Neidio i'r cynnwys

Ysgrifau Puleston/Y Parchedig Thomas Roberts, Bethesda

Oddi ar Wicidestun
Y Cynnwys Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Syr Owen Edwards

I

YSGRIFAU COFFA

AC ADOLYGU

I

Y Diweddar Barchedig

THOMAS ROBERTS, BETHESDA

BLWYDDYN brudd i Fethodistiaid y Gogledd ydoedd 1899. Collasom amryw o wyr pur anodd eu hepgor. Yn eu mysg nid oes yr un ag y mae'n anaws dweyd i bobl ddieithr ddeall, pa fath ydoedd, na Mr. Thomas Roberts. Er y bu lluniau da o hono o ran ei gorff, yn y papurau, y mae llun ei feddwl yn anodd iawn ei dynnu; ac eto nid oes neb a adawodd groewach argraff o'r hyn ydoedd ar bawb a'i hadwaenai yn dda. Dichon ei fod yn anodd ei bortreadu'n deg, am fod ei hanes yn cyfrif llai na chyffredin am hynodion ei gymeriad a theithi ei feddwl, yr hyn sydd brawf eglur o ddoniau cynhennid y dyn. Mewn dyddiau fel y rhai hyn, pryd yr ymddigrifir mewn dangos dyn yn gynnyrch ei amgylchiadau, peth amheuthun yw gweled gydag ambell un fod Rhagluniaeth wedi cadw'r gyfrinach iddi ei hun am y sut a'r modd y bu hi'n cuddio cryfder ynddo.

Brodor oedd Thomas Roberts o'r Green, pentref bychan yn ymyl Dimbech. Ganwyd ef Awst 19, 1835. Bu farw John Roberts, ei dad, pan oedd y bachgen yn dair oed. Efe oedd unig blentyn y briodas honno. Llafurus iawn a fu ei fam, Jane Powel Roberts, i ennill bywoliaeth a rhoi ysgol iddo yntau, trwy olchi a smwddio i foneddigion y gymdogaeth. Ym mhen blynyddoedd priododd eilwaith. Bu'n weddw drachefn; a bu fyw i weled ei mab ym mhlith arweinwyr ei Gyfundeb. Nid anghofiodd yntau hyd y diwedd mo'i ddyled iddi.

Pa fodd i gael ysgol iddo yn ei flynyddoedd cyntaf oedd gryn gwestiwn, gan fod y Bluecoat School, yr ysgol rad, yn gorfodi ei phlant i fynd i'r Eglwys unwaith bob Sul. Ymdrechodd ei fam ddigon i yrru ei bachgen i ysgol arall, a gedwid gan Jonah Lloyd, pregethwr gyd a'r Annibynwyr. Pan ddaeth blynyddoedd y prinder a fu o flaen diddymu Deddfau'r Yd, gorfu iddo adael yr ysgol, a myned i weini at ffarmwyr. Yn y Ty Draw, ger llaw'r Wyddgrug, cartref ewyrth iddo, y dibennodd yr oruchwyliaeth hon arno; ac yn ol Trysorfa'r Plant (Gorffennaf, 1898), o'r lle y codwyd amryw o'r manylion yma, fel hyn y dibennodd hi. Damweiniodd fod yn y cae ger llaw'r ty yn cario ail gnwd o glofer. Yr oedd wedi bachu ebol bywiog a hen gaseg swrth o'r enw "Bel," na symudai braidd. heb weiddi arni; ond yr oedd y gweiddi yn gwylltio'r ebol. Anafodd hwnnw'i glun yn dost; a'r bachgen tair ar ddeg oed oedd yn eu harwain hwynt a gafodd y bai. Wedi'r helynt yma heliodd ei bac y noswaith; honno, a chychwynnodd o hyd nos adref ar ei draed i Ddimbech; a dyna ddiwedd gweithio ar y tir. Erbyn hynny daethai gŵr o'r enw Macaulay i gadw'r British School yn Nimbech, un o'r rhai cyntaf a agorwyd yn yr holl wlad. Trwy hyn y dechreuodd cyfnod newydd o ysgol ar Thomas; a chan nad beth oedd doniau'r athraw o'r Alban, yr oedd adnabod bachgen da 'n un o honynt, a gwyn fyd na fyddai modd gwybod ym mlaen llaw pwy a dâl ei ddysgu cyn poeni llawer yn ei gylch na gwario llawer o egni a dyfais arno. Gwelodd Macaulay rywbeth mwy na chyffredin yn y bachgen hwn; a bu'n garedig iawn wrtho; a rhoes ysgol nos iddo'n rhad. Debyg mai dyma'r ias gyntaf o addysg uwch nag elfennol a gafodd y bachgen, heb law ei fod yn un o blant yr Ysgol Sul, a bod ganddo, fel llawer gŵr mawr arall, fam ragorol. Ganddi hi y clywai efe beunydd a byth rai o ddywediadau Thomas Jones o Ddimbech, gŵr nad yw ond newydd gael cofiant teilwng o hono, ac na wnaeth hanesyddion ei wlad eto ond dechreu rhoddi ei le iddo.

Gorffennodd Roberts ei ysgol gyda Macaulay; phrentisiwyd ef yn swyddfa'r diweddar Thomas Gee. Bwriodd o ddeutu naw mlynedd o amser yno, o 1850 i 1859, fel cysodydd i ddechreu, ac wedi bwrw'i brentisiaeth, fel cynorthwywr i Mr. Gee yn ystafell y Golygydd. Efe fu am dymor yn ysgrifennu'r prif erthyglau i'r "Faner Fach." Os gŵyr rhywun erbyn hyn pa dymor yn union oedd hwnnw, mor falch fuasai dyn o gael gweled rhai o'i ysgrifau ef, y pethau cyntaf o'i waith, ond odid, a ymddangosodd mewn print.

I flaenor o'r enw Edward Lloyd y perthyn yr anrhydedd o weled ynddo ef ddeunydd pregethwr, ac o annog mwyaf arno at hynny. Pwnc sy'n blino'r Corff lawer yn y dyddiau hyn yw, pa fodd i wneud rheolau a rwystront i bregethwyr anghymwys godi. Pwnc llawn cyn bwysiced fydd, gyd a hyn, pa fodd i gael hyd i bob un cymwys. Gwell methu, os rhaid, trwy godi degau o rai anghymwys, na cholli cymaint ag un y byddo'r gwir beth ynddo. Nid wyf yn siwr nad oes ambell un felly, naill ai heb ddechreu pregethu o gwbl, neu ynte wedi dechreu, yn rhoi grym ei lafur i rywbeth heb law gweinidogaeth y gair, a'i ddoniau o'r herwydd yn rhydu. Un o brif orchwylion swyddogion eglwysig, yn bregethwyr a blaenoriaid, ydyw adnabod a choledd gwir ddoniau'r weinidogaeth yn eu blagur gwannaf. Ac oni bai i Edward Lloyd yn un annog Thomas Roberts, dichon yr arosasai gŵr o'i dymer encilgar ef mewn distawrwydd.

