Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Syr Owen Edwards

Oddi ar Wicidestun
Y Parchedig Thomas Roberts, Bethesda Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Y Parchedig John Williams, D.D., Brynsiencyn

II

SYR OWEN EDWARDS

I

GANWYD Owen Edwards yng Nghoed y Pry, ar fin y ffordd o Lanuwchllyn i Fwlch y Groes, ac o fewn rhyw filltir go dda i Orsaf Llanuwchllyn. Owen ac Elizabeth Edwards oedd ei dad a'i fam; ac yr oedd ol y ddau yn amlwg iawn arno. Gan ei fam y cafodd y callineb a'r craffter hanner gwyrthiol a'i nodweddai. Ei dad, wedyn, oedd biau'r elfen gelfydd, freuddwydiol, a berthynai iddo. Yr oedd cof ganddo'i gymryd gan ei dad yn blentyn pur fychan i'r meusydd, a dysgu iddo adnabod y blodau; a bu yntau yn ffrind i'r blodau ar hyd ei oes. Fel ei dad, medrai Owen yntau rigymu o'r goreu. Ar air, etifeddodd bob dawn oedd gan ei dad ond y ddawn ganu. Y marc pellaf a gyrhaeddodd y bachgen ar y llinell honno oedd canu'r cornet; ond rhoes hynny heibio wrth roi heibio bethau bachgenaidd. Yr unig son am dano'n canu ar ol hyn oedd pan oedd ei gyntafanedig yn faban. William Edwards, ewythr trwy briodas i Lady Edwards, a ddigwyddodd fod yn aros gyda hwy yn Llanuwchllyn; ac wrth glywed peth mor amheuthun ag Owen Edwards yn canu gefn nos, cododd i ben y grisiau i wrando; ond pan ddeallodd y penteulu fod ganddo wrandawr, tewi a wnaeth.

Yr oedd llawer o Lanuwchllyn ynddo; a gadawodd yr Annibynwyr lawer o'u dylanwad ar Lanuwchllyn. Y maent yn gryfion yn yr ardal, a buant gynt yn gryfach o lawer. Dywedai Carlyle fod dylanwad Presbyteriaeth ar Scot, er nad oedd Scot ei hun ddim. yn Bresbyteriad. Pan fo enwad yn gryf mewn rhyw gylch, neu wedi bod yn gryf, fe ddaw pawb yno fwy neu lai o dan ei ddylanwad. Ac felly darfu i Owen Edwards, oedd yn Fethodist eithafol (bron na ddywedech chi, rhagfarnllyd) gael yn ei natur ryw gainc o'r Annibynwyr Cymreig hefyd. Nid oedd ef, bid a fynno, ddim yn gynnyrch pur yr Hen Gorff. Yr oedd yn gryn edmygwr o'i gefnder, y Parch. Evan T. Davies, o Landrillo yn awr; a meddyliai gryn lawer o Michael Jones. Effeithiodd ei gyfathrach a'r Annibynwyr arno yn un peth i beri iddo wynebu diwinyddiaeth o safle'r llenor yn fwy na'r athronydd a'r triniwr pynciau. Effeithiodd beth hefyd ar ei ddawn siarad. Gall y sawl nas clywodd ef ffurfio syniad pur dda am ei ddawn wrth wrando Elfed, cyn i Elfed fynd i hwyl. Ni chlywodd yr un o'r ddau mo'i gilydd ond yn anaml; ond y mae'r lleisiau'n debyg wrth naturiaeth, a'r treigliadau, y codi a'r gostwng, yn rhyfeddol o debyg. Er mai'r "llais a'r parabl lleddf" oedd nodwedd Owen Edwards, nid oedd y lleddf mo'r lleddf traddodiadol sy'n perthyn i Fethodist orthodox.

Un o'r prif ddylanwadau arno'n llanc yn y Bala, yn Ysgol Tŷ Tan Domen, ac yng Ngholeg y Methodistiaid, oedd ei gyfeillach â Thom Ellis a David R. Daniel. Mewn oedran na fydd bechgyn lawer yn meddwl nemor am ddim ond mabol gampau a chwareuon, na'r goreuon o honynt yn meddwl am ddim byd lletach ei arfod na'u gwersi ysgol, byddai'r tri yma'n berwi o ddiddordeb mewn llyfrau a darluniau o'r tu allan i'w gwaith ysgol. Darllenwr ar draws ac ar hyd oedd Owen Edwards yn y cyfnod hwnnw; ond gweithio ryw ambell i chwech wythnos fel lladd nadroedd, a dyfod yn agos iawn i'r brig yn yr arholiad.

Y mae'n glod, pa fodd bynnag, i'w athrawon, Ellis Edwards a Hugh Williams, fod wedi darganfod sut fachgen oedd ganddynt yn y gŵr ieuanc y gorfyddai arnynt ambell dro ei ddwrdio am esgeuluso'i waith. Ymresymai yntau â hwynt yn ei ddull hamddenol ei hun. Dywedai fod arno flys cymryd ei fywyd yn ddifyr tra y caffai yr âi yn hen yn ddigon buan. Dibennai'r ymddidanion hyn â'i athrawon weithiau mewn chwerthin a chwpanaid o de, waith arall mewn rhyw sylw crynhoöl gan y Proffeswr, megis hwnnw gan Mr. Williams, wedi hanner awr o ddondio: "Well, I suppose you understand the general tenour of my remarks." Deallodd rhai o honom yn bur gynnar fod y Proffeswr Williams, y lleiaf ei ddylanwad o'r ddau arno, yn ystyried fod Owen Edwards ym mhell tu hwnt i rai a gyfrifid yn drech myfyrwyr nag ef. Er mai llenyddiaeth oedd ei orhoffedd ef o'r cychwyn, medrai oddiwrth wyddoniaeth hefyd. Ychydig a ŵyr erbyn hyn fod Owen yn wyddon pur addawol yn y cyfnod hwnnw. Efo, pan yn Athro Cynorthwyol, fyddai'n hwylio experiments i Ellis Edwards erbyn y dosbarth min nos. Pan oedd hi'n farwaidd iawn mewn un o'r dosbeirth dau o'r gloch, clywsom ffrwydriad embyd mewn ystafell arall; a pheth oedd yno ond Owen Edwards wedi torri'r llestri trwy roi gormod o bwysau ar yr hydrogen wrth ei fagu erbyn rhyw arddangosfa yn yr hwyr. Diangodd yn ddianaf; ond rhwng ei wyneb ef a'r bwrdd gwaith oedd yr unig lecyn yn yr ystafell heb wydr mân arno.

Yn Aberystwyth dechreuodd cyfnod newydd, cyfnod y gweithio caled, cyfnod a barhaodd heb nemor of fylchau hyd oni ddiosgodd ei arfau ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Heb lawer o fylchau a ddywedais, waith nid oedd ei wyliau ef, gan mwyaf, ddim yn fylchau yn ei dymor llafur, gan y byddai ganddo o hyd rywbeth ar droed, rhyw dynnu lluniau lleoedd hynod; ac yr oedd maint y diddordeb a gymerai ym mhob peth ar ei deithiau yn ei drethu ef fwy o lawer nag y trethasent un o ddiddordeb llai. Y mae gwrando pregeth i bwrpas yn trethu mwy o'r hanner arnoch na gwrando'n ysgafala. Nid cyfnod diffrwyth oedd y cyfnod o'r blaen chwaith. Yr oedd Owen Edwards, mewn gwirionedd, wedi darllen Ceiriog a Swift a Shakespeare a Wordsworth a Ruskin mewn oedran na fydd bechgyn yn gyffredin wedi darllen dim ond a osodwyd iddynt. Ac onid coll difrifol yn ein system ni hyd heddyw—gwaeth heddyw braidd nag o'r blaen—yw y gall bachgen hwylio am o saith i ddeg o flynyddoedd llafurus, at fynd yn feddyg, neu gyfreithiwr, neu bregethwr, heb fedru dim ar ddiwedd y tymor ond a ddysgodd at arholiadau? Y mae'n meusydd llafur ni'n rhy drymion i ddyn gael hamdden i edrych dim dros y clawdd heb fod yn wrthryfelwr yn erbyn ei athrawon. Mynnodd Owen Edwards y cyfryw hamdden cyn cymryd ei dorri i mewn at weithio mewn rhych. Ond wedi dechreu gweithio wrth reol, fe ymroes ati hi'n ddiymarbed. O hynny'n mlaen, yr unig fai gan ei athrawon arno fyddai gweithio'n rhy ddyfal. Clywais Benjamin Jowett yn dywedyd—yn y cyfarfod ysgwyd llaw hwnnw fyddai yn Balliol ar ddiwedd y tymor: "It's a very foolish and a very wrong thing, Mr. Edwards, not to take proper care of your health." Curodd bawb ar Lenyddiaeth Saesneg yn Arholiad Cyntaf B.A. Llundain—yr arholiad a elwir weithiau yn Intermediate. Ysgubodd rai o'r gwobrau dosbarth yn Glasgow yn yr unig dymor gaeaf y bu yno. Cafodd un o'r Brackenbury Scholarships yn Balliol, tair o wobrau cyhoeddus, agored i'r holl golegau yn Rhydychen fel ei gilydd, a graddio yn y dosbarth blaenaf yn yr Ysgol Hanes. Estynnwyd ei Ysgoloriaeth o bedwar ugain punt iddo flwyddyn yn hwy, er mwyn iddo gael teithio ar y Cyfandir. Dysgodd lawer iawn ar y daith hon. Gwelodd y byd a'r betws.

