Astudiaethau T Gwynn Jones/Popeth o'r Newydd?

Oddi ar Wicidestun
Llyfrau Ieuenctid Astudiaethau T Gwynn Jones

gan Thomas Gwynn Jones

POPETH O'R NEWYDD?

EDRYDD y llyfr doethaf a sgrifennwyd erioed nad fod un gŵr doeth gynt wedi dywedyd oes dim newydd tan haul. Ganrifoedd lawer ar ei ôl, medd yr un Hen Lyfr, dywedodd gŵr doeth arall fod yr hen bethau oll wedi mynd heibio a phopeth wedi ei wneuthur o'r newydd. Llawer un heblaw'r Iddew gynt, a Thomas Williams yr emynwr o Forgannwg, fu'n hiraethu am allu ehedeg, ar adanedd y wawr neu ar ddwy adain colomen. Dychmygodd rhyw Wyddel anhysbys ganrifoedd yn ôl am long yn yr awyr yn aros uwchben ffair yn Iwerddon. Dywedodd brudiwr o Gymro am elyn yn dyfod mewn llongau dan y môr. Edrydd "Cyfranc Lludd a Llefelys" am bobl a glywai bopeth a ddywedid yn unman, od âi i afael y gwynt, hynny yw, i'r awyr.

Nid dychmygion moel mo'r pethau hyn erbyn heddiw. Yn ein cyfnod ni, fe ddaeth, a hynny gyda'i gilydd, nifer o bethau rhyfeddol, nes bod dynion heb fod eto'n hen yn cofio byd gwahanol iawn ac yn dywedyd yn fynych wneuthur popeth o'r newydd. Ac eto, dyn yw dyn, ac nid oes dim newydd tan haul.

Un o'r pethau pwysig a ddigwyddodd fu datblygiad rhyfeddol ar astudio'r Gwybodau naturiol. A bod yn gryno, y peth pwysicaf yn y datblygiad hwnnw fu darganfod sut i gynnull grym a'i gau mewn lle cyfyng, ei gadw yno megis yn ei gwsg, ei ddeffro'n sydyn nes ei fod yntau'n neidio allan. O hynny, y peth pennaf a enillwyd oedd medru symud pwysau yn gyflym o le i le, a holl ganlyniadau hynny. Yr un pryd, drwy ddirfawr lafur mewn lliaws o wybodau olrheiniwyd hanes datblygiad dyn o amseroedd cyn cof—ei grefft, o gam i gam; datblygiad ei arfau; ei grwydradau yn heidiau o le i le, i chwilio am fannau mwy ffafriol i fyw; anghenraid yn oruchaf hawl; ffyrnigrwydd a chreulondeb yn bennaf moddion; bod yn ddi-drugaredd a chalon-oer yn amod llwyddiant.

Ni allai cyd-drawiad y pethau hyn lai nag effeithio ar syniadau diweddar am fywyd, am wareiddiad, am lywodraeth a masnach yn enwedig. Ystyrier rhai o'r pethau a gyfrifir yn gynnyrch ac yn gyfrwng diwylliant a gwareiddiad, megis crefft y chwedleuwr, y cerddor, y prydydd, y lluniedydd, hyd yn oed y pensaer. Crynswth y pethau hynny sy'n ffurfio awyrgylch gyffredin cyfnod, bron yn ddiarwybod i'r cyfnod ei hun. Cymerer yn enwedig Gelfyddyd y Difyrwyr cymdeithasol mwyaf arbennig, y rhai fydd yn chwedleua, yn canu ac yn chwarae i ni—y pethau sy'n cyrraedd y nifer mwyaf o bobl, yn enwedig felly drwy'r cyfryngau newyddion.

Y mae'r ymchwil am ddeunydd a ffurfiau newyddion yn beth cyson mewn celfyddyd. Nid hir fu'r Chwedleuwyr hwythau cyn dyfod o hyd i'r deunydd newydd hwn oedd at eu llaw—posibilrwydd y peiriant, a'r dystiolaeth a gaed am fanylion datblygiad dyn. Gellid asio'r ddeubeth hyn â'i gilydd a gweithio'r syniad am anesgorwch. tynged dyn, a dirni noeth ei hanes cynnar yntau, i mewn i'r gwaith newydd.