Cydsyniodd o'r diwedd i'r peth fyned i lais yr Eglwys. Galwodd Swyddogion Dimbech am frodyr o'r Cyfarfod Misol i gymryd y llais, yr hyn a wnaed fis Hydref 1858. Yng Nghyfarfod Misol Llanelidan, Ionawr 1859, trefnwyd iddo ddechreu ar ei brawf; a phennwyd dosbarth Penllyn yn gylch y prawf, gan fod yr ymgeisydd i fynd i'r Bala rhag blaen. Yn y Glyn, Plwyf Llangywer, y traddododd ei bregeth gyntaf, a'r ail, os nad wyf yn camgofio, yng Nghwmtirmynach y Saboth wedyn. Nid wyf yn siwr pa un o'r ddau dro hyn y bu damwain. Hyd y gallaf gofio rhywbeth fel hyn a ddigwyddodd. Yr oedd y bregeth mewn ysgrifen o'i flaen; a rywle ar y canol aeth yr ysgrif oddi arno i waelod y pulpud. Nid oedd y pregethwr, fel y clywais ef yn adrodd, yn cofio fawr ddim a ddywedodd o hynny ymlaen, ond iddo weiddi llawer. Nis gwn ai y pryd hwnnw y collodd ei ffydd mewn pregeth bapur; yr oedd wedi hen golli ffydd ynddi cyn i mi ei adnabod ef. Clywais ef fwy nag unwaith yn datgan ei anghymeradwyaeth o honi o gadair y Sasiwn; a chlywais ddweyd, iddo rwygo'i araith enwog ar Natur Eglwys yn Sasiwn Llanrwst, ar ol ei hysgrifennu hi deirgwaith. Nis gwn gan bwy y cefais yr ystori, na phaham y gwnaeth efe felly, os nad rhag ofn y demtasiwn i ddefnyddio'r ysgrif yn y Cyfarfod.

Ym mysg ei gydefrydwyr yn yr Athrofa ystyrid Thomas Roberts yn ŵr ieuanc o farn a doethineb fwy lawer na chyffredin; ac nid bychan o beth ydyw hynny i ddyn o'i fath ef; oblegid nid oedd efe hyd yn oed yn ei ddyddiau addfed yn oer nac araf ar un cyfrif. Nid oes nemor o gamp i ddyn arafaidd gael y gair o fod yn ddyn call; ond peth arall oedd hynny i ddyn a'i lond o dân, dyn a lefarai ac a weithredai lawer ar gynhyrfiad y foment. Rhaid i gynhyrfiad y foment mewn un felly fod ar y cyfan yn dda, onide, fe'i gesyd ei hun bob dydd o'i einioes yn agored i fethu. Dyn o deimladau byw oedd hwn; a dysgodd y gamp o fod yn bwyllus heb fod yn bwyllog. Pan dybiai ei fod wedi camsynied, ni fynnai gelu na bychanu'r camgymeriad. Cymerai fwy na'i ran o'r bai; ac er y teimlai bob sen i'r byw, nid oedd bod yn groeniach yn beth y maliai fawr am dano. Go hawdd fyddai ganddo ddwrdio tipyn ar ambell i wrandawr a barai flinder iddo; ond byddai hynny'n aml yn fwy o ofid i'r pregethwr ei hun nag i'r troseddwr; ac os doi'r troseddwr i gwyno, gwnâi yntau'r ymddiheurad llwyraf ar unwaith. Cyfrifai ei gydefrydwyr yn y Bala ef, fel y rhaid i bawb ei gyfrif erbyn hyn, yn llenor gwych ac yn Gymreigiwr dan gamp. Rhyfeddach na'r cwbl, yn ol y Dr. Ellis Edwards, yr hwn a letyai yn yr un tŷ ag ef,—yr oedd Roberts gyd a'r goreu o'r tô hwnnw am ysgrifennu Lladin. Peth ydyw hynny a ystyrir yn goel sicr o ddiwylliant manwl, a pheth y dywed llawer athraw nad oes braidd bosibl ei gyrraedd heb flynyddoedd o hyfforddiant. Bechgyn wedi bwrw'u holl amser mewn Grammar Schools, a hynny'n gynnar ar eu hoes, sy'n arfer rhagori yn y grefft. Ond pan eid i gymharu cyfieithiad Thomas Roberts a'r Llyfr Cyfiaith, byddai o fewn dim i fod yn ddi-wallau. Y mae'n syn hyd heddyw pa fodd y cyrhaeddodd gŵr na chafodd ond ychydig o addysg fore oes y fath raddau o ddillynder. Cadwodd y Lladin i fyny hefyd, fel y gwnâi a'i efrydiau eraill. Copi Lladin, y mae'n ymddangos, oedd ganddo o Bengel. Dywed Mr. Edwards eto, nad adwaenai neb a gadwai ei lyfrdy yn fwy gwastad a chynnydd gwybodaeth yr oes nag y gwnâi Mr. Roberts.

Beiid ef weithiau gan eraill, ac o hyd ganddo'i hunan, am ddiffyg trefn; eithr rhaid fod trefn gudd yn perthyn iddo fel efrydydd, o dan y brys a'r aflonyddwch a'i nodweddai. Bum yn gyrru ato am ddyfyniad o Coleridge, wedi chwilio llawer am dano fy hun, ac yn ei gael gyda throad y post. Yr oedd yn gofus iawn hefyd. O ddyn mawr nid yn aml y caech chwi un a chystal cof geiriau ganddo. Nid oedd ei gof ef, fe allai cyn baroted a chof y Dr. Owen Thomas. Byddai raid galw ddwywaith neu dair ambell dro, cyn y doi'r peth y byddai arno eisieu; ond pan ddeuai, fe ddeuai yn odiaeth o gywir. Euthum mor ffol unwaith ag anturio dadleu a Mr. Roberts am eiriau rhyw adnod; ac er nad ymddangosai efe cyn sicred o'i bwnc o lawer a mi, gwelais wedi mynd adref ei bod hi ganddo ef bob llythyren. Adroddai gweinidog am hen ŵr a fu'n gweithio am yspaid mewn cyfle i gael y seiat yn Jerusalem, yn amser Mr. Roberts. Dywedodd wrth ei weinidog gartref, ddarfod i wahaniaeth barn godi rhyngddo a Mr. Roberts yng nghylch cysylltiadau rhyw adnod a adroddasai efe, o un o lyfrau'r Brenhinoedd fel y tybiai ef. Dywedodd ei weinidog wrtho, mai efe oedd yn ei le, mai adnod o'r Brenhinoedd oedd hi; ond cyn hir cafodd y gweinidog fod Mr. Roberts. yn ei le hefyd, gan fod yr adnod i'w chael yn Jeremiah yn gystal ag yn y Brenhinoedd.