Yr oedd nid yn unig yn weithiwr dygn, ond yn weithiwr cyflym hefyd. Pan oedd yn Aberystwyth, daeth Golygwyr Cylchgrawn yr Athrofa ato ryw fore yn niwedd tymor, a phawb yn hwylio mynd adref, i grefu am erthygl; ac od oedd bosibl, am ei chael hi ym mhen ychydig oriau. Dywedodd Edwards yr ysgrifennai un, ond iddynt hwy bacio'i goffr ef at fynd i ffwrdd. Addawsant hynny, ac aeth y ddau ati mor selog nes pacio gormod—wel, y cwbl a feddai'r ysgrifennwr, ac ym mysg pethau eraill ei ddwy het yng ngwaelod y coffr. Y pryd hwnnw byddai pawb yn gwisgo het neu gap; a rhaid oedd mynd i brynu, neu fynd adref heb ddim am ei ben. Pa fodd bynnag, gorffennwyd yr erthygl yn ei phryd. Medrai Owen Edwards fraslunio'r rhannau olaf o draethawd tra fyddai yn ysgrifennu'r rhan flaenaf allan yn llawn-llanw a llunio ar unwaith. Bu ef a minnau am rai tymhorau'n mynd a thraethodau i'w beirniadu at y Peniadur Jowett. Ac ar un o'r boreuau hynny gwelais fy nghyfaill rai gweithiau heb gael amser i orffen ei draethawd, dim ond ei fraslunio; a pha beth a wnâi pan fyddai hi felly, ond deud y traethawd wrth yr Athro; ac hyd yr wyf yn cofio, un waith yn unig y cafodd ei ddal. Yr oedd ei siarad ef mor debyg i ddarllen: "Y llais a'r parabl lleddf," na wyddai'r Athro, gan amlaf, mo'r rhagor.

Dechreuodd bregethu pan yng Ngholeg y Bala; a daliodd i bregethu nes ymsefydlu'n Athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, pryd yr aeth y ddau waith yn ormod iddo. Ei gred ef, bid a fynno, ydoedd fod siarad a chynulleidfa o dipyn o faint yn lladd mwy arno na dim a wnâi. Yr oedd yn bregethwr tra chymeradwy. Fel y gallesid disgwyl, y wedd brydferth i'r gwirionedd a dynnai ei fryd ef y rhan amlaf. Cofir aml un o'i bregethau hyd heddyw,—"Y Balmwydden," "Gedrwydden," "Harddaf hefyd le fy nhraed." Ar y cyfan fe gytunai y rhan fwyaf fod disgrifiad hen chwaer grefyddol a chraff odiaeth, yn bur gywir am dano: "He lays a splendid table, but doesn't press it." "Bwrdd ardderchog, ond dim llawer o gymell." Eto, fe wnaeth rai pregethau a brofai y gallasai ragori mewn dull arall o bregethu. Er siampl, yr oedd ganddo un ar yr unfed ar bymtheg o Ezeciel-Pregeth y Tair Chwaer; a'r idea oedd, rhai wedi bod yn cyd-bechu yn cael eu cydgosbi a'u cyd-ddychwelyd. "Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt." Amlwg oedd y medrasai bregethu i'r gydwybod; ond â'r elfen gelfydd farddonol yn ei wrandawyr yr ymwnâi fynychaf, er bod amcan ymarferol ganddo bob amser.

Cafodd amryw alwadau yn fugail—un i Frederick Street, Caerdydd, un i Landderfel, a rhai heblaw hynny. A'r syndod yw, er bod pregethu Owen Edwards yn bregethu mor newydd, ac yn enwedig o newydd ym mhlith y Methodistiaid, fod hen flaenoriaid ceidwadol yn "dwlu arno," chwedl pobl y De.. Gwelais un yn dyfod ato unwaith, ac yntau ym mysg rhyw dri neu bedwar o honom, a gofyn iddo—" Owen Edwards, rowch chi gyhoeddiad yng Nghwm Tir Mynech?" Tynnodd Owen ei lyfr allan; ac ar hynny ailfeddyliodd y Blaenor. "Arhoswch," meddai, "mi ga'i 'ch gweld chi eto. Os gofynna'i i chi 'rwan, mi fydd raid i mi ofyn i'r rhein i gyd ": a ninnau, os gwelwch chi'n dda, 'n clywed y cwbl! Dyna'r sut bregethwr oedd Owen Edwards.

Cyn gado'r rhan yma o'i hanes byddai cystal crybwyll un peth neilltuol iawn ynddo. Ni fu bregethwr erioed a mwy o gydwybod ganddo yng nglŷn a'i ymddygiad mewn tai ar ei deithiau pregethu. Fel y gŵyr llaweroedd, yr oedd yn un o'r rhai difyrraf ei gwmni; ac os yr un, yn hoffach o gwmni merched nag o gwmni meibion; ond ni fu un amser ynddo ddim a barai i neb feddwl llai o weinidogaeth yr Efengyl. Ystyriai, a dywedai yn gyfrinachol, nad oedd hi ddim yn iawn i ddyn gymryd mantais ar ei goeddiadau pregethu, a'i gysylltiadau fel pregethwr, i ffurfio cyfeillach serch â neb. Ei syniad ef oedd, gan fod y teuluoedd yn ein croesawu ni i'w tai fel pregethwyr, nad oedd yn deg manteisio ar y cysylltiad hwnnw i gyrraedd unrhyw amcan arall pa mor anrhydeddus bynnag.

Am Owen Edwards fel llenor, y peth a'n synna ni fwyaf ydyw, mor llwyr yr oedd sylfeini'r llwyddiant mawr a gafodd, a'r dylanwad eithriadol a enillodd, wedi eu gosod pan oedd ef yn myned trwy'r athrofeydd. Os llenyddiaeth fyddai pwnc yr ymddiddan, efe fyddai enaid y cwmni. Yr oedd ganddo lygad dewin i ddyfod o hyd i drysorau llên. Yr oedd rhyw gyfaredd o ysbrydoliaeth o'i gwmpas, rhyw ddawn i'ch tynnu chwi heb yn wybod i'r un cywair ag ef ei hun. Cof gennyf fod pedwar neu bump o honom wedi mynd am dro hyd lethrau Moel Emol, ger llaw Llanfor, ac un o lyfrau Ceiriog gyda ni i'w ddarllen. Yr wyf yn cofio o'r goreu fod Tom Ellis yno, a W. S. Jones, y ddau ar eu gwyliau haf o Rydychen. Dyma sefyll neu eistedd mewn cornel lle y cyfarfyddai dau glawdd i gael tipyn o gysgod gwynt, a gosod Owen Edwards i ddarllen Ifan Benwan. Ac nid anghofiodd neb oedd yno byth mo'r hwyl pan ddaethpwyd at y pennill:

"I fyw yn gynnil hyd fy oes,
Medd Ifan, 'mi ofala;
Chaiff neb byth ddweud fod gennyf fi
Ddim mwy o gaws na bara.