Dechreuodd datblygiad y Chwedleuwr Gwyddorus, gŵr â chanddo ddigon o ryw fath o wybodaeth am y pethau hyn fel y medrai drin. ei ddeunydd yn weddol ddidramgwydd. Bu Goethe yn yr Almaen eisoes yn fath o gychwynnydd ar y llwybr hwn. Enghraifft gynnar o'r peth yn y deyrnas hon oedd "Frankenstein," nofel Mary Shelley. Gweithiodd Jules Verne ar yr un cynllun yn Ffrainc. Ond yn Lloegr, ym mherson H. G. Wells, y caed y meistr mawr. Fel chwedleuwr yn unig, saif ef ar ei ben ei hun, yn ei storiau The First Men in the Moon neu The Invisible Man, dyweder. Ond ganed Wells yn ffilosoffydd a diwygiwr, yn ŵr o feddwl anturus, yn gallu gosod pethau wrth ei gilydd, a chanfod ymhellach na'r cyffredin i'r dyfodol, fel y gwelwyd yn The Food of the Gods ac yn The War in the Air, heb sôn am ei lyfrau diweddarach, fel An Outline of History ac eraill. Yn y rhai hyn, y mae'r meddyliwr yn llyncu'r chwedleuwr, ac yntau fel pe bai eisoes yn sylweddoli rhai o effeithiau ei grefft gynnar ef ei hun.

Yna, daeth y ffilmennau, y lluniau byw, y rhai mud i ddechrau a'r rhai mwy neu lai aflafar wedyn, dyfeisiau rhyfeddol, a roddir gan mwyaf er hynny at amcanion lle'r afradlonir cost ar ddangos cymaint o gnawd ag a ellir a chyn lleied o feddwl ag a fynner.

Hyd yn oed wrth roi syniad am fywyd cyfnodau cyntefig, ceid awyrgylch o greulondeb ac anferthwch, hyd yn oed heb ei fwriadu, wrth gwrs, a phan ddygid y peth a elwir "diddordeb dynol" i mewn, ni byddai ond rhyw hoedenna awgrymus yn ddigon aml, wedi ei lusgo i mewn a'i fwriadu i roi awch ar sefyllfaoedd tebycach o ddiflasu nag o ddifyrru dynion cymedrol.

Aeth damcaniaethau'r rhai sy'n astudio ac yn ceisio mesur a phwyso gweithrediadau meddwl, neu feddylstadau, dyn hefyd yn ddeunydd i'r chwedleuwyr a'r dramadyddion. Daeth cnwd toreithiog o straeon, llawer ohonynt yn ddigon clyfar o ran dyfais a chyfansoddiad, ond nad ynt wedi'r cwbl ond astudio chwant tybiedig neu wynfyd dychmygol. Daeth pethau y bydd meddygon, ac eraill sy'n chwilio hanes y corff a'r meddwl dynol, yn eu hastudio, a hynny'n oer a di-nwyd, i fod yn ddeunydd rhamantau poethion a nwydus y chwedlyddion-ar-gyfer-y-farchnad—yr oedd cylchrediad y llyfr yn bwysicach na chylchrediad y gwaed.

At bwrpas fel hyn, ni thalai helyntion y dyn cyffredin ddim. Rhaid chwilota am bethau anghyffredin a gwrth-gyffredin. Ni allai dim fod yn ddiddorol onid rhysedd y ddeuryw, a greddfau didoriad ac annisgybledig. Ac yn wyneb y cwbl, rhyw agwedd yn awgrymu na waeth heb ymboeni-nad oes i ddyn lwybr onid dilyn ei reddfau, boent fel y bônt, oni fyn ef, drwy eu llethu, beri bod ei ddiwedd yn waeth na'i ddechreuad.

Ymwthiodd y pethau hyn hyd yn oed i farddoniaeth, eisoes cyn y Rhyfel Mawr-hawdd fyddai dangos tuedd rhai beirdd i chwilio am ryw athroniaeth a gyfiawnhai lywodraeth grym. didrugaredd ar y byd. Gwelai rhai ohonynt—Verhaeren, y bardd Belg, er enghraifft—ogoniant yn natblygiadau aruthr diwydiannau eu cyfnod, eu hoffer, eu peiriannau a'u llestri, eu brys diorffwys a'u cyflymder, eu sŵn, hyd yn oed—codai rhyw un gynghanedd o'u holl symudiadau, meddent hwy. Grym oedd y tu ôl i'r cwbl, grym oedd popeth, a llefai'r bardd fod grym yn beth santaidd. Gellid ym marddoniaeth y cyfnod olrhain tuedd fwyfwy at edrych ar orthrech fel peth gwych, at edmygu caledwch y Dyn Cyntefig, at edrych ar dosturi fel gwendid. Hawdd iawn oedd i'r peth hwn ddirywio'n ddim ond rhyw osgo, ceisio cael effaith drwy ddim ond rhaffu termau a geiriau cyfnod y peiriannau, fel y gwelir yn Gymraeg beunydd.

