fe gasgl y darllenydd eisoes, wrth ryw ddyfyniad neu ddau a roddwyd yma, fod arddull Mr. Morgan yn un lliwgar, dawnus, dawn hwyliog, ond dawn nad yw byth yn feistr ar yr ysgrifennwr. Nid aberthir byth gywirdeb hanes er mwyn ergyd ddehenig. Anaml y cyferfydd yr hanesydd gofalus a'r darluniwr medrus i'r un graddau yn yr un.
Ac y mae'r Cofiant yn hollol lân oddiwrth fai arall a roddir yn erbyn llawer cofiant da, sef rhoi gormod o le yn ol yr herwydd i'r digrif a'r diddorol yn y gwrthrych. Anfynych y daw cofiant i ŵr hynod, boed fach, boed fawr, na chewch chi y rhai a'i hadwaenai oreu ac a'i hoffai fwyaf, fod hynodion y gwrthrych, yn enwedig ei hynodion digrif, yn cael gormod o le. Meddwl y byddwn i bob amser fod llyfrau Owen Jones ar Ddafydd Rolant a Rhobert Thomas yn gynddelwau o gofiant; ond mynnai cyfoeswyr y ddau fod y digrif a'r hynod yn rhy amlwg o lawer. Yr wyf fi yn ameu'r feirniadaeth yna hyd heddyw; ond mi a'i clywais aml i dro. Tebyg oedd barn Rees Jones am Gofiant Griffith Williams i William Ellis, Maentwrog. Yr wyf yn ameu hynny hefyd. Yr un peth mewn effaith am Gofiant Matthews i Siencyn Pen Hydd. Dywedai John Williams, Llandrillo, wrthyf: "Siencyn gwneud yw e', John Puleston bach." Dychymyg Mr. Matthews oedd llawer o hono yn ei farn ef. Awgrymir yn y llyfr hwn fod beirniadaeth debyg i'w chlywed yn y De. Beth bynnag am gywirdeb y beirniadu yna, y mae'n hawdd gennym ddeall anfodlonrwydd cyfeillion ac edmygwyr, a pherthynasau yn enwedig, pan welont droion digrif a throion trwstan yn cael gormod o bwyslais. Cafodd ambell i ddarlithiwr yn y De a'r Gogledd rybuddion go blaen gan berthynasau'r gwron; chlywais ddarfod bygwth cyfraith ar un. Yn awr ni fu'r demtasiwn i syrthio i'r fagl yna erioed yn fwy nag ynglŷn â Matthews, waith yr oedd yn ddyn eccentric heb law bod yn ddyn mawr—chwedl J. J. Morgan, yn bersonoliaeth ddarlunaidd tu hwnt. Hawdd fuasai maddeu i gofiannydd am lithro i dynnu darluniau yn lle adrodd hanes pur. Fe wrthsafodd Mr. Morgan y demtasiwn yn llwyr. Dichon mai mantais at hynny oedd fod y Cofiant yn un go hir. Yr oedd yma ddigon o le i roi cryn swrn o bethau digrif odiaeth i mewn, heb fynd yn anghymesur a cholli cysondeb. Difynnir yn rhywle air John Williams, Bryn Siencyn, mai'r peth a dynnai sylw dyn yng nghwmni Matthews oedd, nid ei fawredd ond ei foneddigeiddrwydd. Mi goeliaf y ceir, wedi darllen y llyfr i gyd, fod Matthews, nid yn ei gwmni yn unig, ond yn ei holl gysylltiadau, yn ddyn da iawn yn gystal a bod yn ddyn mawr yn rhagori, nid mewn athrylith yn unig, ond mewn pethau eraill hefyd y disgwylir i bobl gyffredin ragori ynddynt. Ag arfer gair Morgan ei hun mewn cysylltiad arall, medrai'r pregethwr hwn ddeud cynefinion plaen yn gystal a deud pethau doniol. Gellid meddwl bod rhai o'r pregethau a wnaeth son mawr am danynt yn bethau diaddurn yn y llawysgrifau. Dywed Morgan am un ohonynt ei bod hi'n taro'r gwaelod mewn cyffredinedd, neu ryw air fel yna.
Gwell na'r cwbl, er fod y Cofiant yn gyfrol o bum can tudalen, ac er bod o angenrheidrwydd ddyfod heibio i'r un pethau mewn gwahanol benodau, nid oes yma ddim dyblu dianghenraid. Talent brin, yn enwedig mewn cofianwyr, yw talent yr Awdur i fod yn gyflawn heb fod yn feichus.