"Ac yna torrodd slisen fawr,
A dododd honno'n isaf;
Ac wedyn torrodd slisen fach,
A dododd honno'n uchaf."

Ni wn i ddim hyd heddyw beth a barodd iddi hi dorri'n gymaint tymestl o chwerthin yn y fan yna ar y gân. Diau fod gwynt iach a'r cwmni llawen yn cyfrif peth am dano; ond darllen Owen Edwards oedd y peth mwyaf.

Dechreuai gynllunio at roi gwaith darllen i'r Cymry ym mhell cyn gorffen ei addysg ei hun. Pan yn Rhydychen yn fyfyriwr, anfonodd at John Ruskin. i ofyn ei gennad i gyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o dri o'i lyfrau ef. Rhyngodd ei lythyr fodd y dysgawdwr enwog yn fawr dros ben. "You have made me as proud as a peacock," meddai, "to find that there is some spirit left in Wales, not crushed out by manufactures and education. And your choice among my books has pleased me much." Nid wyf yn cofio'n sicr pa rai oedd y llyfrau. Tybied yr wyf fod y Crown of Wild Olives yn un, ac fe allai yr Ethics of the Dust yn un arall. Ond rhaid bod rhywbeth yn llythyr y bachgen a apeliai yn ddwfn at yr hen wron. Ni chafodd y llyfrau hynny mo'u cyfieithu ; ond yr oeddynt yn yr arfaeth.

Efe oedd ysbryd cynhyrfiol Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Nid oeddym yn ddigon hyffordd y pryd hwnnw i wybod mai Cymdeithas Ddafydd ap Gwilym a ddylasai ei henw hi fod. Nid nad oedd gan y lleill eu cyfraniad at fywyd y cwmni hwnnw; ond credaf y byddent oll yn eithaf bodlon i chwi ddywedyd mai'r "Arch-Dderwydd" oedd blaenor y symudiad. Fo ddysgai yn wir gan rai llawer llai nag ef ei hun; ond camp ac nid coll ynddo oedd hynny. Fo wyddai yn well na neb arall beth a fedrai'r lleill bob un ei wneuthur oreu; a champ fawr mewn arweinydd ydyw hynny. Efo oedd yr Ysgrifennydd cyntaf, fel y gwelir oddiwrth erthygl wych Llywelyn Williams yn y Welsh Outlook. Ond wrth fod yn ysgrifennydd cyntaf fe gafodd gyfle i argraffu ar y Gymdeithas ryw ystwythter a rhyw naturioldeb rhwydd, a chadwodd hithau ef, mi gredaf, trwy genhedlaeth ar ol cenhedlaeth o fechgyn. Buasai ambell i 'sgrifennydd yn siwr o ladd cymdeithas fel hon trwy dorri rhigolau rhy gaethion iddi weithio ynddynt. Pob. peth a ddywedai'r Ysgrifennydd hwn, fe dueddai i fagu rhyddid ac nid i'w fygu. Byddai ei gofnodiony rhai a anfonid i'r papur, braidd heb eu newid,-yn gyrru'r frawdoliaeth yn gandryll wrth glywed eu darllen yn y cyfarfod nesaf. Dywedasai un o'r bechgyn, a hwnnw'n bregethwr, un o'r bechgyn goreu o honom hefyd,-air yscaprwth, mewn tipyn o afiaith wrth glywed sylw mwy cyrhaeddgar na'i gilydd : "Go dda! ïe, byth o'r fan yma!" A dyma'r fel yr ymddangosodd y cofnod yn "Y Goleuad":

"Ar ol y sylw diweddaf cyfeiriai hwn a hwn mewn dull gwamal at ddydd sicr ei dranc." Yr oedd gan Owen Edwards y dalent ryfeddaf i agor llif-ddorau doniau pobl eraill, yn gystal a dywedyd pethau di-gyffelyb ei hun. Ar ol iddo ymadael i'r Cyfandir ar y daith y soniwyd eisoes am dani, fe welodd yn y papur Gywydd John Morris Jones, "Cwyn Coll am y Brodyr Ymadawedig." Yr oedd yr awdur wedi gadael heibio bedair llinell o'r Cywydd, am y tybiai y mae'n debyg eu bod yn grafiad rhy gignoeth i'w printio ar goedd gwlad. Yr un dyddiau ag y printiwyd y Cywydd heb y rheini, fe ddigwyddodd i minnau, yn fy niniweidrwydd arferol, yrru'r pedair llinell hynny i Owen Edwards mewn llythyr, fel siampl o ddoniolwch y Cywydd. Beth oedd yn y papur yr wythnos wedyn, o Geneva neu rywle pell arall, ond y pedair llinell atgas y barnasai yr awdur yn ddoeth eu diarddel. Daethant i fewn yn naturiol ddigon fel dyfyniad o'r llythyr a yraswn i. Bu'r direidi dihysbydd yma'n fywyd i'r Gymdeithas Ddafydd ac yn foddion i dynnu'r bechgyn allan hyd yr eithaf.

Oedd, yr oedd sylfeini gwasanaeth llenyddol Owen Edwards wedi eu gosod mor fore a hynny. O'r Gymdeithas yma o fechgyn yn yr ysgol y cododd yr Orgraff Ddiwygiedig y mae cymaint o son am dani—yr orgraff y bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ag arfer gair Anthropos, yn fam fedydd iddi,-yr orgraff a ddysgir heddyw i bob plentyn, ac na ŵyr y tô presennol o blant ddim fod yr un wedi bod ond hyhi. Yr oedd pethau eraill ar gerdded yr un pryd, at gyfoethogi a dyrchafu llenyddiaeth Gymraeg; ond trwy rai o fechgyn y Gymdeithas honno yr agorwyd ffordd i wneuthur ymchwiliadau John Rhys a llafur golygu Gwenogfryn Evans yn dreftadaeth cenedl gyfan. Llawer a fu o wawdio ar ymdrechion y llanciau di-brofiad hyn, a thipyn bach o rywbeth yn ymylu ar erlid; ond cyn pen y tair blynedd fe welid y gwawdwyr a'r erlidwyr yn efelychu castiau diniwed y bechgyn di-brofiad gosod rhyw air neu briodwedd, a gyfrifid yn ddigrif o hen neu yn ddigrif o newydd rhwng nodau dyfyn i ddechreu; ac yna, ym mhen tro neu ddau, ysgrifennu'r gair heb nodau dyfyn, a'i dderbyn yn y man yn gyflawn aelod. Wrth gwrs, yr oedd yn bur naturiol bod ar y mwyaf o helynt gyda'r pethau newydd hyn. ar y cychwyn. Ni welsoch chi beth newydd erioed na fyddai am ychydig ormod o helynt gan rywrai yn ei gylch-modur newydd gan gwmni masnach, phonograph newydd mewn teulu, offer tynnu lluniau am y pythefnos cyntaf. Ac os daw organ i gapel, odid na fydd yr organ wedi mynd yn degan gan rywrai; a'r unig feddyginiaeth i'r chwiw fydd bod y capel nesaf yn cael organ hefyd. Byddai defnyddio'r Orgraff Newydd yn ddeunydd hwyl gynt; ond nid oes hwyl yn y byd o'i defnyddio hi heddyw, am y rheswm syml fod braidd bawb yn ei defnyddio.