Y mae gwahaniaeth eglur rhwng y duedd hon at fawrygu Grym a Gorthrech â'r ddefod gynt i glodfori rhyfelwyr a'u gorchestion. Nid ymffrost hanner rhamantus yr hen wlatgarwch sydd yma mwy, ond effaith apêl aruthrwch y byd cyntefig at feddyliau mwy cyfundrefnus nag eiddo'r Chwedleuwyr fel dosbarth.

Dywed beirniaid credadwy y gellir olrhain dylanwadau tebyg—atgyfodiad y Dyn Cyntefig, megis—ar gelfyddydau eraill hefyd—cerddoriaeth, tynnu lluniau, neu beintio, cerfio ac adeiladu. Tystia athrawon ysgolion fod effaith y peth a elwir jazz i'w ganfod eisoes yn eglur ar symudiadau ac ysgogiadau diarwybod plant. Mynn eraill y bydd rhai o'r trefi mawr yn ddigon o ddychryn pan orffenno'r cerfwyr newydd eu haddurno â'r erthyl-ffurfiau a welir yn rhai ohonynt eisoes. Diau fod digon o angen am bentrefi a fo'n batrwm i eraill yn y wlad hon, ac na ellir dibrisio gwasanaethgarwch haearn-a-chwncrid at rai amcanion, ond gwelir yn fynych yn llinellau llawer o'r adeiladau hynny ryw unffurfiaeth ddigalon, rhyw wth gyntefig, rhyw symbyliad bygythiol, chwithig, sy'n peri i ddyn feddwl am deip newydd o slwm dyfodol, a chofio geiriau Dante:

Lasciate ogni speranza, voi ch'entrate."

(Gad obaith heibio oll pan ddelych yma.)

Ni ellir gwahanu'r pethau hyn oll ac eraill oddi wrth y datblygiadau a grybwyllwyd ar y dechrau. Ni ellid osgói'r newid safonau, ar ôl trechu pellter, goleuo nos y gorffennol, a dysgu'r Chwedleuwyr i swlffa ym meysydd gwybodau eto heb gwbl dyfu allan o gylch damcaniaeth a dadl.

Diau mai ar yr un neges yn union â'n tadau cyntefig yr ydym ninnau—ni newidiodd dim ond yr arfau. Ac eto, y mae Dedwyddyd mor bell ag erioed, er bod cyfleusterau pleser yn amlach nag erioed. Fel y dywedodd un o'n poetau wrthym, mewn Cymraeg odidog:

Ffulliwn hyd ddau begwn byd
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd,
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr


—yn ofer, canys nid yw Dedwyddyd yno. mae un amod allan o'r cyfrif, er bod greddf ddyfnaf dynoliaeth, fel y dywedodd Maeterlinck, weithiau'n ein gorfod i gymryd cam tuag ato- pan aeth arfau dynion gynt mor effeithiol yn eu tro nes peryglu parhad yr hil, daeth peth mor syml â thalu galanas yn ddefod yn lle'r dial gwaed.

O bryd i bryd yn llenyddiaeth yr oesau, ceir datblygiadau nid annhebyg i rai o'r pethau y buom. yn ceisio'u holrhain. Bu'r hiraethu am y "bywyd syml" ymhlith llenorion Groeg a Rhufain. Ceir edmygu barbariaid, fel y Scythiaid a'r Getiaid, gan brydydd pendefigaidd fel Horas ei hun, a chymell ei gyd-ddinasyddion i fwrw eu golud i'r môr er mwyn dianc rhag y dynged a'u bygythiai.