Gall fod ei ddiwydrwydd a'i fedr, a'i ffawd hefyd, mewn cael hyd i ddefnyddiau cofiant, yn cyfrif peth am hyn. Ond mwy na'r cwbl ydyw ei ddiddordeb ef ei hun yn ei destun. Pregethwr Saesneg yw Mr. Morgan gartref, ers blynyddoedd lawer; ond ni ddeallodd neb byw anian pregethu Cymreig yn well. Y mae yn ddihareb o hoff o wrando pregethau; ac fe ddarlunia oedfa, neu adrodd pregeth, gyda'r un afiaith ag y bydd Sais yn disgrifio pryd o fwyd. Pe darllenech waith ambell i deithiwr yn disgrifio gwlad ei ymdaith, odid na fyddai mwy o hwyl ar ddisgrifio rhyw ginio yn yr hotel nag wrth ddisgrifio golygfeydd rhamantus mynydd a nant. Yr un fel y mae Morgan yn disgrifio oedfa. Nid oes ball ar ei ddyfalwch yn dywedyd hanes yr amrywiol symudiadau y cymerth Matthews ran ynddynt. Nid edwyn neb yn ol y cnawd wrth ddisgrifio brwydr. Nid oes na thynerwch gau at goffadwriaeth dynion da eraill, na'r gronyn lleiaf o awydd talu rhyw hen chwech i wrthwynebwyr Matthews. Ond pregethwr oedd Matthews fwyaf; a'r cymhwyster pennaf i 'sgrifennu amdano oedd gwirioni ar bregethu. Y mae'r bregeth ym mywyd Cymru yn ddirgelwch dudew i ambell i ddyn dieithr. Ni wyddant nemor ddim am yr elfen sacramentaidd sydd i Gymro mewn pregethu da. Nid pob pregethwr o Gymro weithian sydd wedi cael y clefyd chwaith. Clywais un gŵr da iawn, a fu farw'n ddiweddarpregethwr gwych hefyd—yn deud yn lled gynnar ar ei weinidogaeth: "Ail beth hollol ydi pregethu gen i. Gweithio efo phobol ifanc ydi mhwnc i." Daeth hwnnw'n bregethwr er gwaethaf ei syniad am le pregethu yn y weinidogaeth; ond ni chynghorai dyn yr un pregethwr ifanc i fodloni ar syniad cyffelyb, rhag digwydd na bo ganddo ddigon o gydwybod nac o ddawn i ddringo'n uwch na'i gynddelw.
Od yw Cristnogion Efengylaidd yn iawn mewn cyfrif bod y byd i gael ei achub drwy gyhoeddi cenadwri'r cymod, yna fe ddylai pregethwr feddwl cymaint o bregethu ag a feddwl yr Offeiriad Pabaidd o weinyddu sacramentau. Dyma gofiannwr beth bynnag, a meddylfryd ei galon yn y cywair priodol i ddehongli cyfrinach bywyd a chuddiad cryfder pregethwr mawr.
Ymdroisom hyd yma gyda doniau'r cofiannydd; ond ynglŷn â llyfr mor neilltuol a hwn byddai 'r ymdriniaeth wannaf yn anghyflawn heb ymhelaethu peth ar destun y llyfr. Hynny a amcenir y tro nesaf.
II
Cymwynas fawr iawn oedd rhoi Matthews yn ei le yn hanes Methodistiaeth ac yn hanes Cymru. Yr oedd ef, oherwydd mwy nag un peth, yn un anodd gwneuthur tegwch â'i goffadwriaeth. Er iddo gael digon o'i addoli, fe gafodd lawer o'i feirniadu hefyd, a'i ddodi yn is na'i deilyngdod gan rai a wyddai ychydig amdano, ond heb wybod digon. Dichon fod ei fân ddiffygion ef ei hun yn gyfrifol i ryw fesur am hyn. Dyn duwiol a thipyn o'r dyn anianol ynddo oedd Matthews, gŵr o ragfarnau cryfion, o blaid ac yn erbyn rhywrai. Hefyd ni chafodd ei ddoniau disglair ond ychydig o fanteision addysg. Gwir nad oedd ef, mwy na llawer o'r hen bregethwyr, ddim yn annysgedig; ond dysgedig o'i waith ei hun i fesur mawr ydoedd. Yr oedd gwir yn y peth a ddywedai mewn dadl wrth ateb Saunders. Dadl uno'r Athrofeydd oedd ar droed yng Ngorllewin Morgannwg. "Amddiffynnai Saunders y scheme yn hyawdl a galluog dros ben. Dywedai na cheid ond smattering o'r ieithoedd clasurol yn Nhrefeca, a dim ond crap ar bob gwybodaeth. Anghofiasai ef cyn pen chwe mis yr ychydig Roeg a gafodd yno. Awgrymai Matthews. nad bai Trefeca oedd hynny; ped aethai i ryw goleg arall anghofio a wnâi ef. Yn wir yr oedd wedi drwgdybio ers blynyddoedd fod y Doctor wedi anghofio'i Roeg. Ychydig fisoedd a gafodd ef ei hun yn Nhrefeca, ond yr oedd wedi parhau 'i efrydiau ac ychwanegu tipyn o flwyddyn i flwyddyn at ei Roeg." (t. 186). Os oedd coll mwy na'i gilydd ym Matthews, dyna ydoedd, diffyg dawn i weithio mewn gwedd. Prin y .byddai cyn deced at ei gydradd ag at ei wannach. Nid oedd ball ar ei hynawsedd at y gwan; ond am rai digon cryfion i fesur cleddyfau ag ef cymerai yn ganiataol eu bod cyn gryfed ag yntau; ac o byddai ar yr iawn ni fyddai waeth ganddo, ambell dro, mo'r llawer â pha beth i daro. Yn awr, addysg mewn ysgolion a fuasai'r feddyginiaeth ddi-fethu bron i'r diffyg hwn. Y peth goreu braidd a ddysgir mewn ysgol yw gweithio mewn gwedd. Ac wedyn, yr oedd dyfod i'w ran orfod ymladd o gwbl yn anfantais iddo gyda rhai. Ac wrth fod y pynciau yr ymladdai yn eu cylch yn bethau pwysig i fywyd Cymru, bu Cymru yn rhanedig arnynt, ac aeth yn bur anodd i unrhyw un a gymerasai ran amlwg yn y dadleuon gael tegwch gan ei frodyr ar y pryd na chan yr oes nesaf chwaith o ran hynny. Yn hyn yr oedd yn gyffelyb i Evan Jones, Caernarfon, a Thomas Gee. Yr oedd plaid gref yn erbyn Matthews yn y De; a phan ddywedai rywbeth yn erbyn y Dr. Lewis Edwards, byddai'r Gogledd i gyd bron yn ei erbyn ar hynny o bwnc, er yr anghofient y cwbl wedi ei weld a'i glywed. Yn wyneb y camwri a wnaed â'r gŵr mawr hwn, gwaith ardderchog oedd ysgrifennu yn helaeth a manwl arno, i'w ddodi yn ei le yn hanes ei gyfnod. Ni fedr neb astudio Methodistiaeth, yn enwedig Methodistiaeth y De, rhwng 1840 ag 1890, heb astudio Matthews.