Am gyraeddiadau Owen Edwards fel dysgwr, nid rhaid ymhelaethu. Dywedai York-Powell, y Proffeswr Hanesiaeth ar ol hynny, mai Edwards oedd y bachgen cryfaf a welsai ef yn yr Ysgol Hanes trwy'r holl flynyddoedd y buasai yn Athro ynddi. Dyna farn gŵr o'r tu allan i Goleg Edwards ei hun. Clywais Beniadur presennol y Coleg hwnnw'n deud mai Edwards oedd yr unig ddisgybl a fu ganddo erioed, y teimlai ef na allai fod o ddim cymorth iddo. Ym mhen ychydig amser ar ol i Edwards ddyfod yn ol yn Athro, rhoes yr un gŵr res o bapurau o waith gwahanol fechgyn dieithr i Edwards, i'w beirniadu mor gyflawn a di-gêl ac y medrai; ac fe synnodd arno weled mor llwyr yr oedd ei gyfaill ieuanc wedi adnabod pob un o honynt oddiwrth ei waith. Perthynai Owen Edwards i Gymdeithas y Seminar Hanes, cymdeithas o raddedigion ac is-raddedigion. Cafodd y fraint. eithriadol braidd o ddarllen papur i'r Gymdeithas honno. Os nad wyf yn cam-gofio, yr oedd Hensley Henson, Esgob presennol Henffordd, yn perthyn iddi yr un pryd. Ni chymerai ran yn nadleuon yr Undeb, Cymdeithas boliticaidd y bechgyn; ond gwnâi ddefnydd mawr o Lyfrdy'r Undeb; ac ysgrifennai lythyrau yno beunydd a byth.

Hawdd fuasai coffau aml i ystori er dangos yr argraff a wnâi'r Cymro dawnus ar y cyffredin o Saeson yr Athrofa. Yr oedd difyrrwch di-ddiwedd iddynt yn y gymysgfa ryfedd oedd ynddo ef o ddireidi ac afiaith, hyd at ddibristod, ar y naill law, ynghyd a rhyw anian syml, wledig, Biwritanaidd, ar y llaw arall. Yr unig waith erioed i mi fod mewn theatr, digwyddodd i mi fod ym mraich bachgen o ddehendir Lloegr, oedd yr un fath a minnau heb fod mewn un erioed o'r blaen. Gofynnodd i Owen Edwards, a gyfarfu â ni rywle ar y ffordd, a oedd yntau'n mynd i weld yr actio. "Na," meddai Edwards, "fedra i ddim anghofio'r Salm Gyntaf."

II.

Nid syn fod Syr Owen mor gymeradwy fel Inspector, bod yr athrawon yn ei ddeall ef mor dda, ac yntau'n eu deall hwythau. Fe fu'n athro tra llwyddiannus ei hun ar amryw o risiau'r ysgol ddysg. Bu'n bupil teacher yn Ysgol Genhedlig Llanuwchllyn; yn Athro Cynorthwyol yn y Bala am flwyddyn; ac yn Athro yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, am bedair blynedd ar bymtheg-o 1888 i 1907. Yn gynnar yn y cyfnod hwn y priododd Ellen, merch y Prys Mawr geneth oedd yn ddihareb am ei phrydferthwch, a chyn hynoted a hynny, i bawb a'i hadwaenai'n dda, am rinweddau'i charictor.

Ni chefais ddim profiad personol o Owen Edwards fel Darlithydd. Diau ei fod yn ddifyr a chlir a chryno. Ond am ei deithi fel Athro Priod, Tutor, mi wn yn lled dda. Wedi bod yn gyd-ddisgybl ag ef am flynyddoedd, ces y fraint hefyd o fod yn un o'i ddisgyblion cyntaf yntau; oblegid cyn ac ar ol ei bennu yn Gymrawd o Goleg Lincoln, fe ddysgai fechgyn o amryw golegau eraill. Yr oedd rhyw elfen oddefol yn perthyn iddo fel athro, a'i galw hi felly o ddiffyg gwell enw,—rhywbeth yn ymylu ar gymryd arno mai'r disgybl fyddai yn ei ddysgu ef, ac nid efo yn dysgu'r disgybl. Deallais ym mhen blynyddoedd mai dyma oedd ei syniad ei am waith Athro—y syniad Socrataidd. Bum yn synnu lawer gwaith na fuasai yn fwy brwdfrydig ei glod i Lewis Edwards, ac yntau'n edmygwr mor fawr o Lewis Edwards fel tywysog y deffroad llenyddol yng Nghymru. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar y "Traethodau Llenyddol." Ond fe! athrawon soniai fwy lawer am Henry Jones ac Ellis Edwards, am Caird ac A. L. Smith. Dywedodd wrthyf unwaith nad oedd y Doctor ddim yn cynrychioli'r syniad am yr hyn a ddylai athro fod, nag am yr hyn a ddylai addysg fod,—bod ym mysg athrawon Cymru syniad gwell—syniad Watcyn Wyn—tynnu allan trwy addysg yr hyn oedd yn y disgybl, yn fwy na gosod terfyn i ffurf ei gynnydd--mewn gair, llai o ddisgyblaeth a mwy o ryddid. Y mae'r athro yno, nid i dorri llwybr i'r disgybl yn gymaint, ond i gael ei odro am bob cyfarwyddyd y clywo'r disgybl ar ei galon ei ofyn ganddo. Y mae hyn yna, bid sicr, yn gosod y pwnc yn foelach ac yn blaenach nag y gosodid ef gan Owen Edwards ei hun; ond y ffordd yna yn ddi-ddadl yr oedd ei osgo ef.

Llafuriodd yn ddyfai a diymarbed yn Rhydychen—cadw dosbeirth yn y prydnawn, yn gystal a bore a hwyr, peth nas gwnâi ond ychydig iawn o'r athrawon swyddogol,—dim ond ambell i athro priod a enillai ei fara trwy baratoi'r bachigyn at arholiadau neiltuol—y cerbydwyr, chwedl John Pritchard, Birmingham. Adwaenwn gyd—fyfyrwyr i Owen Edwards—ambell un go ddiffrwyth, ambell un arall aflêr gyda'i waith yn ei ladd ei hun o ddiffyg trefn. Fe fyddai tro yn y wlad am brynhawn yng nghwmni Edwards yn ddigon i roi brawd gwan felly ar ei draed am hanner tymor. Fe ddoi adref fin nos alond ei galon o ymroddiad i amgenach gwaith a diameu mai'r un anian o lywodraethai'r cyfaill pan ddaeth yn Athro wrth ei swydd. Cefais achos ysgrifennu ato rywbryd yn y cyfnod hwn dros ryw fachgen, heb fod yn perthyn i'w Goleg ef, oedd wedi colli tipyn ar y llwybr, a mynd dan gerydd gan yr awdurdodau. Mi hir gofiaf y drafferth a gymerodd a'r tiriondeb a ddangosodd mewn rhoi'r gŵr ieuanc ar y ffordd i ddyhuddo awdurdodau'r Coleg, a dyfod yn ol i lwybrau rhinwedd ac i gywair gwaith. Y mae'n ddirgelwch sut y medrodd wneuthur ei waith mawr a chyson yn yr Athrofa, a gwneuthur hefyd y gwaith llenyddol a wnaeth i Gymru. Nid anghofiodd am awr fod ganddo ysgol eangach na Rhydychen, fod cannoedd yng Ngwlad ei Dadau yn eistedd wrth ei draed ac yn yfed o'i ysbryd.

Am ran o'i dymor yn Rhydychen fe fu'n cynrychioli Sir Feirionydd yn v Senedd. Costiodd hyn yn ddrud iddo mewn llafur a lludded. Llawer gwaith y cafodd hynny a gafodd o gwsg yn nisgwylfa'r Orsaf Drên, er mwyn dal trên bore o Lundain—rhy blygeiniol gan bobl ei westy godi ar ei gyfer a dychwelyd at ei waith i Rydychen. Yr oedd syched am waith yn nwyd ynddo. Ond pennod rhwng cromfachau oedd pennod y Senedd. Dywedodd hen frawd o bregethwr—Thomas Dafis, Melin Barhedyn, beth gwir iawn wrtho unwaith. Gofynnai Owen iddo: "Oes gennoch chi ddim cyngor rowch chi imi, Tomos Dafis?" Ciliodd yntau gam neu ddau yn ol i gael ail olwg arno; ac meddai: "Paid byth a chwffio. Wnei di ddim cwffiwr." Tybed y gwyddai'r hen bererin gymaint o wir oedd yn ei ddeud?