Medrai Lyfr hymnau Roger Edwards braidd o'i gwr, rhif y tudalen a'r cwbl; a phan ofynnodd Owen Jones, blaenor Jerusalem, iddo sut yr oedd mor annibynnol ar y llyfr, ei ateb oedd ei fod wedi ei ddysgu allan wrth ei gysodi.

Ac ni waeth i ni orffen gyd a hyn yrwan nag eto, er inni wrth hynny achub blaen yr hanes, gadawodd ei efrydiau diwyd eu hol arno mewn coethder mawr, nid coeg-fanylwch o gwbl, llawer llai coeg-ddysgeidiaeth, namyn y coethder diymhongar hwnnw sy'n gynwysedig i gryn raddau mewn bwrw pethau tramgwyddus i ffwrdd. Gwelir yr ysgolhaig coeth lawn cymaint yn y pethau nas dywed ac yn y pethau a ddywed. Gallesid meddwl ar gip, fod Thomas Roberts yn lled ddiofal o reolau iaith. Yr oedd ei Gymraeg pregethu yn rhy sathredig gan rai. Ni fyddai'r arddull mor swyddogol ag eiddo'r rhan fwyaf o'i frodyr. Eto chwi a aech yn feichiau drosto na byddai iddo dripio mewn mater o chwaeth. Yr oedd ei safon yn uchel, a chadwai yn gaeth ati. Galwodd fi i gyfrif unwaith yn ei ddull tyner ei hun, am arfer y gair "Crefydda" mewn ysgrif; a gwnaeth hynny mor bwrpasol ac effeithiol, nes bod yn gas gennyf y gair byth er y tro hwnnw. Ei duedd yn wir oedd bod yn rhy lawdrwm ar yr hyn a alwai'r Dr. Saunders yn Gymraeg eisteddfodol. Fel y dywedai un o'i gymdogion yn y weinidogaeth ni ddefnyddiai efe byth mo'r gair "Datblygiad" heb roi cic iddo,—weithiau brawddeg o gondemniad, dro arall dim ond rhyw air, megis Datblygiad chwedl chithau." Fel y Dr. Edwards o'i flaen, gŵr yr oedd Mr. Roberts yn hyn yn dra chyffelyb iddo, aeth ym mhellach y ffordd yma wrth fynd yn hŷn. Ceir y gair "Bodolaeth" rai troion yn Nhraethodau'r Doctor; ac nid oedd dim gair y byddai efe'n ddicach wrtho yn niwedd ei oes na "Bodolaeth." Felly Roberts,-y mae'r gair "Bydysawd" mewn erthygl o'i waith ar y Dr. Dunkan yn Nhraethodydd 1873, gair na fuasai'r awdwr yn blino'i erlid yn y pymtheng mlynedd diweddaf dyweder. Ond oddieithr rhyw air neu ddau fel yna, y mae Cymraeg y cyfnod cyntaf hwnnw'n dwyn llawer o'r un nodwedd a'r Cymraeg diweddarach o'i eiddo, sydd erbyn hyn yn bur adnabyddus fel Cymraeg adroddiadau di-ail y Genhadaeth Gartrefol. Yr oedd yr un hoewder, yr un troi a throsi, yr un tarawiad miniog, a gwell na'r cwbl, ag arfer un o'i hoff eiriau ef ei hun, yr un naws yn y naill a'r llall. Y mae yr arddull ar ei phen ei hun wrth reswm, ac yn un a allai fynd yn arddull ddyrys yn llaw efelychwr; ond hi wasanaethai ei diben yn berffaith yn ei law ef. Tybed fod rhywun tebyg iddo am wneud adroddiad difyr o bwyllgor, neu gyfeisteddfod, fel y buasai efe'n dewis dweyd. Gwrandewid arno ef yn darllen peth felly, yn frysiog ond yn eglur, gan sefyll y rhan amlaf i gymryd ei anadl ryw air neu ddau heibio i'r full stop; a theimlai cymanfa gyfan eu bod wedi cael gwledd. Yr oedd rhyw gynnwrf, rhyw fywyd, rhyw symudiad gwisgi yn ei Gymraeg ef hyd yn oed wrth drin pethau sychion. Ni ddywedai fod y rhain yn bresennol, ond eu bod "yno," neu "yr oedd ynghyd y rhain a'r rhain." Ni ddywedai "pan ddaethant" yn aml iawn, ond yn hytrach rhyw ymadrodd mwy Cymroaidd, megis "ac wedi eu dyfod."

Er bod yn weinidog ar Eglwys Gymraeg, a bwrw ei oes gyhoeddus mewn ardal drwyadl Gymreig, daeth yn bregethwr Saesneg cymeradwy dros ben. Deuai yr un coethder syml i'r golwg yn hyn eto, yr un manylwch greddfol mewn arfer pob gair yn llygad ei ystyr. Y mae ei hwylustod a'i ystwythter yn y Saesneg wedi synnu hyd yn oed y rhai oedd gydag ef yn y Bala. Llawer a gyraeddasant dir uchel mewn gwybodaeth dan anfanteision; ond gan ychydig iawn o ysgolheigion ac ysgolheigion gwych, y ceir y feistrolaeth lwyr honno ar ei ddysg a welid ynddo ef. Yr oedd gwybodaeth Thomas Roberts yn eang a manwl; eithr nid gwybodaeth i beri anhawster iddo ydoedd, nid gwybodaeth a orweddai blith draphlith a'i feddyliau ef ei hun yn dalpiau di-dawdd; nag-e, gwybodaeth nad oes dim gwell gair i'w disgrifio na'i air ef ei hunan, gwybodaeth oedd yn hyffurf yn ei law fel y clai yn llaw'r crochennydd.

Bwriodd bum mlynedd helaeth yn yr Athrofa; ac ymadawodd yn Ebrill 1864. Ei le cyntaf oedd Colwyn, lle y gosodwyd ef i lafurio gan Gyfarfod Misol Sir Ddimbech. Gwnaeth lawer o gyfeillion yn y cylch; ac er nas gwelai hwynt ond pur anfynych yn ddiweddar, llonai drwyddo wrth weled ambell un o honynt neu dderbyn cenadwri oddi wrthynt. Rhaid, gyd a llaw, fod ganddo gryn ddawn i gofio wynebau yn gystal a llyfrau. Tra bu Mr. Roberts yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd, yn 1893, cafodd aml i ŵr cymharol ddi-son-am-dano ym mysg y cynrychiolwyr ei alw i gymryd rhan yn y gwaith. Y mae dau fath o lywydd da. Y mae digonedd o fathau o rai sal. Ond dau fath o rai da, un a fedr lesteirio i frodyr siaradus siarad gormod, ac un arall a fedr dynnu rhai tawedog, y byddai'n werth eu clywed, i siarad o gwbl. Y mae hon, o'r ddwy, yn fwy camp na'r llall. Un o'r math yma oedd Thomas Roberts. Galwai rai y pryd hwnnw wrth eu henwau, ag yr oedd dyn yn tueddu i dybied nas gallai fod wedi eu gweled fwy nag unwaith neu ddwy er y pryd yr ymwelsai a'u hardaloedd hwy o Goleg y Bala.