Dyry'r Cofiant bob gwybodaeth am ei deulu. Ymddengys ei fod o hil pendefigion y Sir, a dygai ol hynny yn bur amlwg, ond ol peth arall yn amlycach fyth, ol cynefindra â bywyd gwerin Morgannwg, yn enwedig bywyd pobl y Fro. Ond yn ddi-ddadl, ei brif ysgol oedd Methodistiaeth. Fel y dywed Mr. Morgan, anaml y dyfynnai yn y pulpud o'r hen bregethwyr; ond amlwg oddiwrth ei areithiau achlysurol mewn Cyfararfod Misol neu Sasiwn, ac oddiwrth ei ymddiddan, nad oedd neb wedi ei drwytho 'n drymach yn hanes y tadau. Rhaid i ni gofio ddarfod iddo fyw.peth gyda rhai yr âi eu cof yn bur bell yn ol. Pan aeth i Drefeca yn 1842 yr oedd dau o "bobl " Howel Harris yno,—" un patriarch hyll o hen a gofiai Howel Harris, a'r ail, William James, dyn caredig a dymunol, a gladdwyd yng Ngwanwyn 1848." Yr oedd dolennau yng nghyrraedd Matthews, a'i cysylltai yn bur agos â'r oes gyntaf o Fethodistiaid. Yr oedd yn odiaeth o gyfarwydd yn hanes yr oes o'r blaen; nid â'i phrif ddynion yn unig, ond â'i phregethwyr cyffredin a'r blaenoriaid anenwog. Darllener hanes ei ymweliad â'r Coed Duon, Mynwy, lle y cafodd odfa oedd yn rhenc flaenaf ei odfaon mawr; ac yng nghesail yr ystori honno cewch un arall a ddengys mor annwyl ganddo oedd coffadwriaeth yr hen bobl. "Adwaenai Matthews lawer o'r saint a hunai yn y gladdfa. Wel, wel! dyma Evan Richards,' meddai. Oeddech chi yn ei nabod e?' 'Ei nabod e? Yr hen greadur a'n lloriws ni i gyd yn Sasiwn Pont-y-Gof?' atebai Matthews. Tomi Richard yn y gadair, a dim mynd ar y seiet. Galw ar Evan Richards. Na, mae'chi ofan chi ar fy nghalon i,' meddai yntau. 'Rhaid i chi ddod ym mlaen.' Yr oedd côt fawr ar fraich yr hen frawd, cnoyn o dybaco yn ei foch, ambarelo dan ei gesail a het sidan yn ei law. Ar ei ffordd ym mlaen tynnodd flwch corn o'i logell a gollyngodd y dybaco o'i enau i hwnnw. Aeth i'r sêt fawr a siaradodd nes gyrru'r lle 'n wenfflam. Yr angen am yr Ysbryd oedd y pwnc. Yr oeddwn innau i siarad ond mi wrthodais. Y mae'r nôd wedi ei gyrraedd,' meddwn ni; 'y mae'r Ysbryd wedi dod.' Fum i ddim yn falchach erioed o ddianc heb siarad.' Yn ystod yr un prynhawn ychydig funudau yn gynt, pan ddangosai John Williams iddo gadair Morgan Howels, a'r astell bregethu arni (fel y byddent—y gadair o'i throi a'i chefn allan yn bulpud), rhwbiai Matthews ei fysedd hyd yr astell, gan ddywedyd: "Y mae ysbrydiaeth yr hen greadur yn yr astyllen yma." Y mae ychwaneg o'r stori hon, a gwell hefyd, ond mai dyma'r tameidiau oedd at fy mhwrpas i yn y fan hyn. Yn wir, ni welais i braidd lyfr anos dyfynnu ohono, waeth pe dyfynnech bopeth a darawo'ch ffansi wrth ei ddarllen, ni byddai lle yn y Goleuad i ddim arall.