Nid trwy ymladd y byddai Owen Edwards yn dangos ei wroldeb, ond trwy ddewis ei lwybr ei hun a glynu wrtho heb ofni na gwg na gwên. Osgoi brwydr a wnâi, y rhan amlaf, ond nid o gwbl oddiar lwfrdra, namyn am nad oedd brwydro ddim yn beth wrth ei fodd. herwydd yr elfen yma, ac o herwydd ei fod wedi ei alw at waith mwy, ni chyrhaeddodd ef mo'r enwogrwydd a enillodd rhai o'i gydwladwyr mewn politics. Mewn gair, nid oedd na champ na rhemp gŵr plaid yn perthyn iddo.

Ond er nad oedd ymladd yn perthyn i'w ddawn, medrai ladd ambell i ffolineb yn fwy effeithiol na thrwy ymladd. Medrai wawdio'n ddeifiol; ac nid yn aml y gwelwyd ef yn troi min ei watwareg ar ddim nad oedd yn haeddu'r driniaeth. Adroddir ei fod yn beirniadu mewn eisteddfod leol ym Mhwllheli. Un o'r testunau cystadlu oedd, "Enw Newydd ar Bwllheli."

Yn lle gwobrwyo'r goreu, fe gymerth fantais ar yr amgylchiad i ddangos ffolineb y rhai a osodasai y fath destun. Y feirniadaeth hon a fu'n wasanaeth claddu i'r idea honno: hi ddarfu am dani o'r dydd hwnnw allan. Y mae pawb yn cofio colofn yr ateb cwestiynau yn hen gyfrolau'r "Cymru,"—y Golygydd ei hun, yn ddigon aml, wedi dyfeisio'r cwestiwn er mwyn cael ei ateb; ac nid ychydig o bethau dwl a ddiffoddwyd yn y dull esmwyth yma. Dyma siampl ar antur o "Gymru " Hydref, 1902:-"Athro—'Nis gwn beth yw'r achos fod y Cymro'n ddi-asgwrn-cefn,' Gwyddoch o'r goreu. Chwi yw un achos."

Yn ol ysgrif ddawnus fy nghyfaill Llywelyn Williams, bwriad Syr Owen ydoedd noswylio'n gynnar ac ymroddi i waith llenyddol. Ond daeth galwad newydd. Pennwyd ef yn brif Inspector ar Gymru. Mynych y cwynir nad yw swydd a dawn ddim yn taro'i gilydd; ond dyma, beth bynnag, gyd-darawiad hapus ryfeddol o'r ddau. Am unwaith fe ddaeth y goron ar ben y gwir dywysog. Prin y bu penodiad erioed yn gorwedd yn esmwythach ar deimlad yr athrawon o bob maint a gradd. Yr oedd y tir wedi ei baratoi trwy ei lafur llenyddol ef, yr athrawon ac yntau eisoes ar yr un llinyn. Fe ymroddodd i'r gwaith mewn amser ac allan o amser. Fe weithiai Sir Feirionydd ei hun am flynyddoedd, fel y fferm o gwmpas plas y gwr-bonheddig, heb is-ymwelydd dano i gymryd dim o'r llafur oddi ar ei law. Gan yr athrawon ystyrid ef megis tad; a phan lesmeiriodd y banerwr hwn, nid ychydig o honynt a deimlodd eu bod wedi colli, nid tywysog yn unig, ond câr agos a ffrind. Vr unig beth y mae llawer yn gresynnu am dano yw, na chawsid ym myd addysg Gymreig yr hyn a alwodd Lloyd George mewn cysylltiad arall yn Unity of Command. Pa bryd y down ni'n ddigon call i osod holl gylch addysg Cymru dan un gyfundrefn o arolygiaeth? A phed anturiasid ar hynny yn nydd Syr Owen, nid llai o ryddid i athrawon neilltuol a fuasai, nac o amrywiaeth ym mysg yr ysgolion, ond mwy.

Yng nghyfnod ei waith fel athro yn Lincoln hwyliodd a golygodd amryw gylchgronau "Cymru Fydd" ynghyd a R. Humphreys Morgan; "Cymru"; Cymru'r Plant"; "Wales"; "Heddyw"; a'r "Llenor." Golygodd hen lyfrau, megis Geiriadur John Davies o Fallwyd. Ysgrifennodd amryw ei hun o rai newyddion, a hwyliodd eraill:—"Tro yn yr Eidal," "Geneva," "Llydaw," "Robert Williams o'r Wern Ddu," "Ap Fychan," ac amryw o lyfrau plant. Gwelir nad yw fy rhestr yn agos i gyflawn. Ychydig flynyddoedd cyn hynny, anodd fuasai cael llyfr Cymraeg o faintioli cymhedrol i'w roi'n fenthyg i'r claf yn yr Ysbyty. Wedi iddo ef ddechreu llafurio yr oedd digon o ddewis. Y dydd o'r blaen gofynnid i mi dynnu allan restr o lyfrau plant i'w hargraffu i ddeillion. Gofynnais am gyfarwyddyd i ŵr pur hyffordd. Llyfrau Owen Edwards oedd y rhai cyntaf ar y rhestr honno; a chlod ac nid anglod iddo ef oedd bod yno weithiau rhai eraill lieblaw ef; oblegid prawf oedd hynny ei fod ef wedi llwyddo i gychwyn cyfnod. A dyna'r fel y bu hi gyda'r rhan fwyaf o'i waith ef. Blaenffrwyth ydoedd o gynhaeaf toreithiog.

Geilw Mr. Richard Morris Syr Owen yn "broffwyd"; ac yr oedd felly, yn broffwyd yn yr ystyr a roddai Thomas Roberts Jerusalem i'r gair. Dywedai ef fod proffwyd yn rhagfynegi, am ei fod yn gweld hadau'r dyfodol yn y presennol. A'i adnod ef ar y pwnc fyddai honno: "Traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan." Dyna waith proffwyd-dehongli ci bywyd i genedl cyn bod y genedl i gyd yn ymwybodol o hono. Beth ynte oedd cenadwri'r proffwyd hwn, a ddehonglodd Gymru i Gymru? Mai neges gyntaf Cymro yw bod yn Gymro o ddifrif. Felly y gall Cymro fod o fwyaf o wasanaeth i'r byd, trwy fod yn Gymro. Nid oedd dim culni yn Owen Edwards, dim swcro hunanoldeb cenhedlig. Gwelsom amser na fyddai ef byth yn colli cyfle i roi colyn i'r teimlad hwnnw. Ni fyddai byth yn blino tywallt dirmyg ar y ddefod bapur newydd, a fyddai yn dra chyffredin gynt, o gyhoeddi llwyddiant rhyw laslanc yn y Preliminary Pharmaceutical, o dan y teitl, "Dyrchafiad i Gymro." Ond trwy fod yn Gymry, ac nid yn gopi o genhedloedd eraill, y gall Cymro a Chymraes wasanaethu eu cenhedlaeth a chyfrannu y peth a ymddiriedwyd iddynt hwy at gyfoethogi dynol ryw. Pregethodd yr athrawiaeth hon mewn llawer ffordd.