Ar ol rhyw ddwy flynedd a hanner yng Ngholwyn daeth galwad o Fethesda Cae Braich y Cafn; ymsefydlodd yntau yn Eglwys Jerusalem fis Ionawr 1867; ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth y Mehefin canlynol yn Llangefni. Jerusalem fu ei gartref hyd ddiwedd ei oes. Bu'n weinidog felly am agos i dair blynedd ar ddeg ar hugain. Yn 1870 y priododd. Merch ydyw Mrs. Roberts i Rees Jones o'r Felin Heli. Y disgrifiad cyntaf a gefais o'i briod oedd disgrifiad Mr. Roberts ei hun. Y tro cyntaf i mi gael rhai oriau yn ei gwmni, yr oedd ei hen elyn, y diffyg treuliad, yn ei flino. "Yr ydw i'n rhoi," meddai, "cymaint fedra'i o'r bai ar hwn, er mwyn arbed peth ar fy nghydwybod. Y mae'r wraig o drugaredd yn gallu credu mewn Rhagluniaeth." Nid oedd dim achos newid sill ar y disgrifiad yna wedi cael y fraint o weled Mrs. Roberts hefyd. Pwy a ŵyr werth cydymaith hyderus, a fedro â'i sirioldeb hafaidd ymlid prudd-der i ffwrdd. Gŵyr pawb a adwaenai Mr. Roberts yn dda, er ei fod y cyfaill tirionaf a dedwyddaf i hen ac ifanc fod yn ei gwmni, y byddai yntau, fel llawer dyn o ddifrifwch eithriadol, yn cael aml awr o lesmair o ddigalondid. Sylwasai ei gyfoedion yn y Coleg ar hyn yma ynddo. Anaml yn ei flynyddoedd cyhoeddus y byddai'n berffaith iach, er ei fod yn berchen cyfansoddiad pur gadarn i ymladd â'i afiechyd. Ac heb law hyn yr oedd ganddo allu dau neu dri o ddynion cyffredin i gystuddio'i feddwl am bethau a ystyriai'n ddiffyg neu'n fethiant ynddo'i hun, ac o herwydd beichiau a themtasiynau pobl eraill lawn cymaint hynny. Pan fyddai un o'i eglwys, yn enwedig un go addawol, ar y llithrigfa, teimlai ofid fel pe buasai un o'i deulu yn y perygl. Byddai disgyblu, yn enwedig diarddel, yn costio mwy iddo ef nag y gall dynion o natur lai byw nag ef ddychmygu. Pwy fyddai wan, nad oedd yntau wan trwy gydymdeimad a hwy? Pwy a dramgwyddid, nad oedd yntau'n llosgi?

Cafodd fyw i weled ei unig fab, Mr. Arthur Rees. Roberts, wedi ennill gwobr bwysig mewn cystadleuaeth lem, wrth orffen paratoi at ei alwedigaeth fel cyfreithiwr; a chafodd ei weled am flynyddoedd wedyn yn prysur ennill gradd dda yn yr alwedigaeth wedi mynd iddi. Ysbrydoliaeth a deimlid am ddyddiau ar ol bod yno, oedd cael bwrw ychydig oriau ar aelwyd y teulu hwn. Help mawr i sefydlu dyn mewn ffyddlondeb i'r Efengyl, ac mewn hyder arni am iachawdwriaeth y byd, ydyw gweled ei hol hi ar deuluoedd, a gweled am ambell i ŵr cyhoeddus, a adwaenai dyn o'r pellter o'r blaen, nad yw'n myned ronyn llai dyn o'i nabod gartref.

II

Llawer o wahanol feddyliau sydd am waith bugail eglwysig. Myn rhai mai gŵr i wneud popeth ydyw, eraill mai un i wneud hyn a hyn o bethau, a dim ond y rheiny. Ac yr ydys llawn mor anghytun ar y modd y dylai bugail wneud ei waith ag ar derfynau'r gwaith ei hun. Ni cheir fod hanes bugeiliaid llwyddiannus yn torri'r ddadl o blaid unrhyw ddull penodol fel yr unig un teilwng. Prin y byddai Mr. Thomas Roberts i fyny a safon y rhai a ystyriant y dylai gweinidog wneud baich ei waith bugeiliol trwy ymweled mynych a thai. Yr oedd yn dra gofalus o'i gleifion; a byddai yr ymgeledd ysbryd a roddai efe iddynt yn rhywbeth amgen na ffurf. Yr oedd yn ddiarhebol o gymwynasgar i'r anghenog. Adwaenai ei braidd yn dda; ac yn hyn yr oedd yn llond y cyngor a roddai efe i fugeiliaid ieuainc, ymweled digon i adnabod y bobl. Ond bugail yn ol y syniad mwyaf Cymreig am fugeilio ydoedd Mr. Roberts. Tybia'r syniad hwnnw fod pawb iach yn dyfod i'r capel gyd a graddau o gysondeb, a bod y gwaith a wneir gan rai o weinidogion Lloegr a'r Alban o dŷ i dŷ, i'w wneud yn y Seiat. Yn Seiat Jerusalem yr oedd yr awyr mor deuluaidd, a'r gweinidog yn deall amgylchiad pawb mor dda, fel y cyrhaeddid yr un peth trwy ymddiddan cyhoeddus yno, ag a gyrhaeddir gan lawer gweinidog trwy ymddiddan personol. Nid cynghorion cyffredinol yn unig a geid, ond cyngor mor gymwys weithiau i'r neb a fyddai'n ei gael, na fuasai'n gymwys i braidd neb ond hwnnw. O fewn terfynau doethineb, ni phetrusai Mr. Roberts ddweud pethau wrth yr aelodau ar gyhoedd, oedd yn ffrwyth ei adnabyddiaeth bersonol o honynt. "Wyt ti'n meddwl, fy machgen i," meddai unwaith wrth ymddiddan ag un i'w dderbyn i'r eglwys, "fod arnat ti eisieu gras i fyw'n dduwiol?" "Oes," ebai'r bachgen." Ebai Mr. Roberts, "oes, lawer iawn hefyd, fwy na chyffredin, cred hynny." Byddai ambell air ac ambell i anerchiad a geid ganddo mewn Seiat, llawn mor darawgar, meddir, a'i bregethau goreu. Yr oedd ei ddawn i siarad yn ddifyfyr yn ddihareb fel y gwyr pawb. Y mae'n debyg fod y rhyddid sydd mewn Seiat dda yn taro'i ddawn ef i'r dim. Er ei fod yn baratowr cydwybodol, blin ganddo oedd gwneud unrhyw beth, os na byddai dan ysbrydoliaeth ar y pryd yn gystal a bod wedi paratoi. Am bregethu y dywedai, "Dylai dyn gael pregethu pan fynno fo, a pheidio pan fynno fo." Y Seiat, o bob man, oedd y lle i bregethwr, heb ddim byd marw, offerynnol, o'i gwmpas, fod ar ei oreu. Ymddengys fod ganddo'r athrylith berffeithiaf a welodd yr oes yma at gadw Seiat.