Y mae yma hanes Matthews wedi mynd i rywle ym Mro Morgannwg i wastatâu tipyn o gweryl plentynaidd rhwng dynion da. A'r cwbl a wnaeth yr ymwelydd, i dawelu'r anniddigrwydd, oedd siarad ar goedd â'r brawd oedd wedi tramgwyddo, mynd dros hanes ei dad a'i dad—cu, ac yn y blaen, nes bod y gŵr wedi anghofio'r tramgwydd, ac mewn dagrau, wedi toddi'n llymaid. Rhaid fod y gainc yma ym magwraeth Matthews, o ffyddlondeb i draddodiadau'r Corff ac edmygedd o hynodion y tadau, yn elfen dra phwysig yn adeiladwaith ei gymeriad,—y bwysicaf oll os nad wyf yn camsynied yn fawr.
Darlithiodd ar Howel Harris, ac ar Siencyn Pen-Hydd. Ysgrifennodd lyfr ar Siencyn, un arall ar George Heycock, a chofiant i Thomas Richard.
Am ei ddiwinyddiaeth, diwinyddiaeth Biwritanaidd oedd hi yn ei phrif lwybrau. Dyna oedd y wê bid a fynno, er bod yma gryn ryddid mewn gweithio'r anwe iddi. Yr hen bynciau oedd bannau'r genadwri—y byd yn ei bopeth yn annigonol, darpariaeth gras ar gyfer pechadur, maddeuant trwy angau'r Groes, angau ac ansicrwydd bywyd, dydd barn a diwedd byd. O fewn yr hen derfynau byddai'r amrywiaeth yn ddiderfyn braidd. Cawn yma restr o destunau Mathews. (t. 410—11). Llyfryddiaeth yw teitl y bennod; ond gweithiau Matthews ei hun, nid gweithiau yn trin amdano, a feddylir, Pennod xxxi. Yn awr, y mae rhyw ddau gant ag un ar bymtheg o destynau os iawn y cyfrifwyd, ar y rhestr hon. Cof llyfr, ebai'r Cofianydd, sy tu cefn iddi. Ni wyddys ar ba faint o destynau heb law'r rhai hyn y pregethodd Matthews, ond dyma gofnod o gynifer a hyn. Cymharer y rhestr â rhestr testynau adnabyddus y rhan fwyaf o'n pregethwyr mawr ni; a chredaf y ceir fod yr amrywiaeth yn eithriadol o fawr. O bregethwyr y Gogledd, ni fedraf fi feddwl am neb a chymaint amrywiaeth testynau ganddo, neb a mwy beth bynnag, os nad oedd Wheldon a Huw Myfyr. Rhaid cofio, wrth gwrs, fod Huw Myfyr wedi noswylio 'n gynnar. Gallai y daethai Griffith Roberts yn bur agos hefyd. Am y rhan fwyaf o'n pregethwyr Sasiwn ni, byddai rhestr eu testynau adnabyddus hwy yn llai o lawer. Y testynau adnabyddus a ddywedaf, nid pob testun ddim y pregethasant arno. Cofiai Mr. Charles Williams ryw bedwar ugain go helaeth o destynau John Williams. Ni allwn innau, ar fy ngoreu glas, ychwanegu dim hanner dwsin at y rhestr. Credaf y buasai rhestr Thomas Charles Edwards, os yr un, yn llai. Ni fuasai un Owen Thomas, a fu'n fugail ar hyd oes weinidogaethol faith, ddim yn un liosog iawn. Ond dyma Matthews, oedd yn bregethwr teithiol y rhan fwyaf o'i amser, wedi cyrraedd dros ddau gant.
Ei anian, yn fwy na'i ddarllen, a'i cadwai rhag culni mewn athrawiaeth, anian at y pethau sicr a'r pethau buddiol. Yr oedd yn Galfin at y carn, ond yr oedd ochr i Galfiniaeth na fedrai ddygymod dim â hi. Clywais William James, Aberdar, yn adrodd dywediad Matthews, pan glywsai rywun yn rhoi disgrifiad Uwch-Galfinaidd o'r Brenin Mawr: "Os un fel yna ydi Duw, mi garwn i gael cic arno. Dywediad eithafol oedd hwnnw; ond ni waeth hynny na rhagor, pechod diwinyddiaeth naillochrog o hyd ydyw, ei bod hi'n gwneuthur Duw yn un na fedrwch chi mo'i barchu; ac nid oedd dywediad eithafol Matthews ond ei ddull o farcio golygiad a farnai yn annheilwng. Tipyn bach cryfach a chasach ydoedd na dywediad John Evans, Garston, wedi gwrando pregeth led amrwd ar Gyfiawnhad trwy Ffydd: "Os dyna ydi'r drefn, mi fyddai yn well gen i fod heb fy nghyfiawnhau. Cawn ystori yn y llyfr yma yn rhywle, a adroddwyd gan David Morgan, blaenor o Gaerdydd. pan drinid achos David Phillips (o'r Bala weithian), yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg, wrth ei dderbyn yn bregethwr. Yr oedd Matthews, meddai David Morgan, wedi mentro amddiffyn rhyw ŵr ieuanc a flinid gan amheuon am yr athrawiaeth. Gofynnodd rhywun i Matthews, ar ol y drafodaeth: "Buocn chi, Mr. Matthews, yn cael ych blino gan amheuon?" "Do, Do!" ebai yntau. "Ond," gofynnai'r llall eilwaith, "buoch chi ar ych gliniau gyda'ch amheuon?" "Ar fy ngliniau? oedd yr ateb; "do, ar fy mola hefyd." Rhyw reddf at athrawiaeth iachus a gadwai ei feddwl ef rhag mynd yn gaeth i draddodiadau pa mor gysegredig bynnag y byddent.