Pan oedd ef yn ifanc, yr oedd hi'n dymor, chwedl Emrys ap Iwan, o ail-ddechreu Cymraeg; ac Edwards a wnaeth fwyaf i wneuthur y Gymraeg newydd yn ffasiwn. Yn hyn yr oedd ef yn fawr yn anad neb o'i gyd-lafurwyr-mewn medru creu ffasiwn. Yr oedd y peth a wawdid gynt fel Cymraeg plwy', Cymraeg Rhydychen, Cymraeg Llafar Gwlad, yn bod ar hyd yr amser. Cadwesid y traddodiad am dano'n fyw yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyfnod sych, diffrwyth, ar yr iaith Gymraeg-gan Nicander a John Mills; a chyhoeddasid anathema gan Lewis Edwards ar y Cymraeg gosod a ddygasid i mewn dan ddylanwad Pughe a Gwallter Mechain. Ond rywsut fe ddaliai pobl i 'sgrifennu Cymraeg gosod, Cymraeg gwahanol i'r hyn a siaradent, er gwaethaf yr holl gondemnio oedd arno; a daliai'r papurau newyddion i efelychu priodweddion estronol. Owen Edwards a wnaeth fwyaf i greu'r ffasiwn sydd ar Gymraeg heddyw. Nid dywedyd yr wyf mai efe a wnaeth fwyaf i sefydlu'r briodwedd na'r orgraff. Bu gan eraill, ac y mae gan eraill heddyw, law cyn amlyced ag yntau yn y gwaith hwnnw; ond efo a wnaeth fwyaf i wneuthur y peth yn ffasiwn. Y mae'r cyfnewidiad heddyw mewn newyddiadur a chylchgrawn yn ddirfawr. Yr oedd llyfrau a phregethau heb golli'r traddodiad o symledd clasurol; ond naw wfft i bapurau newyddion deugain mlynedd yn ol! Y maent heddyw'n darllen fel gwaith rhai yr oedd ysgrifennu Cymraeg yn beth annaturiol iddynt. Teimlai llawer er's talm mor wrthun oedd y Cymraeg anghymroaidd hwnnw oedd mewn bri gynt. Pan yn rhyw fachgennyn mi glywais ddadl wrth y bwrdd rhwng rhai o weinidogion y Methodistiaid—Thomas Owen, Porthmadog, ac Evan Jones, ac eraill ar y cwestiwn, ai "mwyrif" ynte "mwyafrif" oedd y gair goreu am majority? Dyfynnu "mwyrif" yr oeddid fel enghraifft eithafol o Gymraeg gwneuthur; ac fel hyn y crynhôdd Evan Jones ffrwyth y drafodaeth: Yr ydw' i 'n dal fod arfer gwlad yn ddeddf yn y pwnc yna." Ond er bod llawer, hen yn gystal ag ifanc, yn gweld gwrthuni'r Cymraeg gosod, Owen Edwards a wnaeth fwyaf i'w ladd ef. O ganlyniad, daeth ysgrifennu Cymraeg o fod yn grefft gudd i'r ychydig yn waith rhwydd i'r lliaws. Mewn merched y gwelwch chi'r gwahaniaeth. Hwynt—hwy, debyg, ydyw cludyddion goreu pob defod, nid am eu bod yn waseiddiach na'r meibion, ond am eu bod yn fwy byw i gipio popeth fyddo'n mynd. Y merched ddaw a'r ddefod o siarad Saesneg i fewn i ardal Gymraeg. Hwynt-hwy bob amser fydd yn penderfynu ffiniau'r gwahanol raddau sy'n perthyn i gymdeithas, pwy sy'n bobl fawr a phwy sy'n bobl fychain. Ac yn y merched y gwelwch chi'r cyfnewidiad hwn. Ffrwyth cyntaf addysg uwchraddol i ferched yng Nghymru oedd peri na fyddai'r un ferch braidd byth yn ysgrifennu llythyr Cymraeg os medrai hi 'sgrifennu Saesneg. Dyna'r fel y byddai hi, yn bendifaddeu, rhwng 1870 ag 1890. Heddyw chi gewch gystal llythyr Cymraeg gan ferch a chan fab; a pho oreu addysg y ferch, goreu oll fydd ei Chymraeg.

Owen Edwards hefyd a biau lawer iawn o'r clod am ledu cylch darllenwyr Cymraeg. Ni synnai dyn ddim nad barn yr hanesydd fydd, mai Daniel Owen oedd ei brif gydymgeisydd ef yn y gwaith hwn. Rhaid temtio pobl i ddarllen; ac er bod llawer un wedi 'sgrifennu pethau rhagorol yn Gymraeg yn y genhedlaeth hon, y ddau hyn a wnaeth fwyaf o bawb i demtio'r Cymry i ddarllen Cymraeg. Ond heblaw hynny, cafodd Owen Edwards gyfle swydd i wneuthur peth nas cafodd neb arall yr un fantais i'w gyflawni. Fe ddaeth ef i'w swydd fel Inspector pan oedd y clefyd a adweinid fel "Cymru Fydd" yn ei boethder. Yr oedd yr un anian yn John Rhys. Byddai yntau yn siarad Cymraeg â'r plant. Buasai yntau yn Inspector Ysgolion; a chydymdeimlai yn drwyadl â'r breuddwyd o gael Cymru eto yn gartref Cymraeg a nythfa i fywyd hollol Gymreig ; ond daeth ei weinidogaeth ef fel Inspector yn rhy gynnar i greu defod. Hau ei ideas mewn drain yr oedd, lle'r oedd Owen Edwards, o'r tu arall, wedi braenaru braenar cyn dyfod i'w swydd. Yr oedd yr amseroedd yn barod weithian i gael ysgolion ar batrwm mwy Cymreig.

Y mae Cymru wedi dioddef er's cenedlaethau oddiwrth yr anffawd o fod ei chynddelw hi yn Seisnig i fesur mawr. Gwnaeth yr hen ysgolfeistri waith ardderchog yn ddiau yn eu dydd. Yr oedd rhai o honynt, yn y Capel, ac yn eu cartrefi, yn hen Gymry trwyadl; eithr fel athrawon yr oeddynt eto heb ymysgwyd oddiwrth y syniad mai'r ffordd i wneuthur Cymro yn ddysgedig a diwylliedig oedd ei wneuthur mor debyg ag oedd bosibl i Sais. Ac am yr ysgolion genethod, yr ysgweier o'r patrwm Seisnig oedd eu cynddelw hwy o ŵr bonheddig; a gwraig y Plas a gwraig y Person oedd perffeithrwydd gweddeidd-dra mewn gair ac ymddygiad. Nid ydym wedi llwyr esgor y clefyd yma eto; ond yr ydym filltiroedd ym. mlaen o'r lle yr oeddym ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr ydym yn dechreu gweld fod gan Gymru hithau ei bathau o ddiwylliant, a'i chynddelwau o 'mddygiad boneddigaidd. Gwir nad yn y plasty y ceir hwynt, namyn ym mhlith y ffermwyr mwyaf goleuedig, a'r masnachwyr a'r crefftwyr darllengar; ond y maent yn bod. Pa eisiau i ni fynd ar ofyn dosbarth a'n llwyrwadodd ni am gynddelwau o fywyd diwylliedig a bonheddig? Pob parch i'r hen ysweiniaid a'u llediaith Saesneg. Hwy wnaethant waith gwerthfawr am dymor maith. Bydd ar ddyn ias o hiraeth am rai o honynt heddyw, wrth gofio pa beth a gawsom ni yn eu lle hwy. Beth a feddyliasai Tom Ellis, tybed, o'r to presennol o aelodau Seneddol Cymreig, yn sychedu am swyddi a manteision eraill, a rhyngu bodd y Llywodraeth ar y pryd wedi mynd yn grefydd ganddynt? Ie,'n wir, beth a feddyliasai Mr. Lloyd George yn ei ddyddiau goreu o beth fel hyn? Na, yr oedd hen ŵr bonheddig na wnaeth araith a dim llun arni erioed, yn anaws ei brynu na'r rhai hyn. Ond er gwerthfawrogi pob rhagoriaeth a berthynai i'r hen foneddigion, nid gwiw gwadu nad ŷnt wedi colli pob hawl i fod yn batrymau i'n bywyd cymdeithasol ni. Y maent wedi ymestroni oddiwrthym; a chyn y dechreuom eu hefelychu yn eu defodau, rhaid fydd eu cael hwy yn ol at y patrwm Cymreig. Ond hyd yn ddiweddar, nid oedd gennym ni ddim cynllun o fywyd bonheddig ond teuluoedd a luniasent eu harferion wrth batrwm estronol. Y mae'r gwahaniaeth yn yr ysgolion yn fawr erbyn hyn. Nid yw ddim llai na'r peth a alwai Thomas Williams o'r Rhyd-ddu yn "nefoliwsion." Wrth reswm y mae rhai ysgolion ar ol mewn peth fel hyn. Clywais am ysgol yn ddiweddar iawn lle na chaniateir i ferched v capeli ddilyn y gwasanaeth a hoffent fwyaf. Ac heb law bod gorfod arnynt i fynd i'r Eglwys Esgobaethol, gyrrir hwynt i gyd i'r Odfa Saesneg,-i un Eglwys yn y bore, ac i un arall yn yr hwyr-newid yr Eglwys er mwyn i'r plant gael Saesneg a dim ond Saesneg. Na, a siarad yn ddynol, ni chafodd Syr Owen ddim byw ddigon hir, onid e ni chawsai peth fel hyn ddim byw yn hwy nag