Dilys bod crwth neu delyn.
Yn ceisio dihuno dyn.

medd un arall o'n poetau Cymraeg gynt. Ac nid yw llenyddiaeth a chelfyddyd ein dyddiau ni heb rai lleisiau sy'n arwyddo bod blino ar gyfnod y brys a'r brawiau y tu mewn i bosibilrwydd pethau wedi'r cwbl. Ymddengys fod symledd a sylwedd y ddrama werin yn apelio o'r newydd at ddynion, yn Lloegr, yng Nghymru pan gaffo gyfle, yn Iwerddon, ar y cyfandir, yn enwedig yn Awstria a'r Almaen, lle y mae chwarae pethau fel gwaith Von Hofmannsthal a Max Mell yn gyffredin.

Gellir casglu hefyd oddi wrth lwyddiant teip o nofel, megis gwaith Priestley yn Lloegr, fod eto alw gobeithiol am ddiddanwch chwedleua am gymeriadau cyffredin sy'n ddiddorol er bod yn syml ac yn synhwyrol heb fod yn rhy synhwyrus, yn ddigon cymysg, os mynnir, i'n gadael heb lwyr anobeithio am ddyfodol ein dynoliaeth gyffredin, er gwaethaf ein holl wendidau.

Pa beth hefyd fydd effaith y gwrando distaw ar warder y gerddoriaeth uchaf, a glywir bellach. lle y mynner, pryd nas clywid gynt, yn ei chyflawnder ac â'r medr mwyaf, onid yn y trefi mwyaf yn unig? Y mae ewyllys, o leiaf, mewn gwrando distaw ar feistriaid y gelfyddyd fwyaf cymodlawn a ddatblygodd dyn.

Ac am y beirdd, o Francis Thompson at Masefield, ni all miloedd ddianc rhagddynt, mwy nag y gallent hwythau ddianc rhag Bytheuad y Nef neu'r Drugaredd a bery'n dragywydd. Neu feirdd o feddyliau syml, cywir, fel W. H. Davies a Huw Menai, os caf gydnabod dyled iddynt am gysur nas ceir ond gan gelfyddion sydd yn canfod prydferthwch a doethineb mewn pethau cyffredin, yn yr hen fyd anffodus hwn, hyd yn oed ymhlith dynion, er gwaethaf eu trueni a'u pechodau.

Yr ydym, yn ôl pob tebyg, ar derfyn un o gyfnodau mawr hanes dyn. Dywed Berdyaev, athronydd Rwsiaidd, fod y peth y buom ni yn ei alw yn Gyfnod Rhamantusaeth ar ben, a bod yn debyg y daw Oes Dywyll eto ar ei ôl. Nid annhebyg hynny, canys y mae cyfraith fel pe bai'n torri i lawr ym mhobman. Os gwir hynny, os daw Oes Dywyll eto, nid oes dywyll heb lawer o wybodaeth fydd hi, a mwy na hynny o fedr, a bydd y wybodaeth honno a'r medr hwnnw at alwad elfennau heb y peth a gyfrifwyd hyd yma, o leiaf, yn synnwyr moesol.

Nodwedd arbennig ar ein dyddiau ni ydyw bod cymaint o ddynion yn dywedyd wrthym beunydd mor arswydus fydd ein tynged, a hynny fel pe na bai i ddynoliaeth ddim i'w wneud ond mynd yn aberth i'w dyfeisiau hi ei hun, a'i difyrru ei hun yn y cyfamser drwy ddychmygu sut beth fydd y trychineb hwnnw pan ddêl. Wedi holl fuddugoliaethau deall a medr dyn, a ddinistrir ef o ddiffyg doethineb, ynteu a fyn greddf Dynoliaeth unwaith eto ei hachub hi, er gwaethaf ei gwybodaeth a'i medr, ei rheswm a'i dealltwriaeth, rhag y distryw a ddramadeiddir i ni fel pe baem ag un ochr i'n hymwybod yn chwarae'r dynged honno er mwyn syndod i nerfau drylliedig yr ochr arall: Fel plentyn wedi ffraeo â'i fam, yn dychmygu fel y byddai hi yn tosturio ato wedi ei farw, druan bach!

When knowledge has reached manhood but to see Wisdom still babbling in its infancy,

meddai Huw Menai am ein cyfnod ni. Diau. Eto, y mae'r bregliach yn rhywbeth. Nid hwyrach nad ein tasg ni fydd dysgu, drwy brofiad chwerwach nag erioed, efallai, mai pennaf peth yw Doethineb. Pan ddysgom hynny, yna y bydd wir y gair a lefarwyd—"Wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd."

(1933.)


ARGRAFFWYD GAN
HUGHES A'I FAB
WRECSAM

Nodiadau[golygu]