III
Yn yr ysgrif o'r blaen mi ddywedais mai dyn duwiol a thipyn o'r dyn anianol ynddo oedd Matthews; eithr nid tynnu oddiwrtho, ond ychwanegu ato y mae hyn Y mae digon o ddynion yn dwyn arwyddion eu bod yn cael eu hachub, hynny sy o honynt; ond nid oes yno ddim llawer i'w achub. Rhaid wrth yr anianol yn sail i'r ysbrydol. "Nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, wedi hynny yr ysbrydol."
Yn y dynol noeth, yn y bersonoliaeth drwmlwythog o gyfaredd, y gorwedd y peth hwnnw a wna'r cymeriad yn un effeithiol er da neu er drwg. Beth sy'n ein swyno yn y Dr. Johnson, a William Roberts, Amlwch, ac Edward Matthews? Rhywbeth dyfnach na dim diwylliant, dyfnach nag enwad na dylanwad arferion cymdeithas—y dyn—rhyw gynysgaeth a naws y pridd arni, a ddaeth gyda hwynt i'r byd. Fel yr oedd cnawd a chalon y Salmydd yn ei weddiau, felly yr oedd cnawd yn gystal ag ysbryd Matthews yn pregethu, hufen pob peth oedd ynddo yn dyfod i'r bregeth. Nid yw'r cwbl o lawer wrth gwrs yn y bregeth ysgrifen. Fel y dywedai Matthews ei hun, sketches oedd y rheini—y concrete, chwedl Joseph Jenkins, nid y gynnau mawr a blennid arno i saethu. Yr oedd concred Matthews yn aml yn blatfform digon plaen; ond pan geid ergyd, hi fyddai 'n malu ac yn lladd yn ofnadwy.
Ni lwyddid bob tro i gael ergyd chwaith. A dyna beth digrif yn perthyn i bregethu Cymreig——pregethwr mawr yn cael aml i odfa galed, ac mewn odfa lewyrchus yn cadw'r bobl yn hir heb roi dim byd neilltuol iddynt. Mi glywais y byddai hen areithwyr politicaidd Lloegr, megis Pitt yr Hynaf, yn dechreu mewn Ilais nad oedd braidd yn hyglyw ar lawr Ty'r Cyffredin, a chynhyddu mewn grym wrth fynd yn mlaen. Ni wn i ddim a fu rhywbeth tebyg ym mysg pregethwyr Lloegr a'r Alban. Mi glywais un a bregethai fel yna o ran dawn llais, er ei fod o ran deunydd yn ddisglair o'r foment gyntaf—John Caird. Dechreuai ef yn ddistaw fel Cymro. Ond am y rhan fwyaf o bregethwyr amlwg Lloegr yn y triugain mlynedd diweddaf, fel arall yr oeddynt. Byddai Knox—Little, a Liddon, a Scott Holland yn enwedig, yn gweiddi o'r dechreu, felly Marshall Lang yn Scotland. Ond y mae gennym ni, yn enwedig y Methodistiaid, ryw draddodiad gwahanol, o ddyddiau Robert Roberts o Glynnog a Daniel Rowlands Llangeitho hyd Ddafydd Morris Cae Athro a Hugh Jones. A pherthyn i'r llinach yna yr oedd Matthews. Chi gaech ganddo bregeth yn talu am dani ei hun mewn un sylw yn lled agos i'r diwedd, neu odfa yn talu am lawer o odfaon cyffredin a diafael. Natur ydyw hynny hefyd. Os na chewch chi'r peth ym mhregethu'r Saeson a'r Scotiaid, chi a'i cewch yn aml yn eu llenyddiaeth. Cymharer dau awdur sy wedi tewi—fe geid enghreifftiau o blith rhai byw o'r ddau ddull—A. B. Bruce a James Denney. Byddai Denney yn deud rhywbeth ym mhob brawddeg. Am Bruce wedyn, chi allech ddarllen dalennau bwy gilydd heb gael dim neilltuol. Cymer yr un faint o drafferth i draethu cynefinion, ag arfer gair J. J. Morgan, a phe bai yn dywedyd dirgelwch; ond cewch ambell i ddarn pennod sy'n werth y llyfr i gyd, pethau a gofiwch am byth. Un fel yna ym mysg pregethwyr oedd Matthews. Bodlonai am amser, ac weithiau am odfa gyfan, ar y buddiol diaddurn, ond yn ddisyfyd fe lamai llew arnoch o ganol llannerch nad oeddych yn meddwl fod arni ddim ond brysgwydd. Os gellir beirniadu peth fel hyn o safle celfyddyd, yr oedd yn fwy dynol a naturiol, na phregethwr a mwy o gomand ar ei ddawn. Dywedai John Williams, Dwyran, wrth Matthews rywbryd, ar ddiwedd diwrnod o bregethu: "Ddaru'ch chi ddim trio pregethu heddyw, Mr. Matthews." Atebodd yntau: "Gwell peidio trio, gwelwch chi? na thrio a methu." Ac o safle celfyddyd hefyd yr oedd y peth yn fantais i'r elfen ddramodol oedd mor amlwg ynddo.