Ond yr oedd elfennau a wnaent Thomas Roberts mor lwyddiannus yn y cyfarfod eglwysig yn cyrraedd i holl gylchoedd ei lafur,-yr ysbrydoliaeth ryfedd, ag arfer gair Morgan Llwyd, un o'i hoff awduron ef; y gonestrwydd di-dderbyn-wyneb, a'r tynerwch digymar. Dywed Mr. J. Owen Jones, o'r Bala, iddo'i weled ef yn ei golli ei hun yn hollol, wrth weinyddu'r ordinhad o Swper yr Arglwydd. Safodd i siarad, ag un o'r elfennau yn ei law, heb orffen cyfrannu yr ochr honno i'r capel; ac wedi siarad nes anghofio popeth, trodd i fynd tua'r sêt fawr, fel pe buasai'r rhan honno o'r gwasanaeth ar ben; ac yn ei ol i'r sêt fawr yr aethai oni buasai i Robert Parry 'r blaenor adnabyddus ei atal, a dangos ei waith iddo. "Y ffordd yma,' meddai Parry, "yr ydych i fynd." Byddai ei weddiau wrth fwrdd y cymun weithiau yn bethau i'w hir gofio.

Yr un rhyddid dirodres, yr un gonestrwydd, a ddangosai yn ei ymwneud â'r eglwysi oedd dan ei ofal, a welid ynddo hefyd gyd a phobl o'i gydnabod trwy yr ardal a'r ardaloedd. Hawdd deall fod y ddawn yma'n gryn fantais iddo fel holwr ysgol. Bu am flynyddoedd lawer yn dilyn y Cyfarfodydd Ysgolion. Adwaenai'r atebwyr drwy'r holl gylch, a medrai ddeffro tymer ymddiddan ynddynt yn odiaeth o naturiol. Ond cystal enghraifft ag un a glywais o'r rhyddid y soniwyd am dano, bleth ym mhleth a'r boneddigeiddrwydd perffaith a ganlynai hwnnw bob amser yn Mr. Roberts, ydoedd ei waith yn ffonodio blaenoriaid capel heb fod ymhell o'i gartref am eu diffyg dawn siarad. Yr oedd efe wedi bod yn pwyo ar yr un hoel ychydig cyn hynny mewn Cyfarfod Dosbarth. Dywedasai y pryd hwnnw, nad oedd gan flaenoriaid. yr oes ddim digon o ddawn i siarad tra byddai'r pregethwr yn tynnu ei gôt. Yr achlysur iddo ail afael yn y pwnc oedd i frawd oedd yn llywyddu mewn Seiat nos Sul ofyn iddo yntau ddweyd gair y cyntaf peth wedi dibennu'r odfa. "Well i chi i mi dewi," oedd yr ateb, ddwywaith neu dair. O'r diwedd, wedi tipyn o berswadio, dacw Mr. Roberts ar ei draed, pryd y gwelwyd, mai gwell hefyd fuasai gadael iddo; oblegid dechreuodd ar y blaenoriaid oedd o'i ddeutu bob yn un ac un, gan ddatgan ei syndod na buasai ganddynt rywbeth i'w ddweyd. Ac wedi gweini amryw geryddon pwrpasol, daeth at ŵr yr oedd ganddo fwy na chyffredin o feddwl o hono. (Gwell i mi newid yr enwau.) "Ac am danoch chi Evan Owen," meddai, "Yr ydw' i 'n synnu mwy atoch chi nag at neb o honyn nhw, a chwithau'n hen bynciwr, yn fab i'ch tad, ac yn Evan Owen heblaw hynny." Ar hyn dyma rai o'r gynulleidfa'n dechreu chwerthin. Yna meddai Roberts drachefn, "Raid i chi yn y llawr ddim chwerthin beth bynnag. Yr ydech chi'n salach fyth. Er saled ydi'r rhein, yr oeddech chi'n rhy sal i'ch gwneud yn flaenoriaid. Pwy o honoch chwi fuasai'n medru cyhoeddi cystal a John William Morris? Pwy o honoch chi fuasai'n medru gweddio fel Evan Owen?" Ni chlywais i ddim fod neb wedi teimlo'n ddolurus ar ol yr oruchwyliaeth hon.

Wedi'r cwbl y mae'n dda gan bobl eu trin fel pobl, ac nid fel plant. Gwell ganddynt, ar y cyfan, os byddant yn siwr eich bod yn eu parchu, fel yr oeddynt am y gŵr hwn, gwell ganddynt i chwi siarad yn blaen, lle na byddo bwriad clwyfo; dweyd y peth fel yr ydych yn ei deimlo, ac nid tynnu ei fin trwy ddweyd y peth a ddisgwylir gennych yn hytrach na'r peth a deimlwch sy'n wir. A thrwy'r cwbl y mae'n eithaf tebyg mai pur ddiarwybod mewn rhyw wedd oedd dawn Thomas Roberts i drin pobl. Y mae lle i feddwl ei fod yntau'n barnu mai felly yr oedd hi oreu. Pan ddywedodd rhywun wrtho, dan son am frawd o weinidog oedd wedi methu yn y pwnc yma o drin dynion: "Y ffordd i drin pobl, debyg, ydyw gwneud hynny heb iddyn nhw wybod eu bod yn cael eu trin?" "Ie," meddai Mr. Roberts, "ac heb i chwithau wybod eich bod yn eu trin nhw." Daeth cryn raddau o gyfrinach y gŵr hwn i Dduw allan ond odid yn y gair yna, dirgelwch ei ddylanwad fel gweinidog gartref, fel arweinydd crefyddol, ac fel gwladwr. Nid y dyn sy'n astudio fyth a hefyd pa fodd i ryngu bodd pobl a gochel eu tramgwyddo a fedr y ffordd atynt yn y pen draw, ond y dyn a'u parcho hwy fel creaduriaid rhesymol, ac a'u cymero hwy i'w gyfrinach i ryw fesur, wrth eu dysgu.