Ac o deithi cenedl y Cymry nid oedd dim amlycach yn Owen Edwards na'i ffyddlondeb i'w chrefydd hi. Beïid ef weithiau gynt am roi pregethu heibio ond dylid cofio un neu ddau o bethau wrth feirniadu y rhan honno o'i hanes. Yn un peth, o'i anfodd y dechreuasai bregethu, a thrwy daer gymell, fel na ellir ei gyhuddo ef o ddefnyddio'r pulpud yn ris i gyrraedd dim byd arall trwyddo. Peth arall, ni throes mo'i gefn ar ystyr ac amcan y Weinidogaeth wrth roi ei gwaith uniongyrchol hi heibio. Gwir y bu cyfnod, pa hyd nis gwn yn sicr, pryd yr oedd ei weithgarwch crefyddol yn llai nag y buasai cynt, ac nag y bu wedyn -ei weithgarwch eglwysig felly; ond ni phallodd mo'i ffyddlondeb i draddodiadau crefyddol ei genedl, na-ddo un awr. Credai fod crefydd yn gyffredinol, a chrefydd yn yr ystyr neilltuol hefyd-Crefydd Iesu Grist yn rhan hanfodol o hanes Cymru, ac yn hanfodol i ragolygon Cymru Fydd. Dilynodd y ddefod Gymreig (dyma un peth nas hudwyd ni gan esiampl y Sais i'w roi heibio) o gadw lle amlwg i grefydd fel i agweddau eraill bywyd, yn ei holl ymwneuthur â hanes ac â dysg. A phe bâi eisiau prawf o'i ffyddlondeb hanfodol ef i grefydd ei dad a'i fam, cofier ddarfod iddo roi cryn lawer o'i ynni yn niwedd ei oes i'r Ysgol Sul; a gwasanaethodd swydd Blaenor yn y blynyddoedd diweddaf hefyd. Ac ar hyd yr amser, o byddai eisiau cynorthwyo'r Gweinidog, ni fyddai neb parotach nag Owen Edwards. Mewn gwirionedd, ni chefnodd ef ar y Weinidogaeth wrth gilio o'r pulpud, ond cario anian y Weinidogaeth i fyd llenyddiaeth.

Ond y mae'n bryd gofyn bellach, beth oedd ei gymwynas fawr ef â mudiad Cymru Fydd. Y mae rhai o'i gyd-weithwyr yn y deffroad Cymreig yn fwy o spesialistiaid nag ef. Y pethau yr oedd ef yn specialist ynddynt, pethau yw'r rheini y mae ei waith ef ynddynt heb ei gyhoeddi. Credaf y daliai peth o hono'i gymharu â'r gwaith goreu yn yr un meusydd sydd yn y farchnad heddyw. Dyna'r tri thraethawd yr enillodd wobrau arnynt yn Rhydychen, a rhai o'i draethodau tasg yn y gwahanol athrofeydd,-credaf y gwnâi ei blant garedigrwydd a'u cenedl ac â'r byd ped argreffid hwy, neu ddetholiad o honynt. Er darfod ysgrifennu llawer o honynt yn lled frysiog, y mae dawn yr Awdur ynddynt oll: a chyrhaeddodd rhai o honynt dir uchel iawn mewn addfedrwydd a chyflawndra. Ni wn i ddim a oes rhyw beth cystal heddyw, o waith unrhyw Brydeiniwr, a'i waith ef ar y Diwygiad Protestanaidd yn Ffrainc,-y traethawd gwych hwnnw y barnwyd ef yn oreu arno, ond nas cafodd y wobr o ddeugain punt am dano, am ei fod eto heb ddigwydd mynd trwy'r seremoni o dderbyn ei radd. Ond gwaith mwy cyffredinol, gwaith nad oedd yn faes cyffredinol iddo ef mwy nag eraill, ydoedd llawer o'i waith llenyddol ef. Pa le ynte yr oedd ei ragoriaeth arbennig ef? Beth a osododd ei wlad o dan fwyaf o ddyled iddo fel llenor? Os rhaid enwi un peth mwy na'i gilydd, credaf mai hwn-cadw'r hen a'r newydd ym mywyd Cymru yn un. Perygl oedd iddynt ymestroni i'w gilydd. Y mae galw ym myd llen, yn gystal ag mewn cysylltiadau uwch, am ryw Elias i droi calon y tadau at y plant, a chalon y plant at y tadau; ac ef, fwy na neb arall, a wnaeth hynny.

Os dywed rhywun mai perygl dychmygol y gwaredodd Owen Edwards ni rhagddo, nid rhaid iddo fynd ym mhell i edrych am arwyddion fod y perygl yn bod i raddau eto. Un o'r helyntoedd llenyddol ddechreu haf 1920 oedd beirniadu "Blodeuglwm" y Proffeswr W. J. Gruffydd. A'r feirniadaeth nid oes a wnelom yn awr. Y pwnc y munud yma yw yr ysbryd y cynygid y feirniadaeth ynddo, a'r ysbryd y derbynnid hi o ran hynny hefyd, sef ysbryd her rhwng dwy garfan. Ymosodid ar Mr. Gruffydd, nid ar ei deilyngdod noeth yn gymaint, ond fel cynrychiolydd ysgol newydd. A'r peth sy'n groes i'r graen gan rai yn ei atebiad yntau i'r feirniadaeth ydyw, ei fod yn lled-ameu hawl rhyw feirniaid i feirniadu o gwbl. Ac yng "Ngheninen Gorffennaf y mae araith o waith fy nghyfaill a'm hathro gynt, Llew Tegid. Baich honno yw bod yr ymdrech i wneuthur trefn ar yr iaith Gymraeg wedi peri i lawer betruso ysgrifennu Cymraeg, gan nas gwyddant pa le y maent. "Pwy ydw' i? Os y fi ydw' i, yr wyf wedi colli ceffyl. Os nad y fi ydw' i, yr wyf wedi cael trol.'" Nid oedd neb cymhwysach i roi gyngor oddiar y Maen Llog ar y mater hwn na Llew Tegid; oblegid nid ameu neb nad yw ef mewn llwyr gydymdeimlad â phob gwasanaeth a wnaed ac a wneir i lenyddiaeth Gymraeg gan yr Ysgol Newydd. Ond y mae perygl i'r hen a'r newydd fynd yn ddwy garfan, ac yr oedd perygl ugain mlynedd yn ol yn fwy. Naturiol iawn oedd i'r gwahaniaeth rhwng yr hen a'r newydd gael ei fwyhau gan y ddwyblaid. Yr oedd y fath drafferth efo'r orgraff, fel y teimlai rhai a fagesid dan drefn wahanol fod y gwahaniaeth yn fwy nag ydoedd. Ac wedyn fe anghofiai pleidwyr Cymreig Emrys ap Iwan a Chymraeg Rhydychen, nad oedd y defodau a ddilynent hwy fawr amgen na chanlyn ym mlaen ar beth a gychwynasid gan rai yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Wilym Hiraethog, a Nicander, a John Mills—mynd yn ol, mewn gwirionedd at safonau clasurol yr iaith. Gwyddai bechgyn y Cymraeg Newydd hyn yn burion; ond yr oedd yn bur hawdd ei anghofio. Felly y bydd plant y diwygiadau bob amser-meddwl, yng ngwres eu cariad cyntaf, nad oedd dim llun o Grefydd yn y byd nes eu dyfod hwy i'w hadferu hi. Yr un fath yr oedd plant y diwygiad llenyddol. Fe faddeu haneswyr y dyfodol iddynt wrth weld y cyfnewidiad iachus a barasant. Y mae'r rhagor rhwng Cymraeg papur newydd yn 1920 a Chymraeg papur newydd yn 1880 fel bywyd o feirw. Ond y pwnc yn awr yw bod perygl i'r hen a'r newydd syrthio allan, ac i'r traddodiad llenyddol gael ei dorri.