Pennod gyforiog o ddiddordeb yw'r un ar yr "Elfen Ddramayddol" ym Matthews. Bu adeg, y mae'n ymddangos, pryd y byddai yn mynd rhag ei flaen o bwnc i bwnc, yn rhannu ei bregeth yn debycach i'r patrwm cyffredin. Clywais Thomas Rees yn dywedyd mai hwnnw oedd y cyfnod goreu Matthews; ond fel y cofir ef gan y ddwy oes ddiweddaf a'i clywodd, trofaus, cwmpasog, clebyrddog," chwedl Rees, ydoedd ei ddawn. Ni ddywedai i ba le yr oedd am eich arwain nes eich bod wedi cyrraedd yno. Yna, wrth goron y ddrama chi welech fod y cwbl wedi ei gynllunio, bod y llinynnau i gyd yn ei law ar hyd yr amser, ond mai ef a wyddai bryd i'w tynhau hwy. Yr oedd mor ddramodol a John Elias, ond fod y dramodol ym Matthews yn fwy anocheladwy. Byddai Elias yn cynllunio mwy ym mlaenllaw. Rywbryd yn Sir Fflint, ar fedr pregethu pregeth y "Darn Llaw ar galchiad y pared," aeth i'r Capel nos Sadwrn, a gŵr y Tŷ Capel gydag ef, i experimentio sut i gael cysgod y bysedd ar y pared oddiwrth y gannwyll. Ni ddywedwn fod Matthews yn fwy crefftwr nag Elias, ond ymddengys ei fod yn cael ei orchfygu'n llwyrach nag yntau gan ei bregeth ei hun. Arwydd o hynny oedd ei fod weithiau'n mynd i eithafion nad aethai dyn byth iddynt o'i fodd. Tynnodd ddarn o'r pulpud i lawr rywdro mewn Sasiwn. Waith arall rhoes y fath dynn ar ei gob, wrth wneud gwregys o honi, nes ei rhwygo hi o fforchiad y cefn hyd y goler. Dywedai Llewelyn Edwards—ac y mae yn enghraifft o degwch barn y gŵr hynaws hwnnw, ei fod yn ei ddywedyd pryd nad oedd hi'n rhyw dda iawn rhwng "teulu'r Doctor" a Matthews—mai dyna oedd hwyl Matthews, " chwarter awr o ecstasy pur.'
I'r sawl a glywodd Matthews fe ddaw'r iasau a gynhyrchai ei lais pan fyddai dan deimlad i fyny drachefn wrth ddarllen. Ni welais i braidd gofiant erioed yn mynd cyn nesed i roi'r pregethwr i gyd o'ch blaen chi ag y gwneir yn y llyfr hwn. Dywed Morgan fod dadl ynghylch nodau'r llais, rhai yn eu cyfrif yn aflafar, ac eraill yn eu galw'n fiwsig pur. Tebycaf mai'r gwir yw fod y nodau yn fiwsig, ond nid y miwsig arferol cynefin i'n clust ni; hynny yw, yr oedd nodau Matthews yn perthyn i ryw ysgawl, rhyw scale, ond nid yr ysgawl gyffredin. Nid methu taro'r nodyn yr amcanai ato y byddai ef—y mae rhai felly—ond taro nodyn dieithr i'r ysgawl gyffredin. Dywedir fod gan y Groegiaid risiau yn eu miwsig nad ydynt yn ein miwsig ni; ond yr oedd miwsig y Groegiaid yntau yn fiwsig yr un pryd. Nid nodau dilun ydoedd. Priodolder mawr sy yn nywediad y Dr. Cynddylan Jones, fod rhywbeth yn llef Matthews tebyg i oergri'r gwynt, "the wail of the wind." Dywedai John Williams ei bod hi yn rhy feiddgar i'w dodi mewn print; eithr nis gallaf fi ymatal rhag ei dodi, waith ni chlywais ddim yn mynd yn nes at galon y pwnc. Nid meddwl yr ydoedd am y cnudiad hwnnw sy'n codi braw arnoch, ond y cnudiad y buasai Charles Kingsley yn canu pennill iddo ac yn ei alw'n chime. Beth bynnag, yr oedd yn llais Matthews pan fyddai dan ysbrydoliaeth ryw gyfuniad rhyfeddaf o ddieithrwch annaearol bron a phereidd-dra; ac y mae'r dadleu sy ynghylch y peth yn profi hynny.