Pan ddaeth Thomas Roberts i gylch Cyfarfod Misol Arfon, daeth i ganol cenhedlaeth o wyr grymus, hŷn. nag ef mewn dyddiau. Yr oedd yn barchus iawn o honynt, fel y bydd pob dyn o gallineb a gras mwy na chyffredin, ac yn barchus iawn ganddynt, a'i onestrwydd lawn cymaint a'i ostyngeiddrwydd a enillai'r parch yma iddo. Dywedai Robert Ellis o'r Ysgoldy am dano'n fynych, "Y mae'n dda gyn i'r bachgen yna. Y mae'i galon o yn ei wyneb o." A'r gŵr oedd mewn cymaint bri gan arweinwyr y genhedlaeth honno oedd tywysog y cyfnod nesaf. Fel un neu ddau arall o arweinwyr Cyfarfod Misol Arfon, ni ddygai Thomas Roberts unrhyw arwydd gweledig o'r lle blaenllaw oedd iddo ym marn ei frodyr, a'r dylanwad cyfareddol oedd ganddo arnynt. Nid yn y sêt fawr yr eisteddai. Ni theimlai rwymau yn y byd i siarad ar bob rhyw beth a ddeuai ger bron. Yn wir, aml yr âi Cyfarfod Misol cyfan heibio, ac yntau yno, heb iddo ddweyd gair. Faint o hyn yma oedd yn ffrwyth tueddfryd ynddo ef, faint hefyd oedd yn ffrwyth dilyn defod ei gyfoedion yn y Cyfarfod Misol, a pha faint a wnaeth efe ei hun i fagu'r defod, nis gwn. Cyn y caech chwi weld faint o dywysog ydoedd, rhaid oedd aros iddo godi i siarad, neu gael ei alw i siarad. Byddai'r galw'n eithaf digon i ddangos i chwi ar bwy yr oeddid yn galw; oblegid os gwrthod a wnâi, neu os byddai mymryn o egwyl rhwng y galw a'i waith yntau'n ufuddhau, nis gallai'r cyfarfod byth braidd beidio dangos ei awydd i'w glywed ef, trwy arwyddion digamsyniol, curo dwylaw, neu rywbeth a atebai yr un diben. Pan gyfodai ar ei draed, anodd fyddai proffwydo pa ddull a gymerai o wynebu'r pwnc. Byddai cymaint o amrywiaeth ganddo ef yn ei areithiau ag y sydd gan ddyn cyffredin yn ei ymddiddanion. A chyda llaw, ai nid dyna ran go fawr o swyn siarad cyhoeddus da, medru cadw yn yr araith ffurfiol gryn dipyn o'r rhyddid a'r amrywiaeth lliw a geir yn ymgom yr aelwyd? Medrai ddadleu fel cyfreithiwr, dweyd hynny oedd i'w ddweyd dros yr ochr wan i'r ddadl; ac er na chelai Mr. Roberts mai honno oedd yr ochr wan, byddai'n anawdd iawn i neb droi'r cyfarfod yn ei erbyn ef. Dro arall dadleuai fel seneddwr, trwy chwalu o'r ffordd bopeth a berthynai i'r llythyren, a disgynnai ar ei union ar graidd y mater. Weithiau difrifwch goddeithiol fyddai dirgelwch ei lwyddiant ; dro arall fe rôi ryw chwithdro i bethau nes tynnu'r tŷ am ben ei wrthwynebydd.

Gwnaeth amryw areithiau pur hynod ar y cwestiwn o rannu casgliad y Genhadaeth rhwng y ddwy gymdeithas, y gartrefol a'r dramor. Ar ol y gyntaf o'r rhai hyn penderfynwyd rhoi dogn deugain punt mwy nag arfer i'r Genhadaeth Gartrefol. Nid oedd ond ychydig er pan benodasid Mr. Roberts yn ysgrifennydd y Genhadaeth honno; a deugain punt oedd ei gyflog ef y pryd hwnnw. A dyna a ddywedai un sylwedydd craff wrth fynd o'r cyfarfod, "Un garw ydyw Thomas Roberts; gwneud ei gyflog mewn un cyfarfod."

Gallwn nodi un esiampl arall ynglŷn â'r un cwestiwn. Dewisir hi nid am ei bod hi yr oreu,—y mae digon o rai gwell,—ond am y gellir crybwyll hon heb wneud cam a neb arall a gymerodd ran yn y ddadl. Mater oedd rhannu'r casgl, y gallai dynion cyn galled a'u gilydd gymryd dwy ochr wahanol arno; ac yr oedd y gwŷr da a wrthwynebent Mr. Roberts y tro hwnnw yn rhai digon cryfion a llwyddiannus i allu fforddio colli brwydr weithiau. Arfer y Cyfarfod Misol yn y cyfnod hwnnw fyddai rhoddi dwy ran o dair o'r casgliad i'r Genhadaeth Dramor, ac un ran o dair i'r Gartrefol. Erbyn yr adeg yr ydys yn son am dani, daethai y casgliad yn ddigon cryf i roi mwy na'r dogn arferol i'r naill, heb roi dim llai i'r llall. Dyna oedd cais Mr. Roberts, cael swm penodol i'r Genhadaeth Gartrefol yn wyneb ei hangen ar y pryd, pa un bynnag fyddai hynny, ai mwy ai llai nag un ran o dair, pennu'r swm, yn lle canlyn y ddefod. Yr oedd y casgliad heb orffen dyfod i mewn; a'r wrthddadl i gais Mr. Roberts ydoedd, mai gwell cadw at y drefn, un ran o dair am fod yn well dilyn egwyddor sefydlog na phennu swm ar y pryd. Dadleuid y pwnc gyd a llawer o fedr a dawn. Pan ddaeth tro Roberts i ateb ymaflodd yn y gair "Egwyddor," a dywedai: "Hawdd iawn arfer geiriau mawr am bethau cyffredin. Gofynnodd tad Boswell i rywun pwy oedd y Dr. Johnson hwnnw yr oedd ei fab yn gymaint ffrind ag o; a dyna oedd yr ateb, 'Dyn yn cadw ysgol yn Llundain. Ysgol ydyw hi; ond academy mae o'n ei galw hi.' Felly y mae Mr.——— yn galw rheol fach yn egwyddor. Ysgol ydyw hi; ond academy mae o'n ei galw hi. Rheol ydyw hi; ond egwyddor y mae o'n ei galw hi." A'r ddyfais syml yna y trodd efe'r cyfarfod hwnnw o'i blaid. Bydd yn hir cyn y gwel Cyfarfod Misol Arfon ŵr a fedr ei lygad-dynnu i'r un graddau, ac yn yr un fel ag y medrodd efe. Perthyn ei anerchiadau ar faterion pwysicach a mwy cyffredinol i'r un dosbarth a'i bregethau a'i anerchiadau yn y seiat.