Er nad ydys wedi llwyr esgor y perygl yma, ar y cyfan y mae wedi peidio a bod yn gymaint perygl ag y bu. Digon o braw fod yr hen a'r newydd er's cryn ysbaid bellach, wedi dechreu deall ei gilydd, yw program yr Eisteddod. Cymysgfa iachus a welwn ni yma—yr eisteddfodwr hen ffasiwn yn cydeistedd i feirniadu â'r ysgolhaig, yr astudiwr hyffordd yn yr hen awduron yn cydweithio â'r astudiwr nad yw ei derfyngylch lenyddol fawr pellach yn ol na dechreu'r ganrif o'r blaen. Yr wyf yn tueddu yn bur bendant, nes cael rhagor o oleuni, i briodoli'r elfen gatholig hon i Syr Owen, nid yn unig, ond yn bennaf o lawer iawn. Cymerer ar antur ddau rifyn neu dri o'r "Cymru" bymtheg neu ddeunaw mlynedd yn ol. Dyma rai o'r ysgrifenwyr oedd gan Owen Edwards y pryd hwnnw : David Lloyd Jones, William John Parry Coetmor, Elis o'r Nant, Winnie Parry, William Williams, Glyn Dyfrdwy, W. T. Ellis, Glaslyn, Tecwyn (sef Griffith Tecwyn Parry y mae'n debyg), R. E. Rowlands, M.A., Robert Bryan, Gwyneth Vaughan, Elfed, Richard Morgan, O. G. Williams (Gaiannydd), mi goeliaf), Defynnog, Wyn Williams, Carneddog, W. J. Gruffydd, T. Gwynn Jones, Elfyn, Anthropos, Iolo Caernarfon, Dyfnallt, Daniel Davies y Ton. Dyma'r golygydd mwyaf catholig ei chwaeth y gwn i am dano. Y mae pob ysgol, pob oedran, pob rhyw, pob math of ddawn, pob graddau o ddysg, ym mysg ei gynorthwywyr. O ran rhestr ei gyfranwyr nis gwyddech i ba ysgol y perthynai ef ei hun. Ymddengys hefyd fod croesawu'r amrywiaeth yma yn ei gylchgronau yn bolisi ganddo. Pan ddaeth y rhifynnau cyntaf o'r "Beirniad" allan, dan olygiaeth ei gyfaill John Morris Jones, dywedai rywbryd mewn ymddiddan, wedi cryn lawer o ganmol ar y cylchgrawn newydd : "Cyfyngu ei hun braidd yn ormod y mae o i lenorion. Dywedasai llawer, ond odid, fod Owen Edwards ei hun yn methu trwy syrthio i'r eithaf arall croesawu pobpeth â rhyw flas Cymreig arno. Ond pa waeth am hynny? da oedd i rywun fethu ar y tu hwnnw i'r llwybr. Bu ei gatholigrwydd rhyddfrydig ef—er darfod iddo weithiau roi benthyg pulpud i ambell i bregethwr sal—yn foddion i gadw nerthoedd llenyddiaeth Cymraeg efo'i gilydd ; a chymwynas fawr oedd hynny.

Nid anfantais i gyd oedd i Owen Edwards ddyfod yn ol i Gymru trwy Loegr. Yr wyf yn cofio clywed Thomas Wheldon yn dywedyd mai peth da iawn i Gymro oedd mynd am dymor i Loegr. Dyna a wnawn innau, pe cawn i ddechreu eto," meddai. "Mi feddylith ffyliaid fwy o honoch chi; a feddylith pobl gall ddim llai." Cafodd Owen Edwards y fantais hon oddiwrth ei waith yn bwrw rhyw ddeunaw mlynedd. fel athro yn Rhydychen; ond cafodd fantais fwy. Cadwyd ef allan o bob miri enwadol ac eisteddfodol. Nid oedd yn ddigon agos atom i fagu gelynion, ar y naill law; ac nid oedd ganddo chwaith dyrfa newynog o ddilynwyr yn disgwyl ffafrau. Felly, rhwng y naill beth a'r llall, ac, yn bennaf dim, o herwydd ei anian gatholig ei hun fe'i cadwyd ef yn annibynnol ar bleidiau,a thorrodd lwybr iddo'i hun. Wrth hwylio ar gyfer yr Yrfa Gychod flynyddol rhwng y ddwy hen Athrofa, Rhydychen a Chaergrawnt, bydd y bechgyn yn y cwch, a'r athro sy'n eu hyweddu hwy at yr ymdrech ar y lan ac yn canlyn min yr afon ar ei geffyl. Felly y byddai hi gynt beth bynnag. A gwych o beth yw bod arweinydd addysg cenedl yn glir â'i mân helyntion hi, ond iddo fedru cadw yng nghyrraedd ei bywyd hi yr un pryd, a than ddylanwad ei dyheadau hi o ddydd i ddydd. Yr oedd Owen Edwards, yn ei gyfnod tyfu, yn ddigon pell i fod yn annibynnol, ac yn ddigon agos i wybod beth oedd yn mynd ym mlaen. Trist meddwl fod y fath gyfoeth o ddoniau a gwybodaeth wedi ei gloi i fyny pan ddibennodd Syr Owen ei yrfa fis Mai 1920, yn 61 oed. I'n golwg ni buasai ei gael ef am bymtheg neu ugain mlynedd yn rhagor yn gymwynas amhrisiadwy. Yr oedd ei waith ef fel tywysog ym myd addysg yn gyfryw ag y gallesid ei gyflawni heb lawer o ddiffyg ym mlynyddoedd henaint. Gall masnachwr fyw yn rhy hir er lles ei fasnach. Gall gweinidog fyw yn rhy hir er lles ei eglwys. Ond am ŵr o safle Syr Owen Edwards, gallasai ei gyngor fod o werth mawr am flynyddoedd ar ol iddo gilio o'r gwaith caletaf; ond yr oedd ei oes gymharol fer wedi gwneuthur llawer iawn at weddnewid llenyddiaeth. genedl, ac wedi estyn oes yr iaith Gymraeg. Gosododd Gymraeg a chynddelwau Cymreig ar dir yn yr ysgolion nas cilir mwy yn ol o hono; oblegid fe fagodd Syr Owen dô o ddisgyblion na adawant i'w waith ddatod. A'r cyfnewidiadau mawr a wnaeth fe'u gwnaeth hwy heb dynnu pobl yn ei ben fwy nag oedd raid, ac yn enwedig heb gyfyngu bywyd Cymru trwy unrhyw fath ar gulni naillochrog, heb golledu'r dyfodol o unrhyw gyfraniad o werth yn ei bywyd amrywiog hi. Mwy ac nid llai fydd ei glôd fel y treigla blynyddoedd dros ei goffadwriaeth; oblegid er cymaint a fedodd ar ffrwyth yr oesau o'r blaen, yr oedd yn fwy o heuwr nag ydoedd o fedelwr. Yr oedd yn fawr ei barch gan y Saeson. Pan giliodd o Rydychen i fynd yn Inspector, dewiswyd ef yn Gymrawd o ran Anrhydedd o Goleg Lincoln, rhagorbarch y teimlai ef ei hun yn eithriadol falch o hono.

Adnabu ddydd a nos yn ystod ei yrfa yr ochr yma i'r llen. Profedigaeth y bu yn hir yn ei chefnu oedd colli ei gyntafanedig; a phrofedigaeth nad ymunionodd o honi oedd colli ei briod ryw flwyddyn go helaeth cyn ei ymadawiad yntau. Arferai ddywedyd gynt, rhwng difrif a chware, mai ei ddymuniad fyddai cael rhywun i ganu "Toriad y Dydd" pan fyddai ef yn marw. Pa fiwsig a glywodd ar awr ei ymadawiad nis gwyddom; ond i fyd yr âeth lle mae'r holl fiwsig yn fiwsig toriad dydd; canys ni bydd nos yno." Ac er na chafodd fyw cyhyd ag y carasem ni iddo gael, cafodd fyw'n ddigon hir i weled dydd wedi torri ar addysg ei wlad.

[Y Geninen, Hydref, 1920, a Ionawr, 1921.]

Nodiadau[golygu]