Fel y dywedwyd, yr oedd pob peth ynddo yn pregethu. Ac wrth na wnâi ef mo'i orchestion dramodol mwyaf ond pan fyddai gwresowgrwydd yr hinsawdd ysbrydol ar y pryd yn fforddio hynny, ni edrychai'r pethau mwyaf eithafol, am y tro, ddim yn ddi-chwaeth. Gwell ganddo ef ddioddef odfa galed nag anturio pethau rhy feiddgar, pan fyddai ef ei hun heb ei danio, neu pan fyddai'r gynulleidfa ac yntau heb fod ar yr un llinyn.
"Yr wyf yn gallu pob peth." "Aros dipyn bach, Paul! 'Rwyt ti'n ysgolhaig gwych, ond 'delli di ddim pob peth." Rhoddes ei law yn ei logell a thynnodd sofren allan rhwng bys a bawd, a gosododd hi ar astell y pulpud. "Peth go ddierth i mi yw wager, Paul, ond am unwaith, ""'rwy'n fodlon mentro sofren felen nad wyt ti ddim yn gallu pob peth." "Yr wyt yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i." "O! O! y mae yna ddau o honoch chi, 'wedest ti mo hynny o'r blaen." (t. 258).
Yng Nghei Newydd disgrifiai 'r gŵr cloff a iachawyd gan Bedr wrth Borth Prydferth y Deml, yn rhodio, yn neidio, ac yn moli Duw. Y coesau fu'n swp o wywdra o'r groth mor ystwyth a'r eiddo'r ewig, a'r dyn yn llamu ar yr heol o wir afiaith. "Dy cato pawb!" llefai'r pregethwr a'i ddwylo i fyny, "fe'u tyr nhw eto." (t. 269).
Caiff y darllenydd ugeiniau o bethau fel yna; a phriodol iawn y sylwa Mr. Morgan am danynt: "Yn wir gallasai Matthews ddywedyd am lawer un o'i ehediadau dramayddol, Gyda mi y byddi di gadwedig.'
Gellid llanw cyfrolau â'i ffraethebion. "Yn ei ddarlith ar Luther dywedai fod y Pab yn honni anffaeledigrwydd, ac ychwanegai, "Dyw e ddim wedi priodi gwelwch chi?"
Agorodd ei waith ynglŷn â chasgl Trefeca fwngloddiau o ddawn ac arabedd a direidi ynddo. Bodlonwn ar un esiampl. "Y mae gennym newydd da iawn i Laneurwg. Y mae brawd yn y Cas Bach wedi pallu rhoi ffyrling at yr Athrofa gan awydd rhoi at eich capel newydd chwi yr hwn sydd mewn bwriad ei godi. Yn awr, annwyl gyfeillion, gallwch ddyfod allan yn galonnog gyda'r casgliad at yr Athrofa, canys aiff y brawd o'r Cas Bach dan eich beichiau ynghylch y capel." (t. 136).
Eithr na feddylied neb fod yr arabedd a'r direidi yn amgen na thonnau yn dawnsio ar wyneb môr dwfn o ddwyster a difrifwch. Yr oedd ei eiddigedd dros burdeb yn y pulpud yn ddihareb. Wrth wrthsefyll adferu pregethwr disglair ei ddoniau dywedai: "Beth all e bregethu? A fedr e ddywedyd gair yn erbyn celwydd, anlladrwydd, a llygredigaethau'r oes?" "Fe all bregethu edifeirwch a maddeuant," meddai hen weinidog. "Fe edifarhaodd Judas," atebai Matthews, "ond ni chyfrifwyd ef mwyach gyda'r apostolion, ac ni chafodd ran o'r weinidogaeth hon. Mae'r ferch yn ei bedd, ac efe yw'r achos. Y bachgen yn prynu tair o wahanol fodrwyau i dair merch, a'r cythraul yn mynd i'w galon trwy bob modrwy. Cofiwch pwy fu yn y pulpud Methodistaidd, Eben Morris, John Evans, Thomas Richards. Yr ydym ni wedi arfer â phulpud glân, ac os ych chi'n codi bechgyn fel hyn yn ol iddo, 'daiff Edward Matthews byth mwy trwy ei ddrws." (t. 400).
Cyffelybasom ef i Samuel Johnson. Yr oedd yn debyg i Johnson yn ei ragfarnau. Nid goleu gwyn a geid gan yr un o'r ddau, namyn goleu drwy wydr lliw; ond y mae'r lliwiau'n annwyl gennym yn hanes y ddau, ac yn anwylo'r ddau yn ein golwg. Cly wais un o edmygwyr pennaf Matthews yn dywedyd fod elfen o'r teirant ynddo; ac â hyn y cyd—dery'r cofiannydd hwn. "Yr oedd ynddo duedd i ormesu yn y gadair ac i wrthryfela allan o honi." (t. 290). Ond rywsut, yng nghyfrif y rhan fwyaf o honom, pechod mewn dyn bach yw gormesu. Yr ydym, rhwng bodd ac anfodd, yn maddeu hynny i ddyn mawr. Owen Jones, y Gelli, a gychwynodd y gwrthryfel yn erbyn awdurdod Matthews ym Morgannwg; ond tystiolaeth gadarn Owen Jones bob amser fyddai: "Matthews oedd y mwyaf o honyn-nhw i gyd."