Yr ydym wedi sôn eisoes amryw weithiau am ei gysylltiad a'r Genhadaeth Gartrefol. Gwnaed ef yn Ysgrifennydd iddi yn Sasiwn Dimbech, Mehefin 1889, a bu yn esgob y cylch hwnnw yng ngwir ystyr y gair hyd ddiwedd ei oes. Oni buasai'r llwyddiant mawr a fu ar Genhadaeth Gartrefol y Gogledd o dan ei ofal, cwyno y buasem fod calon mor dyner, a meddwl mor fyw, wedi gorfod dwyn cymaint o feichiau. Ond pa wybod nad ydoedd y gwaith a wnaeth gyd a'r Genhadaeth o gymaint gwerth gan ei Arglwydd, a phe buasai Thomas Roberts wedi byw blynyddoedd yn hwy i bregethu ac i ysgrifennu dau neu dri o lyfrau. Cymerai arno lawer o waith a llawer o ofal, na fuasai neb yn dweyd ymlaen llaw fod rhaid wrtho, eto gwaith y gwelai pawb ei werth ar ol gweled ei wneud. Mynnai wybod anawsterau neilltuol pob lle a phob gweinidog, nes bod swydd a allasai fod yn un sych ac offerynnol, wedi mynd yn ei law ef, fel popeth yr ymaflai ynddo, yn rhan o'i fywyd ef. "Y mae hon," meddai wrth Mr. William Lloyd, "wedi yfed f'enaid i."

Y mae'n bryd dweyd gair ar ei bregethu. Wedi'r cwbl, fel y dywedai David Davies o'r Abermo, "Pregethu ydyw gwaith pregethwr." Wrth reswm nid yw'r pregethu i'w gyfyngu i'r adegau y bo yn ei bulpud, ac wedi darllen testyn. Fe gynnwys pregethu bob cyfle a gaffo dyn i ddysgu ei gyd-ddynion am bethau mawr bywyd a duwioldeb. Am anerchiadau achlysurol Thomas Roberts, nid oes dim dwy farn, na lle i ddwy. Anaml iawn y byddai'n llai nag ef ei hun yn y rhai hyn. Llawer gwaith y gwelwyd ef yn gweddnewid cyfarfod dilewych, trwy gipio gair yma ac acw o'r areithiau o'r blaen, a rhoi ryw rwbiad cyflym, egniol, iddynt a'i feddyliau ei hun, nes byddai'r dur a'r gallestr rhyngddynt wedi taro tân cyn iddo eistedd i lawr. Os olaf fyddai ei dro i siarad, dibennai'r ymdriniaeth dan ei choron, ac os tu a'r canol, rhyfedd sôn, byddai'n haws i bawb arall siarad ar ei ol na chynt. Clywais ef yn rhoi rhyw fywyd rhyfeddol mewn gair o araith agoriadol goeth, "Dyddiau ieuenctid yr eglwys." Cododd rywbryd yng nghorff y cyfarfod, a choffaodd yr ymadrodd, "Dyddiau ieuenctid yr eglwys." Ie, yr oedd gair Mr.——— yn peri i ni feddwl am air y proffwyd. "Mi a'i denaf hi ac a'i dygaf i'r anialwch. . . Ac yno y cân hi, megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft." Yna ychwanegai'n fyfyriol, megis rhyngddo ag ef ei hun, Dyddiau ieuenctid yr eglwys. Ie, ni fydd hi byth yn iawn nes ei chael hi'n ifanc yn ei hol." Yr oedd y fath hiraeth yn ei oslef, nes bod pawb yn deall ei feddwl yn ddeg gwell, na phe buasai wedi cymryd trafferth i roi darluniad manwl o'r gwahaniaeth rhwng ieuenctid yr eglwys a chyfnodau mwy ffurfiol yn ei hanes.

Ces gyfle unwaith i'w wylio ef yn paratoi araith, trwy ddigwydd gael y fraint o gyd-letya ag ef. Rhoes y cyfeillion caredig yr oeddym dan eu cronglwyd gennad i ni, y noson o flaen y cyfarfod, aros ar ein traed cyhyd ag y mynnem; a chan fod Mr. Roberts yn gysgwr pur fylchog, a minnau'n falch o'r cyfleusdra i gael mwy na fy rhan o'i gymdeithas, yr oedd hi yn llawer o'r nos arnom yn mynd i orffwys. Y mater oedd efe i lefaru arno drannoeth oedd, Perthynas yr Efengyl ag Ysbryd Gwerinol yr oes. Ymgomiai yn ol ac ym mlaen ar wahanol bethau, gan ddisgyn yn awr ac yn y man ar bwnc yr araith. (Ymdrechwn innau beidio'i flino ef a chwestiynau.) "Y mae rhyw adnod," meddai, yn Ezeciel, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth." "Ychydig a ddywedodd efe arni yn yr ymddiddan, er troi tipyn o'i deutu hi; ond wrth wrando drannoeth gwelwn beth oedd yntau yn ei weled ynddi, sef rhybudd rhag peryglon yr ysbryd gwerinol. A'r sylw a wnaeth o ar yr adnod oedd hwn:—"Nyni ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir.' Y mae hynny'n cymryd yn ganiataol eu bod hwy cystal dynion ag Abraham." Hyd y gallwn i ddyfalu, wrth i gysgod ambell i feddwl ddisgyn ar yr ymddiddan, peth digon naturiol i Mr. Roberts oedd gweled, wrth baratoi i ddysgu eraill, i ba le yr oedd arno eisieu myned cyn gweled yn glir sut i fynd, gweled y cymhwysiad cyn gweled yr ymresymiad oedd i fod yn sail iddo, a gweled y sylwadau yn aml cyn gweled y pennau. Erbyn clywed yr araith darn bychan iawn o honi oedd y sylw a grybwyllais. Ei baich hi oedd, bod Cristnogaeth, heb law rheoli'r ysbryd gwerinol, yn brif foddion i'w ddeffro ac i'w feithrin. Adroddai hanesyn am un o garcharorion gwladol Ffrainc, yn dweyd ei deimlad y diwrnod cyn ei ddienyddio. "Pe gwelwn i fory, pan fydda'i mynd ar y trwmbel tu a'r dienyddle, pe gwelwn i'r bachgen butraf yn ystrydoedd Paris mewn perygl o fynd dan yr olwyn, mi wnawn ymdrech deg i'w achub ef; oblegid beth wn i, nad o hwnnw y cyfyd gwaredwr i Ffrainc ryw ddiwrnod." Yna dyfynnodd yr areithydd air Shelley, "Each heart contains perfection's germ." "Ie," meddai Mr. Roberts, gyd a'r floedd danbaid, fuddugoliaethus honno, Ond pwy welsai hedyn perffeithrwydd yn y dyn distadlaf, oni bai i Iesu Grist ei ddangos o? a phwy, er ei weld, a allasai ei ddwyn o i berffeithrwydd, ond yr Arglwydd Iesu Grist."