Yr oedd ynddo bethau anawdd eu cysoni. Ni chelir mo'r rheini chwaith gan Mr. Morgan. Y mae pethau felly 'n perthyn i bob dyn mawr. Fe allai y cyfrif rhyw ysfa mynd yn groes i'r lliaws am rai o honynt. Er enghraifft, pan oedd yr Hen Gorff, o ran ei bolitics, yn Doriaidd, byddai Matthews yn Radical. Pan aeth y Corff yn Rhyddfrydwr, aeth Matthews yn Dori. Tybed fod gwir yn yr ystori a glywais newydd i Matthews droi, gan ŵr cyfrifol o weinidog, fod gan Matthews arian mewn Egyptian Bonds? Bid a fynno, y peth a ddywedodd rhywun yn y cwmni ar ol ei chlywed hi oedd: "Y mae rhywbeth yn peri i'r gath lyfu'r pentan." Effeithia peth fel hyn ar farn dyn heb yn wybod iddo. Dywedai Owen Jones, y Gelli, wrthyf, yr unig dro y gwelais i ef oedd hi, "Here I am a Radical all my life, and turned against Free Trade." Debyg fod y ffarmwr yn Owen Jones wedi mynd yn drech na'r gwladwr.
Ond beth a wnawn ni'n son? Drwy ddynion naillochrog y mae'r Brenin Mawr wedi rhoi rhai o'i fendithion mwyaf i'r byd. Dywedir ei bod hi'n well arnom ar y ddaear yma, o ran goleu, am fod echel y belen ar dipyn o osgo ac nid yn hollol sgwâr i lwybr ei chylchdro hi.
Ac wedyn, fe fedrai Matthews fod yn ddi-duedd a phwyso pethau fel clorian yr apothecari. Un o'r hanesion goreu yn y llyfr yw ei hanes yn trwsio trwmbel rhyw frawd o flaenor, a aethai yn fwy na llond ei ddillad swydd. Ond mewn amgylchiadau gwahanol medrai gymryd plaid y swyddog a ddrwgdybid, neu yr aelod a gyhuddid o uchelgais swydd. Rywbryd aeth rhai brodyr o eglwys fach yn y Fro i gwyno wrth Matthews yn ei gartref, fod ganddynt hwy frawd a omeddai gyd—weithio â'r Eglwys, heb ddim rheswm ond yn unig na châi ef fynd yn flaenor. Fel hyn y rhoes Matthews derfyn ar y cŵyn. "Fe fydd Mrs. Matthews, gwelwch chi? yn rhoi tamed o gacen i'r ci bach yma, a minnau'n achwyn fod hynny yn wastraff. Ond dyna fydd y wraig yn ei weud: Stumog at gacen sy gydag e.' Felly am y brawd oco, gwelwch chi? Stumog at gacen sy gydag e. Gwnewch e'n flaenor ac fe fydd yn un o'r dynion goreu fydd gennych chi."
Ond naillochrog neu ddi-duedd, dyna fo i chwi. Y mae yma nid fel y carai addolwr ei gael, ond fel yr ydoedd i'r sawl a'i hadwaenai, yn ddiarbed o'r cryf, ac yn dyner odiaeth at y gwan, yn deud ei gyfrinach yn ddi-warafun wrth ddynion cymharol gyffredin blaenoriaid heb fod o'r rhes flaenaf, ond a ffrwyn yn ei enau, nid tra fyddai'r annuwiol, ond tra fyddai dynion mawr y Sasiwn yn ei olwg. Safodd, drwy glod ac anglod, dros y pethau a gredai. Pregethodd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw gyda phob hyfder yn ddi-wahardd. Gwelodd godi eglwysi cryfion a gwyliodd eu cynnydd yng Nghymoedd y Gweithfeydd, a bu ei weinidogaeth yn un o'r prif elfennau yn eu bywyd hwy am oes faith. Yr un pryd, bob yn ail a Chwm Rhondda, câi capeli bychain Bro Morgannwg ei oreu ar Suliau cyffredin. Dydd y Farn yn unig a ddengys pa faint o eneidiau yn Ne a Gogledd a ddaliwyd ganddo yn gaethion i ewyllys Duw. Ac wedi i rywun gael ei ddal gan Matthews, Matthews. fyddai ei bregethwr mwyach am ei oes. Hawdd fyddai enwi rhesi o flaenoriaid a phregethwyr, ac o saint yr eglwysi, nad oedd neb yn eu bryd i'w gystadlu ag Edward Matthews. O bydd gan rywun hawl i ddeud fel ei Geidwad ddydd a ddaw, "Wele fi a'r plant a roddes yr Arglwydd i mi," efo fydd hwnnw.
Gan yr Awdur y ceir y llyfr. Llwybreiddier at y Parch. J. J. Morgan, Mold, North Wales.