Ond nid oes dim posibl cyfleu'r araith ar bapur; yr oedd cymaint o'i grym hi yng ngwaith y llefarwr yn troi o gwmpas rhai o'r geiriau, yn adrodd eilchwyl ac eilchwyl,

"Each heart contains perfection's germ."

Yn olaf un yr oedd yn siarad y tro hwn, a'r gynulleidfa yn dechreu aflonyddu cyn iddo godi. Cyn iddo eistedd, mi glywn gyfaill yn sibrwd yn fy nghlust, "Y mae pob llygad yn y lle yma ganddo fo."

Yr oedd y meddwl diweddaf yn yr araith hon yn hoff feddwl ganddo, ac yn rhan bwysig o'i genadwri at ei oes,-Dyled y byd yma am bopeth da a feddai i Iesu Grist. Fel y gwelai Thomas Charles Edwards yr agoriad i bob anhawster diwinyddol ym Mherson a gwaith yr Arglwydd Iesu, felly y gwelai Thomas Roberts yr allwedd i bob cwestiwn o wyddoniaeth, ac athroniaeth, a pholitics, yn yr un man. "I do not think," meddai mewn papur yng Nghynhadledd Saesneg Aberystwyth, that nature will yield up all her secrets to men of science, until they become reconciled to her Maker." Un o'r pethau fyddai'n tanio'i eiddigedd fwyaf fyddai gweled pobl yn ymddigrifo yng nghynnydd rhyddid a brawdgarwch, ac yn anghofio priodoli hynny i Iesu Grist. "Yr holl fforddolion," meddai wrth bregethu ar y nawfed Salm a phedwar ugain, "Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef.' Beth ydyw hynny? Pobl yn cymyd pethau'r Messiah, ac yn honni mai hwy pia nhw."

Fel yr awgrymwyd, nid oedd torri llwybr i'w feddwl ym mlaen llaw ddim yn un o ragoriaethau Mr. Roberts. Dywedai un beirniad craff, edmygydd o hono hefyd, fod rhaid addef y byddai Mr. Roberts yn aml yn dewis llwybr troed, pryd y cawsai ffordd fawr. Rhaid addef hefyd debyg, na fyddai'r llwybr troed, lawer tro, mo'r llwybr byrraf i ben y daith; ond er mwyn ambell i gipolwg, pwy na fuasai'n dewis canlyn y pregethwr hyd y llwybr troed? Yr oedd yr hyn fyddai rhwng cromfachau,—geiriau a brawddegau ar hanner eu dweyd,—y cwmpasu a'r cwbl yn llwyr fynd a'ch bryd chwi, wedi i chwi fynych wrando arno, heblaw fod cyflymder symudiadau ei feddwl, a'i law, a'i lais yn peri i chwi anghofio fod llawer sylw wedi ei gychwyn, a'i daflu o'r naill du. Chwi gaech gymaint o frawddegau a gwaith glân arnynt, ac yn enwedig cymaint o weledigaethau, na fyddech chwi ddim yn debyg o gwyno am yr asglodion a'r naddion, oedd, i ryw fath o lygad, yn gymaint o ddifrod ar y defnyddiau. Clywais ef unwaith yn dechreu pregeth fawr y "Gorchymyn Newydd," yn union lle'r oedd o dro arall wedi ei dibennu hi; er hyn i gyd, byddai pob darn yn berffaith, ond nad oedd cynllun y bregeth glir drwyddi ddim yn hawdd ei gofio. Yr oedd y bregeth yn debycach i dref yng Nghymru, wedi tyfu, trwy i hwn a'r llall godi tŷ ynddi, nag i dref yn yr America, wedi ei thorri yn ystrydoedd ym mlaen llaw, —a scwariau bychain rhyngddynt fel bwrdd chware gwyddbwyll,—cyn bod carreg ar garreg eto ar y gwastadedd noeth.

"Efe," fel y sylwai Mr. William James yn ei angladd, "efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo." Rhaid oedd iddo ddechreu llosgi cyn goleuo'n iawn a dyna sy'n gwneud rhoi dychymyg am dano i bobl nas clywsant ef yn ei fan goreu, yn beth anodd iawn. Yr oedd y peth a ddywedai Mr. Roberts am y Proffwydi gynt yn wir am dano yntau. Nid dynion oeddynt yn cael eu cenadwri yn barod at eu llaw. Na, sefyll y byddent ar eu disgwylfa, ymsefydlu ar y tŵr, tremio i'r pellter am y weledigaeth. "Os erys disgwyl am dani; canys hi a ddywed o'r diwedd." (Hi ddaw gan anadlu'n fân ac yn fuan.) "Gan ddyfod y daw, ac nid oeda." Ni fyddai gan y proffwyd genadwri i eraill heb ei bod hi'n gyntaf wedi ei llosgi i'w enaid ef ei hun; felly yntau yr oedd ei genadwri'n costio yn ddrud iddo. Faint bynnag fyddai efe wedi feddwl o'r blaen, byddai raid iddo wrth weledigaeth newydd ar y pryd. Pan fyddai hebddi, di-lewych fyddai'r odfa; ond wedi i chwi ei glywed ef rai gweithiau cystal ag ef ei hun, byddai rhyw ogoniant o hynny allan ar ei odfaon cyffredin. Teimlo a wnaech fel Robert Ellis: "Bydd yn well gen i weld Thomas Roberts yn methu na gweld eich hanner chi'n medru." Pe buasai'n debycach i'r cyffredin, pwy ŵyr na fuasai'r dreth am hynny'n rhy drom? Pwy ŵyr na fuasai'r athrylith yn llai disglair, a'r bywyd heintus a gerddai'r gynulleidfa dan ei weinidogaeth yn llai ei rym?

Bu farw nos Wener, Tachwedd 24, 1899. Disymwth iawn yr ymadawodd.

"Twas like his rapid soul: 'twas meet,
That he who brooked not time's slow feet,
With passage thus abrupt and fleet,
Should hurry hence."


Fel y dywedodd ei briod ddiwrnod y cynhebrwng, "Fe gwynodd lawer ei fod yn methu cysgu. Fe gaiff gysgu dan y bore." Nid oes neb a warafun iddo gael gorffwys, er mor anodd gostegu llais hiraeth. "Felly y rhydd efe hûn i'w anwylyd."

Y Drysorfa, Ebrill a Mehefin, 1900,

Nodiadau[golygu]